Trosolwg o Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Bwriad Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yw sicrhau, os yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu, eu bod yn canolbwyntio’n fwy priodol ar anghenion unigol pobl. Mae chwe Rhan i’r Mesur, ac mae Rhannau 1 i 4 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i wella’r ffordd y darperir gwasanaethau:
- mae Rhan 1 yn ceisio sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn gofal sylfaenol;
- mae Rhan 2 yn rhoi’r hawl i bawb sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gael Cynllun Gofal a Thriniaeth;
- mae Rhan 3 yn rhoi’r hawl i bob oedolyn sy’n cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd gyfeirio ei hun yn ôl at y gwasanaethau hynny;
- mae Rhan 4 yn cynnig mynediad i gymorth eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i bob claf mewnol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:#
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth Rhan 6 (ac eithrio adrannau 53(1) a 54) a’r darpariaethau yn y Mesur sy’n rhoi pŵer i wneud rheoliadau neu orchymyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (hynny yw ar 15 Chwefror 2011), yn unol ag adran 55(1) a (2).
Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 55(3):
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Mawrth 2010 gan Edwina Hart AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Tachwedd 2010.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.
