Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (‘y Ddeddf’) yn:

  • diwygio gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yng Nghymru, gan gynnwys tynnu ymaith ofyniad am gadarnhau is-ddeddfau gan Weinidogion Cymru;
  • galluogi i is-ddeddfau penodol gael eu gorfodi drwy hysbysiadau cosbau penodedig;
  • ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw awdurdodau sy’n gwneud is-ddeddfau roi sylw i unrhyw ganllawiau ar weithdrefn a roddir gan Weinidogion Cymru;
  • ailddatgan i Gymru bŵer cyffredinol i wneud is-ddeddfau.

Mae’r Nodiadau Esboniadol yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 18(1) ac 21 i 23 i rym ar 30 Tachwedd 2012, sef y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 22(1):

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Gweinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 22(2). Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 3111 (Cy. 311)18 Tachwedd 201419 Tachwedd 2014Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)
Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 2717 (Cy. 273)9 Hydref 20147 Tachwedd 2014Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 28 Tachwedd 2011 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 3 Gorffennaf 2012.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Senedd Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Tachwedd 2012.