Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg ymarferol o sut mae rolau a chyfrifoldebau yn cael eu trefnu fel arfer ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Yn hytrach na dyblygu gofynion statudol, mae’n nodi sut mae pob partneriaeth yn mynd i’r afael â’i dyletswyddau asesu fel arfer, a sut gellir cydlynu cyfrifoldebau’n ymarferol. Bwriad yr adran hon yw cefnogi trafodaethau cynllunio cynnar am arweinyddiaeth, cyfraniadau, a gwaith a rennir.

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn canolbwyntio’n bennaf ar lesiant sy’n seiliedig ar leoedd, ac mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn canolbwyntio ar anghenion gofal a chymorth. Mae pob partneriaeth yn arwain ei hasesiad statudol ei hun; fodd bynnag, mae’r naill a’r llall yn cyflawni tasgau tebyg fel casglu tystiolaeth, cynnwys pobl, dadansoddi tueddiadau, a dehongli gwybodaeth.

3.1 Sut mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd i’r afael â’u cyfrifoldebau fel arfer

Fel arfer, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn arwain gwaith sydd:

  • Ar draws yr ardal ac yn canolbwyntio ar y gymuned, gan ddefnyddio gwybodaeth am leoedd, tueddiadau’r boblogaeth, a llesiant cymunedau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio tystiolaeth bresennol llais y gymuned a gweithio gyda phartneriaid i gynnwys pobl nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml. At ddibenion y canllawiau hyn, gall “ddim yn cael eu clywed yn aml” gynnwys pobl sy’n wynebu rhwystrau strwythurol rhag cymryd rhan, fel anfantais gymdeithasol neu economaidd, nodweddion gwarchodedig, grwpiau risg uwch neu grwpiau ymylol, neu rwystrau sy’n gysylltiedig â daearyddiaeth neu fynediad digidol.
  • Yn strategol a chydweithredol, gan ddod â nifer o gyrff cyhoeddus (ac aelodau eraill) at ei gilydd i edrych ar faterion cyffredin sy’n ymwneud â llesiant.
  • Yn digwydd dros dymor hir, gan ddefnyddio tueddiadau’r dyfodol a’r pum ffordd o weithio i lywio cynlluniau llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Yn eang o ran anghenion tystiolaeth, gan gyfuno data, canfyddiadau a phrofiad ansoddol o bob rhan o gymunedau.

3.2 Sut mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn mynd i’r afael â’u cyfrifoldebau fel arfer

Fel arfer, mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn arwain gwaith sydd:

  • Yn canolbwyntio ar grwpiau poblogaeth ledled y rhanbarth, gan edrych ar anghenion pobl hŷn, plant a phobl ifanc, gofalwyr, pobl anabl ac eraill. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol a gofalwyr ar draws grwpiau blaenoriaeth, gan sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu cynrychioli.
  • Yn canolbwyntio ar wasanaethau, gan gyfeirio at ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen, a ddarperir mewn partneriaeth, sy’n ymateb i amrywiaeth y boblogaeth, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • Yn canolbwyntio ar y galw a digonolrwydd, gan gefnogi Cynlluniau Ardal pum mlynedd ac Adroddiadau Sefydlogrwydd y Farchnad.

3.3 Cydlynu cyfrifoldebau ar draws y ddwy bartneriaeth

Gall rolau amrywio ar draws partneriaethau, ond gall eglurder ar y cychwyn ynghylch arweinyddiaeth, cyfraniad a phrosesau gwneud penderfyniadau helpu i osgoi unrhyw ddyblygu a chefnogi asesiadau mwy cydlynol. Gall disgwyliadau clir ynghylch pwy sy’n arwain, pwy sy’n cyfrannu, a sut mae gwaith yn cael ei rannu leihau dyblygu unrhyw ymdrech a chefnogi naratif cyson ar lefel ranbarthol.

  • Rolau clir o ran cyfrannu: Pan fo un bartneriaeth yn arwain, gall y llall gyfrannu gwybodaeth, data neu arbenigedd heb ddyblygu ymdrech.
  • Cyfathrebu a llywodraethu: Gall cytuno ar sut bydd canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i’r ddau fwrdd helpu i greu stori gydlynol ar draws y rhanbarth.

3.4 Cydlynu prosesau ymgysylltu ar y cyd

Efallai y bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am gytuno ar ddull gweithredu ar y cyd ar gyfer ymgysylltu sy’n osgoi unrhyw ddyblygu, sy’n cysoni amserlenni, ac sy’n lleihau’r baich ar gymunedau a rhanddeiliaid. Gall dull gweithredu cydlynol helpu’r ddwy bartneriaeth i ddefnyddio sylfaen gyffredin o wybodaeth am gymunedau, profiad uniongyrchol, a safbwyntiau rhanddeiliaid. Efallai y bydd partneriaethau’n awyddus i nodi gweithgor neu arweinydd ymgysylltu ar y cyd i gydlynu gweithgarwch, cadw golwg gyffredinol ar yr wybodaeth sydd eisoes yn bodoli, a sicrhau bod gweithgarwch ymgysylltu’n gynhwysol, yn ddwyieithog, ac yn gymesur ar draws y ddwy ddyletswydd.

Er mwyn cryfhau’r dull hwn o weithredu ar y cyd, efallai y bydd partneriaethau yn awyddus hefyd i wneud y canlynol:

  • Gwneud ymdrechion bwriadol i gynnwys pobl y mae eu lleisiau’n aml yn cael eu tangynrychioli, gan gynnwys y rheini nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn prosesau ymgysylltu ffurfiol.
  • Defnyddio cyfryngwyr dibynadwy, sefydliadau cymunedol a dulliau wedi’u teilwra i gyrraedd y bobl sydd anoddaf i’w cael i ymgysylltu, gan sicrhau bod gweithgareddau ymgysylltu yn hygyrch ac yn sensitif yn ddiwylliannol.
  • Adolygu’r wybodaeth sydd eisoes yn bodoli am gymunedau a thystiolaeth llais y dinesydd i asesu digonolrwydd, gan nodi bylchau demograffig, gofodol neu thematig, a phenderfynu lle mae angen rhagor o ymgysylltu.
  • Lleihau’r syrffed o ran ymgysylltu drwy gysoni cylchoedd ymgysylltu, rhannu gwybodaeth ar draws y ddwy bartneriaeth a chyfuno gweithgareddau lle y bo hynny’n briodol.

Mae rhannu’r un dull ymgysylltu yn helpu i sicrhau bod y ddau asesiad yn seiliedig ar amrywiaeth eang a chryf o safbwyntiau, yn helpu i ddehongli tystiolaeth yn fwy cyson, ac yn lleihau’r baich diangen ar gymunedau.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen