Neidio i'r prif gynnwy

Diben yr ymgynghoriad hwn

Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (neu Dyfodol Cymru fel y'i gelwir) er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau ac uchelgeisiau'r Llywodraeth hon, ac i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau a chyfleoedd y dyfodol. 

Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yw haen uchaf y system cynllunio datblygu statudol yng Nghymru. Mae'n esbonio sut y dylid cynllunio a rheoli lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ledled Cymru drwy'r system gynllunio. Ers ei fabwysiadu yn 2021, mae Cymru wedi parhau i wynebu newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol arwyddocaol, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur, amodau economaidd sy'n esblygu, pwysau demograffig, heriau i'r seilwaith a galw cynyddol am wydnwch ac i ddiogelu cyflenwadau ynni. Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd yn bwysig manteisio ar y cyfleoedd a goresgyn yr heriau er mwyn sicrhau bod ein Cymru'r dyfodol yn diwallu anghenion cymunedau ar hyd a lled y wlad. 

Mae diwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol hefyd yn cynnig cyfle unigryw i gynnal sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn hytrach nag ymgynghori ar faterion polisi cynllunio unigol, bydd y gwaith ymgysylltu gydol y broses hon yn gwahodd pobl i ystyried dyfodol hirdymor y genedl a rôl lleoedd, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd a diwylliant wrth wireddu'r weledigaeth honno. 

Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd drafft yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl ac yn eu cynnwys wrth ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Mae hefyd yn darparu manylion am y gofynion gweithdrefnol, yr amserlenni a'r gwaith ymgynghori yn ystod proses y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. 

Bwriad y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hwn yw fframio'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ei chwarae wrth gyflawni'r dyfodol hwnnw. Bydd hyn yn helpu i lunio gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig, a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llywio gan brofiadau, dyheadau a thystiolaeth pobl, cymunedau, sefydliadau a rhanddeiliaid ledled Cymru. 

Bydd y dystiolaeth a geir drwy'r Sgwrs Genedlaethol yn helpu hefyd i lywio'r gwaith o ddatblygu ystod o gynlluniau a strategaethau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd â nhw yn eu blaenau rhwng nawr a 2030. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cydlynu gwell lle ceir goblygiadau trawsbynciol neu lle mae gwahanol gynlluniau gofodol yn rhyngwynebu fel Cynllunio Morol a'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd drafft a'r Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol. Hefyd, eich barn ar bynciau allweddol, themâu cynllunio gofodol a sut y gallai Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig ddiwallu anghenion Cymru, grymuso llywodraeth leol a lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu o fewn y system gynllunio.

O ystyried y ffordd y mae datganoli yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, efallai na fydd yn bosibl bwrw ymlaen â'r holl syniadau ac ymatebion a gyflwynir fel rhan o'r sgwrs genedlaethol, ac esbonnir hynny fel rhan o'r ymateb i'r dystiolaeth a dderbynnir.

Cwestiynau

Mae'r cwestiynau isod yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau. Efallai y bydd ymatebwyr am ateb cwestiynau penodol yn unig lle maent yn teimlo bod ganddynt rywbeth penodol i'w ddweud yn hytrach na theimlo bod angen ateb pob cwestiwn. 

Fel y nodwyd uchod, bydd yr atebion a dderbyniwn i'r cwestiynau hyn yn cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i'w helpu i lywio a datblygu nifer o gynlluniau a strategaethau, yn ogystal ag i fwrw ymlaen â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y dystiolaeth yn cael ei chyhoeddi i gefnogi camau datblygu polisi yn y dyfodol. Os nad yw ymatebydd yn dymuno cael ei adnabod mewn adroddiadau ymgynghori, caiff nodi hynny ar y ffurflen ymateb ar-lein, neu os yw'n cyflwyno ateb drwy ddull arall, dylai nodi yn yr ateb hwnnw ei fod am gadw ei fanylion personol yn gyfrinachol. 

Rhan A

Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd

Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd sy'n darparu manylion am y gofynion gweithdrefnol, yr amserlenni a'r broses ymgynghori ar gyfer mynd â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd yn ei flaen.

  1. I ba raddau ydych yn cytuno bod yr amserlen arfaethedig yn rhoi digon o gyfle i ymgysylltu'n ystyrlon a chasglu tystiolaeth?

    Cytuno'n Gryf, Cytuno, Ddim yn Cytuno/Anghytuno, Anghytuno, Anghytuno'n Gryf
     
  2. A oes unrhyw gamau eraill yn y broses lle byddai ymgysylltu neu ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol yn fuddiol, yn ogystal â'r rheini sy'n cael eu darparu ar gyfer Opsiynau, a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft? Os felly, esboniwch pam.
     
  3. Pa grwpiau o randdeiliaid a allai fod angen cymorth ychwanegol neu ymgysylltu penodol?
     
  4. A oes cymunedau neu grwpiau y mae eu barn yn cael ei thangynrychioli mewn prosesau cynllunio, a phwy ddylai gael sylw arbennig yn ystod y broses o ddiwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?
     
  5. A) I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r dulliau ymgysylltu a amlinellwyd?

    Cytuno'n Gryf, Cytuno, Ddim yn Cytuno/Anghytuno, Anghytuno, Anghytuno'n Gryf 

    B) A oes unrhyw ddulliau ychwanegol y dylid eu hystyried?

  6. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym am y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd drafft?

    Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol

Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol, sy'n ceisio fframio'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ei chwarae wrth gyflawni'r dyfodol hwnnw.

  1. A yw'r themâu arfaethedig (gweler 4.1 o’r Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol) yn cwmpasu’r materion pwysicaf ar gyfer dyfodol Cymru?

    Ydynt
    Nac ydynt
    Ddim yn gwybod
    Os na, beth sydd ar goll?
     
  2. A oes unrhyw lefydd, cymunedau neu faterion y dylid rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod y sgwrs genedlaethol?

    Testun rhydd
  3. Sut gallwn ni wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i gymryd rhan?

    Testun rhydd
     
  4. Beth yw'r ffordd orau o ymgysylltu â chi?

    Arolwg ar-lein
    Digwyddiad lleol
    Gweithdy
    Grwpiau ffocws
    Cyfryngau cymdeithasol
    Ymatebion Ysgrifenedig
    Arall
     
  5. A oes unrhyw sylwadau ychwanegol yr hoffech eu gwneud ynghylch y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol drafft?

Rhan B

Themâu'r Sgwrs Genedlaethol

Diben y cwestiynau canlynol yw hwyluso sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ar dir a môr ei chwarae wrth wireddu'r dyfodol hwnnw. Bydd hyn yn helpu i lunio gweledigaeth, amcanion a pholisïau cynlluniau a strategaethau amrywiol y mae'r llywodraeth hon yn mynd â nhw yn eu blaenau, gan gynnwys polisi defnydd tir gofodol i'w gynnwys mewn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.

Yng Nghymru, mae polisi a strategaeth gyhoeddus yn cael eu llywio gan saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a rhaid eu dilyn. Y rhain yw: 

  • Llewyrchus
  • Cydnerth
  • Iachach
  • Mwy cyfartal
  • Cymunedau Cydlynus
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae'r prif feysydd thematig yn cael eu disgrifio o safbwynt strategol yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan yn 2050 cyn canolbwyntio ar themâu penodol, sydd wedi'u nodi yn nhrefn yr wyddor, a’u halinio â 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Felly, ni ddylid ystyried bod y drefn y maent yn ymddangos ynddi yn dangos eu blaenoriaeth neu eu pwysigrwydd yn y cais hwn am dystiolaeth.

Cymru yn 2050

12. Am beth hoffech chi i Gymru fod yn adnabyddus amdano yn 2050? Sut gall cynllunio, datblygu a seilwaith helpu i wneud hyn ddigwydd?

13. Beth dylem ni ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol o ran cymunedau, ein hamgylchedd (tir a môr) a’n seilwaith?

14. Wrth edrych tuag at 2050, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf sy'n wynebu Cymru, a sut dylent ddylanwadu ar ddatblygu yn y dyfodol?

Cymru Lewyrchus

Economi a Swyddi

15. Pa rannau o Gymru ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer swyddi, buddsoddiad a thwf economaidd, a pham?

16. Sut gall cynllunio a seilwaith helpu i greu cyfleoedd i bobl a busnesau ar draws pob rhan o Gymru?

17. Pa ddiwydiannau ydych chi'n meddwl fydd bwysicaf i Gymru erbyn 2050, a pha dir, adnoddau naturiol neu seilwaith fydd eu hangen arnynt?

Ynni

18. Sut gall prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel ddod â'r buddion mwyaf i gymunedau lleol ac economi Cymru?

19. Beth dylid ei ystyried wrth benderfynu ble i leoli prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel?

20. Pa gyfleoedd sydd ar gael i leihau'r defnydd o ynni a diwallu mwy o'n hanghenion ynni yn lleol?

Sero Net a'r Economi Gylchol

21. Pa newidiadau i'r ffordd rydym yn cynllunio a datblygu lleoedd sydd eu hangen i gefnogi trawsnewidiad Cymru i sero net, economi gylchol, adferiad natur a chynaliadwyedd amgylcheddol ehangach?

22. Sut gall y newidiadau hyn gefnogi pontio teg sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn creu cyfleoedd ac yn deg i bobl a chymunedau ledled Cymru?

Cymru gydnerth

Gwydnwch Cymunedol a'r Newid yn yr Hinsawdd

23. Beth yw'r risgiau hinsawdd ac amgylcheddol mwyaf sy'n wynebu gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys llifogydd, stormydd, tonnau gwres, newid arfordirol, pwysau ar gyflenwadau dŵr, llygredd ac effeithiau ar seilwaith, gwasanaethau ac adnoddau naturiol, a sut y dylid cynllunio i ymateb i’r rhain?

Natur a Thir

24. Sut gall cynllunio helpu natur a systemau naturiol i addasu i newid yn yr hinsawdd fel eu bod yn parhau i gefnogi lles, gwydnwch ecosystemau a gwasanaethau hanfodol i bobl a chymunedau?

25. Sut dylai cynllunio defnydd tir amddiffyn a gwella natur wrth hefyd gefnogi tai, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd, pren, datblygu economaidd, cyfleoedd economi gylchol, gwydnwch rhag llifogydd a lles cymunedol?

26. Sut gall y system gynllunio helpu i sicrhau bod tirweddau pwysig, cynefinoedd, ardaloedd arfordirol a morol, ac adnoddau naturiol yn cael eu gwarchod, eu hadfer a'u rheoli'n effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth, gwydnwch hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol?

Môr ac Arfordir

27. Beth ydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf am y mor, a beth dylai ei ddarparu i genedlaethau'r dyfodol? Beth mae hyn yn ei olygu o ran sut i ddefnyddio a rheoli tir ac ardaloedd arfordirol?

Cymru Iachach

Iechyd a Llesiant

28. Sut dylai cynllunio a datblygu helpu i greu lleoedd iachach a gwella llesiant pobl?

29. Pa wasanaethau, cyfleusterau, seilwaith a nodweddion amgylcheddol sydd bwysicaf ar gyfer iechyd a llesiant pobl?

30. A oes unrhyw leoedd neu gymunedau sydd angen cymorth ychwanegol i wella'u hiechyd, llesiant neu gyfleoedd economaidd?

Mwy cyfartal

31. Sut gall cynllunio ei gwneud hi'n haws i bobl gael at swyddi, gofal iechyd, addysg, siopau, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol?

32. Pa mor bwysig yw cysylltiadau digidol da, fel band eang a chysylltiadau ar gyfer dyfeisiau symudol, ar gyfer dyfodol cymunedau a busnesau? Ble dylem ganolbwyntio’n hymdrechion?

Cymunedau Cydlynus

Cartrefi a Thai

33. Beth sy'n gwneud lle yn lle da i fyw ynddo, a sut gall cynllunio helpu i greu a chynnal y cymunedau hyn?

34. Pa fathau o gartrefi fydd eu hangen ar Gymru dros y 25 mlynedd nesaf, a ble y dylid eu hadeiladu?

Adfywio a Datblygu

35. Sut dylai trefi, dinasoedd, pentrefi a chymunedau gwledig newid a thyfu i ddiwallu anghenion y dyfodol?

Trafnidiaeth a logisteg

36. Sut dylai pobl a nwyddau deithio o amgylch Cymru yn 2050, a pha drafnidiaeth a seilwaith fydd eu hangen?

Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

37. Sut gall datblygu newydd a chynllunio helpu i gefnogi a chryfhau'r Gymraeg?

38. Sut y dylid adlewyrchu hanes, diwylliant a hunaniaeth leol mewn penderfyniadau ynghylch datblygiad newydd?

39. Sut gall gwahanol rannau o Gymru gyfrannu at weledigaeth ar y cyd ar gyfer y wlad wrth iddynt gadw eu cymeriad a'u hunaniaeth unigryw eu hunain?

Rhan C

Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y rôl y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig ei chwarae wrth ddiwallu anghenion Cymru, grymuso llywodraeth leol a lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu o fewn y system cynllunio datblygu tir.

Llywodraethu Effeithiol

40. Ydych chi'n cytuno y dylai cynghorau lleol a phartneriaethau rhanbarthol chwarae rôl gryfach wrth baratoi a chynnal y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, gan yr un pryd leihau biwrocratiaeth a dyblygu diangen? Esboniwch eich barn ac awgrymwch unrhyw welliannau.

Y System Gynllunio

41. A oes unrhyw faterion y dylid eu cynllunio ar eu cyfer ar lefel Cymru gyfan yn hytrach na thrwy gynlluniau rhanbarthol neu leol?

42. Sut y gellir osgoi gorgyffwrdd ac ailadrodd rhwng cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol?

Gwneud Penderfyniadau a Chynnal Datblygu

43. Sut gall y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol roi mwy o hyder a sicrwydd i gymunedau, datblygwyr a phenderfynwyr ynghylch datblygu yn y dyfodol?

44. Sut gellir gwneud penderfyniadau cynllunio yn gyflymach ond gan sicrhau yr un pryd bod pobl yn cael cyfle ystyrlon i ddweud eu dweud?

45. Beth yw'r prif rwystrau sy'n atal datblygiadau rhag cael eu cyflawni unwaith eu bod wedi cael cefnogaeth gynllunio?

Cynllunio a Chyflenwi Strategol

46. Sut gall y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol helpu i sicrhau bod seilwaith, fel trafnidiaeth, ynni, dŵr a rhwydweithiau digidol, yn cael ei ddarparu gyda datblygiad newydd?

47. Sut gall Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ddod ag amcanion o ran tai, adfywio, trafnidiaeth, twf economaidd a nodau seilwaith ynghyd mewn cynllun clir hirdymor ar gyfer Cymru?

48. Pa wybodaeth a thystiolaeth y dylid eu defnyddio i helpu i lunio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig?

Rhan D

Galwad am Dystiolaeth

Nodwch y dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r gwaith o ddiwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

*Cwymplen i gynnwys cyfle i lanlwytho tystiolaeth yn ôl thema*

  1. Cymru yn 2050
  2. Cartrefi a Chymunedau
  3. Economi a Ffyniant
  4. Cynllunio ar gyfer Adfer Natur, Gwrthsefyll Effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd, Economi Gylchol a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
  5. Symudiad a Chysylltedd
  6. Iechyd a Llesiant
  7. Diwylliant, Iaith a Chenedligrwydd 
  8. Cynllunio
  9. Ymchwil Academaidd
  10. Astudiaethau Lleol
  11. Arall

Sut i Ymateb

Rydym yn croesawu ymatebion drwy’r ffurflen ymateb sydd ar lein neu ymatebion ysgrifenedig gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru. Gall ymatebion dynnu ar ddata ffurfiol, ymchwil gyhoeddedig, profiad sefydliadol, profiad byw, astudiaethau achos, enghreifftiau o arfer da neu gynigion ymarferol ar gyfer newid.

Rydym yn croesawu yn arbennig dystiolaeth glir ynghylch pa gamau sydd eu hangen, pwy sydd angen cymryd rhan, beth all y llywodraeth ei wneud yn wahanol, a sut y gellid mesur cynnydd. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u bwriadu fel man cychwyn a gellir eu datblygu ymhellach trwy ymgysylltu â phartneriaid.

Cyflwynwch eich ymatebion erbyn 20 Tachwedd 2026, drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Ymgynghoriad Galwad am Dystiolaeth ar gyfer Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk