Y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol tramor
Cymorth a gwybodaeth gyswllt i weithwyr gofal cymdeithasol tramor yng Nghymru sy'n chwilio am swydd newydd.
Ar y dudalen hon
Gwybodaeth bwysig am recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol, ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Daeth recriwtio tramor, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, yn destun pryder allweddol yn 2025.
Roedd nifer cynyddol o drwyddedau noddi cyflogwyr yn cael eu dirymu gan UK Visa and Immigration (UKVI), sy'n golygu y byddai llawer o weithwyr mudol sydd eisoes yn gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn cael eu “dadleoli” heb fod unrhyw fai arnyn nhw am hynny.
Bryd hynny nid oedd unrhyw gymorth uniongyrchol ar gael i weithwyr mudol gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn ogystal, ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd UKVI ddiwedd recriwtio tramor i rolau gofal cymdeithasol.
Roedd hyn yn golygu nad oedd cyflogwyr a oedd wedi bwriadu recriwtio dramor yn gallu gwneud hynny mwyach, gan achosi pwysau pellach ar y gweithlu ar draws y sector.
Mewn ymateb, bu'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth a'r Tîm Polisi Mudo yn gweithio yn gyflym yn ystod haf 2025 i sefydlu rôl glir i'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol (NAS) i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol tramor sydd eisoes yng Nghymru ac sydd wedi cael eu dadleoli neu'n chwilio am gyflogaeth amgen.
Sut y gall y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol gefnogi cyflogwyr
Rydym wedi bod yn cysylltu â chyflogwyr sydd naill ai â thrwydded noddi neu sydd â diddordeb mewn gwneud cais am drwydded noddi, i'ch annog i gofrestru gyda'r NAS ac ymuno â chofrestr sy'n dal swyddi gofal cymdeithasol gwag ledled Cymru.
Caiff eich swyddi gwag eu rhannu gyda gweithwyr sydd wedi'u dadleoli a gweithwyr tramor sy'n cysylltu â NAS yn chwilio am gyflogaeth amgen, a fydd yn eu galluogi i wneud cais am eich rolau.
Os oes gennych swyddi addas yr hoffech eu rhannu â thîm y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol, anfonwch e-bost at:
Gan gynnwys eich manylion cyswllt a'r ddolen at yr hysbyseb swydd os yw ar gael.
Mae'r broses hon yn gwbl wirfoddol i'r cyflogwr.
Bydd ein gweithwyr tramor yn gwneud cais am eich swyddi gwag, ond mater ichi fydd penderfynu a fyddwch yn cynnig y swyddi iddynt ai peidio, yn dibynnu ar eu sgiliau a pha mor addas ydynt.
Cymorth awdurdod lleol ar gyfer asesiadau UKVI o geisiadau Tystysgrif Noddi (CoS) y sector gofal
Mae proses wedi'i thargedu wedi'i chyflwyno, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref ac UKVI, sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i ddarparu sicrwydd ychwanegol i gefnogi ceisiadau Tystysgrif Noddi (CoS) oddi wrth ddarparwyr gofal cymdeithasol.
Ei phrif ddiben yw cyflymu'r broses o ddyrannu Tystysgrif Noddi heb eu diffinio, yn enwedig lle mae gweithwyr tramor wedi cael eu dadleoli gan ddirymiadau trwyddedau noddi a lle mae angen iddynt drosglwyddo'n gyflym i rolau priodol.
Drwy gyhoeddi llythyrau o gefnogaeth sy'n cadarnhau angen y gweithlu a hygrededd darparwyr, mae'r awdurdodau lleol yn helpu UKVI i flaenoriaethu a chyflymu'r ceisiadau hyn.
Trosolwg o'r broses
Pan fydd trwydded noddwr wedi cael ei dirymu, bydd UKVI yn hysbysu gweithwyr tramor sy'n cael eu cyflogi ganddo.
Bydd yr hysbysiad hwn yn cael ei anfon drwy e-bost a bydd yn darparu manylion cyswllt ar gyfer NAS a fydd yn gallu cefnogi unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth newydd yn y sector gofal.
Bydd NAS yn gwasanaethu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gweithwyr tramor sydd wedi cael eu dadleoli neu sydd i fod i gael eu dadleoli oherwydd ddirymu trwydded noddi eu cyflogwr a/neu sy'n chwilio am gyflogaeth amgen.
Pan fydd gweithiwr sydd wedi'i ddadleoli wedi'i baru â chi, sef darparwr dibynadwy, byddwch wedyn yn hysbysu'r awdurdod lleol priodol ac yn gofyn am lythyr o gefnogaeth ar gyfer eich cais am dystysgrif noddi.
Er mwyn asesu eich cais, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i chi, y noddwr gofal cymdeithasol, i:
- roi iddo'r dystiolaeth yr ydych wedi'i chyflwyno i UKVI
- gwblhau rhestr wirio am wybodaeth ychwanegol
Pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon cyflwyno llythyr o gefnogaeth, bydd yn anfon y llythyr hwn at UKVI.
Yna gall UKVI hwyluso ceisiadau a gyflwynwyd gan ddarparwyr sy'n cyfateb i'r llythyrau o gefnogaeth sydd wedi dod i law.
Mae'n bwysig nodi bod yr wybodaeth ategol a gyflwynir gan awdurdodau lleol yn cyflwyno barn, nid arnodiad, mewn perthynas ag unrhyw gais, gyda'r bwriad o helpu UKVI i wneud y penderfyniad terfynol.
Gofynion trothwy cyflog presennol ar gyfer gweithwyr gofal tramor
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod y trothwy cyflog presennol ar gyfer gweithwyr tramor ar y fisa Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dal yn £12.82 yr awr neu £25,000 y flwyddyn.
Yn ystod 2025 i 2026, roedd y gyfradd hon yn uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW), sef £12.60 yr awr.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, cynyddodd y Cyflog Byw Gwirioneddol i £13.45 yr awr, sy'n golygu ei fod yn uwch ar hyn o bryd na'r trothwy cyflog ar gyfer y llwybr fisa hwn.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud y bydd y trothwy cyflog yn cynyddu yn y dyfodol, ond nid ar unwaith.
Mae hynny oherwydd bod y Pwyllgor Cynghori ar Fudo wedi adolygu'n ddiweddar sut mae trothwyon cyflogau'n cael eu cyfrifo ar draws pob llwybr fisa, ac mae angen gwneud gwaith pellach cyn i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu.
Ar hyn o bryd, ni all y Swyddfa Gartref gadarnhau pryd y bydd y trothwy'n codi, neu beth fydd y gyfradd newydd.
Dylid nodi bod gan ddarparwyr gyfnod byr i recriwtio gweithwyr tramor newydd o dan y trothwy cyflog UKVI presennol.
Rydym yn annog pob darparwr i dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol fel arfer safonol.
Mae recriwtio a chyflogi gweithwyr ar y Cyflog Byw Gwirioneddol yn awr yn golygu y gall gweithwyr noddedig presennol aros ar eu trefniadau cyflog y cytunwyd arnynt, os bydd UKVI yn cynyddu trothwyon cyflog yn y dyfodol.
Dyma'r ddolen i wefan Llywodraeth y DU ar gyfer gwahanol ofynion cyflog.
Eglurhad ar ddyddiad cau 2028
Rydym wedi cael adborth a phryderon gan ddarparwyr a gweithwyr tramor ynghylch y dyddiad cau o Orffennaf 2028 ar gyfer newidiadau i fisâu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r Swyddfa Gartref bellach wedi cadarnhau'r canlynol:
- Mae dyddiad cau o 2028 yn gymwys i bobl sy'n newid i'r llwybr Gweithwyr Iechyd a Gofal o gategorïau eraill o fisa yn unig.
- Bydd gweithwyr sydd eisoes ar y llwybr Gweithwyr Iechyd a Gofal, neu sydd wedi'u recriwtio i'r llwybr cyn Gorffennaf 2028, yn parhau i allu ymestyn eu fisâu ac aros yn y DU y tu hwnt i 2028. Yn amodol ar ofynion y Rheolau Mewnfudo a'r prosesau sydd ar waith ar y pryd.
Darparwyd yr eglurhad hwn gan swyddogion y Swyddfa Gartref, a oedd yn cydnabod y dryswch eang sy'n bodoli ynghylch y polisi hwn.
Mae'n bwysig nodi bod y sicrwydd hwn, ochr yn ochr â'r adolygiad / ymgynghoriad parhaus ar Ganiatâd i Aros, a allai gyflwyno newidiadau pellach sy'n effeithio ar weithwyr tramor mewn gofal cymdeithasol.
Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau'n agos, a byddwn yn darparu diweddariadau wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael.
Cysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol
Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm NAS.
Llinell gymorth
Mae Canolfan gyswllt NAS ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm a bydd yn cynnig gwasanaeth neges llais ar gyfer galwadau y tu allan i oriau.
Ffôn (DU): 0808 1751508
Ffôn (y tu allan i'r DU): +44 0204 5425671
E-bost: Support@sanctuary.gov.wales
Rhagor o wybodaeth
Cymorth y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i gyflogwyr gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU
