Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Daeth Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gyfraith yn Ionawr 2010 ond cafodd ei ddiddymu wedi hynny gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.

Rhoddodd Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 bwerau i Weinidogion Cymru ddatblygu fframwaith mwy cyson i awdurdodau lleol wrth godi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaeth unigol am wasanaethau gofal cymdeithasol amhreswyl, gyda’r nod o leihau’r anghysondebau a oedd yn bodoli ar y pryd.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 17 i 19 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 17 Mai 2010), yn unol ag adran 18(2).

Roedd gweddill darpariaethau’r Mesur yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 18(3).

Mae’r gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

 
TeitlRhif y dyfyniadDyddiad gwneudDod i rymDogfennaeth ategol
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2015 (ar legislation.gov.uk)2015 Rhif 720 (Cy. 58)13 Mawrth 20156 Ebrill 20152015 Rhif 720 (Cy. 58): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 (ar legislation.gov.uk)2014 Rhif 666 (Cy. 73) 14 Mawrth 20147 Ebrill 20142014 Rhif 666 (Cy. 73): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Cymorth Gwladol a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2013 (ar legislation.gov.uk)2013 Rhif 633 (Cy. 69) 15 Mawrth 20138 Ebrill 20132013 Rhif 633 (Cy. 69): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011 (ar legislation.gov.uk)2011 Rhif 1666 (Cy. 190)6 Gorffennaf 2011 2 Awst 20112011 Rhif 1666 (Cy. 190): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011 (ar legislation.gov.uk)2011 Rhif 964 (Cy. 138)  24 Mawrth 2011 11 Ebrill 2012011 Rhif 964 (Cy. 138): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (ar legislation.gov.uk)2011 Rhif 963 (Cy. 137)24 Mawrth 201111 Ebrill 20112011 Rhif 963 (Cy. 137): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 (ar legislation.gov.uk)2011 Rhif 962 (Cy. 136)24 Mawrth 201111 Ebrill 20112011 Rhif 962 (Cy. 136): Memorandwm Esboniadol (ar senedd.cymru) (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 29 Mehefin 2009 gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd.

Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 19 Ionawr 2010:

a'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu'r Mesur fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2:

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 17 Mawrth 2010.