Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Deddf Addysg (Cymru) 2014, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg;
  • cofrestru personau penodol sy’n addysgu plant a phobl ifanc
  • rheoleiddio personau cofrestredig, gan gynnwys:
    • rhwymedigaeth personau cofrestredig i gydymffurfio â chod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol
    • y camau y gellir eu cymryd yn erbyn person cofrestredig
  • rhannu gwybodaeth am bobl gofrestredig
  • pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion yng Nghymru
  • amserau sesiynau ysgolion
  • penodi personau i Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
  • swyddogaethau addysg awdurdodau lleol sydd, yn rhinwedd adran 25 neu 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i’w trin at bob diben fel arferadwy gan bersonau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru

Mae’r Deddf Addysg (Cymru) 2014: Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 1, 45 i 47 a 49 i 51 i rym ar 12 Mai 2014, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 50(1).

Daeth adran 42 hefyd i rym ar y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond yn unol ag adran 50(2).

Daeth paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach, Cyfnodau o Absenoldeb o’r Gwaith a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk
 
2026 Rhif 5123 Chwefror 202619 Mawrth 20262026 Rhif 51: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 613 (Cy. 87)8 Mai 202410 Mai 20242024 Rhif 613 (Cy. 87): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 74 (Cy. 21)23 Ionawr 20241 Mawrth 20242024 Rhif 74 (Cy. 21): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categoriau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 551 (Cy. 86)17 Mai 202322 Mai 20232023 Rhif 551 (Cy. 86): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Absenoldeb Profedig Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 378 (Cy. 58)28 Mawrth 202326 Mai 20232023 Rhif 378 (Cy. 58): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 1058 (Cy. 223)12 Hydref 20227 Tachwedd 20222022 Rhif 1058 (Cy. 223): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 350 (Cy. 102)17 Mawrth 20211 Ebrill 20212021 Rhif 350 (Cy. 102): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 ar legislation.gov.uk2020 Rhif 623 (Cy. 143)22 Mehefin 202015 Gorffennaf 20202020 Rhif 623 (Cy. 143): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 862 (Cy. 169)17 Gorffennaf 20189 Awst 20182018 Rhif 862 (Cy. 169): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 1023 (Cy. 261)25 Hydref 20171 Tachwedd 20172017 Rhif 1023 (Cy. 261): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 165 (Cy. 46)15 Chwefror 201710 Mawrth 20172017 Rhif 165 (Cy. 46): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 154 (Cy. 45)14 Chwefror 201716 Chwefror 20172017 Rhif 154 (Cy. 45): Memorandwm Esboniadol( Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 92 (Cy. 34)31 Ionawr 20171 Chwefror 2017, ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 20172017 Rhif 92 (Cy. 34): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 1183 (Cy. 288)7 Rhagfyr 20161 Mawrth 2017, ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 20172016 Rhif 1183 (Cy. 288): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 27 (Cy. 9)13 Ionawr 20161 Chwefror 2016, ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 20162016 Rhif 27 (Cy. 9): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 6 (Cy. 4)6 Ionawr 20161 Ebrill 20162016 Rhif 6 (Cy. 4): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 484 (Cy. 41)3 Mawrth 20151 Ebrill 20152015 Rhif 484 (Cy. 41): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 194 (Cy. 9)10 Chwefror 20151 Ebrill 20152015 Rhif 194 (Cy. 9): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 195 (Cy. 10)10 Chwefror 20151 Ebrill 20152015 Rhif 195 (Cy. 10): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 140 (Cy. 8)

3 Chwefror 2015

 

1 Ebrill 20152015 Rhif 140 (Cy. 8): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 2365 (Cy. 229)3 Medi 201429 Medi 2014, ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 20152014 Rhif 2365 (Cy. 229): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cafodd y Bil yma ei gyflwyno ar 1 Gorffennaf 2013 gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 25 Mawrth 2014.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2014.