Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn galluogi rhaglen o uno a diwygio llywodraeth leol ac yn cynnwys darpariaethau i hwyluso dau neu fwy o Brif Awdurdodau Lleol i uno’n fuan, o’u gwirfodd, erbyn mis Ebrill 2018. Roedd y Ddeddf hefyd yn diwygio’r ddarpariaeth ddeddfwriaethol bresennol ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (o ran Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’r arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus) a Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (o ran adolygiadau etholiadol). Ail-enwyd y Ddeddf hon yn Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 gan adran 11(1) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 ar legislation.gov.uk.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 26 Tachwedd 2015, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 46(2). 

Fodd bynnag, daeth adrannau 25 i 28 a 37 i 43 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 46(1).

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 26 Ionawr 2015 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 20 Hydref 2015.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Tachwedd 2015.