Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Cyflwynodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) fframwaith cyfreithiol sy’n gosod dyletswyddau statudol yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg ac yn sefydlu Comisiynydd y Gymraeg.

Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac, ymysg pethau eraill, ymroi i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae gan y Comisiynydd hefyd y grym i ymchwilio i achosion o ymyrryd honedig â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Mae Gweinidogion Cymru yn penodi Panel Cynghori sy’n cefnogi’r Comisiynydd wrth weithredu swyddogaethau penodol.

Mae’r Mesur yn darparu ar gyfer datblygu safonau ymddygiad mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg i ddisodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg a ddaeth i fodolaeth yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“Deddf 1993”). Dim ond ar y cyrff a enwir neu sydd wedi eu cynnwys o fewn categori a restrir yn y Mesur y gellir gosod gofyniad i gydymffurfio â safonau. Gweinidogion Cymru sy’n paratoi rheoliadau i bennu pa safonau sy’n benodol gymwys i gyrff neu i gategori o gyrff.  Comisiynydd y Gymraeg sy’n dyroddi hysbysiad cydymffurfio i gyrff unigol i nodi pa safonau o fewn rheoliadau mae rhaid iddynt gydymffurfio â hwy. Mae’r hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff gydymffurfio.

Pan fo gan gorff Gynllun Iaith Gymraeg ar waith o dan Ddeddf 1993, rhaid iddo barhau i gydymffurfio â'r cynllun hwnnw tan y dyddiad a bennir yn hysbysiad cydymffurfio'r Comisiynydd ar gyfer dechrau cydymffurfio â safonau.

Mae gan y Comisiynydd bwerau i ymchwilio i achosion o dorri safonau a chyflwyno mesurau gorfodi. Mae gan unrhyw gorff sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau, neu unrhyw unigolyn sydd wedi ei effeithio gan fethiant i gydymffurfio â’r safonau, yr hawl i apelio yn erbyn rhai o benderfyniadau’r Comisiynydd. Mae gan y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau yr hawl hefyd i herio gorfodaeth y dyletswyddau hynny. Gellir herio penderfyniadau’r Comisiynydd yn y pen draw yn Nhribiwnlys y Gymraeg a grëwyd dan y Mesur.

Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn rhoi cyngor a sylwadau i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u strategaeth iaith Gymraeg.

Gwnaed y Mesur o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (‘Deddf 2006’). Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ymwneud â’r materion penodol (ac na all ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r eithriadau) a nodir yn Atodlen 5 i’r Ddeddf honno. Mae Senedd Cymru bellach yn creu Deddfau o dan Ran 4 o Ddeddf 2006, a’r cyfyngiadau ar gymhwysedd Senedd Cymru erbyn hyn yw’r rheiny a nodir yn Atodlen 7A a 7B. Fodd bynnag, mae’r Mesur ac unrhyw orchmynion neu reoliadau (gan gynnwys rheoliadau sy’n dynodi’r safonau) a wneir o dan y Mesur yn gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn Atodlen 5, gan fod y Mesur wedi ei wneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2006.

Gweler y Mesur ar wefan deddfwriaeth.gov.uk.

Dod i rym

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Ddeddf

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 10) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 9925 Mawrth 202631 Mawrth 20262026 Rhif 99: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 9625 Mawrth 202630 Mawrth 20262026 Rhif 96: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 339 (Cy. 68)12 Mawrth 202528 Mawrth 20252025 Rhif 339 (Cy. 68): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 329 (Cy. 65)12 Mawrth 202526 Mawrth 20252025 Rhif 329 (Cy. 65): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023 ar legislation.gov.uk2023 Rhif 1041 (Cy. 175)    22 Medi 2023  31 Hydref 20232023 Rhif 1041 (Cy. 175): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 796 (Cy. 174)    13 Gorffennaf 2022        31 Hydref 20222022 Rhif 796 (Cy. 174): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 341 (Cy. 95) 17 Mawrth 2021    1 Ebrill 20212021 Rhif 341 (Cy. 95): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 441 (Cy. 77)   27 Mawrth 201829 Mehefin 2018    2018 Rhif 441 (Cy. 77): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 90 (Cy. 33)        1 Chwefror 20177 Chwefror 20172017 Rhif 90 (Cy. 33) : Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 409 (Cy. 127)  15 Mawrth 2016     31 Mawrth 2016    2016 Rhif 409 (Cy. 127): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016 ar legislation.gov.uk2016 No. 406 (W. 126)        15 Mawrth 201622 Mawrth 2016 2016 No. 406 (W. 126): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 405 (Cy. 125)    15 Mawrth 2016    22 Mawrth 2016    2016 Rhif 405 (Cy. 125): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 ar legislation.gov.uk
           
2016 Rhif 397 (Cy. 124)  15 Mawrth 201621 Mawrth 20162016 Rhif 397 (Cy. 124): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 ar legislation.gov.uk
 
2016 Rhif 183 (Cy. 77)    9 Chwefror 2016      15 Chwefror 2016   2016 Rhif 183 (Cy. 77): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) ar legislation.gov.uk20162016 Rhif 182 (Cy. 76)       9 Chwefror 201616 Chwefror 20162016 Rhif 182 (Cy. 76): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 1028 (Cy. 76)   8 Ebrill 2015 30 Ebrill 2015    2015 Rhif 1028 (Cy. 76): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 996 (Cy. 68)     24 Mawrth 2015 31 Mawrth 2015    2015 Rhif 996 (Cy. 68): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013 ar legislation.gov.uk2013 Rhif 3139 (Cy. 312)    10 Rhagfyr 2013        7 Ionawr 20142013 Rhif 3139 (Cy. 312): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 990 (Cy. 130)  29 Mawrth 2012       1 Ebrill 2012 2012 Rhif 990 (Cy. 130): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 752 (Cy.102)   7 Mawrth 2012       1 Ebrill 2012 2012 Rhif 752 (Cy.102): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig, nid yw'r ddolen Cymraeg yn gweithio) ar senedd.cymru
Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 753 (Cy. 103)7 Mawrth 20121 Ebrill 20122012 Rhif 753 (Cy. 103): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 59 (Cy. 13)  11 Ionawr 2012  6 Chwefror 2012    2012 Rhif 59 (Cy. 13) : Memorandwm Esboniadol  ar senedd.cymru
Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 1593 (Cy.184)    28 Mehefin 2011    29 Mehefin 2011    2011 Rhif 1593 (Cy.184): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 4 Mawrth 2010 gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 7 Rhagfyr 2010.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd yn dilyn trafodion Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Chwefror 2011.