Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth i leihau faint o wastraff a sbwriel sydd yng Nghymru ac i gyfrannu at ddatblygu dull mwy effeithiol a chynaliadwy o ymdrin â threfniadau rheoli gwastraff. Mae’r Mesur yn:

  • diwygio Atodlen 6 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i roi pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr drosglwyddo’r enillion net o dâl ar fagiau siopa untro i ddibenion penodol neu bersonau penodedig;
  • sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol sydd i’w ailgylchu, gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n dod yn “gymdeithas ailgylchu uchel”;
  • yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu targedau gwastraff eraill ar gyfer awdurdodau lleol a phennu cosbau ariannol os na fyddant yn cydymffurfio;
  • rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wahardd neu gyfyngu ar waredu mathau penodol o wastraff mewn safle tirlenwi yng Nghymru; ac yn
  • rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch ffioedd a chynlluniau codi tâl mewn perthynas â chynlluniau rheoli gwastraff safle a fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adeiladu a dymchwel yng Nghymru.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adran 3 o’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 21(1).

Daeth gweddill y darpariaethau i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 15 Chwefror 2011), yn unol ag adran 21(2).

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011 ar legislation.gov.uk

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Chwefror 2010 gan Jane Davidson AC, sef Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Tachwedd 2010.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl ystyriaeth Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.