Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • cynlluniau ffioedd a mynediad sydd i’w llunio gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sydd hefyd yn elusennau. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y mae’r cynllun i’w gynnwys a’r terfyn ffioedd ar gyfer cyrsiau cymwys, methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu ofynion eraill, dilysrwydd contractau penodol a’r ffordd y caiff cynlluniau eu monitro
  • asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad. Mae hyn yn cynnwys y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu a’r camau y caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) eu cymryd os yw ansawdd yr addysg yn annigonol
  • llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â’r ffordd y mae sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad yn trefnu ac yn rheoli eu materion ariannol. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â’r cod a’r pwerau sydd ar gael i’w fonitro, neu os ydynt yn methu â chydymffurfio ag ef
  • yr amgylchiadau y caiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun a’r amgylchiadau y mae’n rhaid iddo, neu y caiff, dynnu ei gymeradwyaeth yn ôl

Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaethau o natur weithdrefnol, atodol a chyffredinol mewn perthynas â swyddogaethau CCAUC.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 1, adrannau 55 i 57, adran 58(3) a (4) ac adrannau 59 a  60 i rym ar 12 Mawrth 2015 yn unol ag adran 59(1) o’r Ddeddf. 

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol. Mae’r gorchmynion canlynol wedi’u gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 192 Chwefror 20264 Mawrth 20262026 Rhif 19: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 1120 Ionawr 202612 Chwefror 20262026 Rhif 11: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 313 Ionawr 20265 Chwefror 20262026 Rhif 3: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 728 (Cy. 125)20 Mehefin 202517 Gorffennaf 20252025 Rhif 728 (Cy. 125): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 190 (Cy. 41)19 Chwefror 202521 Chwefror 20252025 Rhif 190 (Cy. 41): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 144 (Cy. 31)13 Chwefror 20248 Mawrth 20242024 Rhif 144 (Cy. 31): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 1349 (Cy. 243)8 Rhagfyr 20234 Ionawr 20242023 Rhif 1349 (Cy. 243): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 633 (Cy. 97)12 Mehefin 20236 Gorffennaf 20232023 Rhif 633 (Cy. 97): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 87 (Cy. 17)30 Ionawr 202322 Chwefror 20232023 Rhif 87 (Cy. 17): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 764 (Cy. 166)5 Gorffennaf 202224 Gorffennaf 20222022 Rhif 764 (Cy. 166): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 473 (Cy. 117)25 Ebrill 202225 Mai 20222022 Rhif 473 (Cy. 117): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 79 (Cy. 28)26 Ionawr 202223 Chwefror 20222022 Rhif 79 (Cy. 28): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1365 (Cy. 360)1 Rhagfyr 202131 Rhagfyr 20212021 Rhif 1365 (Cy. 360): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 481 (Cy. 148)19 Ebrill 202125 Ebrill 20212021 Rhif 481 (Cy. 148): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 9 (Cy. 4)6 Ionawr 202128 Ionawr 20212021 Rhif 9 (Cy. 4): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE)  ar legislation.gov.uk20202020 Rhif 1302 (Cy. 287)17 Tachwedd 2020

Mae rheoliadau 1(2) a 2 yn dod i rym yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu.

Daw'r darpariaethau sy'n weddill i rym ar 31 Rhagfyr 2020 (diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu).

2020 Rhif 1302 (Cy. 287): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 1192 (Cy. 209)15 Awst 20199 Medi 20192019 Rhif 1192 (Cy. 209): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 235 (Cy. 54)12 Chwefror 20198 Mawrth 20192019 Rhif 235 (Cy. 54): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 814 (Cy. 165)3 Gorffennaf 201830 Gorffennaf 20182018 Rhif 814 (Cy. 165): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) (Diwygio) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 661 (Cy. 180)20 Mehefin 201631 Gorffennaf 20162016 Rhif 661 (Cy. 180): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 276 (Cy. 100)2 Mawrth 201626 Mawrth 20162016 Rhif 276 (Cy. 100): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 223 (Cy. 87)23 Chwefror 201628 Mawrth 20162016 Rhif 223 (Cy. 87): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1498 (Cy. 170)7 Gorffennaf 201531 Gorffennaf 20152015 Rhif 1498 (Cy. 170): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1497 (Cy. 169)7 Gorffennaf 201531 Gorffennaf 20152015 Rhif 1497 (Cy. 169): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg Uwch 
(Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk 
2015 Rhif 1496 (Cy. 168)7 Gorffennaf 201531 Gorffennaf 20152015 Rhif 1496 (Cy. 168): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1485 (Cy. 164)7 Gorffennaf 201531 Gorffennaf 20152015 Rhif 1485 (Cy. 164): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1484 (Cy. 163)7 Gorffennaf 201531 Gorffennaf 20152015 Rhif 1484 (Cy. 163): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y Gorchymyn canlynol:

The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 ar legislation.gov.uk

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 19 Mai 2014 gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 27 Ionawr 2015.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mawrth 2015.