Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg ar fframweithiau statudol y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’n crynhoi’r prif ddyletswyddau o dan bob Deddf ac yn tynnu sylw at le mae gofynion yn cyd-fynd yn naturiol.

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cwblhau asesiadau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n gofyn am asesiad o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol, gan gynnwys dadansoddiad ar lefel ardal gymunedol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn mynnu bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystyried dangosyddion llesiant cenedlaethol, Adroddiadau Tueddiadau’r Dyfodol statudol, a’r pum ffordd o weithio. Mae’r asesiadau hyn yn cyfrannu at ddatblygu Cynllun Llesiant sy’n nodi’r amcanion llesiant y mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cwblhau Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n gofyn am asesiad o anghenion gofal a chymorth, anghenion gofalwyr, ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen, a sut bydd gwasanaethau’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth fod yn sail i Gynlluniau Ardal ac Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad.

Er bod y dyletswyddau deddfwriaethol yn wahanol, mae’r ddau asesiad yn gofyn am ddefnydd cytbwys o dystiolaeth ansoddol a meintiol, cynnwys pobl a chymunedau mewn modd ystyrlon, ac ystyried sut gallai anghenion newid yn y dyfodol. Mae’r tebygrwydd hwn yn creu cyfleoedd ar gyfer gwaith cydlynol ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac ar gyfer datblygu cynnyrch dadansoddi cyffredin.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol bob pum mlynedd. Mae hyn yn darparu asesiad cenedlaethol o gyflwr adnoddau naturiol Cymru a’r ffactorau sbarduno a’r pwysau sy’n effeithio arnyn nhw, gan gynnwys dylanwadau cymdeithasol ac economaidd. Er bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystyried mai ‘llesiant amgylcheddol’ yw’r nod eang o gael amgylchedd naturiol iach a ffyniannus, mae pedwar nod Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn diffinio’n union sut beth yw hynny’n ymarferol. Gan fod nodau Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn canolbwyntio ar ddiogelu adnoddau, adeiladu ecosystemau gwydn, creu lleoedd iach, a sbarduno economi gylchol, cyflawni’r pedwar nod hyn yw’r ffordd ymarferol o sicrhau llesiant amgylcheddol.

Ar raddfa ranbarthol, mae Datganiadau Ardal yn trosi’r dystiolaeth genedlaethol hon yn wybodaeth sy’n seiliedig ar leoedd am risgiau, cyfleoedd a blaenoriaethau amgylcheddol. Gyda’i gilydd, gall y ffynonellau hyn ddarparu cyd-destun defnyddiol wrth ystyried llesiant amgylcheddol yn y ddau asesiad.

Egwyddorion gwaith cyffredin

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhannu egwyddorion gwaith tebyg.

Ffyrdd o Weithio: Llesiant Cenedlaethau’r DyfodolEgwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
Atal: Gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu, yn awr ac yn y dyfodol.Bydd gwasanaethau’n hyrwyddo’r gwaith o atal yr angen cynyddol, a bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir.
Cydweithio: Sut y gallai cydweithio ag unrhyw berson arall neu ag unrhyw ran arall o sefydliad helpu i gyflawni amcanion llesiant.

Mae partneriaeth a chydweithredu yn sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

 

Integreiddio: Ystyried sut bydd y cynigion yn effeithio ar amcanion llesiant, nodau llesiant, amcanion eraill, neu rai cyrff cyhoeddus eraill.
Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau lleol.Mae pobl wrth galon y system newydd drwy roi’r un cyfle iddyn nhw ddweud eu dweud am y gefnogaeth maen nhw’n ei chael.
Tymor hir: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir.Mae’r Ddeddf yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth er mwyn sicrhau llesiant.
Ffigur 1 Crynodeb o ddyletswyddau asesu statudol
DimensiwnAsesiad Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015)Asesiad o Anghenion y Boblogaeth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014)
PwrpasAsesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i fod yn sail i gynlluniau llesiant lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.Asesu anghenion gofal a chymorth, anghenion gofalwyr, ac ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
ArweinyddiaethCaiff ei arwain a’i gyhoeddi gan bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chytundeb aelodau statudol ac anstatudol perthnasol, ar gyfer ei ardal.Cyd-ddyletswydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd, a gyflawnir drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (un adroddiad fesul ardal Bwrdd Iechyd).
CwmpasLlesiant y boblogaeth gyfan; mae’n cynnwys dadansoddiad ar sail ardal gymunedol ac yn nodi goblygiadau tueddiadau’r dyfodol ar yr ardal.Grwpiau poblogaeth sy’n flaenoriaeth (er enghraifft, pobl hŷn, plant/pobl ifanc, pobl anabl, anabledd dysgu, niwrowahaniaeth, iechyd meddwl, gofalwyr, amhariad ar y synhwyrau, Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, digartrefedd, a’r ystad ddiogel).
Y gofynion o ran tystiolaethSylfaen dystiolaeth eang gan gynnwys ystadegau, ymchwil, gwybodaeth ansoddol, canfyddiadau, dangosyddion cenedlaethol, a thueddiadau’r dyfodol.Defnydd cytbwys o dystiolaeth feintiol ac ansoddol; ystyried tueddiadau’r dyfodol ac amrywiadau gofodol.
Disgwyliadau o ran ymgysylltuCynnwys pobl sydd â diddordeb mewn llesiant lleol neu y mae llesiant lleol yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys cymunedau a phartneriaid.Ymgysylltu â dinasyddion, gofalwyr, darparwyr a phartneriaid; dangos sut mae ymgysylltu wedi llywio canfyddiadau.
Amseru a chylchRhaid ei gyhoeddi o fewn 12 mis cyn y cynllun llesiant lleol (y mae’n rhaid ei gynhyrchu o fewn blwyddyn ar ôl etholiadau lleol cyffredin (nid etholiadau seneddol)).Un adroddiad i bob cylch etholiadol lleol.
Cyhoeddi a chymeradwyoMae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a/neu aelodau yn cyhoeddi asesiad; yn dilyn canllawiau statudol Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol (SPSF).Wedi'u cymeradwyo gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd; wedi’u cyhoeddi ar wefannau partneriaid a’u hanfon at Weinidogion Cymru.
Dolenni i ddyletswyddau eraillRhaid i hwn ystyried asesiadau statudol eraill a llywio amcanion llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.Rhaid i hwn lywio Cynlluniau Ardal, Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad, Cynlluniau Tymor Canolig Integredig y GIG, a strategaethau statudol eraill.

Bwriad y gymhariaeth hon yw cefnogi trafodaethau cynllunio cynnar drwy egluro cyfrifoldebau statudol penodol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a thynnu sylw at le mae cydweithio’n bosibl.