Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

1. Diben y papur hwn yw rhoi diweddariad ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar Drais ac Aflonyddu yn y Gweithle.

Cefndir

2. Yn y cyfarfod ar 10 Chwefror, cynigiwyd y gallai Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus osod ystyried a chynhyrchu canllawiau ar drais ac aflonyddu yn y gwaith (amddiffyn staff) fel ffocws cychwynnol. Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei brofi ym mhob agwedd ar y sector cyhoeddus gan y rhai mewn rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd a gall gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • cam-drin neu fygythiadau geiriol, gan gynnwys wyneb yn wyneb, ar-lein a dros y ffôn
  • ymosodiadau corfforol.

3. Yn y digwyddiad bord gron a gynhaliwyd ar 7 Ebrill, nodwyd hyn gan undebau llafur a chyflogwyr fel maes sylweddol o bryder ac fel ffrwd waith bosibl.

4. Awgrymodd y Fforwm y dylai gweithgarwch ganolbwyntio ar gwmpasu hyd a lled y broblem, adeiladu data ar arferion da a datblygu dulliau effeithiol i liniaru risgiau i weithwyr rheng flaen. Gallai hyn gynnwys asesu sut i safoni dull y gellir ei hyrwyddo ledled Cymru.

5. Cytunwyd y dylai'r grŵp gael ei gadeirio gan aelod o'r Fforwm ac y byddai aelodaeth y gweithgor yn ehangach na'r Fforwm er mwyn sicrhau'r lefel gywir o gynrychiolaeth ac arbenigedd.

6. Cytunwyd hefyd, fel Grŵp Gorchwyl a Gorffen, y dylid bwrw ymlaen â'r mater yn gyflym a chwblhau'r gwaith o fewn 6 – 12 mis.

Cynnydd hyd yma

7. Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gyda Sharon Davies, CLlLC a Nicky Hughes, RCN yn gyd-gadeiryddion. Mae'r bobl ganlynol wedi cytuno i eistedd ar y grŵp:

  • Sharon Davies (Cadeirydd) - CLlLC (Undeb Llafur)
  • Nicky Hughes (Cadeirydd) - RCN (Undeb Llafur)
  • Gemma Southgate - TSSA (Undeb Llafur)
  • Helen Johns - NASUWT (Undeb Llafur)
  • Mark Roach - CWU (Undeb Llafur)
  • Ceri Williams - TUC Cymru (Undeb Llafur)
  • Nelly Adam - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Cyflogwr)
  • Claire White - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Cyflogwr)
  • Adam Leatham - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Cyflogwr)
  • Nina Durant - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)
  • Anne-Louise Davies - Safonau Masnach, CLlLC (Cyflogwr)
  • Catherine Evans - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)
  • Mark Lewis - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)

8. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf trwy Teams ar 12 Mai. Roedd y Grŵp yn cydnabod bod trais/aflonyddu yn erbyn staff rheng flaen yn broblem gynyddol a nodwyd sawl maes lle'r oedd tystiolaeth/data eisoes wedi'u casglu, gan gynnwys:

  • Swyddogion Safonau Masnach ac Iechyd Anifeiliaid
  • Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn casglu gwybodaeth ers 2020 am ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys yn y sector golau glas
  • Roedd Grŵp Cydweithredol Gwrth-drais y GIG wedi casglu data ar gyfer y gwasanaeth iechyd
  • Roedd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi gwneud rhywfaint o waith i leihau ymosodiadau cŵn ar weithwyr post.

9. Cytunodd y Grŵp y byddai'n ddefnyddiol clywed rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd eisoes ar gael mewn gweithdy i'w gynnal ym mis Mehefin.

Meysydd ffocws posibl

10. O ran meysydd ffocws posibl, nodwyd nad yw achosion o ymosodiadau/cam-drin yn cael eu riportio'n ddigonol a bod darn o waith posibl i annog staff i riportio ymosodiadau/cam-drin yn y gwaith.

11. Fodd bynnag, o ran canolbwyntio ar allbynnau o'r gwaith, cytunwyd y dylid cynnal y gweithdy yn y lle cyntaf er mwyn caniatáu i'r Grŵp nodi unrhyw fylchau yn y dystiolaeth bresennol a phenderfynu ble allai gael yr effaith fwyaf. Byddai penderfyniad wedyn yn cael ei wneud ynghylch a fyddai'r Grŵp yn gweithio tuag at ddatblygu canllawiau/set o egwyddorion neu becyn cymorth.

Y gweithdy

12. Cytunodd y Grŵp y dylid trefnu gweithdy wyneb yn wyneb ym mis Mehefin yn swyddfeydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Heol Dumballs, Caerdydd.

13. Byddai'r dystiolaeth/data presennol yn cael ei rannu yn y sesiwn foreol, a sesiwn y prynhawn wedyn yn trafod meysydd ffocws y Grŵp a'r allbynnau i'w cyflawni.

14. Roedd awgrym y gallai'r Tîm Arloesi yn Trafnidiaeth Cymru (TrC) helpu i hwyluso syniadau fel rhan o sesiwn y prynhawn. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â TrC i geisio trefnu hyn.

15. Byddai arbenigwyr ychwanegol yn cael eu gwahodd i fynychu'r gweithdy gan gynnwys:

  • Shelly Asquith, TUC Cymru, Undeb Llafur
  • Mike Walker, USDAW, Undeb Llafur
  • Jo Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol, Llywodraeth Cymru
  • Laura Reynolds, Y Tîm Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig, Llywodraeth Cymru.

16. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â'r Cyd-gadeiryddion a'r aelodau i drefnu dyddiad addas a llunio agenda ar gyfer y diwrnod.

Camau i’w cymryd

17. Dim angen gweithredu; papur i'w nodi yw hwn. Bydd diweddariad pellach ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus.