Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am a allech chi dalu llai o Dreth Gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ydych chi'n gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor?

Codir Treth Gyngor ar bob cartref. Fel arfer, rhaid ichi dalu'r dreth os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac yn berchen ar eiddo neu'n rhentu eiddo.

Mae bil Treth Gyngor safonol yn seiliedig ar ddau oedolyn yn byw mewn cartref. Fodd bynnag, gall y swm rydych chi'n ei dalu newid yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol neu amgylchiadau pobl eraill sy'n byw gyda chi.

Wrth gyfrifo faint o oedolion sy'n byw mewn eiddo, nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif (a elwir hefyd yn 'diystyru').

Os bydd rhywun yn eich cartref yn cael ei ddiystyru, efallai y byddwch yn gymwys i gael disgownt ar eich bil Treth Gyngor.

Pobl nad ydyn nhw'n cael eu cyfrif wrth gyfrifo bil Treth Gyngor ar gyfer eiddo:

  • Person 18 oed neu hŷn sy'n dal i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.
  • Pobl ifanc o dan 20 oed sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg.
  • Prentisiaid.
  • Myfyrwyr llawnamser.
  • Cynorthwywyr Ieithoedd Tramor sydd wedi'u cofrestru gyda'r British Council.
  • Priod, partner sifil neu ddibynnydd i fyfyriwr llawnamser, nad yw'n ddinesydd Prydeinig ac na chaniateir iddo, o dan reolau mewnfudo, i hawlio budd-daliadau na gweithio yn y DU.
  • Person sydd wedi cael diagnosis o Amhariad Gwybyddol Sylweddol.
  • Person sy'n aros mewn hosteli neu lochesau nos penodol.
  • Person sy'n byw mewn hostel sy'n darparu gofal neu driniaeth oherwydd henaint, anabledd, salwch meddwl, neu ddibyniaeth ar alcohol/cyffuriau.
  • Person sydd yn y carchar neu'n cael ei gadw (gan gynnwys y rhai sy'n aros i gael eu hallgludo neu'n cael eu cadw o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl).
  • Person sy'n darparu gofal llawnamser i rywun nad yw'n ŵr, gwraig, partner nac yn blentyn o dan 18 oed iddo.
  • Aelod o gymunedau crefyddol.
  • Aelodau o luoedd arfog ar ymweliad a'u dibynyddion.
  • Person sy'n byw mewn ysbyty fel claf hirdymor.
  • Person sy'n byw mewn cartref gofal neu gartref nyrsio.
  • Pobl sy'n gadael gofal.
  • Person o Wcráin sy'n cael ei letya o dan y cynllun 'Cartrefi i Wcráin'.
  • Diplomyddion.

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd eich bil Treth Gyngor yn cael ei leihau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor os:

  • ydych chi'n byw mewn cartref incwm isel
  • ydych chi'n byw ar eich pen eich hun
  • yw eich eiddo wedi'i addasu ar gyfer person anabl
  • yw pob person heblaw un yn eich cartref yn cael ei ddiystyru 
  • yw eich eiddo yn wag

Os yw eich cartref ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu cael help gyda rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Gyngor drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Efallai y bydd gennych hawl i un o'r disgowntiau canlynol:

  • Disgownt o 25%:
    • pan fydd dim ond un oedolyn yn byw yn yr eiddo, neu
    • pan fydd mwy nag un oedolyn, ond bydd pob oedolyn arall yn cael ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor.
  • Disgownt o 50%:
    • pan fydd pob oedolyn yn yr eiddo yn cael ei ddiystyru, neu
    • pan fydd dim ond un oedolyn yn cael ei ddiystyru ac na fydd yr eiddo yn gymwys i gael esemptiad.
  • Gostyngiad band anabl:
    • os yw eich cartref wedi'i addasu ar gyfer person anabl, efallai y byddwch yn talu Treth Gyngor yn seiliedig ar y band prisio isaf nesaf.

Mae rhai mathau o eiddo yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor. Mae esemptiadau yn gymwys i'r eiddo ei hun, ac mae rhai ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Eich awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyfrifo unrhyw ddisgownt, gostyngiad neu esemptiad sy'n gymwys i'ch bil Treth Gyngor.

Os ydych chi'n credu eich bod yn talu mwy nag y dylech, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleoli wirio a ydych chi'n gymwys i gael cymorth.

Cartrefi incwm isel

Os yw eich cartref ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu cael help gyda rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Gyngor drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Gallwch wneud cais am ostyngiad Treth Gyngor p'un a ydych chi: 

  • yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm,
    Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol
  • yn gweithio
  • yn ddi-waith
  • yn methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd
  • yn gofalu am blentyn neu oedolyn
  • wedi ymddeol

Cyfrifo eich hawl

Bydd eich awdurdod lleol yn edrych ar:

  • eich incwm wythnosol
  • unrhyw gyfalaf sydd gennych (fel cynilion)

Bydd y gostyngiad y gallech ei gael hefyd yn dibynnu ar:

  • bwy sy'n byw gyda chi a'u hamgylchiadau
  • ph'un a ydych chi o oedran gweithio neu'n bensiynwr

Pobl nad ydyn nhw'n gymwys

Ni allwch gael gostyngiad Treth Gyngor:

  • os ydych chi o dan 65 oed ac os oes gennych gyfalaf o £16,000 neu fwy, neu
  • os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn ac os oes gennych gyfalaf o £16,000 neu fwy, oni bai eich bod chi neu'ch partner yn cael yr elfen Credyd Gwarant o'r Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n meddwl y dylid addasu eich bil, dylech gysylltu ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol i asesu eich hawl. 

Byw ar eich pen eich hun

Efallai y bydd gennych hawl i ddisgownt Treth Gyngor os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun neu os nad yw'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw'n cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor.

Disgownt o 25%

Byddwch yn cael disgownt o 25%:

Disgownt o 50%

Efallai y byddwch yn cael disgownt o 50%:

Os oes angen help arnoch i ddeall pa gategorïau nad ydyn nhw'n cael eu cyfrif neu a ydych chi'n gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol am arweiniad a chymorth.

Person anabl

Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn eich band Treth Gyngor os yw eich eiddo wedi'i addasu i ddiwallu anghenion rhywun sy'n anabl yn sylweddol ac yn barhaol.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r eiddo fod ag o leiaf un o'r canlynol:

  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol a ddarperir yn benodol i ddiwallu anghenion y person anabl
  • ystafell ychwanegol neu addasiad i ystafell bresennol (heb gynnwys ystafell ymolchi, cegin na thoiled) i ddiwallu anghenion y person anabl ac a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
  • digon o le ychwanegol dan do er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn yn yr eiddo

Rhaid bod yr addasiad hefyd yn cael ei ystyried yn hanfodol neu'n bwysig iawn i lesiant y person anabl.

Os yw eich eiddo yn bodloni'r meini prawf, efallai y byddwch yn cael gostyngiad o un band prisio yn eich Treth Gyngor.

Er enghraifft:

  • Os yw eich cartref ym Mand C, codir y gyfradd ar gyfer Band B arnoch.
  • Os yw eich cartref eisoes ym Mand A, efallai y byddwch yn cael gostyngiad cyfatebol pellach.

Nid oes unrhyw ostyngiad ar gael am addasiadau a wnaed y tu allan i'r eiddo yn unig (er enghraifft, rampiau allanol, rheiliau llaw neu newidiadau i'r ardd).

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • Gadarnhau a ydych chi'n gymwys
  • Cynghori pa dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch
  • Egluro sut i wneud cais

Amhariad gwybyddol sylweddol (Esemptiad Dosbarth U)

Efallai y bydd pobl sydd ag ardystiad meddygol bod ganddyn nhw amhariad gwybyddol sylweddol yn gymwys i dalu dim Treth Gyngor neu i dalu llai ar gyfer yr eiddo y maen nhw'n byw ynddo.

Beth yw Amhariad Gwybyddol Sylweddol?

Ystyrir bod gan berson amhariad gwybyddol sylweddol os oes ganddo gyflwr meddwl difrifol a pharhaol, neu niwed niwrolegol difrifol a pharhaol, sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu ac sy'n cael effaith sylweddol ar fywyd beunyddiol yr unigolyn hwnnw.

Mae cyflyrau a allai arwain at amhariad gwybyddol sylweddol yn cynnwys (ymysg cyflyrau eraill):

  • clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia
  • clefyd Parkinson
  • anawsterau dysgu difrifol
  • strôc
  • cyflyrau niwrolegol neu feddyliol eraill sy'n arwain at amhariad gwybyddol difrifol, parhaol

Nid yw dioddef o un o'r cyflyrau hyn o reidrwydd yn golygu bod person yn gymwys. Rhaid i feddyg neu ymarferydd meddygol roi diagnosis ffurfiol o amhariad gwybyddol sylweddol i'r person.

Meini prawf cymhwystra

To qualify for a Council Tax reduction or exemption under SCI rules, a person must:

  • fod ag ardystiad meddygol gan feddyg neu ymarferydd meddygol bod ganddo amhariad gwybyddol sylweddol; a
  • Bod â hawl i o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol:
    • Lwfans Gweini
    • Lwfans Anabledd Difrifol
    • Lwfans Byw i'r Anabl (cyfradd uwch neu ganolradd yr elfen ofal)
    • Cynnydd yn y pensiwn anabledd (am fod angen gweini cyson)
    • Tâl Atodol neu Lwfans i'r Anghyflogadwy
    • Credyd Treth Gwaith (gydag elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol)
    • Taliad Annibyniaeth Personol (cyfradd safonol neu uwch)
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Lwfans Gweini Cyson
    • Cymhorthdal Incwm (sy'n cynnwys premiwm anabledd)
    • Credyd Cynhwysol (o dan amgylchiadau pan fo gallu person i wneud gwaith a/neu weithgarwch cysylltiedig yn gyfyngedig)

Lefel y disgownt

Mae'r gostyngiad a gewch yn dibynnu ar faint o bobl rydych chi'n byw gyda nhw ac a ydyn nhw'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor.

Esemptiad o 100% (dim Treth Gyngor i'w thalu)

Ni fydd rhaid ichi dalu unrhyw Dreth Gyngor:

  • os ydych chi wedi cael ardystiad meddygol bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol ac os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu
  • os ydych chi'n byw gyda phobl eraill sydd hefyd wedi cael ardystiad meddygol bod ganddyn nhw amhariad gwybyddol sylweddol.

Disgownt o 25%

Mae disgownt o 25% yn gymwys:

  • os ydych chi wedi cael ardystiad meddygol bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol, ac
  • os ydych chi'n byw gydag un oedolyn sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor

Disgownt o 50%

Efallai y byddwch yn cael disgownt o 50%:

Dim disgownt

Ni fyddwch yn cael unrhyw ddisgownt:

  • os ydych chi wedi cael ardystiad meddygol bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol ac os ydych chi'n byw gyda dau neu fwy o oedolion sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor.

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys, dylech lenwi ffurflen gais a'i hanfon drwy'r post i'ch awdurdod lleol neu gysylltu ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n gymwys
  • cynghori pa dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch
  • egluro sut i wneud cais

Anecs

Bydd anecs hunangynhwysol yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor:

  • os yw'r person sy'n byw yno wedi cael ardystiad meddygol bod ganddo amhariad gwybyddol sylweddol, ac
  • os yw'r person yn berthynas dibynnol ar berchennog y prif eiddo

Os ydych chi'n meddwl y gallech chi neu rywun rydych chi'n byw gydag ef fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • wirio eich cymhwystra
  • cynghori pa dystiolaeth sydd ei hangen
  • cymhwyso unrhyw ostyngiadau neu esemptiadau i'ch bil

Rhoi a chael gofal

Gofalwyr

Efallai y byddwch yn gallu cael disgownt Treth Gyngor os ydych chi'n darparu gofal i rywun nad yw'n:

  • briod neu'n bartner ichi, nac yn
  • blentyn o dan 18 oed ichi

Meini Prawf Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid ichi fodloni pob un o'r isod:

  • rydych chi'n darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos
  • rydych chi'n byw yn yr un eiddo â'r person rydych chi'n gofalu amdano
  • mae'r person rydych chi'n gofalu amdano'n cael un o'r budd-daliadau cymhwysol canlynol:
    • Cynnydd yn y Lwfans Gweini Cyson o dan y Cynllun Pensiynau Diwydiannol neu Ryfel
    • Cynnydd yng nghyfradd ei bensiwn anabledd
    • Lwfans Gweini 
    • Cyfradd uwch neu ganolradd yr elfen ofal o'r Lwfans Byw i'r Anabl 
    • Cyfradd safonol neu uwch yr elfen bywyd beunyddiol o'r Taliad Annibyniaeth Personol 
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Nid oes angen ichi fod yn hawlio'r Lwfans Gofalwr er mwyn bod yn gymwys, ac ni fydd eich incwm na'ch cynilion yn effeithio ar eich cymhwystra. 

Lefel y disgownt

Mae'r disgownt a gewch yn dibynnu ar bwy arall sy'n byw yn yr eiddo ac a ydyn nhw'n cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor.

Disgownt o 50%

Gallech gael disgownt o 50%:

  • os ydych chi'n ofalwr cymhwysol, ac
  • os nad oes neb arall sy'n byw yn yr eiddo yn cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor

Gall y disgownt hwn hefyd fod yn gymwys:

  • pan fydd dau ofalwr yn y cartref, a
  • phan nad oes neb arall sy'n byw yno yn cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor
Disgownt o 25%

Gallech gael disgownt o 25%:

  • os ydych chi'n ofalwr cymhwysol, ac
  • os oes un oedolyn arall yn byw yn yr eiddo sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor
Dim disgownt

Ni fyddwch yn cael gostyngiad:

  • os ydych chi'n ofalwr cymhwysol sy'n byw gyda dau neu fwy o oedolion sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n gymwys
  • cynghori pa dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch
  • egluro sut i wneud cais

Mae eich eiddo heb ei feddiannu oherwydd eich bod yn darparu gofal personol (Esemptiad Dosbarth J)

Efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor ar eiddo rydych chi wedi'i adael heb ei feddiannu os ydych chi wedi symud allan i fyw gyda pherson arall ac i ddarparu gofal personol i'r person hwnnw.

Pryd mae'r esemptiad yn gymwys

Gall esemptiad Dosbarth J fod yn gymwys:

  • os ydych chi wedi gadael y cartref rydych chi'n byw ynddo fel arfer,
  • os yw'r eiddo a adawyd gennych bellach heb ei feddiannu, ac 
  • os ydych chi wedi symud i gyfeiriad arall i ddarparu gofal personol i rywun sydd ei angen oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu gyflwr iechyd meddwl.

Dim ond i'r eiddo rydych chi wedi'i adael yn wag er mwyn darparu gofal y mae'r esemptiad yn gymwys. Nid yw'n gymwys i'r eiddo rydych chi'n byw ynddo nawr.

Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n bodloni'r meini prawf
  • egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch
  • prosesu'r esemptiad Dosbarth J ar gyfer eich cartref gwag

Preswylwyr cartrefi gofal neu hosteli sy'n darparu gofal neu driniaeth

Nid oes rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor os yw eich prif gartref yn gartref gofal, neu'n hostel sy'n darparu gofal neu driniaeth oherwydd y canlynol:

  • henaint
  • anabledd corfforol neu feddyliol
  • salwch meddwl yn y gorffennol neu yn y presennol
  • dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu yn y presennol

Mae'r mathau hyn o eiddo yn cael eu hystyried yn llety arbenigol, ac nid yw preswylwyr fel arfer yn atebol am y Dreth Gyngor pan fydd yr arhosiad yn gysylltiedig â chael gofal neu driniaeth.

Gan na fydd y mwyafrif o breswylwyr yn cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, bydd cartref gofal neu hostel yn gymwys i gael disgownt o 50%.

Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich llety yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gynghori a yw'r llety yn darparu gofal neu driniaeth gymhwysol
  • cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor

Cleifion yn yr ysbyty

Nid yw person sydd â'i unig breswylfa neu ei brif breswylfa mewn ysbyty yn cael ei gyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor. Gall hyn leihau'r bil Treth Gyngor ar gyfer y cartref yr oedd yn byw ynddo o'r blaen.

Fodd bynnag:

  • Nid yw rhywun sydd yn yr ysbyty dros dro ac a fydd yn dychwelyd adref yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cael ei ddiystyru.

Sut all hyn effeithio ar eich cartref

Os bydd rhywun a oedd fel arfer yn byw gyda chi wedi symud yn barhaol i ysbyty neu os nad oes disgwyl iddo ddychwelyd adref, efallai mai chi fydd yr unig oedolyn a gaiff ei gyfrif yn yr eiddo ac y byddwch yn gymwys i gael disgownt o 25%.

Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n bodloni'r meini prawf 
  • egluro pa dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch (fel cadarnhad o breswylfa barhaol) 
  • cymhwyso'r disgownt priodol i'ch cyfrif Treth Gyngor

Mae eich eiddo heb ei feddiannu oherwydd eich bod mewn cartref gofal neu ysbyty (Esemptiad Dosbarth E)

Efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor ar eiddo rydych chi wedi'i adael heb ei feddiannu os ydych chi wedi symud yn barhaol i ysbyty, cartref gofal, cartref nyrsio, hostel neu leoliad gofal preswyl cymhwysol arall.

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n gymwys
  • egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen
  • prosesu'r esemptiad ar eich cyfrif

Mae eich eiddo heb ei feddiannu oherwydd eich bod yn cael gofal personol (Esemptiad Dosbarth I)

Efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor ar eiddo rydych chi wedi'i adael heb ei feddiannu os ydych chi wedi symud allan i fyw gyda rhywun arall er mwyn cael gofal personol.

Pryd mae'r esemptiad hwn yn gymwys

Gall esemptiad Dosbarth I fod yn gymwys:

  • os ydych chi wedi gadael y cartref rydych chi'n byw ynddo fel arfer,
  • os yw'r eiddo a adawyd gennych bellach heb ei feddiannu, ac
  • os ydych chi wedi symud i gyfeiriad arall oherwydd bod angen ichi gael gofal personol oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu gyflwr iechyd meddwl.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth I, ni ddylai eich man preswylio newydd fod yn un o'r canlynol:

  • ysbyty
  • cartref gofal
  • ysbyty annibynnol
  • hostel

(Gall y sefyllfaoedd hyn ddod o dan gategorïau esemptiad eraill ond nid Dosbarth I.)

Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n bodloni'r meini prawf
  • egluro pa dystiolaeth y bydd angen ichi ei darparu
  • cymhwyso'r esemptiad i'ch cyfrif Treth Gyngor

Myfyrwyr, prentisiaid, pobl ifanc a phobl sy'n gadael gofal

Myfyrwyr (Esemptiad Dosbarth N)

Efallai na fydd rhaid i fyfyrwyr llawnamser dalu'r Dreth Gyngor os bydd eu llety yn bodloni meini prawf penodol.

Pryd mae'r esemptiad yn gymwys

Nid oes rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor os ydych chi'n fyfyriwr llawnamser sy'n byw yn un o'r canlynol:

  • fflat/rhandy, tŷ, neu fflat un ystafell ar eich pen eich hun
  • fflat/rhandy, tŷ, neu fflat un ystafell sy'n cael ei feddiannu gan fyfyrwyr llawnamser eraill yn unig
  • neuaddau preswyl myfyrwyr

Os byddwch yn bodloni un o'r categorïau hyn, bydd eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn cael ei drin fel eich prif breswylfa am oes eich cwrs. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor hyd yn oed yn ystod gwyliau neu gyfnodau y tu allan i'r tymor. Pan fo'r eiddo wedi'i feddiannu am o leiaf 6 wythnos, gall yr esemptiad barhau am hyd at bedwar mis ar ôl iddo gael ei feddiannu ddiwethaf.

Pwy sy'n cael ei ystyried yn fyfyriwr llawnamser?

At ddibenion y Dreth Gyngor, rydych chi fel arfer yn cael eich ystyried yn fyfyriwr llawnamser os ydych chi'n bodloni un o'r canlynol:

1. Myfyrwyr addysg uwch

Rydych chi wedi cofrestru ar gwrs cymhwysol sydd:

  • yn cynnwys o leiaf 21 awr o astudio yr wythnos yn ystod y tymor
  • yn para am o leiaf 24 wythnos yn ystod blwyddyn academaidd
2. Myfyrwyr iau (o dan 20 oed) mewn addysg bellach

Rydych chi:

  • o dan 20 oed, ac
  • yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at lefel Safon Uwch neu gyfwerth
  • ar gwrs sy'n para o leiaf 3 mis
  • sy'n cynnwys 12 awr neu fwy o astudio yr wythnos
3. Myfyrwyr nyrsio 
  • sy'n astudio cwrs mewn coleg nyrsio a bydwreigiaeth neu goleg iechyd a 
  • phe baech yn llwyddiannus, byddai'n arwain at eich cynnwys am y tro cyntaf ar y gofrestr a gynhelir o dan adran 10 o Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979

Byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr

Os ydych chi'n fyfyriwr llawnamser sy'n byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr:

  • ni fyddwch yn cael eich cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor,
  • ond gall yr oedolion eraill fod yn atebol am y bil o hyd.

Gall hyn ganiatáu i'r cartref gael disgownt o 25% os mai chi yw'r unig oedolyn nad yw'n cael ei gyfrif.

Os ydych chi'n meddwl y gallai'r esemptiad hwn fod yn gymwys ichi neu i rywun yn eich cartref, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol am arweiniad a chymorth.

Priod, partner sifil neu ddibynnydd i fyfyriwr llawnamser

Gall gŵr, gwraig, partner sifil, neu ddibynnydd i fyfyriwr llawnamser rhyngwladol hefyd gael ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor os yw'n bodloni amodau penodol.

Er mwyn iddo fod yn gymwys:

  • ni all fod yn ddinesydd Prydeinig, a
  • rhaid ei fod wedi'i gyfyngu gan reolau mewnfudo rhag: 
    • cymryd cyflogaeth â thâl yn y DU, neu
    • hawlio budd-daliadau wrth fyw yn y DU

Os bydd yn bodloni'r ddau amod, ni fydd yn cael ei gyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor. 

Cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol am arweiniad a chymorth.

Neuaddau Preswyl Myfyrwyr (Esemptiad Dosbarth M)

Mae eiddo a ddefnyddir fel neuaddau preswyl i fyfyrwyr yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os yw'n bodloni un o'r amodau canlynol:

  • Mae'r llety yn eiddo i sefydliad addysgol rhagnodedig neu'n cael ei reoli ganddo, neu
  • Mae'r llety yn eiddo i gorff a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig neu'n cael ei reoli ganddo, neu
  • Mae'r llety yn ddarostyngedig i gytundeb sy'n caniatáu i sefydliad addysgol enwebu'r mwyafrif o fyfyrwyr preswylwyr.

Os bydd unrhyw un o'r amodau hyn yn cael eu bodloni, bydd yr eiddo yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth M, sy'n golygu na chodir unrhyw Dreth Gyngor.

I gael arweiniad neu i wirio a yw preswylfa benodol yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall gynghori ar gymhwystra ac amlinellu unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen.

Eiddo wedi'i adael yn wag gan fyfyrwyr llawnamser (Esemptiad Dosbarth K)

Efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor ar eiddo:

  • os yw'r perchennog yn fyfyriwr llawnamser, ac
  • os yw'r eiddo heb ei feddiannu, ac
  • os mai dim ond myfyriwr neu fyfyrwyr a oedd yn byw yn yr eiddo ddiwethaf

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r perchennog fod yn fyfyriwr llawnamser eisoes neu raid iddo ddod yn un o fewn chwe wythnos ar ôl gadael yr eiddo.

Os bodlonir yr amodau hyn, gellir rhoi esemptiad Dosbarth K i'r eiddo, sy'n golygu na chodir unrhyw Dreth Gyngor arno tra ei fod yn parhau i fod yn wag.

Os ydych chi'n meddwl y gallai'r esemptiad hwn fod yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwystra
  • egluro pa dystiolaeth y bydd angen ichi ei darparu
  • cymhwyso'r esemptiad os bydd eich eiddo yn gymwys

Cynorthwywyr Iaith Dramor

Os ydych chi'n Gynorthwyydd Iaith Dramor, neu os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n Gynorthwyydd Iaith Dramor, efallai y byddwch yn gallu cael disgownt ar eich bil Treth Gyngor.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid ichi:

  • fod yn gweithio fel Cynorthwyydd Iaith Dramor mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall yn unrhyw le ym Mhrydain, a
  • bod wedi cofrestru'n swyddogol fel Cynorthwyydd Iaith Dramor gyda'r British Council

Os bydd yr amodau hyn yn cael eu bodloni, ni fydd y person yn cael ei gyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, a all leihau'r bil cyffredinol.

Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys i gael y disgownt hwn, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau eich cymhwystra
  • cynghori pa ddogfennau sydd eu hangen (e.e. prawf o gofrestriad gyda'r British Council)
  • cymhwyso'r disgownt priodol i'ch cyfrif Treth Gyngor

Prentisiaid

Efallai y byddwch yn gallu cael disgownt Treth Gyngor os oes prentis yn byw yn eich eiddo.

Pryd all disgownt fod yn gymwys

Efallai y bydd disgownt ar gael:

  • os oes prentis yn byw gyda chi ac os mai chi yw'r unig oedolyn sy'n atebol am y Dreth Gyngor yn yr eiddo, neu
  • os ydych chi'n brentis sy'n byw gyda dim ond prentisiaid eraill yn y cartref

O dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd prentisiaid yn cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, a all leihau'r bil cyffredinol.

Pwy sy'n cyfrif fel prentis?

At ddibenion y Dreth Gyngor, rydych chi'n cael eich ystyried yn brentis:

  • os ydych chi rhwng 16 a 18 oed, neu
  • os ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf prentisiaeth gymhwysol, ac
  • os ydych chi'n ennill dim mwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i brentisiaid

Os byddwch yn bodloni'r meini prawf hyn, efallai na fyddwch yn cael eich cyfrif wrth gyfrifo nifer yr oedolion sy'n atebol am y Dreth Gyngor.

Os ydych chi'n meddwl y gallai gostyngiad Treth Gyngor fod yn gymwys ichi oherwydd bod prentis yn byw yn eich cartref, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a yw'r prentis yn bodloni'r meini prawf cymhwysol
  • egluro pa dystiolaeth y bydd angen ichi ei darparu (e.e. contract prentisiaeth)
  • cymhwyso unrhyw ddisgownt cymwys i'ch bil Treth Gyngor

Pobl sydd wedi gadael yr ysgol a'r coleg

Efallai y byddwch yn gallu cael disgownt Treth Gyngor os oes person 18 neu 19 oed sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg yn byw yn eich eiddo ac os mai chi yw'r unig oedolyn arall sy'n atebol am y Dreth Gyngor.

Pwy sy'n cyfrif fel person sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg?

At ddibenion y Dreth Gyngor, person sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg yw:

  • person ifanc o dan 20 oed
  • person sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg ar ôl 30 Ebrill yn y flwyddyn bresennol

Ni fydd yn cael ei gyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor tan 1 Tachwedd yn yr un flwyddyn. Mae hyn yn gymwys p'un a yw'r person yn dechrau cyflogaeth yn ystod y cyfnod hwn ai peidio.

Os bydd yr amodau hyn yn cael eu bodloni, ni fydd y person ifanc yn cael ei gyfrif, a gallech gael gostyngiad o 25% yn eich bil Treth Gyngor os mai chi yw'r unig oedolyn arall sy'n cael ei gyfrif.

Os ydych chi'n meddwl y gallai disgownt fod yn gymwys ichi oherwydd bod person sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg yn byw yn eich cartref, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch (e.e. prawf o ddyddiad gadael)
  • cymhwyso'r disgownt priodol i'ch cyfrif Treth Gyngor

Personau y telir budd-daliadau plant iddyn nhw

Efallai y byddwch yn gallu cael disgownt Treth Gyngor os oes person 18 oed yn byw yn eich eiddo ac os oes Budd-dal Plant yn dal i gael ei dalu ar ei gyfer, ac os mai chi yw'r unig oedolyn atebol arall yn y cartref.

O dan yr amgylchiadau hyn, gellir trin y person ifanc fel un nad yw'n cael ei gyfrif ("a gaiff ei ddiystyru") at ddibenion y Dreth Gyngor. Gall hyn arwain at ostyngiad o 25% yn eich bil Treth Gyngor, yn dibynnu ar bwy arall sy'n byw yn yr eiddo.

Os ydych chi'n credu y gallai'r disgownt hwn fod yn gymwys i'ch cartref, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen (fel hawl i Fudd-dal Plant)
  • cymhwyso unrhyw ddisgownt cymwys i'ch cyfrif Treth Gyngor

Eiddo sy'n cael ei feddiannu gan bobl o dan 18 oed yn unig (Esemptiad Dosbarth S)

Mae eiddo yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os yw'n cael ei feddiannu gan bobl sy'n 17 oed neu'n iau yn unig.

Ni all pobl o dan 18 oed fod yn atebol am y Dreth Gyngor.
Mae hyn yn golygu:

  • mai perchennog yr eiddo fyddai'r person atebol yn dechnegol
  • ond ni chodir unrhyw Dreth Gyngor tra bod yr eiddo yn cael ei feddiannu gan unigolion 17 oed neu iau yn unig

Mae'r esemptiad hwn yn parhau i fod ar waith cyhyd ag y bydd yr eiddo yn cael ei feddiannu'n barhaus gan bobl o dan 18 oed yn unig.

Os ydych chi'n credu bod yr esemptiad hwn yn gymwys i'ch eiddo, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • egluro pa dystiolaeth a allai fod ei hangen
  • chymhwyso'r esemptiad Dosbarth S os bodlonir y meini prawf

Pobl sy'n gadael gofal (Esemptiad Dosbarth X)

Os ydych chi'n berson sy'n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed ac yn byw yng Nghymru, efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor mewn rhai sefyllfaoedd.

Byddwch yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os ydych chi'n byw yn un o'r canlynol:

  • fflat, rhandy, fflat un ystafell neu dŷ ar eich pen eich hun
  • fflat, rhandy, fflat un ystafell neu dŷ gyda dim ond pobl eraill sy'n gadael gofal
  • fflat, rhandy, fflat un ystafell neu dŷ gyda myfyrwyr llawnamser
  • fflat, rhandy, fflat un ystafell neu dŷ gyda rhywun sydd wedi cael ardystiad meddygol bod ganddo amhariad gwybyddol sylweddol

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yr eiddo yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth X ac ni chodir unrhyw Dreth Gyngor.

Os ydych chi'n byw gyda rhywun nad yw'n esempt

Os ydych chi'n berson sy'n gadael gofal ac yn byw gydag un neu fwy o oedolion nad ydyn nhw'n dod o dan un o'r categorïau esempt uchod:

  • ni fyddwch yn cael eich cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, ac
  • efallai y bydd yr oedolion eraill yn atebol am y bil o hyd

Os mai dim ond un oedolyn arall sy'n cael ei gyfrif, gall y cartref gael disgownt o 25% ar ei fil Treth Gyngor.

Os ydych chi'n meddwl bod yr esemptiad neu'r disgownt Dosbarth X yn gymwys i'ch sefyllfa, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • cynghori pa dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch
  • cymhwyso'r esemptiad neu'r disgownt os ydych chi'n gymwys

Eiddo gwag

Eiddo gwag y mae angen gwneud gwaith mawr arno neu sy'n destun gwaith o'r fath (Esemptiad Dosbarth A)

Gall esemptiad Dosbarth A fod yn gymwys os yw eiddo heb ei feddiannu ac os yw'n bodloni un o'r amodau canlynol:

  • mae gwaith atgyweirio mawr yn cael ei wneud arno er mwyn gallu byw ynddo
  • mae angen gwaith atgyweirio mawr arno er mwyn gallu byw ynddo
  • mae gwaith addasu strwythurol yn cael ei wneud arno
  • mae gwaith atgyweirio mawr wedi'i gwblhau'n sylweddol arno yn ystod y chwe mis diwethaf, ac mae'r eiddo wedi aros yn wag ers y dyddiad cwblhau.

Gall yr esemptiad hwn bara am hyd at 12 mis.

Perchnogion newydd ac esemptiadau pellach

Os oedd eiddo yn cael esemptiad Dosbarth A o'r blaen, gall perchennog newydd fod yn gymwys i gael esemptiad arall am 12 mis ar yr amod:

  • ei fod yn prynu'r eiddo ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026, a
  • bod yr eiddo yn bodloni'r amodau eto

Mae hyn yn golygu y gall perchennog newydd gael esemptiad newydd am 12 mis, hyd yn oed os yw'r perchennog blaenorol eisoes wedi cael un, cyn belled â bod yr amgylchiadau cymhwysol yn digwydd eto.

Gall yr awdurdod lleol ofyn i'r perchennog newydd ddarparu tystiolaeth o'r pryniant, fel:

  • dogfen trosglwyddiad cyfreithiol, neu
  • weithred berchnogaeth, gan gynnwys
  • cofnodion Cofrestrfa Tir EF sy'n dangos newid perchnogaeth (ar gyfer eiddo cofrestredig)

Os ydych chi'n meddwl bod eich eiddo yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth A, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a yw'r gwaith yn bodloni'r meini prawf gofynnol
  • egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os yw'n gymwys

Eiddo gwag sy'n eiddo i elusen (Esemptiad Dosbarth B)

Os yw eiddo:

  • yn eiddo i elusen,
  • heb ei feddiannu am lai na chwe mis, ac
  • wedi'i ddefnyddio ddiwethaf at ddibenion yr elusen,

yna gall fod yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth B, sy'n golygu na chodir unrhyw Dreth Gyngor am hyd at chwe mis.

Os ydych chi'n credu y gallai eiddo elusennol fod yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Bydd yn cynghori ar:

  • gymhwystra
  • y dogfennau sy'n ofynnol
  • sut i wneud cais am esemptiad

Eiddo gwag a heb ei ddodrefnu (Esemptiad Dosbarth C)

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r eiddo fod:

  • heb ei feddiannu, a
  • heb ei ddodrefnu,

am gyfnod parhaus o lai na 6 mis ers iddo gael ei feddiannu ddiwethaf.

Os yw'r eiddo yn cael ei feddiannu eto am hyd at 6 wythnos, mae'r cyfnod byr hwn yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu a yw'r cyfnod esempt o 6 mis wedi dod i ben.

Perchnogion newydd ac esemptiadau pellach

Os oedd eiddo yn cael esemptiad Dosbarth C o'r blaen, gall perchennog newydd fod yn gymwys i gael esemptiad arall am 6 mis ar yr amod:

  • ei fod yn prynu'r eiddo ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026, a
  • bod yr eiddo yn bodloni'r amod gwag a heb ei ddodrefnu.

Mae hyn yn golygu y gall perchennog newydd gael esemptiad newydd am 6 mis, hyd yn oed os yw'r perchennog blaenorol eisoes wedi cael un, cyn belled â bod yr eiddo yn wag a heb ei ddodrefnu.

Gall yr awdurdod lleol ofyn i'r perchennog newydd ddarparu tystiolaeth o'r pryniant, fel:

  • dogfen trosglwyddiad cyfreithiol, neu
  • weithred berchnogaeth, gan gynnwys
  • cofnodion Cofrestrfa Tir EF sy'n dangos newid perchnogaeth (ar gyfer eiddo cofrestredig)

Cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol am arweiniad a chymorth gyda'r broses ar gyfer esemptiadau. Bydd yn cynghori ar:

  • gymhwystra
  • y dogfennau sy'n ofynnol
  • sut i wneud cais am esemptiad

Pobl yn y carchar neu yn y ddalfa (Esemptiad Dosbarth D)

Gall eiddo fod yn gymwys i gael esemptiad Treth Gyngor Dosbarth D os nad yw'n cael ei feddiannu oherwydd bod y person sy'n byw yno fel arfer:

  • yn y carchar,
  • ar remánd, neu
  • wedi'i gadw mewn man cadw arall

O dan yr amgylchiadau hyn, ni chodir unrhyw Dreth Gyngor ar yr eiddo tra ei fod yn parhau i fod yn wag oherwydd bod y person yn cael ei gadw.

Os yw rhywun rydych chi'n byw gyda nhw yn y carchar neu yn y ddalfa

Os yw person rydych chi'n byw gydag ef fel arfer:

  • yn y carchar,
  • ar remánd, neu
  • wedi'i gadw mewn man cadw arall,

mae modd ei drin fel person nad yw'n cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor.

Gall hyn olygu eich bod yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor, yn dibynnu ar bwy arall sy'n byw yn yr eiddo.

Os ydych chi'n meddwl y gallai esemptiad neu ddisgownt fod yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • egluro unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen (fel cadarnhad o gadw)
  • cymhwyso'r esemptiad neu'r disgownt os bodlonir y meini prawf

Eiddo wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi marw (Esemptiad Dosbarth F)

Pan fydd person a oedd yn byw ar ei ben ei hun wedi marw, gall ei gartref fod yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor am gyfnod penodol, ar yr amod bod yr eiddo yn parhau i fod heb ei feddiannu.

Cyfnod esempt cychwynnol (hyd at 2 flynedd)

Bydd eiddo yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor:

  • am hyd at 2 flynedd o ddyddiad y farwolaeth, neu
  • hyd nes y rhoddir profiant neu lythyrau gweinyddu,
    pa un bynnag sy'n dod gyntaf

Yn ystod y cyfnod hwn:

  • ni chodir unrhyw Dreth Gyngor, ar yr amod bod yr eiddo yn parhau i fod heb ei feddiannu, a
  • rhaid bod y person ymadawedig wedi byw yno fel ei brif gartref

Os na roddir profiant na llythyrau gweinyddu erbyn i'r cyfnod o 2 flynedd ddod i ben, daw'r Dreth Gyngor yn daladwy.

Esemptiad ar ôl i brofiant gael ei roi

Unwaith y rhoddir profiant neu lythyrau gweinyddu:

  • gall yr eiddo barhau yn esempt am 12 mis arall
  • Gall y cyfnod hwn o 12 mis ddod o fewn y 2 flynedd gychwynnol neu ymestyn y tu hwnt i hynny, yn dibynnu ar ba bryd y rhoddir profiant

Bydd yr esemptiad Dosbarth F yn dod i ben:

  • os caiff yr eiddo ei werthu, neu
  • os bydd rhywun yn symud i mewn i'r eiddo ac yn dechrau byw yno

Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y perchennog neu'r meddiannydd newydd yn dod yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor.

Os ydych chi'n meddwl y gallai'r esemptiad hwn fod yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a yw eich amgylchiadau yn bodloni'r meini prawf
  • dweud wrthych chi pa ddogfennau (fel papurau profiant) sydd eu hangen
  • chymhwyso'r esemptiad os yw'r eiddo yn gymwys

Pan fydd meddiannu eiddo wedi'i wahardd gan y gyfraith (Esemptiad Dosbarth G)

Os ydych chi wedi eich gwahardd yn gyfreithiol rhag byw yn eich eiddo, efallai y bydd yr eiddo yn gymwys ar gyfer esemptiad Treth Gyngor Dosbarth G.

Mae'r esemptiad hwn yn gymwys pan fo meddiannu'r eiddo wedi'i wahardd gan y gyfraith, er enghraifft oherwydd hysbysiadau gorfodi, gorchmynion gwahardd, neu gyfyngiadau statudol eraill.

Os ydych chi'n credu bod yr esemptiad hwn yn gymwys i'ch eiddo, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a yw'r gwaharddiad cyfreithiol yn gymwys ar gyfer Dosbarth G
  • cynghori pa ddogfennau neu dystiolaeth sydd eu hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os ydych chi'n bodloni'r amodau

Eiddo wedi'i adael yn wag am iddo gael ei adfeddu (Esemptiad Dosbarth L)

Os yw eich eiddo heb ei feddiannu ac os yw wedi cael ei adfeddu gan fenthyciwr morgais, gall fod yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth L.

Tra bod yr eiddo yn parhau i fod yn wag ar ôl ei adfeddu, ni chodir unrhyw Dreth Gyngor.

Os ydych chi'n meddwl bod eich eiddo yn gymwys, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall gynghori ar:

  • gymhwystra
  • pa ddogfennau y gallai fod angen i'r benthyciwr neu'r perchennog eu darparu
  • sut i gymhwyso'r esemptiad

Eiddo wedi'i adael yn wag gan berson sy'n fethdalwr (Esemptiad Dosbarth Q)

Gall eiddo sydd heb ei feddiannu oherwydd bod y person atebol yn fethdalwr fod yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth Q.

O dan yr amgylchiadau hyn, ni chodir unrhyw Dreth Gyngor tra bod y sefyllfa fethdalu yn gymwys a bod yr eiddo yn parhau i fod yn wag.

Os yw'r sefyllfa hon yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Bydd yn gwneud y canlynol:

  • cadarnhau a yw'r esemptiad yn gymwys i'ch achos
  • egluro'r dogfennau sydd eu hangen (fel gorchmynion methdaliad)
  • cymhwyso'r esemptiad os yw'n gymwys

Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod gwag (Esemptiad Dosbarth R)

Nid oes rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor ar:

  • lain carafán heb garafán arni, nac
  • angorfa cwch nad yw'n cael ei defnyddio gan gwch

Dim ond tra bod y llain neu'r angorfa yn parhau heb ei defnyddio y mae'r esemptiad hwn yn gymwys.
Bydd y Dreth Gyngor yn dod yn daladwy, unwaith y bydd carafán neu gwch yn meddiannu'r safle eto.

Os ydych chi'n meddwl bod yr esemptiad hwn yn gymwys i'ch llain neu'ch angorfa, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • cynghori pa dystiolaeth a allai fod ei hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os bodlonir y meini prawf

Anecs

Anecs lle mae perthynas dibynnol yn byw (Esemptiad Dosbarth W)

Bydd anecs hunangynhwysol yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os yw'n cael ei feddiannu gan berthynas dibynnol ar berson sy'n byw yn y prif eiddo.

Pwy sy'n cyfrif fel perthynas dibynnol?

Diffinnir perthynas dibynnol fel:

  • person 65 oed neu hŷn, neu
  • berson sydd wedi cael diagnosis o amhariad gwybyddol sylweddol, neu
  • berson ag anabledd sylweddol a pharhaol

Os bydd meddiannydd yr anecs yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf hyn, ni chodir unrhyw Dreth Gyngor ar yr anecs o dan yr esemptiad Dosbarth W.

Os ydych chi'n meddwl y gallai esemptiad Dosbarth W fod yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • cynghori pa dystiolaeth sydd ei hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os bodlonir y meini prawf

Anecs Gwag (Esemptiad Dosbarth T)

Efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor ar anecs gwag (fel fflat neu randy hunangynhwysol sydd ynghlwm wrth eich cartref) os yw'r amodau canlynol yn gymwys:

  • Mae'r anecs yn rhan o adeilad sy'n cynnwys cartref arall y mae rhywun yn byw ynddo, ac
  • Ni chaniateir ichi rentu'r anecs ar wahân oherwydd cyfyngiadau cynllunio a nodir yn y gyfraith.

Os bydd yr amodau hyn yn cael eu bodloni, gall yr anecs fod yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth T, sy'n golygu na chodir unrhyw Dreth Gyngor arno tra ei fod yn parhau i fod yn wag.

Os ydych chi'n credu bod eich anecs gwag yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth T, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • wirio eich cymhwystra
  • dweud wrthych chi pa dystiolaeth sydd ei hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os yw'n briodol

Eiddo sy'n cael ei gadw ar gyfer gweinidogion crefydd (Esemptiad Dosbarth H)

Efallai na fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor am hyd at 12 mis ar eiddo:

  • sydd heb ei feddiannu, ac
  • sy'n cael ei gadw ar gyfer gweinidog crefydd, a fydd yn cyflawni dyletswyddau ei swydd o'r cyfeiriad hwnnw unwaith y bydd wedi symud i mewn

Mae'r mathau hyn o eiddo yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth H, sy'n golygu na chodir unrhyw Dreth Gyngor arnyn nhw yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych chi'n credu y gallai eich eiddo fod yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth H, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • egluro'r meini prawf cymhwystra
  • dweud wrthych chi pa ddogfennau ategol sydd eu hangen
  • prosesu'r esemptiad os yw'n briodol

Aelodau o gymunedau crefyddol

Os ydych chi'n aelod o gymuned grefyddol, efallai y byddwch yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor ar yr eiddo rydych chi'n byw ynddo.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i aelodau:

  • gael prif alwedigaeth o weddïo, myfyrio, addysg, lleddfu dioddefaint, neu gyfuniad o'r gweithgareddau hyn
  • beidio â chael unrhyw incwm personol nac asedau, ac eithrio pensiwn o gyflogaeth flaenorol
  • dibynnu ar y gymuned i ddiwallu eu hanghenion materol

Gall aelodau sy'n bodloni'r amodau hyn gael eu trin fel pobl nad ydyn nhw'n cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, a allai leihau'r bil i'r cartref.

Os ydych chi'n meddwl bod y disgownt hwn yn gymwys i'ch sefyllfa, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleolam:

  • gadarnhad o gymhwystra
  • cyngor ar y dystiolaeth sydd ei hangen
  • arweiniad ar sut i wneud cais

Lluoedd Arfog y DU a lluoedd ar ymweliad

Llety i'r lluoedd arfog (Esemptiad Dosbarth O)

Mae llety byw ar gyfer Lluoedd Arfog y DU, sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol, yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor, p'un a yw wedi'i feddiannu neu heb ei feddiannu.

Mae hyn yn cynnwys:

  • barics
  • llety ar safleoedd milwrol
  • llety priod
  • anheddau eraill sy'n cael eu cadw at ddibenion llety i'r lluoedd arfog, ni waeth ble fo'u lleoliad

Gall eiddo sy'n cael ei gadw ar gyfer llety i'r lluoedd arfog ond sy'n cael ei feddiannu dros dro gan sifiliaid hefyd barhau i fod yn esempt.

Fodd bynnag:

  • efallai na fydd eiddo sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ond a fwriedir ar gyfer meddiannaeth sifil yn esempt.

Os ydych chi'n credu y gallai esemptiad Dosbarth O fod yn gymwys i'ch eiddo, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a yw'r llety yn bodloni'r meini prawf
  • egluro unrhyw ddogfennau sydd eu hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os yw'n briodol

Llety i'r lluoedd arfog ar ymweliad (Esemptiad Dosbarth P)

Mae eiddo yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os oes unrhyw berson sy'n byw yn yr eiddo yn:

  • aelod o lu arfog ar ymweliad, neu'n
  • ddibynnydd i aelod o'r fath

Mae'r esemptiad hwn yn gymwys pan fo'r llu ar ymweliad yn dod o wlad a gwmpesir gan Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952.

Os ydych chi'n credu y gallai esemptiad Dosbarth P fod yn gymwys i'ch eiddo, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol am arweiniad a chymorth.

Aelodau o luoedd ar ymweliad a'u dibynyddion

Os ydych chi'n berson sydd â "chysylltiad perthnasol" â llu ar ymweliad, efallai y byddwch yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor ar yr eiddo rydych chi'n byw ynddo.

Ystyrir bod gan berson gysylltiad perthnasol os yw'n:

  • aelod o lu ar ymweliad, neu'n
  • aelod o adran sifil y llu hwnnw, neu'n
  • ddibynnydd i aelod o'r llu hwnnw, cyn belled â nad yw'r dibynnydd yn: 
    • ddinesydd Prydeinig, nac yn
    • ddinesydd Prydeinig sy'n preswylio fel arfer yn y DU
      Mae'r esemptiad hwn yn gymwys os yw'r llu yn dod o wlad y mae Deddf Lluoedd ar Ymweliad 1952 yn gymwys iddi

Gall aelodau a dibynyddion sy'n bodloni'r amodau hyn gael eu trin fel pobl nad ydyn nhw'n cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, a allai leihau'r bil i'r cartref.

Os ydych chi'n meddwl y gallai hyn fod yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen
  • chymhwyso'r diystyriad os yw'n briodol

Diplomyddion ac Imiwnedd (Esemptiad Dosbarth V)

Gall eiddo fod yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os yw'n brif breswylfa yn y DU i berson sydd â breintiau neu imiwneddau diplomyddol.

Mae'r esemptiad hwn yn gymwys pan fo gan o leiaf un preswylydd freintiau a roddir o dan un o'r cyfreithiau canlynol:

  • Deddf Breintiau Diplomyddol 1964
  • Deddf Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad 1966
  • Deddf Cysylltiadau Consylaidd 1968
  • Gorchymyn Gwledydd y Gymanwlad a Gweriniaeth Iwerddon (Imiwneddau a Breintiau) 1985

Mae'r esemptiad yn gymwys dim ond os mai'r diplomydd (neu'r person cymhwysol):

  • a fyddai fel arfer yn atebol am y Dreth Gyngor oni bai am yr esemptiad, ac os
  • nad yw'n un o'r canlynol: 
    • dinesydd Prydeinig neu ddeiliad Prydeinig
    • dinesydd Tiriogaethau Dibynnol Prydain
    • gwladolyn Prydeinig (Tramor)
    • dinesydd Tramor Prydeinig
    • person dan amddiffyniad Prydain
    • person sy'n preswylio'n barhaol yn y DU

Pryd nad yw'r esemptiad yn gymwys

Ni fydd yr esemptiad yn gymwys os oes preswylydd arall yn yr eiddo y mae ei fuddiant yn yr eiddo yn uwch yn hierarchaeth atebolrwydd y Dreth Gyngor na buddiant y diplomydd.

O dan yr amgylchiadau hyn:

  • bydd y diplomydd yn cael ei drin fel person nad yw'n cael ei gyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor, ac
  • efallai y bydd y cartref yn gymwys i gael disgownt, yn dibynnu ar bwy arall sy'n byw yn yr eiddo

Os ydych chi'n credu y gallai'r esemptiad neu'r disgownt hwn fod yn gymwys ichi, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • cynghori pa ddogfennau ategol sydd eu hangen (e.e. prawf o statws diplomyddol)
  • cymhwyso'r esemptiad neu'r disgownt os yw'r eiddo yn gymwys

Aelodau o bencadlysoedd rhyngwladol

Nid yw person yn cael ei gyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor os yw'n:

  • aelod, neu'n
  • ddibynnydd i aelod,

o fewn ystyron Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn 1964.

Gall hyn leihau bil Treth Gyngor y cartref, yn dibynnu ar bwy arall sy'n byw yno.

Os ydych chi'n meddwl bod y diystyriad hwn yn gymwys ichi neu i rywun yn eich cartref, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau cymhwystra
  • egluro pa ddogfennau y gallai fod eu hangen
  • cymhwyso'r diystyriad os bodlonir y meini prawf

Llochesau (Dosbarth Y)

Gall eiddo fod yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor os yw'n lloches sydd:

  • wedi'i darparu gan awdurdod lleol, neu
  • wedi'i chomisiynu gan awdurdod lleol,

ac fe'i defnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu llety dros dro ac mewn argyfwng i bobl sydd wedi profi:

  • camdriniaeth
  • camdriniaeth ddomestig
  • trais ar sail rhywedd
  • trais rhywiol

Os bydd eiddo yn bodloni'r amodau hyn, bydd yn gymwys ar gyfer esemptiad Dosbarth Y, sy'n golygu na chodir unrhyw Dreth Gyngor arno.

Os ydych chi'n credu y gallai eiddo fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau a yw'r lloches yn bodloni'r meini prawf cyfreithiol
  • cynghori pa wybodaeth neu ddogfennau sydd eu hangen
  • cymhwyso'r esemptiad os yw'n briodol

Hosteli a llochesau nos

Os yw eich prif gartref yn hostel neu'n lloches nos, fel y rhai sy'n cael eu rhedeg gan Fyddin yr Iachawdwriaeth neu Fyddin yr Eglwys, ni fydd rhaid ichi dalu'r Dreth Gyngor.

Yn y rhan fwyaf o achosion, y sefydliad sy'n berchen ar yr hostel neu'r lloches neu'n ei rheoli sy'n gyfrifol am y bil Treth Gyngor, nid y preswylwyr.

Cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol am arweiniad a chymorth.

Lletya person neu deulu o Wcráin

Os ydych chi'n lletya unigolyn neu deulu o Wcráin yn yr eiddo rydych chi'n byw ynddo hefyd, ni fydd unrhyw newid i'ch bil Treth Gyngor.

Mae hyn yn golygu:

  • y byddwch yn parhau i gael unrhyw ddisgowntiau presennol, fel y Disgownt Person Sengl, lle bo'n berthnasol
  • y byddwch yn parhau i gael unrhyw esemptiadau rydych chi eisoes yn eu cael
  • na fydd y gwesteion o Wcráin yn cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor.

Mae'r amddiffyniad hwn yn gymwys pan fo'r unigolyn neu'r teulu wedi cyrraedd Cymru o dan gynllun cymhwysol, gan gynnwys:

  • y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin
  • Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin

Os ydych chi'n lletya neu'n bwriadu lletya rhywun o Wcráin ac eisiau gwirio sut mae hyn yn effeithio ar eich Treth Gyngor, cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol. Gall:

  • gadarnhau eich hawl i ddisgowntiau neu esemptiadau presennol
  • sicrhau bod eich cyfrif wedi'i gofnodi'n gywir
  • ateb unrhyw gwestiynau am drefniadau lletya