Trosolwg o Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn diwygio Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 i ddatgymhwyso darpariaethau penodol a oedd wedi’u cymhwyso i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru drwy newidiadau a wnaed i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Undebau Llafur 2016. Effaith Deddf 2017 yw nad yw'r materion canlynol yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru:
- y trothwy o 40% o’r bleidlais o blaid gweithredu diwydiannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig
- pwerau i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am amser cyfleuster (sef pan fydd gweithiwr cyflogedig yn cymryd amser i ffwrdd i gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau fel cynrychiolydd undeb llafur) yn cael ei chyhoeddi ac i osod gofynion ar gyflogwyr y sector cyhoeddus mewn perthynas ag amser cyfleuster â thâl
- cyfyngiadau ar gyflogwyr yn tynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau eu gweithwyr.
Mae Deddf 2017 hefyd yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus Cymru rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflawni dyletswyddau staff sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol swyddogol. Mae awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymru yn cynnwys GIG Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, awdurdodau tân a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2017 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 3 a 4 o Ddeddf 2017 i rym ar 8 Medi 2017, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 3:
Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod adrannau 1 a 2 yn dod i rym ar ddyddiau a bennir mewn gorchymyn (neu orchmynion) a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, ar 16 Ionawr 2017. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (a oedd yn cael ei adnabod fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Gorffennaf 2017.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
