Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoliadau sy’n dynodi’r awdurdodau lleol fydd yn awdurdodau diogelwch adeiladau at ddibenion Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn a ddylid cynnwys unrhyw ddarpariaeth bellach yn y rheoliadau ynghylch arfer swyddogaethau gan awdurdod diogelwch adeiladau.

Y Cefndir

  1. Ar ôl ei gweithredu, bydd Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 ('y Ddeddf') yn sefydlu trefn newydd yng Nghymru ar gyfer rheoleiddio'r broses o asesu a rheoli risg diogelwch adeiladau mewn adeiladau amlfeddiannaeth. Mae'r Ddeddf yn rhoi cyfres o swyddogaethau mewn perthynas â'r drefn newydd honno i endidau y cyfeirir atynt fel 'awdurdodau diogelwch adeiladau'.
     
  2. Mae adran 122(1) o'r Ddeddf yn dweud bod 'awdurdod diogelwch adeiladau' yn golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (h.y. awdurdod lleol) a ddynodir fel y cyfryw mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae adran 122(2) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddynodi, mewn rheoliadau, un cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ym mhob un o'r tair ardal awdurdod tân ac achub yn awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr ardal honno.
     
  3. Mae adran 122(4) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer y rheoliadau sy'n dynodi'r awdurdodau diogelwch adeiladau 'wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau gan awdurdod diogelwch adeiladau (gan gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall wneud taliadau, neu ddarparu gwasanaethau neu gyfleusterau, i'r awdurdod)'.
     
  4. Rydym bellach yn ymgynghori ar ein cynigion o dan adran 122 o'r Ddeddf.
     
  5. Mae'r ymgynghoriad hwn yn fyrrach na'r cyfnod safonol o 12 wythnos. Mae'r amserlen gywasgedig hon yn adlewyrchu cwmpas cul yr ymgynghoriad, y nifer cyfyngedig o randdeiliaid yr effeithir arnynt a'r gynulleidfa gyfyngedig y mae'n effeithio arno.

Cynigion

  1. Yn unol â'u dyletswydd a nodir yn adran 122(2) o'r Ddeddf, cynigiwn fod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau sy'n dynodi'r awdurdodau lleol canlynol sydd wedi'u lleoli mewn dwy o’r tair ardal awdurdod tân ac achub yng Nghymru, yn awdurdodau diogelwch adeiladau:
  • Cyngor Sir y Fflint – Ardal Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg – ardal Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
  1. Mae'r awdurdodau lleol a gynigir ar hyn o bryd i'w dynodi fel awdurdodau diogelwch adeiladau wedi'u nodi ar sail eu lefel bresennol o arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau, eu gallu i gyflawni'r swyddogaethau a fyddai'n cael eu rhoi iddynt gan y Ddeddf yn effeithiol, a’r graddau y maent wedi nodi eu bod yn barod i ymgymryd â'r rôl. Rydym yn croesawu barn ar ba gyngor neu gyngor bwrdeistref sirol yn yr ardaloedd awdurdodau tân ac achub hynny y dylid eu dynodi, gan gynnwys cynghorau eraill neu gynghorau bwrdeistref sirol i'r rhai a restrir uchod.
     
  2. Fodd bynnag, nid ydym ar hyn o bryd yn cynnig pa awdurdod lleol yn ardal Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddylai gael ei ddynodi'n awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr ardal honno. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ymgyngoreion ar ba awdurdod yn yr ardal honno y dylid ei ddynodi.
     
  3. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn rhoi cyfle i'r awdurdodau lleol hynny y cynigir ar hyn o bryd eu dynodi ystyried a gwneud sylwadau pellach ar eu gallu i gyflawni swyddogaethau awdurdod diogelwch adeiladau, ond hefyd gyfle i awdurdodau lleol eraill gyfrannu'n llawn at y sgwrs honno.
     
  4. Nid y bwriad ar hyn o bryd yw i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth bellach gan ddefnyddio eu pŵer o dan adran 122(4) ynghylch arfer swyddogaethau gan awdurdod diogelwch adeiladau. Fodd bynnag, byddai gennym ddiddordeb clywed gan ymgyngoreion am unrhyw ddarpariaeth bellach a fyddai'n cynorthwyo awdurdodau lleol dynodedig i gyflawni eu rolau fel awdurdodau diogelwch adeiladau. 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich ymatebion erbyn 16 Hydref 2026, drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

dylech gynnwys y cyfeirnod WG54868 ym mhennawd pwnc eich e-bost)

Ymgynghoriad: WG54868

Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladu
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Mae'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill ar gais

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Is-adran
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Regulations for designating Building Safety Authorities | GOV.WALES

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gadwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
  • i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau) 
  • i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/