Canllawiau anstatudol ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth rhanbarthol: Asesiadau, data a thystiolaeth - Cyd-destun
Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth phanbarthol wrth iddyn nhw baratoi eu hasesiadau statudol o dan ddwy Ddeddf ar wahân.
Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth iddyn nhw baratoi eu hasesiadau statudol o dan ddwy Ddeddf ar wahân. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cwblhau asesiadau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cwblhau Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er bod y dyletswyddau hyn yn deillio o wahanol ddeddfwriaeth, mae’r naill a’r llall yn gofyn am dystiolaeth gytbwys, cyfranogiad ystyrlon, ac ystyriaeth o anghenion tymor hwy drwy dueddiadau yn y dyfodol.
Mae partneriaid wedi dweud wrthym y gall y dirwedd deimlo’n gymhleth, gyda themâu, gofynion o ran tystiolaeth, a gweithgarwch ymgysylltu yn gorgyffwrdd.
Nod y canllawiau anstatudol hyn yw cynnig eglurder yn y gofod cyffredin hwn, gan gynnig awgrymiadau ymarferol i helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gysoni gwaith lle y bo hynny’n briodol, gan barhau i fodloni gofynion statudol penodol pob Deddf. Mae’r canllawiau hyn ar gyfer aelodau bwrdd, cydlynwyr bwrdd, dadansoddwyr, arweinwyr ymgysylltu, ac unrhyw un sy’n cyfrannu at y dystiolaeth sy’n sail i’r asesiadau.
Bwriad y canllawiau hyn yw eich helpu i wneud y canlynol:
- adeiladu sylfaen dystiolaeth gyffredin lle mae hynny yn gwneud synnwyr
- cydlynu gweithgarwch ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid
- defnyddio dull cyson a chymesur o ddadansoddi
- cefnogi defnydd cyson o ffynonellau data cydnabyddedig sydd o ansawdd uchel
- creu cyswllt penodol rhwng tystiolaeth a phenderfyniadau, a
- chefnogi asesiadau cliriach a mwy cydlynol ar draws eich rhanbarth
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhanbarthau’n wahanol o ran maint a strwythurau partneriaeth. Nid yw’r canllawiau hyn yn gorfodi un asesiad ar y cyd; mae Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cadw eu hymreolaeth i gwblhau asesiadau unigol pan fo hyn er budd pennaf iddyn nhw.
Dylid darllen y canllawiau hyn fel rhai sy’n cefnogi cylch parhaus o asesu, cynllunio, cyflawni ac adolygu, yn hytrach na fel ymarfer unigol neu untro. Disgwylir i asesiadau adeiladu ar y dystiolaeth, y dysgu a’r blaenoriaethau a nodwyd mewn fersiynau blaenorol o asesiadau llesiant, cynlluniau llesiant, Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth a Chynlluniau Ardal, gan ddyfnhau dealltwriaeth dros amser ac ymateb i dueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn hytrach nag ailddechrau dadansoddi ym mhob cylch.
