Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio sut mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn casglu ac yn prosesu data personol ar gyfer y cynllun teithio rhatach ar fysiau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Trafnidiaeth Cymru yn casglu ac yn prosesu eich data personol ar ran Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru mewn perthynas â'r cynllun teithio rhatach ar fysiau yng Nghymru.

Bydd eich data personol yn cael ei brosesu'n deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Pwy sy'n gyfrifol am eich data?

  • Rheolwyr data: Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru
  • Prosesydd Data: Trafnidiaeth Cymru
  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn prosesu eich data personol ar ran y rheolwyr i gyflawni a rheoli'r cynllun teithio rhatach.

Pam rydym yn casglu eich data (diben y prosesu)?

Rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data i:

  • brosesu ceisiadau am basys bws rhatach
  • asesu a chadarnhau cymhwysedd
  • cyhoeddi a rheoli pasys bws rhatach
  • dilysu defnydd pasys
  • gweinyddu taliadau ac ad-daliadau i weithredwyr bysiau
  • atal twyll a chynnal uniondeb y cynllun

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

O dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'u darparu mewn perthynas â'r Cynllun Teithio Rhatach ar Fysiau. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu ar ein rhan fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol yr ydyn ni'n eu casglu?

Byddwn hefyd yn casglu a phrosesu'r mathau o ddata personol a ganlyn:

  • enw, cyfeiriad cartref a manylion cyswllt
  • dyddiad geni ac oed
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • dewisiadau iaith
  • ffotograff
  • tystiolaeth o gymhwysedd (gan gynnwys dogfennau ategol)
  • cofnodion o geisiadau a nodiadau achos
  • cofnodion o ddefnyddio'r pàs bws rhatach
  • dewisiadau cyfathrebu a marchnata (lle bo'n berthnasol)

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth

Gall eich data gael eu rhannu â'r canlynol:

  • Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru
  • gweithredwyr bysiau (at ddibenion ad-dalu a dilysu)
  • contractwyr neu ddarparwyr gwasanaeth cymeradwy sy'n cefnogi'r cynllun
  • timau gwasanaethau cymorth a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd
  • sefydliadau eraill lle bo'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu ar gyfer atal twyll

Bydd yr holl waith rhannu data yn cael ei gynnal yn ddiogel a dim ond lle bo angen.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion cyswllt ar gyfer gweithgareddau marchnata. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data heb eich caniatâd at y diben penodol hwn.

Gellir defnyddio eich manylion cyswllt at ddibenion ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys pan fydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu contractwr annibynnol at ddibenion gwerthuso'r cynllun / rhaglen.

Mae eich cyfranogiad yn gyfan gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfranogiad gan fod eich barn a'ch profiadau yn bwysig i lywio gwelliant sefydliadol. Noder ei bod yn bosibl mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw.

Dim ond ar gyfer gwaith ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu dileu pan fydd y gwaith ymchwil cymeradwy hwn wedi’i gwblhau.

Sut rydym yn diogelu eich data

Mae data personol a ddarperir i Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac ar gyfer Cynllun Teithio Rhatach Cymru mae eich data personol wedi'u cyfyngu i staff awdurdodedig.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i reoli unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod rheol ddiogelwch wedi ei thorri, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bo hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Pa mor hir y byddwn ni'n cadw'ch data

Bydd eich data personol yn cael eu cadw:

  • cyn belled â'ch bod yn parhau i fod yn rhan o'r cynllun teithio rhatach
  • am gyfnod penodol wedyn i fodloni gofynion cyfreithiol, archwilio ac atal twyll

Bydd data'n cael eu dileu'n ddiogel pan na fydd eu hangen mwyach.

Eich hawliau

Yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a gweld y data hynny
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â:

Trafnidiaeth Cymru, Swyddog Diogelu Data, Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH

E-bost: dataprotection@tfw.wales

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Cardiff, CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Customer Contact, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: cy.ico.org.uk