Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Ystadegol Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2025-26.
Mae Llywodraeth Cymru yn diogelu aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd incwm isel ledled Cymru drwy gynnal eu hawliau llawn i gymorth â biliau'r dreth gyngor, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynllun drwy ddarparu £244 miliwn yn flynyddol drwy'r setliad llywodraeth leol. Mae'r cynllun cenedlaethol yn un sydd wedi’i deilwra ac yn golygu bod y cymorth hwn yn cael ei dargedu at y rhai y mae arnynt ei angen fwyaf.
Yn 2025-26, fe wnaeth 257,000 o aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd incwm isel – tua un o bob pump o aelwydydd – elwa o ostyngiad yn eu treth gyngor. O’r rhain, ni thalodd dros 218,000 o aelwydydd unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Hoffwn annog pawb i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a oes ganddynt hawl i gael help â'u bil treth gyngor, naill ai drwy ein cynllun gostyngiadau neu drwy un o'r gostyngiadau a'r esemptiadau niferus sydd ar gael. Dylai pobl sy'n cael trafferth gyda dyled y dreth gyngor gysylltu â'u hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl bob amser, neu ffonio AdviceLink Cymru ar 0800 702 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r awdurdodau lleol am eu cymorth parhaus o ran gweithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru, ac o ran helpu i sicrhau bod y cymorth ariannol pwysig hwn yn cyrraedd yr aelwydydd cymwys.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
