Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Trosolwg

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) wedi ei rhannu yn 9 Rhan:

  • Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn rheoleiddio y gosod anheddau o dan fathau penodol o denantiaethau a rheolaeth anheddau sy’n destun tenantiaethau o’r, drwy system gofrestru a thrwyddedu. Mae hefyd yn nodi’r gofynion ar gyfer landlordiaid a phersonau sy’n gweithredu ar ran landlord;
  • Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn canolbwyntio ar Ddigartrefedd. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig;
  • Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i awdurdodau tai lleol gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn eu hardal. Yna rhaid i’r awdurdod tai lleol lunio adroddiad a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth arall gysylltiedig;
  • Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn datgan y caiff Gweinidogion Cymru bennu safonau y mae’n rhaid i awdurdodau tai lleol eu cyrraedd o ran: safon y llety a ddarperir gan awdurdodau tai lleol fel tai; rhent ar gyfer llety o’r fath; a’r taliadau gwasanaeth ar gyfer llety o’r fath. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth arall gysylltiedig;
  • Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer dileu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a darpariaeth arall gysylltiedig;
  • Mae Rhan 6 yn diwygio Atodlen 1 a 2 o Ddeddf Tai 1988 er mwyn caniatáu cymdeithasau tai cwbl gydfeddiannol i roi tenantiaethau sicr;
  • Mae Rhan 7 o’r Ddeddf yn ymwneud â swm y dreth gyngor sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o annedd. Mae’n diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 192 i adlewyrchu’r newidiadau hyn yng Nghymru;
  • Mae Rhannau 8 a 9 yn gwneud darpariaethau eraill cysylltiedig sy’n fwy cyffredinol eu natur.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 9325 Mawrth 202630 Mawrth 2026Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 894 (Cy. 156)16 Gorffennaf 202518 Gorffennaf 2025Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1280 (Cy. 216)4 Rhagfyr 202420 Rhagfyr 2024Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 1277 (Cy. 225)28 Tachwedd 202330 Tachwedd 2023Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 1211 (Cy. 214)15 Tachwedd 202316 Tachwedd 2023Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 611 (Cy. 92)7 Mehefin 20238 Mehefin 2023Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 76 (Cy. 14)25 Ionawr 202330 Ionawr 2023Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 1069 (Cy. 225)19 Hydref 202224 Hydref 2022Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 485 (Cy. 121)27 Ebrill 202228 Ebrill 2022Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1147 (Cy. 282)13 Hydref 202115 Hydref 2021Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) ar legislation.gov.uk20212021 Rhif 353 (Cy. 105)18 Mawrth 202119 Mawrth 2021Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 340 (Cy. 94)17 Mawrth 202118 Mawrth 2021Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 1149 (Cy. 199)18 Gorffennaf 201919 Gorffennaf 2019Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 698 (Cy. 164)20 Mehefin 201722 Mehefin 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gorchmynion Ad-dalu Rhent) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 1022 (Cy. 245)17 Hydref 201624 Tachwedd 2016Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Dyrannu llety a digartrefedd: canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU (Saesneg yn unig) ar legislation.gov.uk          Nid yw'n berthnasol24 Mawrth 2016    Nid yw'n berthnasolNid yw'n berthnasol
Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif. 1932 (Cy. 290)    18 Tachwedd 2015    23 Tachwedd 2015    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffioedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1368 (Cy. 136)7 Mehefin 20157 Gorffennaf 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1366 (Cy. 134)2 Mehefin 20153 Mehefin 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1268 (Cy. 87)21 Ebrill 201527 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1266 9Cy. 86)21 Ebrill 201527 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1265 (Cy. 85)21 Ebrill 201527 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1026 (Cy. 75)25 Mawrth 20151 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Tai (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif. 752 (Cy. 59)16 Mawrth 2015      27 Ebrill 2015Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 18 Tachwedd 2013 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 8 Gorffennaf 2014.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig