Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Cafodd cyfanswm gwariant ymchwil a datblygu (Y&D) Cymru yn 2024 ei atal er mwyn osgoi datgelu'r gwariant Y&D preifat dielw, a oedd yn gyfrinachol.
  • Cyfanswm gwariant Y&D Cymru ac eithrio busnesau preifat di-elw oedd £1.6 biliwn, sef cynnydd o 6.0% o’i gymharu â 2023.
  • Roedd Y&D menter busnes yn £884 miliwn yn 2024 (i fyny 7.2% o’i gymharu â 2023), gydag Y&D addysg uwch yn £608 miliwn (i fyny 4.5%), ac Y&D llywodraeth yn £60 miliwn (i fyny 5.3%).
  • Mewn ardal fach fel Cymru, gall nifer fechan o brosiectau mawr sydd yn cychwyn neu’n gorffen ddylanwadu’n fawr ar lefel gwariant Y&D, sy'n golygu bod y gyfres amser yn gallu bod yn anwadal.

Nodyn

Mae'r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon o ymchwil a datblygu a gyflawnir yn y 4 sector canlynol:

  • ymchwil a datblygu mentrau busnes (BERD)
  • ymchwil a datblygu addysg uwch (HERD)
  • ymchwil a datblygu llywodraeth, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesi'r DU (GovERD)
  • ymchwil a datblygu sefydliadau di-elw preifat (PNPRD)

Gelwir data ymchwil a datblygu'r sectorau hyn ar y cyd yn wariant mewnwladol crynswth ar ymchwil a datblygu (GERD).

Yn y cyhoeddiad ystadegol hwn, mae Y&D a chysyniadau cysylltiedig yn dilyn safonau a gytunwyd yn rhyngwladol a ddiffinnir gan yr Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), fel y'u cyhoeddwyd yn Llawlyfr Frascati 2015.

Mae'r ffigyrau hyn yn rhoi'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o ymchwil a datblygu ar lefel y DU, ond mae mwy o ansicrwydd yn yr amcangyfrifon sy'n is na lefel y DU a'r sector sy’n perfformio yr ymchwil a datblygu.

Gwybodaeth ansawdd

Canslwyd y cyhoeddiad 'ystadegol ar wariant gros ymchwil a datblygu: 2023' a'r setiau data StatsCymru a oedd i fod i’w gyhoeddi ar 18 Awst 2025. Roedd hyn oherwydd bo’r prosesau rheolaeth ar ddatgelu data a gafodd eu cymhwyso gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi arwain at beidio cyhoeddi cyfanswm ymchwil a datblygu ar gyfer Cymru.

Mae’r SYG wedi cyflwyno sampl newydd ar gyfer 2022, sydd wedi cynyddu maint y data a dderbyniwyd ac wedi sicrhau bod yr ystadegau BERD bellach yn adlewyrchu lefel yr ymchwil a datblygu a gyflawnir ar draws economi'r DU yn well. Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon yn y bwletin hwn yn disodli'r rhai o'r dull cynyddu interim a gymerwyd yn 2021 a'u bod yn cael eu hystyried yr amcangyfrifon mwyaf cywir o ymchwil a datblygu busnes yn y DU. Felly, nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon o 2022 i 2024 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol ac eithrio ar lefel y DU.

Mae'r ystadegau Y&D ar gyfer y cyfnod o 2022 ymlaen wedi'u hail-ddynodi'n ystadegau swyddogol achrededig, yn dilyn ailddatblygu ystadegau Y&D busnes ac addysg uwch. Nid oes gan ddata cyn 2022 y dynodiad ystadegau swyddogol achrededig ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn natganiad y SYG. Er hynny, maent yn dal i fod ar gael ar wefan y SYG.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad y SYG 'Gross domestic expenditure on research and development, UK: 2024'.

Newidiadau i’r cyhoeddiad hwn

Rydym wedi stopio’n datganiad ymchwil a datblygu mentrau busnes (BERD) a’n setiau data StatsCymru yn dilyn adolygiad o’n hallbynnau ystadegol. Mae’r newidiadau’n adlewyrchu adborth o ymgynghoriad cyhoeddus (Newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru) ac yn anelu at ganolbwyntio sylwadau lle mae’n ychwanegu’r gwerth mwyaf, gan sicrhau bod y data sylfaenol yn parhau i fod yn hygyrch. O ganlyniad, gweler gwefan y SYG i gael mynediad at y data sylfaenol ar gyfer y datganiad hwn ac am ragor o wybodaeth am BERD.

Manylion cyswllt

Ystadegau yr economi
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image