Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a chyllid i sefydliadau sy'n datblygu ynni cymunedol a systemau ynni lleol clyfar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw Ynni Cymru

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gyda chefnogaeth Partneriaethau Lleol.

Amcanion y rhaglen

  • cynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol
  • gwneud y mwyaf o brosiectau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol
  • cyflymu defnyddio systemau ynni lleol clyfar (SLES)
  • hwyluso pontio cyfiawn, gan gadw'r manteision yng nghymunedau Cymru.

Beth yw systemau ynni lleol clyfar (SLES)

O fewn ardal leol, mae SLES yn dod â'r isod ynghyd:

  • cynhyrchu ynni
  • storio
  • rheoli galw
  • seilwaith rhwydwaith lleol

Mae SLES yn helpu cymunedau i ddefnyddio mwy o ynni glân lleol a gwella effeithlonrwydd.

Pwy all gael cymorth

Mae cymorth ar gael i sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys:

  • mentrau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector
  • sefydliadau'r sector cyhoeddus
  • busnesau bach a chanolig (BBaChau)

Cymorth sydd ar gael

Gwiriad iechyd ar gyfer asedau ynni adnewyddadwy

Adolygiad am ddim i sefydliadau yng Nghymru sydd ag asedau ynni adnewyddadwy. Asesu perfformiad, trefniadau masnachol a chyfleoedd ar gyfer technoleg glyfar. Mae angen bodloni meini prawf cymhwystra.

Cymorth grid

Cyngor i helpu prosiectau i weithio ac i gysylltu â 'r rhwydwaith trydan. Mae cymorth ar gael i fentrau cymunedol.

Datblygu prosiectau arbenigol

Helpu i nodi a darparu SLES, gydag offer ar gyfer storio batri a mathau eraill o storio ac ar gyfer technolegau gwres carbon isel.

Llwybr i'r farchnad

Cymorth i ddod o hyd i'r ffordd orau o werthu neu gyflenwi ynni lleol.

Cyllid cyfalaf

Grantiau Llywodraeth Cymru i ddarparu SLES yng Nghymru pan fydd rowndiau cyllido ar agor. Rhagor o wybodaeth: Ynni Cymru: rhaglen ariannu grant cyfalaf 2025 i 2026

Sut i gael cymorth

I ofyn am gymorth, e-bostiwch ynnicymru@localpartnerships.gov.uk a chynnwys:

  • eich enw a'r math o sefydliad
  • lleoliad y prosiect a chrynodeb byr
  • pa gymorth sydd ei angen arnoch