Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol drafft
Yn esbonio sut y gallwch chi gyfrannu at y sgwrs genedlaethol ynghylch sut i ddiwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yw haen uchaf y system statudol o gynlluniau datblygu yng Nghymru. Mae'n nodi sut y dylid cynllunio a rheoli lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol drwy'r system gynllunio. Mae'r FfDC yn sefydlu'r fframwaith strategol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol, Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a phenderfyniadau ynghylch Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru (PCC), mae'n darparu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer penderfyniadau ynghylch cynllunio a datblygu ledled Cymru.
Cafodd Cymru'r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040, sef y FfDC cyfredol, ei fabwysiadu yn 2021, ac mae’n gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu a defnydd tir yng Nghymru tan 2040. Ers iddo gael ei fabwysiadu, mae Cymru wedi parhau i wynebu newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur, amodau economaidd sy'n esblygu, pwysau demograffig, heriau o ran seilwaith, a galw cynyddol am wydnwch ac i ddiogelu ffynonellau ynni.
Rydyn ni’n diwygio'r FfDC er mwyn adlewyrchu’r ymrwymiadau maniffesto’r Llywodraeth, a sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau a chyfleoedd y dyfodol. Mae diwygio’r FfDC hefyd yn darparu cyfle unigryw i gynnal sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn hytrach nag ymgynghori ar faterion yn ymwneud â'r polisi cynllunio yn unig, bydd y gwaith ymgysylltu drwy gydol y broses yn gwahodd pobl i ystyried dyfodol hirdymor y genedl a rôl lleoedd, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd a diwylliant wrth wireddu'r weledigaeth honno. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod cyd-drefniant gwell ar draws amryw o gynlluniau a strategaethau sy'n cael eu hyrwyddo trwy gyfnod y Llywodraeth hon, yn enwedig ar gyfer y rheiny lle mae goblygiadau yn croesi neu ble mae gwahanol gynlluniau gofodol yn rhyngweithio, er enghraifft Cynllunio Morol a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
2. Diben
Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl ac yn eu cynnwys wrth ddatblygu'r FfDC. Mae hefyd yn darparu manylion am y gofynion gweithdrefnol, yr amserlenni a'r gwaith ymgynghori yn ystod proses y FfDC.
Bydd camau ymgynghori allweddol yn digwydd yn ystod y broses gan roi cyfleoedd i gyflwyno sylwadau. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriad ffurfiol yn ystod,
- Cam 2: Ymgynghoriad ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd, y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol, a'r Galwad am Dystiolaeth.
- Cam 5: Cyhoeddi ac ymgynghori ar y prif faterion, yr opsiynau a'r opsiwn a ffefrir, a hynny wedi'i ategu gan adroddiadau ac asesiadau amgylcheddol.
- Cam 8: Ymgynghoriad ar y FfDC drafft.
Diben y Cynllun Ymgysylltu hwn yw hwyluso sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ei chwarae wrth gyflawni'r dyfodol hwnnw. Bydd hyn yn helpu i lunio gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r FfDC diwygiedig a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llywio gan brofiadau, dyheadau a thystiolaeth pobl, cymunedau, sefydliadau a rhanddeiliaid ledled Cymru.
3. Amcanion
Nod ymgysylltu drwy broses y FfDC yw ceisio cyflawni'r amcanion canlynol,
- Datblygu gweledigaeth hirdymor gyffredin ar gyfer Cymru.
- Deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu rhannau gwahanol o Gymru.
- Nodi blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
- Casglu tystiolaeth i lywio'r broses o ddiwygio'r FfDC.
- Archwilio sut y gall cynllunio gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth.
- Sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu'r FfDC.
- Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o rôl cynllunio gofodol wrth lywio lleoedd a chymunedau.
- Meithrin perchnogaeth dros weledigaeth Cymru ar gyfer y dyfodol.
4. Egwyddorion Ymgysylltu Allweddol
Bydd y sgwrs genedlaethol yn cael ei llywio gan yr egwyddorion canlynol:
- Cynhwysol – darparu cyfleoedd i bob unigolyn a chymuned gymryd rhan.
- Hygyrch – defnyddio amrywiaeth o ddulliau a fformatau er mwyn lleihau rhwystrau i ymgysylltu.
- Seiliedig ar le – cydnabod bod y cyfleoedd a'r heriau’n amrywio ledled Cymru.
- Cydweithredol – annog trafodaeth, dysgu ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth.
- Canolbwyntio ar y dyfodol – ystyried llesiant hirdymor cenedlaethau’r dyfodol.
- Tryloyw – egluro'n glir sut mae adborth wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r FfDC.
4.1 Themâu Ymgysylltu
Er mwyn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r berthynas rhwng gwahanol weithgareddau defnydd tir (yn y system gynllunio a thu allan ohoni) a'r rhyngwyneb rhwng gweithgareddau tir a morol, rydym yn awyddus i gasglu amrywiaeth eang o farn a thystiolaeth i lunio dull mwy integredig o ddatblygu polisïau ledled y Llywodraeth.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn fwyaf tebygol o ymgysylltu â heriau hirdymor pan fydd y trafodaethau'n gysylltiedig â lle, hunaniaeth, diwylliant, llesiant a chenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'r Cynllun Ymgysylltu yn ceisio fframio'r sgwrs o amgylch y pynciau allweddol, themâu a’r blaenoriaethau hyn.
Isod ceir rhestr o'r themâu rydym yn awyddus i dderbyn eich barn a tystiolaeth ynglŷn. Mae cwestiynau manwl wedi eu gosod yn yr Atodiad ac mae ffurflen ymateb rhyngweithiol ar gael ar y wefan. Mae'r prif feysydd thematig yn cael eu hamlinellu'n strategol i ddechrau, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan yn 2050 cyn canolbwyntio ar themâu penodol, sydd wedi'u rhestru'n nhrefn yr wyddor, yn unol â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, ni ddylid ystyried bod y drefn y maent yn ymddangos ynddi yn dynodi unrhyw flaenoriaeth na phwysigrwydd fel rhan o'r alwad hon am dystiolaeth.
Cymru yn 2050
Cymru Lewyrchus
- Yr Economi a Swyddi
- Ynnu
- Carbon Isel / Sero
Cymru Cydnerth
- Cymunedau Cydnerth
- Addasu i’r Hinsawdd
- Tir
- Morol
- Natur
Cymru Iachach
- Iechyd
- Anghydraddoldebau
- Lles
Mwy Cyfartal
- Mynediad i wasanaethau (Iechyd, Addysg, Cyfleusterau Cymunedol
- Cysylltedd Digidol
Cymunedau Cydlynus
- Tai
- Cludiant a Logisteg
Diwylliant bywiog a'r iaith Gymraeg yn ffynnu
- Celfyddydau
- Diwylliant
- Treftadaeth
- Adloniant
- Chwaraeon
- Iaith Gymraeg
Wrth ystyried y themâu uchod, bydd hefyd yn rhaid cymryd i ystyriaeth a fyddai gweithredoedd o'r fath yn gyfrifol yn fyd-eang ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i les byd-eang.
Bydd y trafodaethau’n cydnabod amrywiaeth Cymru ac yn archwilio sut y gall cyfleoedd a heriau amrywio rhwng cymunedau trefol, gwledig, arfordirol a chymoedd, yn ogystal â rhwng rhanbarthau gwahanol.
4.2 Gweithgareddau'r Sgwrs Genedlaethol
Bydd y sgwrs genedlaethol yn ceisio ymgysylltu â phobl a sefydliadau o bob cwr o Gymru gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy'n anelu at annog trafodaeth am ddyfodol lleoedd a chymunedau. Gall y gweithgareddau gynnwys:
- Digwyddiadau trafod cenedlaethol a rhanbarthol.
- Sgyrsiau a gweithdai yn y gymuned.
- Cyfarfodydd Bord Gron i randdeiliaid a thrafodaethau ar gyfer sectorau penodol
- Ymgysylltu digidol a chyfranogiad ar-lein.
- Cyfranogiad drwy rwydweithiau, partneriaethau a sefydliadau cymunedol presennol.
- Ymgysylltu wedi'i dargedu â grwpiau a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Cyfleoedd i gyflwyno syniadau, tystiolaeth a safbwyntiau lleol.
Bydd union fformat y gweithgareddau ymgysylltu yn esblygu wrth i'r FfDC gael ei baratoi, a bydd hyn yn cael ei adolygu'n barhaus er mwyn sicrhau bod y cyfranogiad yn ystyrlon, yn hygyrch ac yn cyrraedd ystod eang o ddiddordebau a chymunedau ledled Cymru.
4.3 Gan bwy rydym am glywed?
Rydym am glywed gan bawb; pobl sy'n byw, yn gweithio, yn astudio ac yn buddsoddi yng Nghymru, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, busnesau, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a chyrff cynrychioliadol. Gwneir ymdrechion penodol i ymgysylltu â phobl a chymunedau nad yw eu barn bob amser yn cael ei chynrychioli mewn prosesau cynllunio.
4.4 Adrodd yn Ôl
Rydym wedi ymrwymo i roi adborth drwy gydol y broses o baratoi'r FfDC. Bydd diweddariadau, crynodebau o weithgarwch ymgysylltu, ac adroddiadau ymgynghori yn egluro'r hyn a glywsom yn ystod y sgwrs genedlaethol a'r ffordd y mae hyn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun.
5.0 Sut y bydd adborth yn dylanwadu ar ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru?
Bydd yr adborth a gesglir drwy'r sgwrs genedlaethol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio polisïau a strategaethau ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys y FfDC diwygiedig. Bydd y safbwyntiau, y syniadau, y wybodaeth leol a'r dystiolaeth a gesglir drwy weithgarwch ymgysylltu yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â thystiolaeth dechnegol, ymchwil ac asesiadau statudol er mwyn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r FfDC.
Bydd yr adborth yn helpu i nodi'r materion sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru, tynnu sylw at gyfleoedd a heriau gwahanol rhwng lleoedd, a phrofi opsiynau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer datblygu'r genedl yn y dyfodol. Er na ellir bwrw ymlaen â phob awgrym, bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i gryfhau'r sail dystiolaeth a llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau drwy gydol y broses o baratoi'r cynllun. Os yw tystiolaeth yn fwy perthnasol i gefnogi datblygiad polisi mewn adran arall o Lywodraeth Cymru, yna bydd ar gael iddynt, yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd a gyhoeddwyd gyda'r ymgynghoriad galw am dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ymgynghori ar gamau allweddol, gan egluro'r hyn a glywsom drwy’r sgwrs genedlaethol a'r ffordd y mae hyn wedi dylanwadu ar esblygiad y FfDC.
5. Sut y bydd adborth yn dylanwadu ar ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru?
Bydd yr adborth a gesglir drwy'r sgwrs genedlaethol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio polisïau a strategaethau ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys y FfDC diwygiedig. Bydd y safbwyntiau, y syniadau, y wybodaeth leol a'r dystiolaeth a gesglir drwy weithgarwch ymgysylltu yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â thystiolaeth dechnegol, ymchwil ac asesiadau statudol er mwyn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gweledigaeth, amcanion, blaenoriaethau gofodol a pholisïau'r FfDC.
Bydd yr adborth yn helpu i nodi'r materion sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru, tynnu sylw at gyfleoedd a heriau gwahanol rhwng lleoedd, a phrofi opsiynau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer datblygu'r genedl yn y dyfodol. Er na ellir bwrw ymlaen â phob awgrym, bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i gryfhau'r sail dystiolaeth a llywio'r gwaith o wneud penderfyniadau drwy gydol y broses o baratoi'r cynllun. Os yw tystiolaeth yn fwy perthnasol i gefnogi datblygiad polisi mewn adran arall o Lywodraeth Cymru, yna bydd ar gael iddynt, yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd a gyhoeddwyd gyda'r ymgynghoriad galw am dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ymgynghori ar gamau allweddol, gan egluro'r hyn a glywsom drwy’r sgwrs genedlaethol a'r ffordd y mae hyn wedi dylanwadu ar esblygiad y FfDC.
Atodiad 1: Cwestiynau’r ymgynghoriad
Rhan A
Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd
Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd sy'n darparu manylion am y gofynion gweithdrefnol, yr amserlenni a'r broses ymgynghori ar gyfer mynd â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd yn ei flaen.
- I ba raddau ydych yn cytuno bod yr amserlen arfaethedig yn rhoi digon o gyfle i ymgysylltu'n ystyrlon a chasglu tystiolaeth?
Cytuno'n Gryf, Cytuno, Ddim yn Cytuno/Anghytuno, Anghytuno, Anghytuno'n Gryf
- A oes unrhyw gamau eraill yn y broses lle byddai ymgysylltu neu ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol yn fuddiol, yn ogystal â'r rheini sy'n cael eu darparu ar gyfer Opsiynau, a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft? Os felly, esboniwch pam.
- Pa grwpiau o randdeiliaid a allai fod angen cymorth ychwanegol neu ymgysylltu penodol?
- A oes cymunedau neu grwpiau y mae eu barn yn cael ei thangynrychioli mewn prosesau cynllunio, a phwy ddylai gael sylw arbennig yn ystod y broses o ddiwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?
A) I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r dulliau ymgysylltu a amlinellwyd?
Cytuno'n Gryf, Cytuno, Ddim yn Cytuno/Anghytuno, Anghytuno, Anghytuno'n GryfB) A oes unrhyw ddulliau ychwanegol y dylid eu hystyried?
- A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym am y Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd drafft?
Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol
Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol, sy'n ceisio fframio'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ei chwarae wrth gyflawni'r dyfodol hwnnw.
- A yw'r themâu arfaethedig (gweler 4.1 o’r Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol) yn cwmpasu’r materion pwysicaf ar gyfer dyfodol Cymru?
Ydynt
Nac ydynt
Ddim yn gwybod
Os na, beth sydd ar goll?
- A oes unrhyw lefydd, cymunedau neu faterion y dylid rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod y sgwrs genedlaethol?
Testun rhydd - Sut gallwn ni wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i gymryd rhan?
Testun rhydd
- Beth yw'r ffordd orau o ymgysylltu â chi?
Arolwg ar-lein
Digwyddiad lleol
Gweithdy
Grwpiau ffocws
Cyfryngau cymdeithasol
Ymatebion Ysgrifenedig
Arall
- A oes unrhyw sylwadau ychwanegol yr hoffech eu gwneud ynghylch y Cynllun Ymgysylltu ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol drafft?
Rhan B
Themâu'r Sgwrs Genedlaethol
Diben y cwestiynau canlynol yw hwyluso sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru a'r rôl y dylai lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol ar dir a môr ei chwarae wrth wireddu'r dyfodol hwnnw. Bydd hyn yn helpu i lunio gweledigaeth, amcanion a pholisïau cynlluniau a strategaethau amrywiol y mae'r llywodraeth hon yn mynd â nhw yn eu blaenau, gan gynnwys polisi defnydd tir gofodol i'w gynnwys mewn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.
Yng Nghymru, mae polisi a strategaeth gyhoeddus yn cael eu llywio gan saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a rhaid eu dilyn. Y rhain yw:
- Llewyrchus
- Cydnerth
- Iachach
- Mwy cyfartal
- Cymunedau Cydlynus
- Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cyfrifol ar lefel fyd-eang
Mae'r prif feysydd thematig yn cael eu disgrifio o safbwynt strategol yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan yn 2050 cyn canolbwyntio ar themâu penodol, sydd wedi'u nodi yn nhrefn yr wyddor, a’u halinio â 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Felly, ni ddylid ystyried bod y drefn y maent yn ymddangos ynddi yn dangos eu blaenoriaeth neu eu pwysigrwydd yn y cais hwn am dystiolaeth.
Cymru yn 2050
12. Am beth hoffech chi i Gymru fod yn adnabyddus amdano yn 2050? Sut gall cynllunio, datblygu a seilwaith helpu i wneud hyn ddigwydd?
13. Beth dylem ni ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol o ran cymunedau, ein hamgylchedd (tir a môr) a’n seilwaith?
14. Wrth edrych tuag at 2050, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf sy'n wynebu Cymru, a sut dylent ddylanwadu ar ddatblygu yn y dyfodol?
Cymru Lewyrchus
Economi a Swyddi
15. Pa rannau o Gymru ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer swyddi, buddsoddiad a thwf economaidd, a pham?
16. Sut gall cynllunio a seilwaith helpu i greu cyfleoedd i bobl a busnesau ar draws pob rhan o Gymru?
17. Pa ddiwydiannau ydych chi'n meddwl fydd bwysicaf i Gymru erbyn 2050, a pha dir, adnoddau naturiol neu seilwaith fydd eu hangen arnynt?
Ynni
18. Sut gall prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel ddod â'r buddion mwyaf i gymunedau lleol ac economi Cymru?
19. Beth dylid ei ystyried wrth benderfynu ble i leoli prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel?
20. Pa gyfleoedd sydd ar gael i leihau'r defnydd o ynni a diwallu mwy o'n hanghenion ynni yn lleol?
Sero Net a'r Economi Gylchol
21. Pa newidiadau i'r ffordd rydym yn cynllunio a datblygu lleoedd sydd eu hangen i gefnogi trawsnewidiad Cymru i sero net, economi gylchol, adferiad natur a chynaliadwyedd amgylcheddol ehangach?
22. Sut gall y newidiadau hyn gefnogi pontio teg sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn creu cyfleoedd ac yn deg i bobl a chymunedau ledled Cymru?
Cymru gydnerth
Gwydnwch Cymunedol a'r Newid yn yr Hinsawdd
23. Beth yw'r risgiau hinsawdd ac amgylcheddol mwyaf sy'n wynebu gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys llifogydd, stormydd, tonnau gwres, newid arfordirol, pwysau ar gyflenwadau dŵr, llygredd ac effeithiau ar seilwaith, gwasanaethau ac adnoddau naturiol, a sut y dylid cynllunio i ymateb i’r rhain?
Natur a Thir
24. Sut gall cynllunio helpu natur a systemau naturiol i addasu i newid yn yr hinsawdd fel eu bod yn parhau i gefnogi lles, gwydnwch ecosystemau a gwasanaethau hanfodol i bobl a chymunedau?
25. Sut dylai cynllunio defnydd tir amddiffyn a gwella natur wrth hefyd gefnogi tai, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd, pren, datblygu economaidd, cyfleoedd economi gylchol, gwydnwch rhag llifogydd a lles cymunedol?
26. Sut gall y system gynllunio helpu i sicrhau bod tirweddau pwysig, cynefinoedd, ardaloedd arfordirol a morol, ac adnoddau naturiol yn cael eu gwarchod, eu hadfer a'u rheoli'n effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth, gwydnwch hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol?
Môr ac Arfordir
27. Beth ydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf am y mor, a beth dylai ei ddarparu i genedlaethau'r dyfodol? Beth mae hyn yn ei olygu o ran sut i ddefnyddio a rheoli tir ac ardaloedd arfordirol?
Cymru Iachach
Iechyd a Llesiant
28. Sut dylai cynllunio a datblygu helpu i greu lleoedd iachach a gwella llesiant pobl?
29. Pa wasanaethau, cyfleusterau, seilwaith a nodweddion amgylcheddol sydd bwysicaf ar gyfer iechyd a llesiant pobl?
30. A oes unrhyw leoedd neu gymunedau sydd angen cymorth ychwanegol i wella'u hiechyd, llesiant neu gyfleoedd economaidd?
Mwy cyfartal
31. Sut gall cynllunio ei gwneud hi'n haws i bobl gael at swyddi, gofal iechyd, addysg, siopau, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol?
32. Pa mor bwysig yw cysylltiadau digidol da, fel band eang a chysylltiadau ar gyfer dyfeisiau symudol, ar gyfer dyfodol cymunedau a busnesau? Ble dylem ganolbwyntio’n hymdrechion?
Cymunedau Cydlynus
Cartrefi a Thai
33. Beth sy'n gwneud lle yn lle da i fyw ynddo, a sut gall cynllunio helpu i greu a chynnal y cymunedau hyn?
34. Pa fathau o gartrefi fydd eu hangen ar Gymru dros y 25 mlynedd nesaf, a ble y dylid eu hadeiladu?
Adfywio a Datblygu
35. Sut dylai trefi, dinasoedd, pentrefi a chymunedau gwledig newid a thyfu i ddiwallu anghenion y dyfodol?
Trafnidiaeth a logisteg
36. Sut dylai pobl a nwyddau deithio o amgylch Cymru yn 2050, a pha drafnidiaeth a seilwaith fydd eu hangen?
Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
37. Sut gall datblygu newydd a chynllunio helpu i gefnogi a chryfhau'r Gymraeg?
38. Sut y dylid adlewyrchu hanes, diwylliant a hunaniaeth leol mewn penderfyniadau ynghylch datblygiad newydd?
39. Sut gall gwahanol rannau o Gymru gyfrannu at weledigaeth ar y cyd ar gyfer y wlad wrth iddynt gadw eu cymeriad a'u hunaniaeth unigryw eu hunain?
Rhan C
Mae'r cwestiynau canlynol yn canolbwyntio ar y rôl y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig ei chwarae wrth ddiwallu anghenion Cymru, grymuso llywodraeth leol a lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu o fewn y system cynllunio datblygu tir.
Llywodraethu Effeithiol
40. Ydych chi'n cytuno y dylai cynghorau lleol a phartneriaethau rhanbarthol chwarae rôl gryfach wrth baratoi a chynnal y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, gan yr un pryd leihau biwrocratiaeth a dyblygu diangen? Esboniwch eich barn ac awgrymwch unrhyw welliannau.
Y System Gynllunio
41. A oes unrhyw faterion y dylid eu cynllunio ar eu cyfer ar lefel Cymru gyfan yn hytrach na thrwy gynlluniau rhanbarthol neu leol?
42. Sut y gellir osgoi gorgyffwrdd ac ailadrodd rhwng cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol?
Gwneud Penderfyniadau a Chynnal Datblygu
43. Sut gall y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol roi mwy o hyder a sicrwydd i gymunedau, datblygwyr a phenderfynwyr ynghylch datblygu yn y dyfodol?
44. Sut gellir gwneud penderfyniadau cynllunio yn gyflymach ond gan sicrhau yr un pryd bod pobl yn cael cyfle ystyrlon i ddweud eu dweud?
45. Beth yw'r prif rwystrau sy'n atal datblygiadau rhag cael eu cyflawni unwaith eu bod wedi cael cefnogaeth gynllunio?
Cynllunio a Chyflenwi Strategol
46. Sut gall y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol helpu i sicrhau bod seilwaith, fel trafnidiaeth, ynni, dŵr a rhwydweithiau digidol, yn cael ei ddarparu gyda datblygiad newydd?
47. Sut gall Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ddod ag amcanion o ran tai, adfywio, trafnidiaeth, twf economaidd a nodau seilwaith ynghyd mewn cynllun clir hirdymor ar gyfer Cymru?
48. Pa wybodaeth a thystiolaeth y dylid eu defnyddio i helpu i lunio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diwygiedig?
Rhan D
Galwad am Dystiolaeth
Nodwch y dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r gwaith o ddiwygio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
*Cwymplen i gynnwys cyfle i lanlwytho tystiolaeth yn ôl thema*
- Cymru yn 2050
- Cartrefi a Chymunedau
- Economi a Ffyniant
- Cynllunio ar gyfer Adfer Natur, Gwrthsefyll Effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd, Economi Gylchol a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
- Symudiad a Chysylltedd
- Iechyd a Llesiant
- Diwylliant, Iaith a Chenedligrwydd
- Cynllunio
- Ymchwil Academaidd
- Astudiaethau Lleol
- Arall
