Neidio i'r prif gynnwy

Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n bryderus iawn am y digwyddiad ddoe sydd wedi effeithio ar breswylwyr a busnesau yn ardal Gwaelod-y-Garth. Mae fy meddyliau gyda'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn ac sydd wedi profi difrod i'w cartrefi a'u heiddo yn dilyn llifogydd lleol.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad agos â'r gwasanaethau brys, Cyngor Dinas Caerdydd a sefydliadau eraill sy’n ymateb er mwyn monitro'r sefyllfa a chydlynu cymorth lle bo angen. Hoffwn ddiolch i'r holl ymatebwyr brys, staff yr awdurdod lleol, a gwirfoddolwyr cymunedol sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt.

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a chefnogi sefydliadau partner drwy'r ymateb amlasiantaeth, sydd bellach yn symud i gyfnod adfer. Bydd yr awdurdodau perthnasol nawr yn dechrau eu hymchwiliadau i'r digwyddiad i ddeall yn union beth ddigwyddodd er mwyn helpu i sicrhau bod unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn cael eu hosgoi. Diogelwch pobl a chymunedau Cymru yw ein blaenoriaeth.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan y digwyddiad hwn ac angen cymorth, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael cymorth o dan Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru (DAF). O dan y Gronfa Cymorth Dewisol, os bydd rhywun wedi profi trychineb fel llifogydd neu dân yn eu cartref ac yn profi caledi ariannol difrifol, mae'n bosibl y byddant yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) i helpu gyda chostau hanfodol ar ôl argyfwng.

Bydd diweddariadau pellach ynglŷn â'r digwyddiad yn cael eu darparu gan sefydliadau partner wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.