Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gofrestru sefydlu, cau a newid manylion Uned Cyfeirio Disgyblion, gan gynnwys canghennau estynedig ac unedau portffolio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y broses gofrestru

Mae angen i'r awdurdod lleol lenwi Ffurflen Cofrestru Uned Cyfeirio Disgyblion a'i chyflwyno'n electronig i flwch Cefnogi Mynediad at Addysg Llywodraeth Cymru: CMIA.SATE@llyw.cymru. Rhaid gwneud hyn cyn agor yr Uned. Oni bai bod yr Uned wedi'i chofrestru'n ffurfiol, ni ellir derbyn disgyblion i'r ddarpariaeth.

Ar ôl i'r ffurflen ddod i law, bydd y tîm Darpariaeth Addysg Amgen yn astudio'r manylion ac yn cofnodi'r cais cyn ei gyflwyno i adran ystadegau Llywodraeth Cymru i gofrestru'r Uned.

Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon e-bost at yr awdurdod lleol yn cadarnhau'r cofrestriad. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys: 

  • rhif Adran Addysg a (neu) rif Ysgol yr Uned 
  • y Cyfeirnod Unigryw 

Caiff Estyn ei gynnwys yn yr e-bost cadarnhau i'w hysbysu bod yr Uned newydd wedi'i sefydlu.

Newid manylion Uned Cyfeirio Disgyblion sydd eisoes yn bodoli

Dylai'r awdurdod lleol roi gwybod i Lywodraeth Cymru drwy e-bost: CMIA.SATE@llyw.cymru am unrhyw newidiadau sylweddol, gan gynnwys:

  • newid lleoliad Uned Cyfeirio Disgyblion (gan gynnwys y rhesymau dros ei symud)
  • sefydlu safleoedd ychwanegol ar gyfer Uned sydd eisoes yn bodoli
  • newid enw Uned
  • newidiadau i'r math o ddarpariaeth a gynigir
  • newidiadau i enw neu fanylion cyswllt yr athro â chyfrifoldeb

Cau Uned Cyfeirio Disgyblion

Mae angen i'r awdurdod lleol lenwi Ffurflen Dadgofrestru Uned Cyfeirio Disgyblion a'i chyflwyno'n electronig i flwch Cefnogi Mynediad at Addysg Llywodraeth Cymru: CMIA.SATE@llyw.cymru cyn cau'r ddarpariaeth.

Bydd tîm Darpariaeth Addysg Amgen Llywodraeth Cymru yn anfon copi at yr adran ystadegau a fydd yn diweddaru eu cofnodion. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon e-bost at yr awdurdod lleol yn cadarnhau'r dadgofrestru.

Caiff Estyn ei gynnwys yn yr e-bost i'w hysbysu bod yr Uned wedi'i chau.