Trosolwg o Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- diddymu hawl tenantiaid diogel cymwys i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu)
- diddymu’r hawl a gadwyd gan denantiaid diogel blaenorol cymwys i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan adran 171A o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu a Gadwyd)
- diddymu hawl tenantiaid sicr neu denantiaid diogel i landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr preifat cofrestredig, i brynu eu cartref am bris gostyngol o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (Hawl i Gaffael)
- anogaeth i landlordiaid cymdeithasol adeiladu neu gaffael cartrefi newydd i’w rhentu, ac i denantiaid sy’n symud i stoc tai cymdeithasol newydd fwy na deufis ar ôl i’r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol fethu ag arfer yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Gaffael, gydag eithriadau penodol
- bod o leiaf un flwyddyn yn mynd heibio ar ôl i’r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol cyn bod diddymu’r Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Gaffael yn dod i rym ar gyfer stoc tai cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli
Lluniodd y Senedd Grynodeb o’r Ddeddf, sy’n rhoi trosolwg defnyddiol pellach:
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fwy manwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 1, 8, 9, 10, 11 a 12 i rym ar 24 Ionawr 2018, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daeth adrannau 2 i 5 i rym ar ddiwedd y cyfod o 2 fis gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daeth adrannau 6 a 7 i rym ar 26 Ionawr 2019 yn unol â’r gorchymyn diwrnod penodedig a ganlyn:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
| Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 ar legislation.gov.uk | 2019 Rhif 110 (Cy. 27) | 24 Ionawr 2019 | 26 Ionawr 2019 | 2019 Rhif 110 (Cy. 27): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 13 Mawrth 2017 gan Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Awdurdododd y Prif Weinidog Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, i fod yr Aelod newydd â Gofal am y Bil, o 9 Tachwedd 2017.
Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.
