Trosolwg o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Arweiniodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (‘y Ddeddf’) at newidiadau enfawr i’r gyfraith ym maes tai yng Nghymru. Bwriad y newidiadau yw darparu eiddo o well safon o fewn y sector rhentu preifat a gosod rhwymedigaeth ar landlordiaid i gadw strwythurau a thu mewn eu heiddo mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddynt.
O safbwynt tenantiaid, mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf yn cynnwys:
• cael contract meddiannaeth ysgrifenedig yn nodi eu hawliau a’u cyfrifoldebau,
• cynyddu’r cyfnod rhybudd ‘dim bai’ o ddau fis i chwe mis,
• gwell amddiffyniad rhag cael eu taflu allan,
• gwell hawliau olyniaeth, gan osod allan pwy sydd â’r hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft, ar ôl i’r tenant presennol farw,
• trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud hi’n haws ychwanegu eraill at gontract meddiannaeth neu eu tynnu oddi arno.
O safbwynt landlordiaid, mae’r prif ddarpariaethau yn cynnwys:
• system symlach, gyda dau fath o gontract: ‘diogel’ ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a ‘safonol’ ar gyfer y sector rhentu preifat,
• sicrhau bod cartrefi yn addas i bobl fyw ynddynt. Mae hyn yn cynnwys cynnal profion diogelwch trydan a sicrhau bod larymau mwg a datgelyddion carbon monocsid wedi eu gosod, a’u bod yn gweithio,
• gall eiddo gadawedig gael eu hadfeddiannu heb fod angen gorchymyn llys.
Mae sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol i’w gweld yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth Rhan 11 o’r Ddeddf i rym ar 19 Ionawr 2016, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 257(1).
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 9 Chwefror 2015 gan Lesley Griffiths AS, a oedd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pryd. Cafodd ei basio ar 17 Tachwedd 2015.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016.
