Gwybodaeth ychwanegol am integreiddio’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid â chynlluniau gwarant fferm achrededig.
Cynnwys
Cyflwyniad
Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd Llyr Gruffydd ar 19 Gorffennaf fod proses y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) o fewn Gweithred Gyffredinol (UA) 12 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn newid. Mae Llywodraeth Cymru’n wrthi’n integreiddio rhannau allweddol UA12 â chynlluniau gwarant fferm achrededig sy’n cytuno’n ffurfiol i gymryd rhan yn y trefniant hwn a bodloni’r gofynion cyflawni. Mae’r newid hwn yn cael ei wneud yn sgil argymhelliad a wnaed yn dilyn adolygiad y Llywodraeth o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.
- amcan AHIC yw helpu ffermwyr a milfeddygon i weithio gyda’i gilydd i nodi blaenoriaethau, cymryd camau wedi’u targedu a sicrhau gwelliannau di-dor yn iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid. Mae’r gofynion o ran AHIC o dan UA12 yn parhau’n ddigyfnewid. Mae arbenigedd milfeddygon yn parhau’n ganolog i wella iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid
- bwriad Llywodraeth Cymru wrth integreiddio gofynion cynlluniau gwarant fferm â gofynion UA12 yw lleihau dyblygu a’r baich gweinyddol ar ffermwyr a milfeddygon, gan yr un pryd sicrhau canlyniadau o ran iechyd a lles anifeiliaid. Nid yw’r broses newydd hon am weld glastwreiddio’r AHIC na’r cynlluniau gwarant fferm sy’n dewis cymryd rhan
- bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chynlluniau gwarant fferm sydd â diddordeb dros y misoedd i ddod i ddeall sut y gall yr integreiddio hwn weithio ar lefel ymarferol
- byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i gynlluniau gwarant fferm gadarnhau a ydynt am integreiddio elfennau o’r UA12 yn eu Cynlluniau Iechyd a Lles Anifeiliaid o 2027
- ni fydd angen i ffermwyr sy’n aelodau o gynllun gwarant fferm achrededig sydd wedi ymrwymo i integreiddio AHIC o 2027 fodloni gofynion ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ AHIC ar wahân yn 2026. Caiff gofynion iechyd a lles eu cynllun gwarant fferm presennol eu derbyn fel prawf eu bod yn bodloni’r gofyn hwn. I’ch atgoffa, yn 2026, dim ond elfennau ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ AHIC sydd angen eu cwblhau
- os yw ffermwr eisoes wedi cwblhau elfennau ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ ei AHIC ar gyfer 2026 a’i fod yn aelod o gynllun gwarant fferm sydd wedi ymrwymo i integreiddio AHIC â’i gynllun iechyd a lles anifeiliaid, bydd yn gallu defnyddio’r gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau trwy AHIC 2026 (er enghraifft, y blaenoriaethau a nodwyd a’r gweithredoedd y cytunwyd arnynt gyda’r milfeddyg) i fwydo a chefnogi cynlluniau iechyd a lles y cynllun gwarant fferm ar gyfer 2027
- os yw’r ffemwr wedi ysgwyddo costau mewn cysylltiad â’r AHIC eisoes ond a fyddai wedi bodloni’r gofynion newydd heb ysgwyddo’r costau hynny, gall gysylltu â’r RPW trwy’r ffurflen ymholiadau ar-lein a rhoi manylion y costau a ysgwyddwyd i weld a oes ganddo hawl i iawndal. Caiff pob achos ei ystyried ar wahân
- os nad yw ffermwr wedi cwblhau cynllun iechyd a lles anifeiliaid ei gynllun gwarant fferm eto ar gyfer 2026, rydyn ni’n cynghori milfeddygon i ymgorffori elfennau ‘Mesur’ a ‘Chynllun’ yr AHIC yn eu cynllun 2026. Bydd hynny’n helpu i barhau i wella iechyd a lles anifeiliaid a helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer eu gofynion yn 2027
- os nad yw ffermwr yn aelod o gynllun gwarant fferm, ni fydd y newid hwn yn effeithio arno, ond bydd dal angen iddo fodloni gofynion cyfredol AHIC. Fe welwch ddisgrifiad llawn o Weithred Gyffredinol 12 yn adran J12 yn Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau
- ar gyfer cynllun blwyddyn 2026, bydd angen i ffermwyr gynnal Asesiad o Fioddiogelwch Stoc sy’n Cyrraedd y Daliad (BAIS) yn unol â Chanllawiau’r Cynllun. Fodd bynnag, o 2027, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y gofyn hwnnw wedi’i fodloni os yw cynllun gwarant fferm y ffermwr sy’n cymryd rhan yn yr SFS yn ymrwymo i ymgorffori’r BAIS ac AHIC yn eu cynlluniau iechyd a lles
- bydd dal gofyn i ffermwyr sydd wedi cael Rhif Prawf Milfeddygol (VAN) ond sydd ddim yn aelod o gynllun gwarant fferm cydnabyddedig gwblhau pob elfen o’r UA12 os ydyn nhw wedi ymaelodi â’r SFS. Nid yw VAN yn gynllun gwarant fferm ac ni fydd yn brawf bod ffermwr wedi bodloni AHIC neu ofynion eraill UA12
Cynlluniau Sicrwydd Fferm Cydnabyddedig ar gyfer 2026 UA12 Gofynion Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid
Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen i integreiddio elfennau allweddol Gweithredu Cyffredinol 12 (UA12) gyda chynlluniau sicrwydd fferm achrededig sydd wedi cytuno'n ffurfiol i gymryd rhan yn y trefniadau hyn. Bwriad y dull hwn yw lleihau dyblygu a baich gweinyddol i ffermwyr a gweithwyr proffesiynol milfeddygol wrth gynnal y canlyniadau iechyd a lles anifeiliaid sy'n ofynnol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Ar gyfer 2026, gall aelodau o'r cynlluniau sicrwydd fferm canlynol sy'n cymryd rhan ddefnyddio aelodaeth eu cynllun i ddangos bod gofynion 'Mesur' a 'Cynllun' y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) UA12 wedi'u bodloni:
- Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL)
- Tractor coch
- Porfa am Oes
Rhaid i ffermwyr gwblhau'r holl ofynion Gweithredu Cyffredinol 12 (UA12) perthnasol arall, gan gynnwys y gofynion lles anifeiliaid perthnasol a'r Asesiad Bioddiogelwch ar gyfer Stoc sy'n Dod i Mewn (BAIS) erbyn 31 Rhagfyr 2026.
Wrth ddiweddaru eu Dangosfwrdd Cyffredinol SFS, bydd ffermwyr cymwys yn gallu datgan eu haelodaeth o'r cynllun cyfranogol perthnasol. Bydd hyn yn cael ei dderbyn fel cadarnhad bod y gofynion AHIC perthnasol wedi'u bodloni ar gyfer y flwyddyn.
Mae'r cytundebau hyn yn darparu sail ar gyfer trefniadau i integreiddio gofynion UA12 perthnasol i brosesau cynllun sicrwydd fferm o 2027 ymlaen. Darperir rhagor o fanylion wrth i'r trefniadau hyn gael eu datblygu.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu â chynlluniau sicrwydd fferm cydnabyddedig eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi canlyniadau UA12 drwy eu prosesau sicrwydd. Anogir cynlluniau sydd â diddordeb i gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod cyfleoedd posibl i gymryd rhan.
Nodyn atgoffa pwysig i ffermwyr yn Haen Gyffredinol yr SFS
Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn effeithio ar ffermwyr nad ydyn nhw'n aelodau o gynllun gwarant fferm sy'n cymryd rhan. Nid yw gofynion cyfredol UA12 wedi newid, a rhaid i gyfranogwyr barhau i gwblhau'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid a'r Asesiad Bioddiogelwch gofynnol ar gyfer Stoc sy'n Dod i Mewn yn unol â chanllawiau'r cynllun cyhoeddedig.
Atgoffir ffermwyr bod angen iddyn nhw gwblhau holl gamau perthnasol y Weithred Gyffredinol erbyn 31 Rhagfyr a diweddaru Dangosfwrdd Cyffredinol yr SFS ar eu cyfrif RPW Online erbyn 15 Ionawr cyn y gellir talu eu balans. Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru os oes angen cyngor neu gymorth pellach arnoch chi.
