Creu cwmni ynni cyhoeddus cyfunol i Gymru
Rydym eisiau eich barn chi am y cynigion i greu cwmni egni cyhoeddus sengl i Gymru.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Nod yr ymgynghoriad hwn yw deall safbwyntiau ynghylch y cynnig i greu un cwmni ynni cyhoeddus i Gymru.
Mae'r ddogfen yn nodi'r cyd-destun presennol a'r cynigion ar gyfer newid.
Hoffem gael adborth gennych ar nodau a swyddogaethau arfaethedig y cwmni.
1. Rhagair y Gweinidog
Mae gan Gymru yr adnoddau naturiol, yr uchelgais a'r sylfeini polisi i adeiladu dyfodol ynni glanach, tecach a mwy diogel. Mae gan bob rhanbarth bellach strategaeth ynni, ac mae gan bob awdurdod lleol gynllun ynni lleol. Y dasg o'n blaenau yw symud o gynllunio i gyflawni.
Mae hynny'n golygu adeiladu mwy o ynni glân yng Nghymru, bod yn berchen ar fwy ohono yng Nghymru, a sicrhau bod mwy o'r gwerth sy'n cael ei greu gan adnoddau ynni Cymru yn cael ei gadw er budd pobl, cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd buddsoddiad preifat yn parhau i fod yn hanfodol, ac mae angen capasiti cyhoeddus ei hun ar Gymru hefyd: y gallu i ddatblygu prosiectau, cefnogi cymunedau, gweithio gyda chyrff cyhoeddus, trefnu cyllid a sicrhau y caiff budd y cyhoedd ei gynnwys fel rhan o brosesau datblygu ynni o'r cychwyn cyntaf.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ar gyfer creu un cwmni ynni cyhoeddus i Gymru. Byddai'r cwmni yn eiddo i'r cyhoedd ar ran pobl Cymru a byddai'n dwyn ynghyd, yn cryfhau ac yn adeiladu ar swyddogaethau cyflenwi ynni presennol Cymru, gan gynnwys Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a chymorth ynni perthnasol a ddarperir ar hyn o bryd drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Nid diben y cwmni fyddai disodli cyflenwyr ynni presennol na gosod prisiau trydan cartrefi yn uniongyrchol. Ei ddiben fyddai helpu Cymru i leihau costau ynni dros amser drwy ddatblygu asedau ynni adnewyddadwy a'u perchnogi, cefnogi perchnogaeth leol a chymunedol, buddsoddi mewn systemau ynni lleol clyfar, helpu mwy o sefydliadau i ddefnyddio ynni a gynhyrchir yn lleol, denu buddsoddiad mewn seilwaith ynni yng Nghymru, ac ailfuddsoddi gwerth er budd y cyhoedd.
Ar lefel leol, gallai hyn olygu cefnogi cymunedau, cwmnïau cydweithredol, cynghorau a chyrff cyhoeddus i fod yn berchen ar systemau cynhyrchu adnewyddadwy, systemau storio, hyblygrwydd ac asedau ynni clyfar a chael budd ohonynt. Gallai olygu helpu cartrefi, busnesau ac adeiladau cyhoeddus i ddefnyddio ynni mewn ffordd fwy deallus, gan gynhyrchu, storio a defnyddio pŵer yn agosach at y mannau lle mae ei angen. Lle bydd trefniadau rheoleiddio yn caniatáu hynny, gallai hefyd gefnogi modelau ynni lleol newydd sy'n cysylltu cynhyrchu yng Nghymru yn fwy uniongyrchol â galw lleol.
Ar raddfa fwy, rhaid i Gymru hefyd sicrhau bod datblygiadau ynni glân mawr yn creu gwerth parhaol i Gymru. Ar gyfer prosiectau mawr iawn, fel gwynt ar y môr yn y Môr Celtaidd, dylid nid yn unig ystyried faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu, ond sut mae Cymru yn sicrhau buddiannau drwy gadwyni cyflenwi, porthladdoedd, sgiliau, seilwaith, cyfrannau perchnogaeth lle y bo'n briodol, a chyfle economaidd hirdymor.
Felly mae'r cynnig yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â mwy na thacluso sefydliadol. Mae'n ystyried a ddylai Cymru greu sefydliad ynni cenedlaethol difrifol gyda'r gallu i droi cynlluniau'n brosiectau, prosiectau'n asedau, ac asedau'n werth cyhoeddus hirdymor.
Ni wnaed unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch union ffurf, statws cyfreithiol, dulliau llywodraethu, swyddogaethau na model cyflawni'r cwmni. Rwyf am glywed barn ar yr hyn y dylai'r cwmni ei wneud, sut y dylai weithio gyda sefydliadau presennol, sut y dylai gefnogi cymunedau a busnesau, a pha fesurau diogelwch sydd eu hangen i sicrhau tryloywder, atebolrwydd a gwerth am arian.
Yn benodol, byddwn yn croesawu safbwyntiau ar sut y gallai'r cwmni helpu i dyfu perchnogaeth i Gymru a pherchnogaeth gymunedol, cefnogi systemau ynni lleol clyfar, gweithio gyda phartneriaid, denu buddsoddiad, a sicrhau bod pobl ledled y wlad yn elwa ar fanteision trawsnewid ynni yng Nghymru, gan gynnwys y cymunedau hynny sy'n wynebu costau ynni uchel.
Mae hwn yn gyfle i lunio sut mae Cymru yn creu, yn perchnogi ac yn elwa ar ddyfodol ynni glân. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn system ynni Cymru, gan gynnwys cymunedau, cyrff cyhoeddus, busnesau, datblygwyr, undebau llafur a dinasyddion i ymateb.
Adam Price AS
Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
2. Crynodeb gweithredol
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnig i greu un cwmni ynni i Gymru dan berchnogaeth gyhoeddus. Byddai'r cwmni arfaethedig yn dwyn ynghyd swyddogaethau cyflenwi ynni presennol, gan greu gallu cenedlaethol cryfach i ddatblygu ynni adnewyddadwy, cefnogi perchnogaeth leol, denu buddsoddiad a sicrhau bod mwy o werth economaidd adnoddau ynni Cymru o fudd i bobl a chymunedau yng Nghymru.
Yr achos dros newid
Mae gan Gymru adnoddau ynni adnewyddadwy sylweddol ac uchelgeisiau polisi cryf o ran datgarboneiddio, perchnogaeth leol a budd cymunedol. Fodd bynnag, cred Llywodraeth Cymru:
- Bod y gallu o ran cyflenwi wedi'i rannu rhwng sawl sefydliad.
- Bod y trefniadau presennol yn gallu drysu rhanddeiliaid.
- Bod cyfleoedd i alinio buddsoddiadau ac i sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r cyhoedd weithiau yn cael eu colli.
- Bod adnoddau cyhoeddus o dan gyfyngiadau cynyddol a bod angen eu defnyddio'n fwy effeithlon.
- Bod angen gallu cyhoeddus cryfach ar Gymru i ategu buddsoddiadau gan y sector preifat ac i gynyddu perchnogaeth a rheolaeth Cymru dros asedau ynni.
Bwriedir i'r cwmni arfaethedig ddarparu arweinyddiaeth gliriach, gallu cyflawni cryfach, gwell cydlyniad a ffocws mwy cydlynol ar gadw gwerth i Gymru.
Yr hyn y bydd y cwmni yn ei wneud
Diben y cwmni fyddai trawsnewid adnoddau ynni naturiol Cymru yn fuddiannau pendant i bobl. Byddai'n gwneud y canlynol:
- Datblygu a pherchenogi asedau ynni adnewyddadwy a buddsoddi mewn systemau ynni lleol clyfar.
- Cefnogi perchnogaeth gymunedol, gyhoeddus a lleol ar gyfer prosiectau ynni.
- Helpu cyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau i wneud gwell defnydd o ynni a gynhyrchir yn lleol.
- Denu buddsoddiadau i seilwaith ynni Cymru.
Yr hyn na fydd y cwmni yn ei wneud
Ni fwriedir i'r cwmni wneud y canlynol:
- Disodli cyflenwyr ynni presennol.
- Gosod prisiau trydan cartrefi yn uniongyrchol.
- Disodli buddsoddiad gan y sector preifat.
- Cymryd cyfrifoldeb am raglenni cymorth busnes ehangach.
- Arwain rhaglenni ôl-osod tai domestig.
Rhagwelir y bydd y cwmni yn gweithredu fel cangen gyflawni ymarferol y Strategaeth Ynni Genedlaethol arfaethedig, gan weithio ochr yn ochr â buddsoddwyr preifat. Ei nod hirdymor yw gwella fforddiadwyedd ynni drwy gynyddu perchnogaeth yng Nghymru, cefnogi systemau ynni lleol ac annog trefniadau ynni lleol arloesol.
Swyddogaethau arfaethedig y cwmni
Swyddogaeth 1: Systemau Clyfar
Adeiladu ar waith Ynni Cymru i alluogi cymunedau, cynghorau a chyrff cyhoeddus i gynhyrchu, storio a defnyddio ynni yn lleol. Cefnogi perchnogaeth leol dros systemau cynhyrchu dosbarthedig, storio batris, gwasanaethau hyblygrwydd a systemau ynni lleol clyfar.
Swyddogaeth 2: Dulliau Cynhyrchu ar Raddfa Fawr sy'n Eiddo i Gymru
Parhau â gwaith Trydan Gwyrdd Cymru i ddatblygu datblygiadau gwynt a solar ar raddfa cyfleustodau ar yr ystad gyhoeddus ac o bosibl y tu hwnt.
Swyddogaeth 3: Rhanberchnogaeth
Cynyddu perchnogaeth dros gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy gymryd cyfrannau ecwiti mewn prosiectau mwy a chefnogi cyfleoedd ar gyfer rhanberchnogaeth, yn enwedig lle nad oes gan gymunedau neu gyrff lleol eraill y gallu i gymryd rhan yn uniongyrchol.
Swyddogaeth 4: Helpu'r Diwydiant i Fynd i'r Afael â Chyfyngiadau'r Grid
Cefnogi busnesau sy'n wynebu cyfyngiadau rhwydwaith trydan drwy gydlynu, dulliau cynhyrchu lleol, storio, gwasanaethau hyblygrwydd ac atebion arloesol eraill "y tu ôl i'r mesurydd".
Swyddogaeth 5: Cymru fel Ardal Brawf
Helpu Cymru i ddod yn ganolfan genedlaethol ar gyfer arloesedd ynni drwy brofi dulliau newydd ar gyfer systemau ynni clyfar, marchnadoedd ynni lleol, hydrogen, hyblygrwydd ac atebion ynni system gyfan y gellid eu defnyddio ledled Prydain Fawr yn ddiweddarach.
Swyddogaeth 6: Cyfalafu'r Gwaith Adeiladu
Gan weithio gyda phartneriaid cyllid cyhoeddus a phreifat, dod â'r cyllid a'r buddsoddiad sydd eu hangen i ddatblygu ac adeiladu prosiectau ynni ar raddfa fawr ynghyd.
Cwestiynau Allweddol yr Ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar bum maes eang:
Strwythur a Llywodraethu
- A fyddai un cwmni ynni cyhoeddus i Gymru yn ychwanegu gwerth.
- A ddylai Trydan Gwyrdd Cymru fod yn sail i'r cwmni newydd.
- Beth y dylid galw'r cwmni.
- Sut y dylid llywodraethu'r cwmni a sut y dylid dychwelyd gwerth i Gymru.
Swyddogaethau a Model Cyflawni
- Y swyddogaethau presennol y dylid eu trosglwyddo o Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
- A ddylid pennu'r cwmni fel y datblygwr a ffefrir ar dir cyhoeddus.
Perchnogaeth a Budd Cymunedol
- Rôl y cwmni wrth helpu cymunedau i gymryd rhan mewn prosiectau ynni.
- Dulliau o sicrhau budd cymunedol a threfniadau rhannu buddiannau cenedlaethol posibl.
Busnes ac Arloesedd
- Sut y gallai'r cwmni helpu i fynd i'r afael â chyfyngiadau'r grid ar gyfer diwydiant.
- Sut y gallai Cymru ddod yn ardal brofi ar gyfer datblygiadau ynni clyfar arloesol.
Canlyniadau yn deillio o gadw gwerth yng Nghymru
Nod y cynigion yw sicrhau bod mwy o'r gwerth sy'n cael ei greu gan adnoddau ynni Cymru yn aros yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn dadlau y bydd mwy o berchnogaeth yng Nghymru dros ddulliau cynhyrchu, seilwaith ynni a buddsoddiadau cysylltiedig yn cynyddu'r buddiannau a gedwir gan gymunedau Cymru a'r sector cyhoeddus.
Yn ei hanfod, y cynnig yw creu sefydliad ynni cenedlaethol a all droi adnoddau ynni Cymru yn werth cyhoeddus hirdymor, gan helpu i sicrhau bod manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y broses trawsnewid ynni yn cael eu cadw a'u rhannu'n ehangach ledled Cymru.
3. Diben yr ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad yw deall safbwyntiau'r cyhoedd a sefydliadau perthnasol mewn perthynas â'r cynnig i greu un cwmni ynni cyhoeddus i Gymru. Hoffem gael adborth gennych ar nodau a swyddogaethau arfaethedig y cwmni, ac unrhyw dystiolaeth y gallwch ei darparu i'n helpu i werthuso effeithiau'r cynigion hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o greu Cwmni Ynni Cyhoeddus i Gymru (“cwmni”) sy'n adeiladu ar y dirwedd ynni aeddfed a llwyddiannus sydd eisoes i'w gweld yng Nghymru. Byddai'r cwmni arfaethedig yn adeiladu ar y swyddogaethau cyflenwi ynni presennol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a swyddogaethau a gyflawnir gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Ei ddiben fyddai atgyfnerthu gallu Cymru i weithredu prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel a sicrhau y caiff mwy o'r gwerth sy'n deillio o ddatblygiadau ynni ei gadw yng Nghymru gan arwain at fuddiannau ymarferol i bobl a chymunedau.
Gwneir y cynigion hyn yng nghyd-destun tirwedd gymhleth a setliad sector cyhoeddus heriol. Rydym wedi nodi'r dirwedd o safbwynt Cymru ac yn cydnabod bod pwerau a gadwyd yn ôl a phwerau datganoledig a systemau ariannu yn y maes hwn yn rhyngweithio mewn ffordd gymhleth. I ddechrau, mae'r cynigion hyn yn ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio'r cyllid a'r adnoddau sy'n bodoli eisoes ac yn y mannau lle y dengys tystiolaeth y byddant yn cynnig y gwerth gorau i bobl yng Nghymru. Hyd yn oed fel un o flaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu, bydd angen cyflwyno'r achos o blaid neilltuo cyllid ychwanegol i'r swyddogaethau a amlinellir yn y ddogfen hon o hyd.
Ymgynghoriad cynnar yw hwn. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch union ffurf, statws cyfreithiol, swyddogaethau, dulliau llywodraethu na model cyflawni'r cwmni. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed gan gymunedau, cyrff cyhoeddus, busnesau, datblygwyr ynni, sefydliadau ynni cymunedol, plant a phobl ifanc, sefydliadau cydraddoldeb, cyrff amgylcheddol, rhanddeiliaid gwledig a threfol, y byd academaidd, ac eraill sydd â diddordeb yn system ynni Cymru yn y dyfodol.
Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn helpu i lywio Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru a phenderfyniadau yn y dyfodol ar rôl, swyddogaethau a model cyflawni'r Cwmni.
4. Y Weledigaeth ar gyfer y Cwmni yn y Dyfodol
Nod y cwmni yw troi adnoddau naturiol sylweddol Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni yn fuddiannau pendant ac ystyrlon i bobl a chymunedau. Credwn y gallwn gyflawni hyn drwy integreiddio swyddogaethau sydd ar hyn o bryd wedi'u neilltuo i sawl sefydliad, gan wneud y dirwedd yn fwy cydlynol, a'r broses gyflawni yn fwy pwrpasol.
Yr Hyn y Byddai'r Cwmni yn ei Wneud
Ei ddiben fyddai:
- datblygu asedau ynni adnewyddadwy a bod yn berchen arnynt;
- cefnogi perchnogaeth gymunedol, ddinesig a lleol;
- buddsoddi mewn systemau ynni lleol clyfar;
- helpu cyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau i ddefnyddio ynni a gynhyrchir yn lleol yn fwy effeithiol;
- denu buddsoddiad yn seilwaith ynni Cymru; a
- sicrhau y caiff cyfran fwy o werth o adnoddau ynni Cymru ei chadw yng Nghymru er budd y cyhoedd.
Dros amser, gallai hyn helpu i leihau costau ynni drwy gynyddu perchnogaeth leol, lleihau amlygiad i anwadalrwydd prisiau ynni a chefnogi arloesedd yn y farchnad ynni leol lle mae trefniadau rheoleiddio yn caniatáu.
Ni fyddai'r cwmni yn disodli cyflenwyr ynni presennol nac yn gosod prisiau trydan cartrefi yn uniongyrchol. Yn hytrach, ei rôl fyddai gwella fforddiadwyedd dros amser drwy gynyddu perchnogaeth yng Nghymru, cefnogi systemau ynni lleol, cadw refeniw ynni yng Nghymru a galluogi trefniadau ynni lleol arloesol lle mae fframweithiau rheoleiddio yn caniatáu.
Ni all Cymru ddibynnu ar ddatblygwyr preifat yn unig os yw am gael mwy o berchnogaeth gymunedol, mwy o werth i Gymru, mwy o ynni lleol a chysylltiad agosach rhwng cynhyrchu ynni a biliau aelwydydd. Mae angen ei gallu cyhoeddus ei hun arni, i ddatblygu prosiectau, strwythuro partneriaethau, cefnogi perchnogaeth gymunedol, gweithio gyda chyrff cyhoeddus, crynhoi galw'r sector cyhoeddus, a buddsoddi lle na wnaiff y farchnad hynny. Bwriedir i'r cwmni weithredu fel cangen gyflawni ymarferol y Strategaeth Ynni Genedlaethol rydym wedi ymrwymo i'w chyhoeddi. Ni fwriedir iddo ddisodli buddsoddiadau preifat, ond yn hytrach iddo gydweithio â nhw a'u llywio, gan sicrhau bod gan Gymru fwy o ddylanwad dros yr hyn a gaiff ei adeiladu.
Mae'r swyddogaethau lefel uchel a nodir isod yn nodi'r meysydd y gellir disgwyl i'r cwmni gyflawni ynddynt dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mewn rhai meysydd, mae'r capasiti cyflawni eisoes yn bodoli, ac mewn eraill byddai angen i'r cwmni ddatblygu arbenigedd a chapasiti ychwanegol.
Swyddogaeth 1: Systemau Clyfar
Gan adeiladu ar raglen Ynni Cymru hyd yma, bydd y cwmni yn ysgogi llawer mwy o berchnogaeth leol dros ddulliau cynhyrchu dosbarthedig, storio ynni, gwasanaethau hyblygrwydd ac asedau ynni lleol clyfar eraill. Bydd yr haen leol hon dan berchnogaeth cymunedau, cwmnïau cydweithredol, cynghorau a'r ystad gyhoeddus, wedi'i chysylltu ar lefel dosbarthu, ac wedi'i pharu â'r galw lleol drwy systemau lleol clyfar, gwasanaethau hyblygrwydd a, lle bo trefniadau rheoleiddio a threfniadau cyflenwyr yn caniatáu, drefniadau tariffau lleol. Rhagwelir y bydd Ynni Cymru yn cefnogi ymdrechion i ddatblygu dulliau cynhyrchu cymunedol a dosbarthedig, ac y bydd yn fuddsoddwr pwysig yn y dulliau hynny.
Swyddogaeth 2: Dulliau cynhyrchu ar raddfa fawr sy'n eiddo i Gymru
Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn parhau i ddatblygu ynni gwynt a solar ar raddfa cyfleustodau, gan barhau â phrosiectau ar yr ystad gyhoeddus, ac edrych yn y tymor canolig ar gyfleoedd a phartneriaethau ehangach. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru, fel y datblygwr sy'n eiddo i'r wladwriaeth, yn dangos sut y gellir datblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa cyfleustodau i sicrhau'r budd mwyaf i bobl Cymru a hynny yn y ffordd orau bosibl.
Swyddogaeth 3: Rhanberchnogaeth
Gallai'r cwmni adeiladu ar sgiliau datblygu a chyllid Trydan Gwyrdd Cymru i ddechrau cymryd ecwiti mewn cynlluniau mwy ar ran cymunedau, fel bod perchnogaeth leol yn tyfu. Gwyddom fod sefydliadau eraill yn weithgar ym maes rhanberchnogaeth a byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu trafodaethau ar sut y gallai'r llywodraeth a'r cwmni newydd gydweithio'n effeithiol yn y maes hwn.
Ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr iawn fel gwynt ar y môr, agweddau ar ynni morol ac ynni niwclear, efallai na fydd perchnogaeth gyhoeddus lawn yn ymarferol bob amser. Yr amcan fyddai sicrhau'r gwerth ymarferol mwyaf posibl i Gymru drwy gadwyni cyflenwi, buddsoddiadau mewn seilwaith, datblygu sgiliau, eiddo deallusol a, lle y bo'n briodol, cyfrannau ecwiti cyhoeddus lleiafrifol. Byddai'r incwm a allai godi pe bai cyfrifoldeb dros Ystad y Goron yng Nghymru yn cael ei ddatganoli yn y dyfodol yn ffactor pwysig. Rydym hefyd yn awyddus i archwilio a oes cyfleoedd yn deillio o leoli diwydiannau sy'n defnyddio lefelau uchel o ynni yn y man y mae'r pŵer yn glanio.
Swyddogaeth 4: Helpu'r diwydiant i fynd i'r afael â chyfyngiadau'r grid trydan
Mae cwmnïau rhwydwaith a'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yn ymgymryd â gwaith cynllunio sylweddol i gynyddu capasiti'r grid yn y dyfodol yn y tymor canolig a'r hirdymor. Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau yn wynebu cyfyngiadau uniongyrchol. Gallai'r cwmni helpu i fynd i'r afael â'r heriau tymor byrrach hynny drwy gydlynu, dulliau cynhyrchu lleol, storio, hyblygrwydd ac atebion y tu ôl i'r mesurydd.
Gallai'r cwmni ddatblygu er mwyn helpu i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â'r grid ar safleoedd strategol, er mwyn cefnogi ein dull o ddiwallu anghenion lleol drwy ddulliau cynhyrchu lleol. Gallai hyn olygu bod gan y cwmni rôl i'w chwarae wrth gyflymu cysylltiadau grid, a allai fod fel cyfryngwr i gydlynu neu fynd i'r afael â rhwystrau, neu ar ffurf rôl lawer mwy gweithredol yn rhoi cymorth ar atebion "y tu ôl i'r mesurydd" ar wahanol raddfeydd, er mwyn galluogi gweithgareddau busnes a datgarboneiddio, gan y gall defnyddio trydan o ddulliau cynhyrchu ar y safle ddiogelu busnesau rhag prisiau nwy uchel.
Mae “y tu ôl i'r mesurydd” yn cyfeirio at asedau fel dulliau cynhyrchu adnewyddadwy, storio, rheolyddion clyfar a dyfeisiau sydd wedi'u gosod ar ochr y defnyddiwr o'r mesurydd trydan, sy'n golygu y caiff y trydan a gynhyrchir ganddo neu y mae'n ei storio ei ddefnyddio ar y safle cyn iddo gyrraedd mesurydd y cyfleustod a'r grid.
Swyddogaeth 5: Cymru fel ardal brawf
Mae Cymru wedi datblygu amrywiaeth o ddulliau arloesol mewn perthynas ag ynni lleol, o'r egwyddor Ynni Lleol a ddatblygwyd ym Methesda, i brofion cynnar o'r pympiau gwres hybrid ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i'r datblygiadau cyffrous sy'n mynd i'r afael â datgarboneiddio gwres o dan amodau heriol yn Nhanygrisiau. Mae'r tîm sy'n gyfrifol am Ynni Lleol wedi gweithio gyda grwpiau cymunedol eraill ers hynny i sicrhau newidiadau cynnar yn y gyfundrefn reoleiddio er mwyn gallu defnyddio ynni yn fwy lleol.
Mae ein gwaith gydag Ynni Cymru yn parhau i ddatblygu modelau sy'n cefnogi defnydd lleol o ddulliau cynhyrchu i leihau costau'n lleol a lleihau'r galw am ddulliau cynhyrchu ar raddfa fawr a grid newydd, a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i leihau costau cyffredinol y system ynni.
Mae rhaglen Arloesi Hinsawdd Llywodraeth Cymru ar y cyd ag Ynni Cymru wedi datblygu llawer o brosiectau arddangos hydrogen a systemau ynni lleol clyfar (SLES), gan gynnwys prosiect Hy-PR SLES yn Aberdaugleddau, ac arddangoswr gorsaf ynni rithwir gymdeithasol (SVPP) HARVEST sydd wedi'i leoli yn Llanidloes. Gallai'r cwmni chwarae rhan wrth ehangu'r dulliau hyn a dulliau eraill ledled Cymru.
Ein huchelgais i Gymru yw ein bod yn dod yn wlad o arbrofi; yn flwch tywod ar lefel genedlaethol, gan brofi dulliau newydd ac elwa ar y wybodaeth arloesol rydym yn ei datblygu. Mae gennym gyfle i leihau'r risg o ddiwygio ledled Prydain Fawr drwy dreialu diwygiadau a'u profi yng Nghymru yn gyntaf. Rydym am ddefnyddio ein pŵer ein hunain gartref i greu gwerth mewn ffordd y gellir ei hehangu ledled Cymru a thu hwnt.
Swyddogaeth 6: Cyfalafu'r gwaith adeiladu
Gall y cwmni chwarae rhan bwysig wrth ystyried sut i ariannu'r rhaglen helaeth o ddatblygiadau ynni ledled Cymru a ragwelir mewn cynlluniau lleol a rhanbarthol. Mae dau gam i'r gwaith hwn. Un yw pontio'r gwaith sylweddol o droi syniadau gwych ac uchelgais sy'n seiliedig ar le yn brosiectau y gellir buddsoddi ynddynt. Mae'r buddsoddiad refeniw sydd ei angen i wneud hyn yn rhwystr mawr, a gallai'r cwmni chwarae rhan wrth ddatblygu darlun cyfannol o'r cyfle a meddwl sut y gellir ei wireddu.
Yr ail gam yw sicrhau cyfalaf i adeiladu'r gyfres o brosiectau a fydd yn trawsnewid y wlad dros y 15 mlynedd nesaf. Mae cyfalaf ar gael o nifer o ffynonellau, ond mae'n heriol cyflawni prosiectau ar amrywiaeth o raddfeydd a phroffiliau amser, gyda gwahanol gyfraddau enillion. Yn ddelfrydol, byddai'r cwmni yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni, sefydliadau ariannol a buddsoddwyr o amgylch un genhadaeth, ac un fantolen. Y bwriad hirdymor fyddai i'r cwmni allu ariannu prosiectau mewn portffolios, a gweithredu fel y parti i gontract ar gyfer Llywodraeth y DU, Great British Energy a chyfalaf preifat, gyda chylch gwaith clir i dyfu perchnogaeth leol a lleihau biliau.
5. Y cyd-destun y datblygwyd y cynigion ynddo
Mae gan Gymru adnoddau ynni adnewyddadwy sylweddol ac ymrwymiad polisi cryf i ddatgarboneiddio, perchnogaeth leol, budd cymunedol a thrawsnewid teg i system ynni lân.
Mae gan Lywodraeth Cymru dri sefydliad a rhaglen unigol sy'n gweithio ym meysydd ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio, sef Trydan Gwyrdd Cymru, rhaglen Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Mae sefydliadau eraill yn weithgar ym maes ynni y bydd ganddynt hefyd ddiddordeb yn swyddogaethau ehangach y cwmni.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried a ddylid dod â'r swyddogaethau hyn at ei gilydd, sicrhau mwy o gysondeb rhyngddynt neu eu cyflwyno drwy fodel cyflawni mwy cydlynol. Y diben yw creu gallu cyflawni cryfach, mynediad cliriach i ddefnyddwyr, cydlyniad gwell, a ffocws mwy penodol ar gadw buddiannau i bobl, cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Pam Newid?
Mae Cymru wedi datblygu strategaethau ynni a rhaglenni cyflawni rhanbarthol cryf. Fodd bynnag, mae'r gallu cyflawni wedi'i wasgaru ar draws sawl sefydliad, ac mae hyn yn golygu y gall rhanddeiliaid ei chael hi'n anodd deall y dirwedd. Rydym yn pryderu bod cyfleoedd i alinio buddsoddiadau a threfniadau cyflawni weithiau yn cael eu colli; a bod adnoddau cyhoeddus yn wynebu cyfyngiadau cynyddol.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y gallai un cwmni ynni cyhoeddus ddarparu arweinyddiaeth gliriach, gallu cyflawni cryfach a dull mwy cydlynol o gadw gwerth i Gymru.
6. Sefydliadau sy'n gysylltiedig ag ynni sy'n bodoli eisoes a'u gweithgareddau
Trydan Gwyrdd Cymru (Swyddogaeth 2)
Trydan Gwyrdd Cymru yw'r datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r wladwriaeth sy'n gyfrifol am ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa cyfleustodau ar dir sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'r prosiectau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn amrywio rhwng 20 a 250 MW o gapasiti cynhyrchu. Yr egwyddor sy'n sail i raglen Trydan Gwyrdd Cymru yw, pan fydd ynni adnewyddadwy yn cael ei ddatblygu o dan berchnogaeth gyhoeddus lwyr, y bydd y prosiectau'n cadw'r gwerth uchaf posibl i bobl yng Nghymru.
Mae Trydan Gwyrdd Cymru o dan berchnogaeth lwyr Gweinidogion Cymru. Cafodd ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau dan berchnogaeth Gweinidogion Cymru, gyda Phrif Weithredwr a 15 o gyflogeion, wedi'i oruchwylio gan fwrdd cyfarwyddwyr. Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn datblygu portffolio o brosiectau adnewyddadwy ar dir cyhoeddus, yn bennaf ar yr ystad goetir. Diben y cwmni yw cyflymu'r broses o drawsnewid i gynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru, gan ar yr un pryd gadw mwy o fuddiannau prosiectau o'r fath i bobl Cymru. Nod Trydan Gwyrdd Cymru yw datblygu 250 MW o gapasiti cynhyrchu erbyn 2030 ac 1 GW erbyn 2040.
Ynni Cymru (Swyddogaeth 1)
Ynni Cymru yn rhaglen a sefydlwyd er mwyn helpu mentrau cymunedol, cyrff cyhoeddus a busnesau bach a chanolig ledled Cymru i weithredu systemau ynni lleol clyfar. Mae'r rhaglen wedi dysgu am hyfywedd systemau o'r fath drwy gyflwyno rhaglen grantiau a gweithio ochr yn ochr â pherchnogion y prosiectau i ddarparu cymorth technegol a meithrin gwybodaeth yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei rhedeg gan drydydd parti o dan gontract i Lywodraeth Cymru.
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (Swyddogaethau 1, 2, 3)
Mae rhaglen Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor ac arbenigedd technegol, masnachol a chaffael i'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol, ynghyd â mynediad at gyllid, er mwyn helpu i sicrhau llwyddiant prosiectau ynni o'r cysyniad i'r cam gweithredu.
Yn benodol, mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau hyn i wneud y canlynol:
- lleihau'r defnydd o ynni;
- cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol;
- lleihau allyriadau carbon;
- hyrwyddo mentrau trydaneiddio a lleihau'r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil.
Darperir cymorth mewn perthynas â'r ffrydiau gwaith canlynol:
- Adeiladu systemau ynni
- Gwres carbon isel
- Cludiant
- Ynni adnewyddadwy
- Cynllunio ynni
- Atebion sy'n dod i'r amlwg
Mae gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau pwysig hefyd y tu allan i'r portffolio ynni, gan gynnwys rheoli'r system adrodd ar allyriadau ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a rhoi cyngor ar y gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac atebion sy'n dod i'r amlwg i gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Un o brif nodau'r ymgynghoriad hwn yw deall y ffordd orau o gyflawni ein hamcanion ynni a hinsawdd mewn ffordd sy'n teimlo'n gydlynol ac yn bwrpasol.
Caiff rhaglen Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ei darparu gan ddarparwyr trydydd parti o dan gontract i Lywodraeth Cymru ac wedi'u hariannu ganddi. Disgwylir i fframwaith presennol Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ddod i ben ym mis Mawrth 2027. Ein bwriad yw parhau i ddarparu'r gwasanaeth yn ystod y cyfnod y bydd gwaith ar y cwmni newydd yn mynd rhagddo, a cheir cyhoeddiad am hyn maes o law.
Mynediad at Gyllid (Swyddogaeth 6)
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rheoli'r Grant Paratoi Cymunedol ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu grantiau i sicrhau dichonoldeb prosiectau yn ystod camau cynnar y broses. Mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli'r Gronfa Benthyciadau Ynni Lleol, gan sicrhau bod cyllid ar gael i brosiectau ynni lleol ar gyfer camau datblygu ac adeiladu.
Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Salix Finance, i roi amrywiaeth o raglenni datgarboneiddio ar waith ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaglen Ariannu Cymru – cynllun ariannu benthyciadau cyfalaf llog isel sy’n cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus.
- Grant Gwres Carbon Isel Awdurdodau Lleol/ Y Sector Cyhoeddus – cynllun ariannu grantiau cyfalaf i gefnogi mentrau datgarboneiddio gwres ar ystadau’r sector cyhoeddus.
- Y Grant Seilwaith Cerbydau Trydan a Gwefru – cynllun ariannu grantiau cyfalaf i gefnogi mentrau i drawsnewid tuag at fflydoedd allyriadau isel.
- Buddsoddi i Arbed – cynllun 'grant ymlaen llaw' ar gyfer cyrff nad yw deddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael cyllid benthyciadau (yn enwedig byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau).
- Digarbon – cynllun benthyciadau wedi’i dargedu sy’n cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio'r ystad addysg bellach ac uwch.
- Grant Dylunio a Datblygu Prosiectau – cynllun grant refeniw i gefnogi'r broses o ddatblygu prosiectau cyfalaf yn y dyfodol.
Mae rhywfaint o'r cyllid hwn yn cefnogi dulliau cynhyrchu ynni fel dulliau solar ffotofoltaidd yn uniongyrchol, ond mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni a mesurau datgarboneiddio ehangach fel pympiau gwres, goleuadau LED, a thrawsnewid fflydoedd i Gerbydau Trydan. Hoffem glywed safbwyntiau sy'n trafod p'un a fyddai'n synhwyrol i'r cynlluniau datgarboneiddio hyn nad ydynt yn gysylltiedig â chynhyrchu fod yn rhan o gylch gwaith y cwmni newydd ai peidio.
Mae Salix Finance yn gweithredu fel y corff cyflawni a gweinyddu ar gyfer cynlluniau benthyciadau datgarboneiddio i'r sector cyhoeddus wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Rhaglen Ariannu Cymru, Digarbon, ac elfennau o Buddsoddi i Arbed. Mae'n rheoli'r prosesau gweinyddu ariannol, adolygu technegol, a llywodraethu prosiectau er mwyn helpu i gyflawni prosiectau o safbwynt ariannol.
Y dirwedd ehangach
Mae amrywiaeth o weithgareddau eraill sy'n gysylltiedig ag ynni ledled Cymru sy'n dylanwadu ar y cyd-destun y bydd y cwmni yn gweithredu ynddo.
Trefniadau Ynni Rhanbarthol
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu tîm ynni sy'n cynnwys tua tri pherson ym mhob rhanbarth, mewn Cyd-bwyllgorau Corfforedig neu strwythurau cysylltiedig, i weithio gydag awdurdodau lleol a thimau'r Fargen Twf i gyflawni blaenoriaethau ynni. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r timau wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol pob awdurdod. Mae'r cynlluniau hyn yn seiliedig ar y galw am ynni a sut y disgwylir i hynny newid. Maent yn dangos graddfa'r newid sydd ei hangen i greu system ynni glân, ac yn rhoi syniad o'r gwerth lleol, gan gynnwys gyrfaoedd â chyflog da, y gellid ei greu drwy gyflawni'r trawsnewidiad hwn. Mae cyflawni'r cynlluniau hyn yn ymrwymiad mawr, a bydd ein Strategaeth Ynni Genedlaethol yn sôn mwy am ein dull gweithredu arfaethedig. Bydd angen cymorth ar bob rhanbarth ac awdurdod i ddewis y portffolio o brosiectau y bydd yn eu datblygu i sicrhau'r buddiannau hyn. Byddant yn rhanddeiliaid pwysig ochr yn ochr â busnesau wrth lywio'r math o gymorth gan y cwmni ynni a fyddai fwyaf defnyddiol.
Cymorth busnes
Mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o wybodaeth a chymorth ar effeithlonrwydd adnoddau, rheoli cyllid, polisïau ac arferion gwyrdd yn ogystal â gweithdai.
Datblygodd Busnes Cymru y wybodaeth ddigidol am y weledigaeth werdd i helpu busnesau i wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o effeithlonrwydd adnoddau. Mae'r adnoddau hyn yn annog busnesau i gymryd camau i liniaru eu heffaith ar newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru tuag at economi sero net. Maent yn darparu mynediad hawdd at gynnwys digidol a digwyddiadau ar-lein rhyngweithiol gan gynnwys cyfres o sesiynau arbenigol.
Mae'r Addewid Twf Gwyrdd a'r Addewid Twf Gwyrdd a Mwy yn darparu fframwaith blaengar sy'n helpu busnesau yng Nghymru i wella cynaliadwyedd, lleihau'r defnydd o ynni a chynnwys prosesau datgarboneiddio fel rhan o'u gweithrediadau o ddydd i ddydd. Mae'r Addewid Twf Gwyrdd rhagarweiniol yn helpu busnesau i gymryd camau ymarferol drwy ymrwymiadau CAMPUS pwrpasol ar draws themâu cynaliadwyedd allweddol, gan eu helpu i ddangos effaith amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol gan ar yr un pryd gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Gan adeiladu ar y sylfaen hon, mae'r Addewid Twf Gwyrdd a Mwy yn hyrwyddo gwelliant parhaus drwy alluogi busnesau i adolygu cynnydd, addasu camau gweithredu a chryfhau eu perfformiad cynaliadwyedd drwy ddull strwythuredig a hyblyg sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau Sero Net. Gyda'i gilydd, mae'r addewidion yn helpu busnesau i wella eu gallu i gystadlu, bodloni disgwyliadau cynyddol cwsmeriaid a'r gadwyn gyflenwi, gwella perfformiad amgylcheddol, a chyfrannu at yr ymdrech i symud Cymru tuag at economi gynaliadwy, carbon isel.
Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnwys adran benodol ar gost gwneud busnes, sy'n dwyn ynghyd wybodaeth, canllawiau ac adnoddau er mwyn helpu busnesau i leihau costau a defnyddio adnoddau yn fwy effeithlon.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) yn cynnwys modiwl busnes gwyrddach penodol sy'n helpu sefydliadau i ddeall eu heffaith amgylcheddol a chymryd camau ymarferol i weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Mae Cynghorwyr Datgarboneiddio Busnes Cymru yn helpu busnesau i leihau allyriadau carbon a gwella cynaliadwyedd drwy ddarparu cyngor wedi'i deilwra, camau gweithredu ymarferol a chymorth strategol. Maent yn rhoi cymorth i gwmnïau fesur a rheoli eu heffaith amgylcheddol drwy offer fel Cyfrifiannell Carbon Busnes Cymru, datblygu cynlluniau lleihau carbon, nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd a gallu cwmnïau i gystadlu, a chynnwys cynaliadwyedd fel rhan o weithrediadau busnes. Disgwylir i fersiwn ddiwygiedig o'r Cyfrifiannell Carbon ar y we gael ei rhyddhau ar blatfform BOSS yn 2026.
Mae Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Banc Datblygu Cymru yn cynnig cyfraddau llog gostyngol a chyfalaf tymor estynedig i gefnogi busnesau sy'n ymgymryd â phrosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Mae'n cynnig cyllid o £1,000 hyd at £1.5m. Mae'r Cynllun hefyd yn darparu mynediad at gymorth ymgynghori a ariennir yn llawn ac yn rhannol i gynnal archwiliadau ynni sy'n addas i fusnesau penodol.
Nid ydym yn bwriadu cynnwys cymorth busnes fel rhan o'r cwmni newydd. Fodd bynnag, rydym yn rhagweld y bydd busnesau yn rhan bwysig o waith y cwmni newydd, mewn prosiectau sy'n seiliedig ar leoedd.
Ôl-osod tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglen ôl-osod i uwchraddio cartrefi nad ydynt yn effeithlon o ran ynni a systemau gwresogi tanwydd ffosil – er mwyn gwella safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, cefnogi swyddi da a busnesau lleol, a lleihau allyriadau carbon o'n cartrefi. Gwnaethom ddechrau ar y gwaith ar unwaith drwy adolygu'r cynlluniau cyflawni presennol a darparu cyllid pellach yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cynlluniau peilot o waith ôl-osod traws-ddeiliadaeth ar lefel cymdogaeth. Bydd y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot hyn yn llywio ein rhaglen ôl-osod tymor hwy.
Nid ydym yn bwriadu cynnwys gwaith ôl-osod domestig fel rhan o'r cwmni newydd. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i glywed sut y gallai weithio ochr yn ochr â gweithgarwch sefydledig a gweithgarwch sy'n dod i'r amlwg yn y sector i ddatblygu rhaglenni sy'n seiliedig ar leoedd a allai ystyried gwahanol fathau o adeiladau, fel safleoedd masnachol a safleoedd busnes, er mwyn creu marchnadoedd ynni lleol.
Ynni Cymunedol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant er mwyn i Ynni Cymunedol Cymru weithredu fel llais y sector a chyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu a rhoi cymorth i gymunedau. Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi sefydlu Ynni Teg, datblygwr sydd wedi sefydlu ei brosiectau ei hun i gefnogi Ynni Cymunedol Cymru, ac sydd hefyd yn gweithio gyda chymunedau nad oes ganddynt y gallu na'r awydd i ddod yn ddatblygwyr, ac ar ran y cymunedau hynny. Mae Ynni Teg wedi cychwyn gwaith gyda datblygwyr masnachol ar ran cymunedau i roi cyfran o'r berchnogaeth iddynt mewn datblygiadau masnachol.
Great British Energy
Sefydlwyd Great British Energy (GBE) gan Lywodraeth y DU yn 2024 i ddarparu buddiannau system ynni lanach a mwy diogel i'r cyhoedd ym Mhrydain. Ei genhadaeth yw Perchnogaeth Gyhoeddus dros Ynni â Diben: cyflymu ynni glân a'r diwydiannau sy'n ei gefnogi, gan sicrhau bod gweithwyr a chymunedau yn y DU yn elwa ar ynni glân a diogel a gaiff ei gynhyrchu y DU.
Yn 2026, cyhoeddodd GBE a Llywodraeth y DU Gynllun Pŵer Lleol ar y cyd sy'n nodi dulliau gweithredu mewn meysydd tebyg i'r meysydd a gyflawnir gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a GBE ar drefniadau cyflawni wrth i GBE ddatblygu ei raglenni.
7. Y cynnig ar gyfer newid cychwynnol
Pam rydym yn cynnig y newid hwn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu un corff cyhoeddus i Gymru. Rydym yn gofyn eich barn ynghylch a fydd yr ymrwymiad hwn yn ychwanegu gwerth i Gymru, yn ogystal â'r hyn y dylid ei gynnwys yn y cwmni, i ddechrau ac yn y tymor canolig i'r tymor hwy.
Mae gan Gymru adnoddau ynni naturiol gwerthfawr nad ydynt ar hyn o bryd yn darparu digon o fuddiannau pendant y gall pobl eu teimlo yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Gall hyn fod oherwydd bod y buddiannau yn cael eu cyflwyno'n lleol iawn i'r prosiectau, neu gall fod nad ydynt yn ddigon amlwg.
Rydym wedi nodi'r dirwedd gyflawni, y mae rhai pobl yn ei hystyried yn gymhleth, gyda llawer o gyrff gwahanol yn cyflawni mewn meysydd tebyg. Mae pwrs y wlad hefyd yn wynebu cyfyngiadau cynyddol wrth i gostau gynyddu, felly mae angen i ni ystyried sut y gellir sicrhau mwy o werth o'n hamlen gwariant bresennol.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai cael cwmni ynni sy'n dod â sawl swyddogaeth at ei gilydd yn golygu bod y broses o gyflenwi ynni yn fwy cydlynol a dealladwy, ac yn fwy effeithlon, i'n helpu i gyflawni mwy ac i wneud mwy o gysylltiadau rhwng gwahanol rannau o'r gwaith.
Gallai hefyd ei gwneud hi'n haws cyfleu'r gwerth sy'n deillio o bortffolio o brosiectau sy'n eiddo i Gymru a meithrin gwell dealltwriaeth o rôl ynni wrth wella bywydau pobl yng Nghymru.
Cwestiwn 1:
Ydych chi'n cytuno y byddai un cwmni ynni i Gymru yn ychwanegu gwerth ac yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl? Yn eich barn chi, beth yw'r buddiannau a'r risgiau posibl, a sut y gallem eu cynyddu/lleihau i'r eithaf?
Sail ar gyfer y corff newydd
Ein cynnig cychwynnol yw defnyddio'r cwmni presennol, Trydan Gwyrdd Cymru, fel craidd y cwmni cyhoeddus newydd. Mae Trydan Gwyrdd Cymru dan berchnogaeth lwyr Gweinidogion Cymru, sy'n rhoi llythyr cylch gwaith a chyllid iddo; mae ganddo ffurf gyfreithiol, strwythur sefydliadol, polisïau a systemau. Caiff ei ystyried yn gorff cyhoeddus, a gall gyflogi staff, dal asedau a gwneud penderfyniadau ariannol. Caiff ei oruchwylio gan fwrdd annibynnol. Byddai defnyddio'r strwythur presennol hwn fel sail ar gyfer cyflawni yn caniatáu i'r cwmni ynni cyhoeddus ddod yn effeithiol yn gyflym yn ystod y camau cynnar, er y byddai ei strwythur a'i brosesau yn datblygu i gynnwys y swyddogaethau ychwanegol a gynigir.
Ar hyn o bryd mae gan Trydan Gwyrdd Cymru dîm datblygu, staff technegol sy'n gyfrifol am ddatblygu prosiectau gwynt a solar. Maent yn datblygu ac yn cyflawni prosiectau gyda chymorth gwasanaethau a ddarperir o dan gontract.
Mae gan Trydan Gwyrdd Cymru dîm busnes hefyd, sy'n gyfrifol am y gweithgareddau canolog fel cyllid, adnoddau dynol ac effeithiolrwydd gweithredol. Gallai ychwanegu timau datblygu ychwanegol at strwythur Trydan Gwyrdd Cymru ysgogi arbedion maint ar gyfer y gweithgareddau canolog, er ei bod hi'n debygol y bydd angen capasiti ychwanegol i gefnogi amrywiaeth ehangach o weithgareddau.
Bydd angen i gylch gwaith a dogfennau gweithredol Trydan Gwyrdd Cymru newid yn sylweddol i ystyried swyddogaethau newydd. Mae'n dibynnu ar gyfansoddiad terfynol y cwmni newydd, ond mae'n bosibl y bydd angen arbenigedd ychwanegol ar y bwrdd er mwyn llywio cwmni â chylch gwaith ehangach. Bydd angen i dîm partneriaeth Llywodraeth Cymru sy'n gweithio gyda'r cwmni ddatblygu capasiti i roi cymorth priodol hefyd.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer sefydlu'r cwmni. Byddai defnyddio'r corff cyhoeddus presennol fel sail yn galluogi'r cwmni fel y'i cynigiwyd i gael ei sefydlu'n gynt, gan gyflymu'r gallu i gyflawni'r buddiannau. Bydd gweithredu fel un endid yn cynnig cyfleoedd i gydgysylltu gwahanol feysydd cyflawni.
Cwestiwn 2:
Ydych chi'n cytuno ei bod hi'n gwneud synnwyr defnyddio'r cwmni presennol, Trydan Gwyrdd Cymru, fel sail ar gyfer y cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru?
Llywodraethu corfforaethol
Mae pob corff cyhoeddus yn ddarostyngedig i ofynion llywodraethu llym, er mwyn sicrhau atebolrwydd, tryloywder, gwerth am arian a dulliau cyflawni effeithiol, gan ganiatáu annibyniaeth weithredol o ddydd i ddydd. Mae'r trefniadau llywodraethu wedi'u nodi'n fanwl mewn dogfennau llywodraethu allweddol sy'n cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru. Mae Trydan Gwyrdd Cymru, fel pob un o gyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru, yn cael ei lywodraethu gan Ddogfen Fframwaith sy'n nodi sut y dylai weithredu. Mae'r Ddogfen Fframwaith yn nodi pa benderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru a pha rai a ddirprwyir i'r cwmni. Cyflawnir hyn drwy gydweithio’n agos â thîm partneriaeth penodedig yn Llywodraeth Cymru. Mae trefniadau llywodraethu presennol Trydan Gwyrdd Cymru hefyd yn cynnwys trefniadau goruchwylio gan fwrdd annibynnol, prosesau craffu gan Weinidogion Cymru ar benodiadau i'r bwrdd a chynlluniau ac adroddiadau rheolaidd gan y cwmni. Mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys arbenigedd perthnasol ym maes datblygu ynni adnewyddadwy a gweithrediadau masnachol, ynghyd â chynrychiolwyr o gymdeithas ehangach Cymru. Caiff cyfrifon Trydan eu harchwilio'n annibynnol a'u cyhoeddi drwy Dŷ'r Cwmnïau.
Cwestiwn 3:
Gan ystyried ei swyddogaethau arfaethedig, a oes unrhyw drefniadau llywodraethu penodol a fyddai o fudd i'r cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, yn eich barn chi?
Enw'r cwmni
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylai'r cwmni newydd wneud y canlynol:
- cadw'r enw Trydan Gwyrdd Cymru;
- mabwysiadu'r enw Ynni Cymru; neu
- fabwysiadu enw newydd sy'n adlewyrchu cylch gwaith ehangach y sefydliad.
Mae'r ddau enw eisoes yn adnabyddus i ryw raddau. Mae Ynni Cymru yn adlewyrchu cenhadaeth ynni cenedlaethol eang gan gynnwys ynni cymunedol, perchnogaeth leol, systemau ynni clyfar a buddsoddiad; Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn fwy cysylltiedig â datblygu trydan adnewyddadwy ar raddfa cyfleustodau.
Byddem yn croesawu eich barn ar enw ar gyfer y cwmni newydd, sy'n adlewyrchu ei gylch gwaith a'i hunaniaeth Gymreig.
Cwestiwn 4:
A ddylai'r cwmni newydd gadw'r enw Trydan Gwyrdd Cymru, mabwysiadu'r enw Ynni Cymru, neu ddefnyddio enw gwahanol? Esboniwch eich dewis.
Model gweithredu (Swyddogaeth 2)
Ar hyn o bryd mae Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu o dan fodel cwmni datblygu Llywodraeth Cymru, gyda holl asedau'r prosiect yn parhau i fod dan berchnogaeth uniongyrchol Gweinidogion Cymru. Mae'r model hwn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn gallu cyfarwyddo sut mae'r gwerth a gaiff ei greu o'r ynni adnewyddadwy a ddatblygir gan ddefnyddio arian cyhoeddus yng Nghymru yn darparu gwerth i Gymru. Mae'n cynnig buddiannau eraill hefyd, gan gynnwys y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn elwa ar esemptiad gan y Goron, sy'n golygu nad yw gwerth a wireddir yn uniongyrchol drwy fod yn berchen ar asedau prosiectau yn ddarostyngedig i dreth gorfforaeth y DU.
Mae'r model a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cwmni a all ddatblygu asedau, bod yn berchen ar asedau a buddsoddi mewn asedau ei hun. Mae hyn yn golygu hefyd y byddai ganddo reolaeth dros y gwerth a'r rhwymedigaethau sy'n deillio o'i waith.
Nod Llywodraeth Cymru wrth greu'r cwmni newydd hwn yw sicrhau bod gwerth yn llifo i bobl Cymru, gan harneisio asedau naturiol Cymru i wneud bywyd yn well, yn enwedig i'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae llawer yn dibynnu ar gyfansoddiad terfynol y cwmni, ond rydym yn ystyried a ddylai dogfennau corffori'r cwmni gynnwys gofynion ynghylch sut mae gwerth yn cael ei ddyrannu.
Mae gan y bwrdd presennol gyfarwyddwyr anweithredol sydd â phrofiad o wireddu gwerth lleol. Gellid gwarantu sicrwydd ychwanegol drwy strategaeth gwireddu buddiannau, neu'n uniongyrchol drwy ffurf y cwmni. Byddem yn gwerthfawrogi eich barn a'ch tystiolaeth ar fecanweithiau priodol i sicrhau bod dychwelyd gwerth i bobl Cymru, mewn ffordd sy'n helpu'r lleiaf cyfoethog, yn rhan annatod o strwythur y cwmni.
Cwestiwn 5:
Ydych chi'n cytuno y dylai fod gan y cwmni ynni newydd rôl arweinyddiaeth a'r gallu i nodi a sicrhau cyfleoedd ariannu newydd sy'n helpu i gyflawni ei ddiben a'i genhadaeth?
Cwestiwn 6:
Pa fodelau, mecanweithiau neu ofynion y dylid eu defnyddio i sicrhau bod y cwmni'n dychwelyd y lefel gywir o werth i Gymru? Sut y dylai'r cwmni gydbwyso ei angen am adnoddau i gyflawni â'r gofyniad i ddychwelyd gwerth i bobl?
Mynediad at dir cyhoeddus ar gyfer y cwmni ynni (Swyddogaeth 2)
Mae Trydan Gwyrdd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i nodi'r cyfle ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar yr ystad gyhoeddus ac i ddatblygu prosiectau dan berchnogaeth gyhoeddus lwyr. Mae mwyafrif y cyfleoedd a nodwyd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, a gaiff ei rheoli ar ran Gweinidogion Cymru gan CNC, er bod un safle ar dir arall Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Yn flaenorol, pan fyddai datblygwr yn dangos diddordeb mewn defnyddio safle ar yr ystad goetir, byddai CNC yn ystyried a fyddai'n briodol defnyddio'r tir hwnnw i gynhyrchu ynni. Wedyn, byddai'n cynnig y cyfle i lesio'r tir ar sail gyhoeddus. Byddai ceisiadau yn cael eu barnu yn ôl y gwerth cyhoeddus y byddent yn ei gynnig. Mae datblygwyr yn gweithredu ar ystad goetir Llywodraeth Cymru o ganlyniad i opsiynau lesio dros y degawd diwethaf.
Gan fod angen llawer o adnoddau i ymgymryd â'r broses lesio hon, mae'n cyfyngu ar nifer y datblygiadau y gall CNC eu hystyried ar unrhyw un adeg. Mae cynigion eraill wedi dod i law lle mae datblygwyr yn cynnig cyfle i gyd-ddatblygu, er enghraifft lle caiff fferm wynt ei datblygu ar dir preifat ac y caiff tir cyhoeddus cyfagos ei ddyrannu er mwyn gallu creu fferm wynt ychydig yn fwy. Ar hyn o bryd mae CNC yn ystyried unrhyw gais am fynediad at dir at ddibenion datblygu ynni gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Ers sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai'n heriol i unrhyw ddatblygwr masnachol ddatblygu safleoedd a darparu gwerth mwy na'r hyn y gellid ei gyflawni o dan berchnogaeth gyhoeddus lwyr, ar y sail y gallai datblygwr cyhoeddus ddarparu 100% o'r gwerth a wireddwyd i bwrs y wlad. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol, ond rydym yn cynnig mabwysiadu'r safbwynt y dylid ffafrio Trydan Gwyrdd Cymru fel y datblygwr ar gyfer tir cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr ystad goetir, ymhlith safleoedd eraill.
Ni fyddai hyn yn diystyru cyfleoedd i gyfranogwyr eraill ddefnyddio tir cyhoeddus at ddibenion ynni, lle gallai prosiectau sy'n ffinio â thir ddarparu budd i'r cyhoedd, ar gyfer gosod ceblau neu amgylchiadau penodol eraill o'r fath.
Fodd bynnag, byddai'n sefydlu'r egwyddor mai Trydan Gwyrdd Cymru fyddai'n cael y cynnig cyntaf i ddefnyddio tir cyhoeddus. Sail y penderfyniad hwn yw cadw'r gwerth uchaf posibl o ddulliau cynhyrchu ar dir cyhoeddus.
Tir cyhoeddus ehangach
Yn sgil y cynnig i sefydlu'r cwmni newydd, gallai o bosibl chwarae rhan ehangach wrth gefnogi cyflawniadau'r sector cyhoeddus, gan ddibynnu ar ei gapasiti a'r adnoddau datblygu sydd ar gael iddo. Mae'r weledigaeth ar gyfer y cwmni yn cynnwys ei allu i ddatblygu prosiectau ar dir cyhoeddus y tu hwnt i ystad gyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Mae sawl ffordd y gellid gwneud hyn, o weithredu ar ran y tirfeddiannwr i drefnu cytundeb tir gyda'r tirfeddiannwr a datblygu prosiectau yn fwy annibynnol. Byddwn yn ystyried hyn yn fanylach wrth i ni ddatblygu ein syniadau am swyddogaethau a strwythur y cwmni yn y dyfodol. Hoffem glywed eich barn ynghylch p'un a ellid pennu mandad ehangach i'r cwmni fel y datblygwr sector cyhoeddus y rhoddir y cynnig cyntaf iddo, yn seiliedig ar yr un egwyddor o gadw cymaint o werth â phosibl yn lleol.
Cwestiwn 7:
Ydych chi'n cytuno â'r egwyddor y dylid cynnig ardaloedd addas o dir cyhoeddus, sy'n addas i'w datblygu, i'r cwmni dan berchnogaeth gyhoeddus yn gyntaf i ystyried eu datblygu er budd y cyhoedd?
Y dull o wireddu gwerth o brosietau
Yn ddelfrydol, byddai pob prosiect yn cael ei ddatblygu, ei adeiladu a'i weithredu dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau'r gwerth uchaf posibl i Gymru dros oes y prosiect. Fodd bynnag, bydd heriau yn gysylltiedig ag ariannu fflyd ynni adnewyddadwy gwerth biliynau o bunnoedd. Gellir gwireddu'r enillion ariannol o brosiectau ynni adnewyddadwy ar wahanol gamau yng nghylch oes y prosiect. Daw'r enillion mwyaf o ddatblygu, adeiladu a gweithredu'r asedau cynhyrchu drwy oes gyfan y cyfleuster, ond mae dwy anfantais bosibl yn gysylltiedig â'r dull hwn. Yn gyntaf, mae angen codi symiau mawr o gyfalaf er mwyn adeiladu a pherchnogi, nad yw bob amser yn bosibl i ddatblygwr sector cyhoeddus. Yn ail, o dan y model hwn mae'r enillion ariannol yn cronni'n araf dros gyfnod hir drwy gydol y cyfnod gweithredu (fel arfer 30 mlynedd).
Mae modelau amgen yn cynnwys gwerthu prosiect ar ddiwedd y cyfnod datblygu ar ôl cael caniatâd cynllunio, neu werthu prosiect ar ôl y gwaith adeiladu. Mae'r ddau opsiwn hyn yn darparu enillion ariannol llawer cyflymach i bwrs y wlad, sy'n golygu y gellir defnyddio'r elw ar gyfer blaenoriaethau cyhoeddus tymor byr. Fodd bynnag, byddent yn darparu llai o werth dros y tymor hwy. Mae gwerthu ar ôl i'r prosiect gael ei adeiladu a'i weithredu yn debygol o ddarparu mwy o werth na gwerthu ar ôl cael caniatâd cynllunio, ond mae angen codi cyfalaf ar gyfer y dull hwn hefyd.
Wrth i bob prosiect gyrraedd y pwynt lle gwneir penderfyniad cynllunio, os bydd yn llwyddiannus, bydd yn rhaid penderfynu a ddylid adeiladu neu a ddylid gwerthu'r prosiect a ganiatawyd a buddsoddi'r arian hwnnw mewn gwaith sydd o fudd i bobl yng Nghymru, gan gynnwys cyfres o brosiectau parhaus.
Cwestiwn 8:
O dan ba amgylchiadau y dylai'r cwmni werthu prosiectau sydd wedi cael caniatâd yn hytrach na chadw perchnogaeth a hawliau gweithredu?
Codi cyfalaf
Os caiff prosiectau eu cadw yn y sector cyhoeddus yn ystod y cam adeiladu a'r cam gweithredu, yna byddai angen symiau mawr o gyfalaf. Er enghraifft, ar gyfer fferm wynt 100MW ar y tir, byddai angen buddsoddiad cyfalaf o tua £100m i £200m. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca cyfyngedig ac ar hyn o bryd mae'n annhebygol y byddai'n gallu ariannu costau llawn adeiladu a gweithredu prosiectau yn uniongyrchol.
Gallai opsiynau eraill ar gyfer cyllid cyfalaf gynnwys buddsoddiad gan sefydliadau fel Cronfa Cyfoeth Genedlaethol y DU a buddsoddiad gan y sector preifat (e.e. gan gwmnïau ynni neu grwpiau ariannol yn y sector preifat). Byddai'r opsiynau hyn yn caniatáu i fwy o brosiectau fynd rhagddynt ond byddent yn gwanhau perchnogaeth gyhoeddus Cymru dros yr asedau cynhyrchu. Mae'n bosibl y bydd opsiynau eraill i godi cyfalaf yn y sector cyhoeddus, fel buddsoddi drwy gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a chynnig cyfranddaliadau i bobl Cymru. Gallai argaeledd cyfalaf yma fod yn fwy cyfyngedig nag opsiynau'r DU a'r sector preifat. Er bod y maes hwn yn gymhleth a bod ystyriaethau y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad hwn, hoffem glywed eich barn ar yr egwyddorion allweddol.
Cwestiwn 9:
Ydych chi'n credu y dylai'r cwmni anelu at berchnogaeth 100% gan y sector cyhoeddus yng Nghymru o'i brosiectau, neu a ddylai edrych yn ehangach am gyfalaf sydd ar gael? Oes gennych chi unrhyw syniadau eraill o ran codi cyfalaf?
Dyfodol Ynni Cymru (Swyddogaeth 1)
Sefydlwyd rhaglen Ynni Lleol Clyfar Ynni Cymru i gefnogi grwpiau cymunedol, y sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig i ddatblygu systemau ynni lleol clyfar i gefnogi uchelgeisiau ynni sero net ac i ddatblygu atebion arloesol a fydd yn y pen draw yn lleihau biliau ynni. Mae'r systemau ynni lleol clyfar hyn fel arfer yn cynnwys tri neu fwy o'r canlynol: cynhyrchu solar, storio batris, gwefrwyr cerbydau trydan, pympiau gwres, a systemau rheoli clyfar, sy'n golygu y gellir optimeiddio dulliau cynhyrchu a defnyddio er mwyn sicrhau'r costau rhedeg isaf. Mae'r rhaglen yn darparu cymorth technegol ac yn rheoli grantiau cyfalaf a ariennir gan y llywodraeth i hwyluso'r gwaith hwn hyd at 100% o werth y prosiect, gan na fyddai'r prosiectau hyn yn mynd rhagddynt heb gyllid allanol.
Mae Ynni Cymru wedi bod yn gweithredu ers tair blynedd ac mae wedi dangos yn glir y gall systemau ynni lleol clyfar ddarparu budd lleol, a bod y dull o gyfuno asedau i fodloni'r galw y tu ôl i'r mesurydd yn gweithio yn y system reoleiddio bresennol. Holl fwriad y rhaglen oedd creu'r achos o blaid y swyddogaeth a, phe cafwyd ei brofi, nodi ble y dylid lleoli'r swyddogaeth.
Mae Ynni Cymru wedi cyflawni gwaith y gellir ei grwpio i dri maes swyddogaethol:
- Cyflawni prosiectau ynni cynyddol glyfar, sydd ar hyn o bryd o dan gynllun grant;
- Profi a datblygu modelau newydd ar gyfer defnyddio systemau ynni lleol clyfar, gan weithio gyda phobl sy'n weithgar yn y maes;
- Defnyddio'r gwersi a gaiff eu dysgu o'r camau datblygu a defnyddio i lywio polisi Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid parhau i gyflawni'r swyddogaethau hyn. Gwnaethom ystyried amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys
- parhau fel rhaglen o fewn Llywodraeth Cymru;
- sefydlu cwmni dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru fel corff hyd braich; naill ai cwmni cyhoeddus neu Gwmni Buddiant Cymunedol;
- ei gynnwys fel rhan o gwmni sydd eisoes dan berchnogaeth y llywodraeth (e.e. Trydan Gwyrdd Cymru); neu
- ddatblygu partneriaeth strategol neu fodel gweithredu ar y cyd gydag endid arall, er enghraifft Great British Energy (GBE).
Y model a ffefrir gennym yw y dylai swyddogaethau cyflawni Ynni Cymru ddod yn rhan o'r corff cyhoeddus newydd ar gyfer cyflenwi ynni. Rydym hefyd yn cynnig y dylai'r swyddogaeth o ddefnyddio'r gwersi a gaiff eu dysgu o'r cam cyflawni a'r broses o ddatblygu polisi ddod yn rhan o Lywodraeth Cymru fel y sefydliad polisi. Bydd hyn yn meithrin gallu Llywodraeth Cymru i gynnig newidiadau rheoleiddiol ac ariannol i Lywodraeth y DU er mwyn gallu defnyddio prosiectau clyfar dan berchnogaeth leol a gwerthuso cynigion y DU yn erbyn y profiad yng Nghymru.
Cwestiwn 10:
Ydych chi'n cytuno y dylai swyddogaethau cyflawni Ynni Cymru drosglwyddo i'r cwmni? Os na, ble fyddai'n lleoliad mwy priodol iddynt?
Cwestiwn 11:
Ydych chi'n cytuno y dylai swyddogaeth bolisi Ynni Cymru drosglwyddo i Lywodraeth Cymru? Os na, ble fyddai'n lleoliad mwy priodol iddi?
Model ariannu Ynni Cymru (Swyddogaeth 6)
Bwriad gwreiddiol rhaglen Ynni Cymru oedd pennu'r ffordd orau o fuddsoddi'r cyllid sydd ar gael i alluogi'r cymorth cyflawni i fod yn hunangynhaliol yn yr hirdymor, ochr yn ochr â darparu gwerth lleol. Mae tîm Ynni Cymru wedi bod yn defnyddio'r prosiectau sydd wedi cael arian grant i ddeall yn fanwl gostau cyflwyno systemau ynni lleol clyfar a'r effaith ar filiau.
Os bydd Ynni Cymru yn parhau ar ffurf model grantiau, bydd yn cyfyngu ar graddau'r cyflawni ac ni all y swyddogaeth fod yn hunangynhaliol. Felly rydym yn cynnig newid y dull gweithredu i fodel buddsoddi. Byddai hyn yn golygu y byddai Ynni Cymru naill ai’n buddsoddi ochr yn ochr â chymuned, busnes bach a chanolig neu gorff cyhoeddus i gyflawni cynllun ynni lleol clyfar, gyda chytundeb rhannu refeniw; neu'n cynnig cynhyrchion fel “Ynni fel gwasanaeth”, lle byddai Ynni Cymru yn berchen ar osodiad ac yn gyfrifol am ei weithredu ac yn codi tâl gwasanaeth ar y sefydliad yn hytrach na bil ynni. Mae hyn yn debyg i rai o'r cynigion blaenllaw yn y farchnad gan gyflenwyr ynni masnachol. Bydd angen mwy o waith ar fanylion y gwasanaethau a gynigir, a sut y byddai gwerth yn cael ei ddyrannu rhwng Ynni Cymru a'r sefydliad partner. Ar y cam hwn rydym yn anelu at sefydlu egwyddor newid er mwyn gallu cyflawni ar raddfa fwy.
Cwestiwn 12:
Ydych chi'n cytuno bod symud Ynni Cymru o grantiau cyfalaf i fodel buddsoddi yn newid rhesymegol?
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cyflawni amrywiaeth aeddfed o swyddogaethau ar draws y portffolios ynni a hinsawdd. Caiff Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ei gomisiynu o dan gontract fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a grŵp o gwmnïau dosbarthu.
Mae'r gwasanaeth yn helpu grwpiau ynni cymunedol a mentrau cydweithredol i ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy o faint canolig dan berchnogaeth y gymuned, gan gynnwys ynni gwynt ar y tir, ynni solar ac ynni dŵr. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol i'r prosiectau hyn ac yn rheoli cymysgedd o grantiau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru a chyllid benthyciadau gan Fanc Datblygu Cymru. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru hefyd yn helpu Ynni Cymru i weithredu rhaglen Ynni Cymru, gan weithio ar sail leol ar draws sectorau.
Mae'r gweithgaredd hwn sy'n canolbwyntio ar ynni yn ategu cylch gwaith arall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sef cefnogi'r sector cyhoeddus ar faterion hinsawdd ehangach. Mae hyn yn cynnwys rhedeg y broses adrodd ar gyfer allyriadau carbon y sector cyhoeddus, cyflawni cynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau (gan gynnwys prosiectau cynhyrchu ynni) a darparu cyngor ac arweiniad technegol ar y gallu i wrthsefyll ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Mae'r cymorth hwn i weithgarwch hinsawdd y sector cyhoeddus yn adlewyrchu'r canlynol:
- Rôl arweinyddiaeth allweddol cyrff cyhoeddus mewn cymunedau yng Nghymru, a'u gwerth fel 'ysgogwyr cyntaf' ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae pob dinesydd yng Nghymru yn rhyngweithio'n rheolaidd â chyrff cyhoeddus, ac mae gweld cynnydd mewn lleoliadau fel byrddau iechyd yn cynyddu hygrededd Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a gall ysbrydoli newid pellach.
- Dylanwad cadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus, sydd ag ôl troed eang yng Nghymru ac sy'n gallu ysgogi a dylanwadu ar newid pellach, yn enwedig pan gânt eu cyfuno â pholisi caffael effeithiol.
Mae gan y gwasanaeth rôl hefyd o ran sganio'r gorwel i nodi atebion sy’n dod i’r amlwg a allai wella'r broses gyflawni, fel technolegau newydd.
Mae swyddogion wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer sut y byddai Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn berthnasol i'r cwmni newydd. Mae swyddogaethau Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn perthyn yn gyffredinol i bedwar maes:
- Cymorth ar gyfer cynlluniau a dulliau cynhyrchu ynni cymunedol.
- Cymorth ar gyfer dulliau cynhyrchu ynni yn y sector cyhoeddus – h.y. solar ffotofoltaidd.
- Cymorth ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni yn y sector cyhoeddus; h.y. pympiau gwres a goleuadau LED.
- Cymorth ar gyfer gweithgarwch hinsawdd ehangach yn y sector cyhoeddus heb unrhyw ryngwyneb ynni uniongyrchol – h.y. adrodd ar allyriadau, seilwaith gwefru cerbydau trydan, cymorth i addasu i'r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn credu ei bod yn rhesymegol y dylai gweithgaredd ynni cymunedol Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru symud i'r cwmni ar ôl iddo gael ei sefydlu. Fodd bynnag, mae yna sawl opsiwn o ran ble y gallai gweddill swyddogaethau presennol eraill Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gael eu lleoli ar ôl i'r cwmni gael ei sefydlu.
Un opsiwn fyddai symud holl swyddogaethau Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i'r cwmni ar ôl iddo gael ei sefydlu. Dyma fyddai'r opsiwn mwyaf integredig a dyma fyddai'n creu'r dirwedd cymorth symlaf. Fodd bynnag, byddai hyn yn creu sefydliad eang iawn ac ni fyddai llawer o'i swyddogaethau (yn enwedig y rhai hynny yn y maes hinsawdd ehangach) yn uniongyrchol gysylltiedig â phrif genhadaeth y cwmni, sef troi mantais ynni naturiol Cymru yn fuddiannau pendant i bobl a chymunedau. Gallai hefyd arwain at golli cyfleoedd i gefnogi gwaith ym maes ehangach hinsawdd a natur, gan gynnwys y Cynllun Hinsawdd a Natur sy'n datblygu.
Yn ogystal, mae'r model fframwaith presennol yn cynnig mynediad at amrywiaeth eang o sgiliau a galluoedd. Mae'n annhebygol y bydd symud swyddogaethau Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru o fodel contractio i gwmni parhaol yn darparu'r mynediad hyblyg i'r cymorth sydd ei angen ar ddefnyddwyr gwasanaethau yn yr hirdymor.
Rydym yn ymwybodol bod angen i unrhyw ddull yn y dyfodol gydbwyso'r ymdrech i gyflawni ein dyheadau ynni ochr yn ochr â chymorth i'r portffolio hinsawdd a natur. Ein barn ni yw mai'r ffordd orau o gyflawni hyn fyddai drwy gadw rhyw fath o olynydd i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r cwmni, i fwrw ymlaen â gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd a natur mewn ffordd fwy pwrpasol a chyfarwyddiadol nag a fyddai'n bosibl o dan y cwmni ac i ategu rhannau gweithgarwch y cwmni sy'n canolbwyntio mwy ar ynni. Fodd bynnag, byddai'r dull hwn yn creu ei heriau a'i risgiau ei hun:
- Gallai'r dirwedd ynni deimlo'n rhanedig ac yn ddryslyd o hyd pe byddai'r cwmni ac olynydd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ill dau yn gweithredu, yn enwedig pe byddai'r ddau gorff yn darparu gwasanaethau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Gallai rhannu swyddogaethau sydd wedi'u hintegreiddio'n agos o fewn fframwaith Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar draws y cwmni ac olynydd y Gwasanaeth Ynni greu aneffeithlonrwydd yn y tymor byr i'r tymor canolig.
Gan edrych ar y pedwar maes gweithgarwch a gyflawnir ar hyn o bryd gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru uchod, nid oes ffordd ddelfrydol o reidrwydd o rannu'r swyddogaethau hyn rhwng y cwmni ac olynydd y Gwasanaeth Ynni sy'n teimlo'n reddfol i randdeiliaid ac sydd wedi'i optimeiddio'n llawn o ran effeithlonrwydd gweithredol a dealltwriaeth strategol.
Gan fod meysydd hinsawdd ac ynni yn gorgyffwrdd, gallai rhaniad olygu colli cyfleoedd i gyflawni mewn ffordd gwbl integredig ac yn seiliedig ar le – er enghraifft, deall ble gallai prosiectau'r sector cyhoeddus gyflawni buddiannau cymunedol ehangach.
Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, ein barn ni yw y bydd angen rhyw fath o ryngwyneb rhwng y ddau gorff. Gallai hyn fod ar ffurf opsiynau mwy ffurfiol fel 'un drws ffrynt' ar gyfer partneriaid allanol a/neu drefniadau llywodraethu a rennir. Gallai fod yn opsiwn mwy anffurfiol fel trefniant i'r cwmni gael cymorth o dan gontract fframwaith cyflenwyr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru lle bydd angen capasiti ehangach; memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau gorff; a/neu ddeunyddiau cyfathrebu sy'n sicrhau bod cylch gwaith y ddau gorff yn glir. Rydym yn awyddus i wybod sut y gallai hyn weithio orau yn ymarferol.
Dangosir model posibl ar gyfer y broses weithredu gychwynnol yn ffigur 1. Byddai'r model yn parhau i gael ei gyflwyno'n eang fel y mae ar hyn o bryd, gyda thîm bach yn y cwmni yn cyflawni'r swyddogaeth ynni leol. Byddai'r cwmni yn gallu manteisio ar allu cyflawni ychwanegol o'r contract sy'n cael ei reoli ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, a'r contract olynol.
O dan y model hwn, byddai gweithgareddau a ddangosir fel rhan o 'Wasanaeth Hinsawdd' yn cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru o dan gylch gwaith y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd. Byddai'r cwmni newydd yn cynnal y gweithgareddau a ddangosir fel rhan o'r 'Cwmni Ynni Cyhoeddus i Gymru', gan weithio o dan gylch gwaith y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.
Ffigur 1 Y broses arfaethedig ar gyfer trosglwyddo sefydliadau a gweithgareddau
Mae'r diagram yn dangos y swyddogaethau presennol y bwriedir iddynt fod yn rhan o'r cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a'r rhai i'w cadw fel rhan o wasanaeth hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Cwestiwn 13:
Ydych chi'n cytuno y dylai darparu cymorth technegol i grwpiau ynni cymunedol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy fod yn un o swyddogaethau'r cwmni newydd?
Cwestiwn 14:
Ydych chi'n cytuno y dylid parhau i ddarparu grantiau cyfalaf a benthyciadau a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer y prosiectau hyn?
Cwestiwn 15:
Ydych chi'n cytuno y byddai'n gwneud synnwyr cadw olynydd i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos gyda'r cwmni newydd (o bosibl drwy 'un drws ffrynt' neu rywbeth tebyg) ond gan ganolbwyntio ar weithgarwch hinsawdd a natur o dan y portffolio Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd?
Cwestiwn 16:
Beth yw'r risgiau a'r cyfleoedd allweddol sy'n gysylltiedig â chadw olynydd ar wahân i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, o gymharu ag integreiddio holl swyddogaethau'r Gwasanaeth Ynni i'r cwmni newydd?
Perchnogaeth Leol dros Gynhyrchu Ynni (Swyddogaeth 1)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi ar berchnogaeth leol o asedau cynhyrchu ynni yng Nghymru. Nododd yr egwyddor bod sicrhau perchnogaeth dros asedau yng Nghymru yn fwy tebygol o olygu bod y budd yn aros yng Nghymru. Nododd mai'r dull a ffefrir fyddai bod pob prosiect dan berchnogaeth leol yng Nghymru, er y byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff yng Nghymru ysgwyddo'r holl gostau a'r holl risgiau sy'n gysylltiedig â gwaith datblygu.
Mae'r ddogfen bolisi yn diffinio'r sefydliadau hynny sy'n cyfrannu at berchnogaeth leol, sy'n cynnwys pob sefydliad dan berchnogaeth lwyr ac wedi'i leoli yng Nghymru. Mae perchnogaeth gymunedol a pherchnogaeth gyhoeddus yn is-setiau penodol o berchnogaeth leol a grybwyllir yn y ddogfen hon. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu hyrwyddo'r egwyddor hon ymhellach er mwyn cynhyrchu cymaint o ynni â phosibl yn lleol yng Nghymru a chadw'r gwerth mwyaf posibl yng Nghymru. Byddwn yn ystyried y maes hwn ymhellach fel rhan o'r broses o ddatblygu'r Strategaeth Ynni Genedlaethol. Bydd y canllawiau presennol yn parhau ar waith hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi datblygu ei pholisi perchnogaeth leol ei hun ar gynigion a fydd yn mynd y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad hwn.
Rhanberchnogaeth (Swyddogaeth 3)
Gan fwyaf, datblygwyr masnachol sy'n gyfrifol am ddatblygu dulliau cynhyrchu ynni newydd. Un ffordd o gyflawni perchnogaeth leol yw cynnig cyfranddaliadau i gymunedau, awdurdodau lleol neu fusnesau cyfagos yn y prosiectau masnachol hyn. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar hyn o bryd i drefnu rhanberchnogaeth dros brosiectau ynni yng Nghymru, er bod rhai datblygwyr wedi cytuno'n wirfoddol ar elfen o ranberchnogaeth ar gyfer rhai prosiectau. Arweiniwyd y dull hwn yng Nghymru mewn prosiectau ar yr ystad gyhoeddus, lle roedd creu gwerth lleol yn ffactor pwysig wrth lesio safleoedd i ddatblygwyr masnachol dros y degawdau diwethaf.
Mae perchnogaeth leol yn gofyn am fuddsoddiad gan y cymunedau eu hunain, nad yw o reidrwydd bob amser yn bosibl. Mae angen rhywfaint o adnoddau ar gymunedau er mwyn bod yn rhan o gontract gyda chwmnïau masnachol mawr, yn ogystal â degau o filiynau o bunnoedd o bosibl i wneud y buddsoddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu rhanberchnogaeth ac mae’n gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i ystyried sut y gallai cymunedau gael mynediad at gyllid i brynu cyfran mewn prosiectau a rennir.
Mae Ynni Teg, cangen datblygwyr Ynni Cymunedol Cymru, wedi bod yn weithgar iawn yn gweithio gyda datblygwyr masnachol ar ran cymunedau. Fodd bynnag, ni all weithredu ar ran pob cymuned a allai fod yn awyddus i weithio gyda datblygiad cyfagos. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y gallai'r cwmni newydd chwarae rhan wrth weithio ar ran cymunedau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Gallai'r cwmni weithredu fel parti i gontract, naill ai gyda'r gymuned fel partner gweithredol, neu lle nad oes grŵp cymunedol addas. Y diben fyddai dod o hyd i ffyrdd i gymunedau fod yn berchen ar ddatblygiadau cyfagos a chael budd ohonynt, heb orfod delio â chymhlethdod datblygiadau masnachol.
Cwestiwn 17:
Ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru osod disgwyliad polisi y dylai rhywfaint o berchnogaeth leol (er enghraifft rhwng 15 a 25%) fod yn ofynnol ar gyfer prosiectau ynni mawr (>5MW) yng Nghymru?
Cwestiwn 18:
Pa dystiolaeth sydd gennych chi fod awydd ymhlith cymunedau, llywodraeth leol a busnesau i ymgymryd â chyfleoedd rhanberchnogaeth ym maes cynhyrchu?
Cwestiwn 19:
Pa gapasiti a gallu sydd eu hangen i gyflawni lefel uwch o gynhyrchu dan berchnogaeth leol drwy ranberchnogaeth? Pa sefydliadau sy'n gweithredu yn y maes hwn ar hyn o bryd?
Cwestiwn 20:
Mae rhanberchnogaeth yn anelu at gadw gwerth yng Nghymru. Ydych chi'n cytuno na ddylid disgwyl i brosiectau Trydan Gwyrdd Cymru gyflawni gofyniad rhanberchnogaeth, gan eu bod eisoes o dan berchnogaeth gyhoeddus lwyr?
Cwestiwn 21:
Ydych chi'n cytuno y gallai'r cwmni newydd chwarae rhan wrth sicrhau perchnogaeth leol neu ranberchnogaeth lle na all cymunedau wneud hyn eu hunain?
Cronfeydd Budd Cymunedol (Swyddogaeth 6)
Ar wahân i unrhyw fath o berchnogaeth, mae prosiectau ynni dan berchnogaeth breifat fel arfer yn darparu cronfeydd budd cymunedol, er bod hyn yn bennaf berthnasol i brosiectau gwynt a solar ar y tir. Bydd prosiectau dan berchnogaeth gyhoeddus a ddatblygir gan Trydan Gwyrdd Cymru hefyd yn darparu cronfeydd budd cymunedol. Wrth i lefel y datblygiadau barhau, mae cyfle i ddod â'r cyllid hwn ynghyd i gyflawni effeithiau hirdymor ehangach i bobl Cymru, yn ogystal â chefnogi'r rhai sydd gerllaw'r datblygiadau.
Nid yw pob man yn addas fel lleoliad cynhyrchu, ac nid oes unrhyw gydberthynas glir rhwng ardaloedd lle mae datblygiadau yn digwydd ac ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a fyddai'n rhesymol i gyfran o'r gwerth a gynhyrchir gan brosiectau cynhyrchu ynni ddarparu buddiannau ledled Cymru yn ogystal ag i'r cymunedau sy'n eu cynnal. Nod unrhyw fecanwaith genedlaethol fyddai ategu'r buddiannau y byddai cymunedau sy'n cynnal prosiectau yn eu cael, yn hytrach na'u disodli.
Y feddylfryd gynnar yw y gallai cyfraniadau at Gronfa Cyfoeth Ynni Cymru (caiff yr enw ei sefydlu fel rhan o waith yn y dyfodol) ganiatáu gwerth o brosiectau i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ogystal â'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle mae prosiectau'n cael eu cyflawni. Gellid cyflawni hyn drwy weithio gyda datblygwyr a chymunedau i bennu blaenoriaethau ariannu y cytunwyd arnynt. Byddwn yn gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru a rhanddeiliaid ehangach i ystyried sut y gellid ystyried buddiannau o safbwynt strategol er mwyn cyflawni effeithiau ehangach fel rhan o system decach. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod rhagor o wybodaeth ar gael am y cronfeydd budd cymunedol sydd eisoes ar waith.
Swyddogaethau newydd i'r cwmni
Yn ogystal â swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan gyrff presennol, gallai'r cwmni newydd ymgymryd â gweithgareddau newydd gyda'r nod hirdymor o gyflymu system ynni glân a mynd i'r afael â biliau ynni i dalwyr biliau yng Nghymru.
Mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â'r grid ar gyfer diwydiant (Swyddogaeth 4)
Gallai'r cwmni ddatblygu i chwarae rhan wrth fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â'r grid, er mwyn cefnogi ein dull o ddiwallu anghenion lleol drwy ddulliau cynhyrchu lleol.
Fel y disgrifiwyd eisoes, mae cynllun hirdymor i sefydlu grid yr 21ain ganrif ledled Prydain Fawr, a fydd yn newid unwaith mewn canrif. Er bod cwmnïau rhwydwaith yng Nghymru yn gweithio'n galed ar fuddsoddiadau tymor canolig, bydd hyn yn cymryd blynyddoedd o hyd, ac ni fydd cyfyngiadau ar y grid trosglwyddo yn cael eu datrys yn llawn tan ddiwedd y 2030au.
Mae angen i ni helpu diwydiant i ddod o hyd i atebion gwell i'r heriau presennol, fel y gallant ehangu a chreu safleoedd mwy cynhyrchiol yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth y DU dîm Cysylltiadau Cyflymu, sy'n canolbwyntio ar y prosiectau masnachol mwyaf yn y DU, ac yn gweithredu fel brocer i weld pa atebion dros dro y gellid eu datblygu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni swyddogaeth debyg, gan weithio gyda chwmnïau rhwydwaith i dynnu sylw at heriau brys ac i ddod â'r rhai hynny sy'n rhan o'r broses ynghyd i nodi atebion, ond ar raddfa fach ac fesul achos.
Gallai'r cwmni chwarae rhan wrth gyflymu cysylltiadau grid. Gallai hyn fod fel cyfryngwr i gydlynu neu fynd i'r afael â rhwystrau, yn debyg i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd. Gallai hyn ehangu i chwarae rhan llawer mwy gweithredol, gan roi cymorth wrth lunio atebion "y tu ôl i'r mesurydd" ar wahanol raddfeydd ar gyfer grwpiau o fusnesau diwydiannol neu fasnachol na fyddent o bosibl yn gweithio gyda'i gilydd fel arall. Gallai hyn alluogi gweithgarwch busnes a datgarboneiddio gan y gallai dulliau cynhyrchu annibynnol ddiogelu mwy o fusnesau rhag codiadau sydyn mewn costau ynni wedi'u hachosi gan brisiau ynni uchel.
Cwestiwn 22:
Pa rôl y dylai'r cwmni ynni cyhoeddus i Gymru ei chwarae wrth helpu busnesau i fynd i'r afael â chyfyngiadau o ran y grid a chostau ynni, a pha gyfrifoldebau ddylai aros gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau rhwydwaith a NESO?
Ardal brawf
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Ynni Cymru a Rhaglen Arloesi Hinsawdd Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi arloesedd lle y bo'n bosibl. Mae'r sector cymunedol wedi cydweithio ledled y DU i gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i'r gyfundrefn reoleiddio sy'n galluogi mwy o opsiynau cyflenwi lleol.
Bydd gan swyddogaeth Ynni Cymru yn y cwmni newydd rôl yn profi modelau newydd i weld pa newidiadau rheoleiddio eraill y gallai fod eu hangen ledled Prydain Fawr. Y tu hwnt i hynny, mae Llywodraeth Cymru y awyddus iawn i Gymru fod yn gartref i arloesi, gan brofi dulliau newydd ac elwa ar y wybodaeth arloesol rydym yn ei datblygu. Mae gennym gyfle i leihau'r risg o ddiwygio cenedlaethol drwy dreialu diwygiadau a'u profi yng Nghymru yn gyntaf lle byddant yn cyflawni ein hamcanion a'n blaenoriaethau. Rydym am ddefnyddio ein pŵer ein hunain gartref i greu gwerth a chynyddu gwydnwch mewn ffordd y gellir ei hehangu ledled Cymru a thu hwnt.
Rydym yn awyddus iawn i glywed eich safbwyntiau ar y meysydd lle gallai ffocws ar Gymru gyflawni enillion gwirioneddol, a'r rôl y gall y cwmni newydd ei chwarae yn y maes hwnnw. Yn arbennig, hoffem glywed am brosiectau arbrofol lle gall Llywodraeth Cymru weithio'n uniongyrchol gydag Ofgem i'w gwireddu.
Cwestiwn 23:
Pa feysydd y dylai Llywodraeth Cymru, a'r cwmni newydd maes o law, ganolbwyntio arnynt i gyflawni'r uchelgais i Gymru fod yn ardal brofi ar gyfer systemau ynni clyfar?
Mae'r cwmni newydd yn cynnig cyfle i gyflwyno dull diwygiedig o gyflawni canlyniadau ynni yng Nghymru. Yn erbyn y darlun cyllid cyhoeddus heriol, rydym yn nodi uchelgais i gyflawni mwy o ffyniant o ynni.
Cwestiwn 24:
Pa weithgareddau eraill yr hoffech chi weld y cwmni yn eu cynnal i gefnogi'r nod hirdymor o ostwng biliau ynni, gan gydnabod y cyfyngiadau ar gyllid sector cyhoeddus?
8. Llesiant cenedlaethau'r dyfodol
Mae'r cynigion hyn yn anelu at gefnogi nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel a ganlyn:
Cymru lewyrchus
Bydd mwy o brosiectau a reolir yn lleol sy'n hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol cyn belled â phosibl ac yn creu incwm i Gymru drwy gydol oes y prosiectau yn cynyddu llewyrch.
Cymru gydnerth
Mae cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, yn enwedig ar lefel leol, yn cynyddu gallu Cymru fel cenedl i gynnal neu wella amgylchedd naturiol bioamrywiol a all addasu i newid, yn enwedig i newid yn yr hinsawdd. Gall mwy o systemau lleol clyfar helpu i amddiffyn rhag toriadau pŵer.
Cymru iachach
Mae mwy o gynhyrchu adnewyddadwy yn disodli tanwyddau ffosil a gall arwain at aer glanach. Gall systemau ynni lleol mwy effeithlon gyda chostau is arwain at gartrefi cynhesach, lleihau tlodi tanwydd ac amgylcheddau iachach.
Cymru sy'n fwy cyfartal
Gall cadw buddiannau prosiectau i bobl Cymru ddarparu mwy o fuddsoddiad mewn cymunedau a gafodd eu gadael ar ôl wrth i hen ddiwydiannau ddiflannu.
Cymru o gymunedau cydlynus
Gall bod yn berchen ar asedau o fewn cymuned, gyda buddsoddiad lleol a phrosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau cymunedol, gynyddu cydlyniad a hyder cymunedol.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
Gall creu swyddi lleol gwerth uchel wrth weithredu prosiectau ynni roi gwell rhagolygon i bobl ifanc yn lleol yn eu cymunedau eu hunain yn hytrach na symud i ffwrdd.
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Bydd cyflymu'r broses trawsnewid ynni a chael gwared ar danwyddau ffosil o'r system ynni yn cael effaith ar allyriadau byd-eang, gan helpu i leihau effeithiau anochel newid yn yr hinsawdd.
9. Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Ein gweledigaeth yw creu un cwmni ynni cenedlaethol i Gymru, sy'n eiddo i bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru, â chylch gwaith clir i leihau biliau yn y tymor canolig i'r tymor hwy.
10. Rhoi'r newid ar waith
Byddwn yn gweithio gyda'r sefydliadau sydd â'r cysylltiad agosaf â'r newidiadau arfaethedig uniongyrchol, Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a darparwyr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn deall y newidiadau arfaethedig a'n bod yn glir ynghylch effeithiau a buddiannau unrhyw newidiadau. Rydym yn awyddus iawn i gynnig sicrwydd ac eglurder cyn gynted â phosibl i'r bobl hynny y gallai'r cynigion hyn effeithio ar eu swyddi.
Ar ôl i ni gael adborth o'r ymgynghoriad, byddwn yn llunio ein cynigion terfynol yn unol â'r canfyddiadau ac yn cyhoeddi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'n debygol y bydd angen i ni ymgynghori'n fanwl bryd hynny â'r bobl a'r sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Wedyn byddwn yn cyhoeddi cynllun trawsnewid yn nodi manylion y newidiadau a'r amserlen ddisgwyliedig.
Crynodeb o gwestiynau'r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Cwestiwn 2
Ydych chi'n cytuno ei bod hi'n gwneud synnwyr defnyddio'r cwmni presennol, Trydan Gwyrdd Cymru, fel sail ar gyfer y cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru?
Cwestiwn 3
Gan ystyried ei swyddogaethau arfaethedig, a oes unrhyw drefniadau llywodraethu penodol a fyddai o fudd i'r cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, yn eich barn chi?
Cwestiwn 4
A ddylai'r cwmni newydd gadw'r enw Trydan Gwyrdd Cymru, mabwysiadu'r enw Ynni Cymru, neu ddefnyddio enw gwahanol? Esboniwch eich dewis.
Cwestiwn 5
Ydych chi'n cytuno y dylai fod gan y cwmni ynni newydd rôl arweinyddiaeth a'r gallu i nodi a sicrhau cyfleoedd ariannu newydd sy'n helpu i gyflawni ei ddiben a'i genhadaeth?
Cwestiwn 6
Pa fodelau, mecanweithiau neu ofynion y dylid eu defnyddio i sicrhau bod y cwmni'n dychwelyd y lefel gywir o werth i Gymru? Sut y dylai'r cwmni gydbwyso ei angen am adnoddau i gyflawni â'r gofyniad i ddychwelyd gwerth i bobl?
Cwestiwn 7
Ydych chi'n cytuno â'r egwyddor y dylid cynnig ardaloedd addas o dir cyhoeddus, sy'n addas i'w datblygu, i'r cwmni dan berchnogaeth gyhoeddus yn gyntaf i ystyried eu datblygu er budd y cyhoedd?
Cwestiwn 8
O dan ba amgylchiadau y dylai'r cwmni werthu prosiectau sydd wedi cael caniatâd yn hytrach na chadw perchnogaeth a hawliau gweithredu?
Cwestiwn 9
Ydych chi'n credu y dylai'r cwmni anelu at berchnogaeth 100% gan y sector cyhoeddus yng Nghymru o'i brosiectau, neu a ddylai edrych yn ehangach am gyfalaf sydd ar gael? Oes gennych chi unrhyw syniadau eraill o ran codi cyfalaf?
Cwestiwn 10
Ydych chi'n cytuno y dylai swyddogaethau cyflawni Ynni Cymru drosglwyddo i'r cwmni? Os na, ble fyddai'n lleoliad mwy priodol iddynt?
Cwestiwn 11
Ydych chi'n cytuno y dylai swyddogaeth bolisi Ynni Cymru drosglwyddo i Lywodraeth Cymru? Os na, ble fyddai'n lleoliad mwy priodol iddi?
Cwestiwn 12
Ydych chi'n cytuno bod symud Ynni Cymru o grantiau cyfalaf i fodel buddsoddi yn newid rhesymegol?
Cwestiwn 13
Ydych chi'n cytuno y dylai darparu cymorth technegol i grwpiau ynni cymunedol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy fod yn un o swyddogaethau'r cwmni newydd?
Cwestiwn 14
Ydych chi'n cytuno y dylid parhau i ddarparu grantiau cyfalaf a benthyciadau a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer y prosiectau hyn?
Cwestiwn 15
Ydych chi'n cytuno y byddai'n gwneud synnwyr cadw olynydd i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos gyda'r cwmni newydd (o bosibl drwy 'un drws ffrynt' neu rywbeth tebyg) ond gan ganolbwyntio ar weithgarwch hinsawdd a natur o dan y portffolio Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd?
Cwestiwn 16
Beth yw'r risgiau a'r cyfleoedd allweddol sy'n gysylltiedig â chadw olynydd ar wahân i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, o gymharu ag integreiddio holl swyddogaethau'r Gwasanaeth Ynni i'r cwmni newydd?
Cwestiwn 17
Ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru osod disgwyliad polisi y dylai rhywfaint o berchnogaeth leol (er enghraifft rhwng 15 a 25%) fod yn ofynnol ar gyfer prosiectau ynni mawr (>5MW) yng Nghymru?
Cwestiwn 18
Pa dystiolaeth sydd gennych chi fod awydd ymhlith cymunedau, llywodraeth leol a busnesau i ymgymryd â chyfleoedd rhanberchnogaeth ym maes cynhyrchu?
Cwestiwn 19
Pa gapasiti a gallu sydd eu hangen i gyflawni lefel uwch o gynhyrchu dan berchnogaeth leol drwy ranberchnogaeth? Pa sefydliadau sy'n gweithredu yn y maes hwn ar hyn o bryd?
Cwestiwn 20
Mae rhanberchnogaeth yn anelu at gadw gwerth yng Nghymru. Ydych chi'n cytuno na ddylid disgwyl i brosiectau Trydan Gwyrdd Cymru gyflawni gofyniad rhanberchnogaeth, gan eu bod eisoes o dan berchnogaeth gyhoeddus lwyr?
Cwestiwn 21
Ydych chi'n cytuno y gallai'r cwmni newydd chwarae rhan wrth sicrhau perchnogaeth leol neu ranberchnogaeth lle na all cymunedau wneud hyn eu hunain?
Cwestiwn 22
Pa rôl y dylai'r cwmni ynni cyhoeddus i Gymru ei chwarae wrth helpu busnesau i fynd i'r afael â chyfyngiadau o ran y grid a chostau ynni, a pha gyfrifoldebau ddylai aros gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau rhwydwaith a NESO?
Cwestiwn 23
Pa feysydd y dylai Llywodraeth Cymru, a'r cwmni newydd maes o law, ganolbwyntio arnynt i gyflawni'r uchelgais i Gymru fod yn ardal brofi ar gyfer systemau ynni clyfar?
Cwestiwn 24
Pa weithgareddau eraill yr hoffech chi weld y cwmni yn eu cynnal i gefnogi'r nod hirdymor o ostwng biliau ynni, gan gydnabod y cyfyngiadau ar gyllid sector cyhoeddus?
Cwestiwn 25
Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
Cwestiwn 26
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn iddynt:
- gael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 27
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich ymatebion erbyn 30 Tachwedd 2026, drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- cwblhau ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb, a’i hanfon drwy e-bost at: YmatebionYnni-EnergyResponses@gov.wales
- lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a'i phostio at:
Ymgynghoriad ar ffurfio cwmni ynni cyhoeddus cyfunol i Gymru
Yr Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e) GDPR).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
