Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn disgrifio newidiadau arfaethedig i’r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru.

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • dileu cyfyngiadau ar bresgripsiynu rhai meddyginiaethau gan ymarferwyr cyffredinol drwy dynnu’r meddyginiaethau hynny o’r SLS
  • diwygio geiriad y cyfyngiadau ar yr amgylchiadau y caniateir i ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru roi presgripsiwn am oseltamivir a zanamivir yn unol â nhw

Meddyginiaethau y cynigir eu tynnu o’r SLS

  • Clobazam
  • Aerosol Locabiotal
  • Potel diferu pediatrig Niferex® Elixir 30ml
  • Eli Nizoral® 2%

Cyffuriau ar gyfer anhawster codiad y cynigir eu tynnu o’r SLS

  • Alprostadil
  • Avanafil
  • Sildenafil
  • Tadalafil

Cyfyngiadau nas effeithir arnynt gan y cynigion hyn

Ar ôl cyhoeddi’r adolygiad annibynnol o wasanaethau hunaniaeth rhywedd ar gyfer plant a phobl ifanc ym mis Ebrill 2024, rhoddodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth ar waith i gyfyngu ar allu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt yn rhan o’r GIG ac nad ydynt wedi’u cofrestru yn y DU i bresgripsiynu analogau hormonau sy’n rhyddhau gonadotroffin.

Yn dilyn hynny, gwnaed diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2024 i gyfyngu ar allu ymarferwyr cyffredinol i bresgripsiynu analogau hormonau sy’n rhyddhau gonadotroffin i bobl ifanc o dan 18 oed, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

Mae cyfyngiadau yn yr SLS sy’n ymwneud ag analogau hormonau sy’n rhyddhau gonadotroffin (a elwir hefyd yn “feddyginiaethau atal y glasoed”) y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad.

O ganlyniad, nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnig unrhyw newidiadau i gyfyngiadau presennol yn yr SLS sy’n llywodraethu’r defnydd o analogau hormonau sy’n rhyddhau gonadotroffin.

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Ceisio barn:

  • sefydliadau’r GIG
  • pobl sy’n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol y GIG
  • pobl sy’n darparu gwasanaethau fferyllol y GIG
  • cyrff proffesiynol sydd â diddordeb mewn presgripsiynu neu gyflenwi
  • gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr y meddyginiaethau yr effeithir arnynt
  • y cyrff sy’n eu cynrychioli
  • rhanddeiliaid eraill
  • y cyhoedd ehangach

am y newidiadau arfaethedig i’r SLS yng Nghymru.

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o’r diddordeb mwyaf?

Bydd y newidiadau arfaethedig yn arbennig o berthnasol i:

  • fyrddau iechyd lleol
  • pobl sy’n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol y GIG
  • pobl sy’n darparu gwasanaethau fferyllol y GIG
  • cyrff proffesiynol sydd â diddordeb mewn gwasanaethau presgripsiynu neu gyflenwi’r GIG
  • gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr y meddyginiaethau yr effeithir arnynt
  • y cyrff sy’n eu cynrychioli

Am ba hyd fydd yr ymgynghoriad ar agor?

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos o’r dyddiad cyhoeddi.

Bwriedir i’r cyfnod hwn roi digon o amser i’r canlynol ystyried y cynigion a chyflwyno eu barn:

  • sefydliadau’r GIG
  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • cyrff proffesiynol
  • gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr
  • sefydliadau cynrychiadol
  • cleifion
  • rhanddeiliaid
  • aelodau o’r cyhoedd

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar [rhowch y dyddiad cau yma].

Caiff yr ymatebion a geir yn ystod y cyfnod hwn eu hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth arall sydd ar gael er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch a ddylid rhoi unrhyw ddiwygiadau i’r Cynllun Rhestr Ddetholedig ar waith.

Deall y termau a ddefnyddir yn yr ymgynghoriad hwn

Cyfeirir at ddau fath gwahanol o reswm yn y ddogfen hon.

Rheswm ar yr SLS

Yr amgylchiadau y caniateir i ymarferydd cyffredinol roi presgripsiwn am feddyginiaeth ar y GIG yn unol â nhw o dan y Cynllun Rhestr Ddetholedig.

Rheswm marchnata awdurdodedig

Y defnydd y mae cyffur wedi’i drwyddedu ar ei gyfer gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, fel y’i disgrifir yn awdurdodiad marchnata’r cynnyrch.

Mewn rhai achosion, mae rhesymau marchnata awdurdodedig meddyginiaeth yn ehangach na’r amgylchiadau y caniateir rhoi presgripsiwn ar ei chyfer yn unol â nhw o dan yr SLS.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynghylch a yw rhai o’r cyfyngiadau presgripsiynu statudol hyn yn parhau i fod yn angenrheidiol.

Cyflwyniad

Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS)

Caiff y Cynllun Rhestr Ddetholedig ei nodi yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”).

Mae Atodlen 2 yn nodi rhestr o feddyginiaethau y gellir ond eu presgripsiynu o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan yr amgylchiadau a ddiffinnir yn yr Atodlen ac felly mae’n gosod cyfyngiadau statudol ar bresgripsiynu’r meddyginiaethau hyn ar y GIG, yng Nghymru.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yr SLS yn pennu pa feddyginiaethau y gall Ymarferydd Cyffredinol eu presgripsiynu ar y GIG a’r amgylchiadau penodol y gellir eu presgripsiynu yn unol â nhw.

Lle mae meddyginiaethau’n ddarostyngedig i gyfyngiadau’r SLS, rhaid cymeradwyo presgripsiynau i gadarnhau bod y claf yn bodloni’r meini prawf penodedig a nodir yn Atodlen 2, er mwyn cefnogi prosesau cyflenwi ac ad-dalu priodol.

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 yn nodi na chaniateir i ymarferwyr cyffredinol roi presgripsiwn am feddyginiaethau sydd wedi’u cynnwys yn yr SLS oni bai bod y claf a diben y presgripsiynu yn bodloni’r gofynion perthnasol sydd wedi’u pennu yn Rheoliadau 2004.

Pan roddir presgripsiwn am feddyginiaeth sydd yn yr SLS, rhaid i’r ymarferydd cyffredinol anodi’r presgripsiwn â “SLS” i gadarnhau bod y gofynion hyn wedi’u bodloni.

Ni all fferyllfeydd cymunedol gyflenwi presgripsiynau ar gyfer y meddyginiaethau hyn oni bai eu bod wedi’u cymeradwyo yn y modd hwn.

Mae’r cyfyngiadau ar feddyginiaethau a phresgripsiynu a nodir yn Atodlen 2 wedi’u hatgynhyrchu yn Rhan XVIIIB o’r Tariff Cyffuriau, dogfen sy’n nodi pa feddyginiaethau a chyfarpar y gellir eu presgripsiynu ar y GIG, ynghyd â’r amodau y gellir eu cyflenwi a’u had-dalu yn unol â nhw.

Cyflwynwyd yr SLS yn wreiddiol i leihau’r risg o bresgripsiynu amhriodol mewn amgylchiadau lle roedd tystiolaeth o effeithiolrwydd yn gyfyngedig ar y pryd, lle roedd pryderon penodol ynghylch diogelwch cleifion neu stiwardiaeth presgripsiynu, neu lle roedd angen rheoli amlygiad y GIG i gostau uchel neu ansicr.

Y rhesymeg dros newid

Dros amser, mae’r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn tystiolaeth glinigol, safonau gofal a chanllawiau.

Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau wedi aros yr un fath ers i’r rheoliadau presennol ddod i rym yn 2004.

Gan fod ymarfer clinigol a’r sylfaen dystiolaeth wedi datblygu, mae hyn yn codi’r cwestiwn ai’r cyfyngiadau hyn yw’r ffordd fwyaf priodol a chymesur o reoli ymddygiadau presgripsiynu o hyd.

Ar hyn o bryd, mae gwneud newidiadau i’r SLS yn golygu bod angen diwygio’r rheoliadau.

Mae’r broses o wneud y diwygiadau hyn yn cymryd cryn dipyn o amser.

O ganlyniad, nid yw’r trefniadau presennol yn ddigon ymatebol i dystiolaeth newydd neu ganllawiau a gaiff eu diweddaru.

Gall hyn gyfyngu ar y gallu i bresgripsiynu meddyginiaethau yn unol â’r dystiolaeth ddiweddaraf o ymarfer clinigol.

Mae systemau eraill ar waith sy’n dylanwadu ar benderfyniadau ymarferwyr cyffredinol a phresgripsiynwyr eraill mewn perthynas â thriniaethau.

Caiff y rhain eu defnyddio’n gyffredin mewn ymarfer yn y GIG ac maent yn amlwg yn effeithiol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • archwilio ac adborth
  • defnyddio dangosyddion presgripsiynu sy’n mesur ymddygiad presgripsiynu ac amrywiadau ymhlith ymarferwyr o gymharu â safonau y cytunwyd arnynt

Mae tystiolaeth yn dangos y gall y dulliau hyn fod yn hynod effeithiol wrth wella ymddygiad presgripsiynu.

Mae hyn yn cynnwys:

  • lleihau achosion o bresgripsiynu’n amhriodol
  • gwella cysondeb â chanllawiau clinigol

Dangoswyd bod archwiliadau ac adborth yn gwella presgripsiynu mewn ystod o feysydd ac mae tystiolaeth gadarn sy’n dangos y gall y dulliau gweithredu hyn arwain at welliannau cyson mewn ymarfer drwy newid ymddygiad yn barhaol.

Cânt eu defnyddio’n eang mewn systemau gofal iechyd ac ystyrir eu bod yn ffordd ymarferol ac effeithiol o ddylanwadu ar ymddygiad clinigol.

Yng Nghymru, mae’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol yn darparu enghraifft glir o’r dull gweithredu hwn.

Caiff y dangosyddion hyn eu datblygu gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ac maent yn helpu byrddau iechyd, clystyrau gofal sylfaenol a phresgripsiynwyr i gymharu’r ffordd y maent yn presgripsiynu â safonau y cytunwyd arnynt, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae hyn yn helpu i nodi meysydd i’w gwella.

Mae monitro a meincnodi’n rheolaidd yn erbyn y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol yn gysylltiedig â newidiadau mewn patrymau presgripsiynu.

Mae hyn yn cynnwys lleihad yn y defnydd o feddyginiaethau risg uchel neu werth isel mewn rhai meysydd blaenoriaeth, megis presgripsiynu opioidau.

Mae’r dulliau gweithredu anstatudol hyn yn cynnig ffordd effeithiol a chymesur o ddylanwadu ar ymddygiad presgripsiynu.

Maent hefyd yn cynnig mwy o hyblygrwydd na rheolaeth statudol a gellir eu diweddaru’n gyflymach mewn ymateb i dystiolaeth newydd a newidiadau mewn canllawiau.

Felly rydym wedi adolygu’r meddyginiaethau a’r cyfyngiadau o fewn yr SLS er mwyn penderfynu a oes angen cyfyngiadau statudol ar bresgripsiynu o hyd ym mhob achos.

Hefyd, ystyriodd yr adolygiad a allai’r un nodau, sef presgripsiynu diogel, priodol a chosteffeithiol, gael eu cyflawni drwy ddulliau gweithredu anstatudol eraill.

Mae’r cynigion canlynol wedi’u llywio gan yr adolygiad.

Cynnig 1: Tynnu clobazam o’r SLS

Cefndir

Meddyginiaeth bensodiasepin yw clobazam.

Cafodd ei gynnwys yn yr SLS er mwyn caniatáu iddo gael ei bresgripsiynu i reoli ffitiau sy’n gysylltiedig ag epilepsi gan gyfyngu ar ei ddefnydd i reoli gorbryder, er mwyn adlewyrchu pryderon hanesyddol ynghylch defnydd amhriodol o bensodiasepin mewn gofal sylfaenol.

Statws presennol ar yr SLS a defnydd

Rheswm ar yr SLS

  • Trin epilepsi

Rhesymau marchnata awdurdodedig

  • Trin epilepsi
  • Rheoli gorbryder am gyfnod byr

Mae data presgripsiynu ar gyfer Cymru yn dangos bod clobazam yn parhau i gael ei ddefnyddio, a chyflenwyd ychydig mwy o eitemau presgripsiwn yn 2024 i 2025 o gymharu â 2023 i 2024.

Fodd bynnag, mae’r defnydd cyffredinol o clobazam yn isel o hyd a dim ond 29,000 o eitemau a gyflenwyd yn 2024 i 2025.

Mae fformiwleiddiadau trwyddedig ar gael o hyd, sy’n cefnogi ei berthnasedd clinigol parhaus.

Mae bensodiasepinau eraill ar gael ar gyfer rhesymau tebyg, gan gynnwys:

  • clonazepam ar gyfer epilepsi
  • diazepam, lorazepam ac oxazepam ar gyfer gorbryder

Ystyriaethau clinigol

Byddai tynnu clobazam o’r SLS yn symleiddio trefniadau presgripsiynu heb effeithio’n andwyol ar ofal epilepsi, gan y byddai cleifion yn parhau i gael clobazam lle y bo’n briodol yn glinigol, ond heb y gofyniad gweinyddol am gymeradwyaeth drwy’r SLS.

Fodd bynnag, byddai ei dynnu yn caniatáu i clobazam gael ei bresgripsiynu i reoli gorbryder am gyfnod byr.

O gymharu â bensodiasepinau eraill fel lorazepam ac oxazepam, mae clobazam yn gweithredu am gyfnod hirach, a all gynyddu’r risg o dawelyddu ac effeithiau ‘pen mawr’ y diwrnod canlynol, sy’n golygu ei fod yn ddewis triniaeth llai addas.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cleifion ag amhariad hepatig a byddai angen i bresgripsiynwyr ystyried hyn.

Bydd tynnu’r cyfyngiad hefyd yn golygu na fydd pobl y mae eu hepilepsi yn cael ei drin â clobazam yn wynebu’r risg bosibl o oedi neu darfu mewn perthynas â’u triniaeth mwyach am nad yw’r anodiad SLS wedi’i ychwanegu at eu presgripsiwn.

Mae risg fach y bydd gwallau o ran meddyginiaethau yn deillio o ddryswch rhwng clobazam a clonazepam gan fod yr enwau’n debyg.

Mae mesurau diogelu ar waith ar draws systemau presgripsiynu a chyflenwi’r GIG gan fod meddyginiaethau ag enwau tebyg yn fwy tebygol o gael eu dewis ar gam.

Gall tynnu’r anodiad SLS gynyddu’r risg hon ychydig os yw’r anodiad SLS yn gweithredu fel hysbysiad atgoffa at ddibenion diogelwch ar hyn o bryd, ond ystyrir bod y risg hon yn isel.

Ystyriaethau ariannol ac o ran y system

Roedd cyfanswm y gwariant gofal sylfaenol yng Nghymru (WP10 a WP10HP) ar clobazam yn 2024 i 2025 tua £650,000, sef gostyngiad o tua £770,000 yn y flwyddyn flaenorol.

Gwelwyd y gostyngiad hwn er gwaethaf y cynnydd yn nifer yr eitemau presgripsiwn a chyfanswm y Dosau Dyddiol Diffiniedig (DDD) (ffordd safonol o gymharu’r defnydd o feddyginiaeth, yn seiliedig ar y dos dyddiol cyfartalog i oedolyn at ei phrif ddiben), sy’n awgrymu bod y gost fesul uned wedi lleihau.

Er y gellid presgripsiynu clobazam i drin gorbryder am gyfnod byr, a allai arwain at gynnydd mewn presgripsiynu a gwariant cysylltiedig o fewn GIG Cymru, mae’n debygol y bydd diffyg ymwybyddiaeth ymhlith presgripsiynwyr y gellir ei ddefnyddio am y rheswm hwn yn cyfyngu ar unrhyw gynnydd o’r fath.

Bydd rheolaethau presennol llyfrau fformiwlâu byrddau iechyd a chanllawiau cenedlaethol ar bresgripsiynu bensodiasepin hefyd yn cyfrannu at hynny.

Yn ogystal, mae’r Dangosydd Presgripsiynu Cenedlaethol ar gyfer bensodiasepinau a chyffuriau Z (fel zopiclone a zolpidem) yn dangos tuedd gyffredinol o ostyngiad yn y defnydd ar draws y dosbarthiadau cyffuriau hyn.

Mae hyn yn awgrymu symudiad parhaus oddi wrth ddefnyddio bensodiasepin mewn ymarfer arferol.

Gellid monitro presgripsiynu drwy Ddangosydd Presgripsiynu Cenedlaethol Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gyfer cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder, ac ychwanegu clobazam at y rhestr a gaiff ei monitro os bydd angen.

Byddai mesurau diogelu clinigol rheolaidd yn parhau i fod ar waith i gefnogi prosesau presgripsiynu priodol, gan gynnwys:

  • canllawiau cenedlaethol a lleol ynghylch defnyddio bensodiasepinau
  • trefniadau rhestr fformiwlâu byrddau iechyd
  • adolygu, archwilio ac adborth o ran prosesau presgripsiynu
  • monitro drwy systemau rheoli meddyginiaethau presennol GIG Cymru

Ystyrir bod y gweithdrefnau hyn yn ddigonol i nodi ac ymateb i achosion amhriodol neu annisgwyl o bresgripsiynu a darparu dulliau mwy cymesur ar gyfer rheoli risgiau, yn hytrach na pharhau â chyfyngiad statudol yn yr SLS.

Rhesymeg dros y cynnig

Nid yw’n ymddangos bod angen cyfyngiad statudol ar Clobazam drwy’r SLS mwyach er mwyn sicrhau y caiff ei ddefnyddio’n briodol, gan fod modd rheoli risgiau clinigol a diogelwch drwy ganllawiau, llyfrau fformiwlâu a phrosesau goruchwylio presgripsiynu.

Mae anfanteision cymharol clobazam o gymharu â bensodiasepinau eraill, y defnydd gostyngol o’r grŵp hwn o feddyginiaethau yn gyffredinol, a gwelededd parhaus Dangosydd Presgripsiynu Cenedlaethol sy’n olrhain newidiadau o ran y defnydd o bensodiasepinau, yn golygu nad ydym yn credu y bydd tynnu clobazam o’r SLS yn arwain at gynnydd ystyrlon yn y cyfraddau presgripsiynu.

Efallai y bydd tynnu clobazam o’r SLS yn arwain at fanteision bach i rai cleifion.

Casgliad

Byddai tynnu clobazam o’r SLS yn symleiddio’r broses bresgripsiynu ac yn adlewyrchu ymarfer clinigol modern.

Er ei bod yn bosibl y caiff ei ddefnyddio’n fwy i reoli gorbryder am gyfnod byr, gellir lliniaru hyn drwy fecanweithiau stiwardiaeth presgripsiynu presennol ar gyfer bensodiasepinau.

O ystyried bod clobazam yn rhatach nag opsiynau ail drywydd a ddefnyddir yn gyffredin, ni ragwelir unrhyw risg ariannol sylweddol nas rheolir.

Cwestiwn yr ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu clobazam o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 2: Tynnu aerosol Locabiotal® o’r SLS

Cefndir

Chwistrell drwynol ac orofwcosol gwrthfiotig sy’n gweithredu’n lleol oedd Locabiotal® (fusafungine) a oedd wedi’i drwyddedu ar gyfer heintiau a chyflyrau llidiol y system anadlu uchaf, gan gynnwys rhinitis, rhinopharyngitis, tonsilitis a laryngitis.

Mae llawer o’r cyflyrau hyn yn hunan-gyfyngol ac yn aml yn feirysol.

Pan gafodd ei gynnwys yn yr SLS, roedd tystiolaeth gyfyngedig o fudd clinigol ystyrlon a phryder ynghylch presgripsiynu ar raddfa eang mewn gofal sylfaenol ar gyfer cyflyrau lle nad oedd angen triniaeth wrthficrobaidd yn aml.

Statws presennol ar yr SLS a defnydd

Rheswm ar yr SLS

  • Trin heintiau a llid ar yr oroffaryncs

Rhesymau marchnata awdurdodedig

  • Dim awdurdodiad marchnata ar hyn o bryd

Tynnwyd Locabiotal® yn ôl o’r farchnad yn dilyn adolygiad rheoleiddio ar draws yr UE a nododd risg o adweithiau alergaidd prin ond difrifol, gan gynnwys caethdra ac anaffylacsis.

Dirymwyd yr awdurdodiadau marchnata.

Nid yw’r cynnyrch wedi cael ei bresgripsiynu yng Nghymru ers sawl blwyddyn.

Ystyriaethau clinigol

Daeth y rheoleiddwyr i’r casgliad na ellid lliniaru’r risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â Locabiotal® yn ddigonol mewn ymarfer clinigol arferol a’u bod yn gorbwyso ei fanteision cyfyngedig a chlinigol ymylol.

Ystyriaethau ariannol ac o ran y system

Nid oes unrhyw bresgripsiynu na gwariant yn gysylltiedig â Locabiotal® yng Nghymru ar hyn o bryd.

Rhesymeg dros y cynnig

Nid yw’r cynnyrch ar gael mwyach, mae’n ddarfodedig yn glinigol ac nid yw’n berthnasol i bresgripsiynu yn y GIG bellach.

Casgliad

Mae tynnu aerosol Locabiotal® yn cynrychioli diweddariad gweinyddol sy’n adlewyrchu’r ymarfer presennol a’r ffaith ei fod wedi cael ei dynnu’n ôl o’r farchnad.

Nid oes risg glinigol nac ariannol yn gysylltiedig â’r cynnig hwn.

Cwestiwn yr ymgynghoriad

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu aerosol Locabiotal® o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 3: Tynnu potel diferu pediatrig Niferex® Elixir 30 ml o’r SLS

Cefndir

Dull o gyflwyno paratoad haearn hylifol i’w gymryd drwy’r geg oedd Niferex® Elixir (fformiwleiddiad pediatrig 30 ml) a drwyddedwyd i drin ac atal anemia oherwydd diffyg haearn mewn babanod a phlant.

Statws presennol ar yr SLS a defnydd

Rheswm ar yr SLS

  • Proffylacsis a thrin diffyg haearn

Rhesymau marchnata awdurdodedig

  • Nid yw’r dull hwn o gyflwyno’r cynnyrch ar gael mwyach

Ystyriaethau clinigol

Mae paratoadau haearn amgen sydd ag effeithiolrwydd cymharol ar gael.

Ystyriaethau ariannol ac o ran y system

Nid yw wedi cael ei bresgripsiynu yng Nghymru ers 2019.

Nid oes unrhyw bresgripsiynu na gwariant yn gysylltiedig â’r cynnyrch hwn ar hyn o bryd.

Rhesymeg dros y cynnig

Nid yw’r cynnyrch ar gael mwyach ac felly nid yw’n berthnasol yn glinigol bellach.

Casgliad

Mae tynnu’r cynnyrch yn adlewyrchu’r ffaith nad yw ar gael mwyach ac nad yw’n rhan o ymarfer presgripsiynu cyfredol.

Nid oes risg glinigol nac ariannol yn gysylltiedig â’r cynnig hwn.

Cwestiwn yr ymgynghoriad

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu potel diferu pediatrig Niferex® Elixir 30 ml o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 4: Tynnu eli Nizoral® 2% o’r SLS

Cefndir

Eli gwrthffwng argroenol sy’n cynnwys ketoconazole yw eli Nizoral® 2%, ac mae wedi’i drwyddedu ar gyfer heintiau ffyngaidd arwynebol ar y croen.

Cafodd ei gynnwys yn yr SLS er mwyn cyfyngu presgripsiynu i resymau penodol, gan adlewyrchu pryderon hanesyddol ynghylch defnydd eang ar gyfer heintiau ffyngaidd cyffredin.

Statws presennol ar yr SLS a defnydd

Rheswm ar yr SLS

  • Trin dermatitis seborhëig a pityriasis versicolor

Rhesymau marchnata awdurdodedig

  • Triniaeth argroenol ar gyfer heintiau ffyngaidd ar y croen (gan gynnwys heintiau dermatoffyt, candidaidd a Malassezia), fel tarwden, tarwden y traed, pityriasis versicolor a dermatitis seborhëig

Ystyriaethau clinigol

Mae gan ketoconazole argroenol broffil diogelwch sefydledig bellach a phrin y caiff ei amsugno i’r system.

Mae canllawiau cenedlaethol yn cefnogi ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau croen ffyngaidd diffiniedig.

Ystyriaethau ariannol ac o ran y system

Eli Nizoral® 2% yw’r unig eli ketoconazole 30 g sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd ac mae eisoes yn cael ei gyflenwi yng Nghymru i gyflawni presgripsiynau a ysgrifennwyd yn gyffredinol ar gyfer eli ketoconazole 2%.

Fel y cyfryw, nid yw’r cyfyngiad SLS ar eli Nizoral® 2% yn darparu dull rheoli costau ystyrlon ac mae’n creu anghysondeb â chynhyrchion gwrthffwng eraill.

Rhesymeg dros y cynnig

Nid yw’r cyfyngiad yn bodloni ei fwriad polisi gwreiddiol mwyach.

Casgliad

Byddai tynnu’r cynnyrch yn symleiddio prosesau presgripsiynu ac yn gwella cysondeb heb gynyddu risg glinigol nac ariannol.

Cwestiwn yr ymgynghoriad

Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu eli Nizoral® 2% o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 5: Tynnu cyffuriau a ddefnyddir i drin anhawster codiad o’r SLS

Cefndir

Mae meddyginiaethau sydd wedi’u cynnwys yn yr SLS a ddefnyddir i drin anhawster codiad yn cynnwys atalyddion ffosffodiesteras 5 (sildenafil, tadalafil, vardenafil ac avanafil) a’r analog prostaglandin E1, alprostadil.

Cafodd y rhain eu cynnwys yn yr SLS at ddibenion cyfyngu costau yn bennaf pan gawsant eu cyflwyno gyntaf.

Statws presennol ar yr SLS a defnydd

Rheswm ar yr SLS

  • Trin anhawster codiad

Rhesymau marchnata awdurdodedig

  • Trin gorbwysedd rhydwelïol yr ysgyfaint (dulliau penodol o gyflwyno sildenafil a tadalafil)
  • Arwyddion a symptomau hyperplasia prostadol anfalaen (tadalafil)
  • Cynnal amlygrwydd y ductus arteriosus dros dro nes y gellir cynnal llawdriniaeth gywirol neu liniarol mewn babanod sydd â namau cynhenid ac sy’n dibynnu ar y patent ductus i oroesi (dulliau penodol o gyflwyno alprostadil)

O dan yr SLS, mae presgripsiynu meddyginiaethau ar y GIG ar gyfer anhawster codiad wedi’i gyfyngu i ddynion sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd diffiniedig.

Mae’r rhain yn cynnwys anhawster codiad sy’n deillio o ganlyniad i gyflyrau meddygol penodol, sef:

  • diabetes mellitus
  • sglerosis ymledol
  • clefyd Parkinson
  • poliomyelitis
  • canser y prostad
  • anaf difrifol i’r pelfis
  • rhai clefydau niwrolegol genyn unigol
  • spina bifida
  • anaf i linyn asgwrn y cefn

Yn ogystal, mae’r meini prawf yn cynnwys unigolion:

  • yn dilyn llawdriniaeth radical i’r pelfis
  • yn dilyn prostadectomi
  • sy’n cael therapi amnewid arennol ar ffurf dialysis
  • sydd wedi cael trawsblaniad arennol

Caniateir i’r meddyginiaethau gael eu presgripsiynu ar y GIG hefyd pan fydd dyn wedi cael diagnosis o drallod difrifol o ganlyniad i anhawster codiad, lle gwnaed yr asesiad hwnnw gan wasanaeth arbenigol neu gan ymarferydd cyffredinol sy’n gweithredu o dan drefniadau y cytunwyd arnynt gyda Bwrdd Iechyd Lleol.

Mae darpariaeth etifeddol hefyd yn berthnasol i ddynion a oedd yn cael triniaeth a ariannwyd gan y GIG ar gyfer anhawster codiad cyn 14 Medi 1998.

Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol p’un a yw’r feddyginiaeth yn cael ei phresgripsiynu’n gyffredinol neu o dan enw brand.

Ystyriaethau clinigol

Mae’n annhebygol y bydd tynnu’r triniaethau ar gyfer anhawster codiad o’r SLS yn newid dulliau rheoli clinigol yn sylweddol.

Fodd bynnag, gallai mynediad gwell at y triniaethau ar y GIG leihau’r defnydd o ffynonellau heb eu rheoleiddio ar y rhyngrwyd, gan wella diogelwch cleifion lle gall meddyginiaethau y ceir gafael arnynt ar y we fod yn ffug, yn is na’r safon, neu gael eu defnyddio heb brosesau sgrinio priodol am wrtharwyddion.

Serch hynny, cydnabyddir bod anhawster codiad yn parhau i fod yn gyflwr sensitif i lawer o unigolion, a gall stigma, cywilydd, neu amharodrwydd i ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol barhau i ddylanwadu ar ymddygiad ceisio cymorth.

Gall ymgyflwyno i bractis cyffredinol yn gynharach drwy fynediad gwell ganiatáu i gyflyrau isorweddol neu gyfrannol sy’n gysylltiedig ag anhawster codiad gael eu nodi, megis:

  • clefyd cardiofasgwlaidd
  • diabetes
  • gorbwysedd
  • dyslipidaemia
  • anhwylderau endocrin
  • effeithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth

Gall anhawster codiad fod yn farciwr cynnar o risg cardiometabolaidd ehangach, a gall ymgysylltu ar y cam hwn gefnogi asesiad, cyngor ac atgyfeiriad priodol lle nodir bod angen gwneud hynny’n glinigol.

Gall hyn gynnig manteision iechyd ehangach y tu hwnt i driniaeth symptomatig yn unig.

Ystyriaethau ariannol ac o ran y system

Ym mis Ebrill 2019, cyfanswm cost presgripsiynau’r GIG ar gyfer cynhyrchion alprostadil, avanafil, sildenafil, tadalafil a vardenafil a ddefnyddir i reoli anhawster codiad yng Nghymru oedd tua £180,000, o gymharu â thua £117,000 ym mis Hydref 2025.

Dros y cyfnod cyfan (mis Ebrill 2019 i fis Hydref 2025), arhosodd nifer cymedrig yr eitemau a gyflenwyd y mis yn gyson, sef oddeutu 29,000.

Dylid nodi bod disgwyl i’r galw am y meddyginiaethau hyn gynyddu dros y blynyddoedd nesaf am fod cyflyrau cronig fel diabetes a chlefyd Parkinson yn dod yn fwy cyffredin.

Er y gall gwella mynediad at y triniaethau hyn arwain at rywfaint o gynnydd mewn presgripsiynu a chostau cysylltiedig, mae’n debygol y bydd y gwariant cyffredinol yn parhau i fod yn is nag yr oedd cyn i fersiynau generig o’r meddyginiaethau hyn fod ar gael yn eang.

O dan drefniadau presennol yr SLS, mae mynediad at driniaeth a ariennir gan y GIG ar gyfer anhawster codiad ar sail trallod difrifol wedi galw am brosesau asesu cymhwysedd ychwanegol, a ddarperir naill ai drwy wasanaethau arbenigol neu drwy ymarferwyr cyffredinol sy’n gweithredu o dan drefniadau a gomisiynwyd yn lleol y cytunwyd arnynt gyda byrddau iechyd.

Mae’r trefniadau hyn wedi creu baich gweinyddol a gwasanaeth y tu hwnt i bresgripsiynu arferol yn y sector gofal sylfaenol, gyda chostau cyfle cysylltiedig i’r system iechyd.

Byddai tynnu cyfyngiadau’r SLS yn:

  • dileu’r gofyniad am asesiadau yn seiliedig ar gymhwysedd sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu’n unig
  • lleihau cymhlethdod gweinyddol o bosibl
  • osgoi’r angen i gynnal llwybrau atgyfeirio neu drefniadau comisiynu ar wahân

Er na fyddai symleiddio’r broses yn y ffordd hon yn dileu’r angen clinigol am gymorth seicorywiol neu arbenigol lle nodir bod hynny’n ofyniad clinigol, gallai leihau costau system sy’n gysylltiedig â phorthgadw a gwirio cymhwysedd.

Gall unrhyw arbedion a gynhyrchir drwy gael gwared ar y trefniadau hyn wrthbwyso cynnydd mewn lefelau presgripsiynu a gwariant yn rhannol, yn enwedig yng nghyd-destun argaeledd eang meddyginiaethau generig cost isel.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y llwyth gwaith yn cynyddu ym maes gofal sylfaenol, yn enwedig os bydd mynediad ehangach yn arwain at fwy o ymgyngoriadau â chleifion sy’n ymwneud â diagnosis, presgripsiynu a chamau dilynol.

Yn ogystal, mae risg weddilliol y bydd dileu cyfyngiadau yn arwain at ddargyfeirio a chamddefnyddio meddyginiaethau, ond ystyrir bod modd rheoli’r risg hon o fewn y mesurau diogelu a’r prosesau goruchwylio proffesiynol presennol mewn perthynas â phresgripsiynu.

Rhesymeg dros y cynnig

Cyflwynwyd y cyfyngiadau ar bresgripsiynu triniaethau ar gyfer anhawster codiad cyn bod fersiynau generig o’r triniaethau hynny ar gael yn gyffredin.

Mae argaeledd meddyginiaethau generig ar gyfer trin anhawster codiad wedi lleihau eu cost i’r GIG yn sylweddol er bod y defnydd ohonynt wedi cynyddu.

Ni ellir cyfiawnhau cyfyngu presgripsiynu’r GIG i grwpiau penodol yn seiliedig ar gostau’n unig mwyach.

Mae’n bosibl y bydd dileu’r cyfyngiadau yn annog mwy o ddynion i fynd at eu hymarferydd cyffredinol gyda symptomau anhawster codiad.

Bydd gan rai o’r dynion hyn gyflyrau iechyd isorweddol na fyddent wedi cael eu nodi tan yn hwyrach fel arall pan fyddai eu hiechyd yn dirywio.

Gall hyn alluogi diagnosis cynharach a chanlyniadau gwell i rai dynion.

Bydd dileu’r cyfyngiadau yn hyrwyddo tegwch hefyd.

Er y gall rhai dynion brynu triniaeth ar gyfer anhawster codiad dros y cownter o fferyllfeydd neu ar bresgripsiwn preifat gan eu hymarferydd cyffredinol neu ddarparwr sector annibynnol arall ar hyn o bryd, mae’n eithaf drud gwneud hynny a gall hyn atal rhai dynion, yn enwedig y rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol llai cyfoethog, rhag cael mynediad at driniaeth.

Byddai’r cynnig i ganiatáu i ymarferwyr cyffredinol bresgripsiynu’r triniaethau hyn i garfan ehangach o ddynion yn dileu’r rhwystr ariannol i driniaeth ac yn hyrwyddo tegwch.

Er bod risg fach y bydd rhai dynion sy’n talu am eu triniaeth ar gyfer anhawster codiad ar hyn o bryd yn dychwelyd i driniaeth y GIG, gallai llawer barhau i gael triniaeth y tu allan i’r GIG am nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn mynd at eu hymarferydd cyffredinol ynghylch y cyflwr hwn.

Gellid darparu stiwardiaeth barhaus drwy:

  • lyfrau fformiwlâu
  • canllawiau
  • trefniadau monitro
  • dangosfyrddau presgripsiynu gwerth isel Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru
  • datblygu Dangosydd Presgripsiynu Cenedlaethol o bosibl

Casgliad

Mae effaith cost presgripsiynu triniaethau ar gyfer anhawster codiad i’r GIG wedi newid yn sylweddol ers i feddyginiaethau generig cost isel fod ar gael yn eang.

Mae’n annhebygol y bydd dileu cyfyngiadau’r SLS yn arwain at newid sylweddol mewn gwariant.

Mae’n bosibl y bydd dileu’r angen am asesiadau cymhwysedd arbenigol neu rai a gomisiynwyd yn lleol, lleihau dibyniaeth ar ffynonellau ar-lein sydd heb eu rheoleiddio o bosibl a chefnogi camau i nodi cyflyrau hirdymor cysylltiedig yn gynharach a mynd i’r afael â nhw, yn cynnig manteision i’r system ac i gleifion.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu cyffuriau a ddefnyddir i drin anhawster codiad o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cwestiwn 6: Pa effaith, os o gwbl, fyddai’r newid hwn yn ei chael ar fynediad teg at driniaeth ar gyfer anhawster codiad gyda’r meddyginiaethau sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr?

Cwestiwn 7: Esboniwch eich ateb, gan gynnwys y pwyntiau a nodir isod, yn y blwch a ddarperir isod:

Cynnig 6: Dileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol ar gyfer Oseltamivir a Zanamivir

Cefndir

Mae Oseltamivir (Tamiflu®) a zanamivir (Relenza®) wedi’u cynnwys yn yr SLS at ddibenion trin a phroffylacsis y ffliw o dan amgylchiadau clinigol penodol.

Ar hyn o bryd mae’r SLS yn cynnwys darpariaethau sy’n cyfyngu ar bresgripsiynu meddyginiaethau gwrthfeirol i sefyllfaoedd lle mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad ffurfiol bod y ffliw yn cylchredeg yn y gymuned, neu lle ceir cadarnhad drwy wyliadwriaeth feirolegol yn y gymuned fod y ffliw yn cylchredeg yn lleol.

Cafodd y gofyniad i gyhoeddi hysbysiad canolog fod y ffliw yn cylchredeg yn y gymuned ei dynnu o ofynion yr SLS yn Lloegr yn 2025.

Byddai dileu’r gofyniad am hysbysiad gweinidogol neu gadarnhad drwy wyliadwriaeth leol yn galluogi presgripsiynwyr i bresgripsiynu meddyginiaethau gwrthfeirol i bobl ag achosion posibl o’r ffliw ni waeth beth fo lefelau cyffredinol y feirws sy’n cylchredeg.

Byddai hyn yn golygu bod cyfyngiadau Cymru yn cyd-fynd yn agosach â rhai Lloegr.

Byddai hyn yn lleihau dryswch, gan gynnal yr un bwriad clinigol sylfaenol.

Statws presennol ar yr SLS a defnydd

Rheswm ar yr SLS

  • Triniaeth a phroffylacsis ar gyfer y ffliw

Rhesymau marchnata awdurdodedig

  • Triniaeth a phroffylacsis ar gyfer y ffliw

Ystyriaethau clinigol

Nid yw’r newidiadau arfaethedig hyn yn newid yr amgylchiadau clinigol lle mae triniaeth neu broffylacsis yn briodol.

Nid ydynt ychwaith yn newid:

  • meini prawf cymhwysedd
  • grwpiau cleifion
  • pryd y rhoddir triniaeth

Bydd y grwpiau cleifion sy’n wynebu’r risg fwyaf o’r ffliw ac y mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn dweud bod presgripsiynu iddynt yn gosteffeithiol, yn parhau i gael eu rhestru yn yr SLS.

Nid ydym yn cynnig newid y grwpiau o bobl gymwys a all gael triniaeth neu broffylacsis.

Byddai prosesau gwneud penderfyniadau clinigol yn parhau i gael eu llywio gan:

  • ganllawiau cenedlaethol ar y ffliw
  • cyngor epidemiolegol cyfredol

Ystyriaethau ariannol ac o ran y system

Mae presgripsiynu meddyginiaethau gwrthfeirol ar gyfer y ffliw mewn gofal sylfaenol yng Nghymru yn gyfyngedig ar hyn o bryd.

Cyflenwyd oddeutu 400 o eitemau i gleifion nad oeddent yn yr ysbyty yn 2024 i 2025.

Mae’r lefel isel hon o bresgripsiynu yn adlewyrchu effeithiau cyfunol:

  • gweithgarwch tymhorol y ffliw
  • meini prawf cymhwysedd clinigol cyfyngol
  • gofynion presennol yr SLS, gan gynnwys yr angen i gadarnhau bod y ffliw yn cylchredeg

Byddai dileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol yn cael gwared ar rwystrau gweinyddol ac ar lefel y system a all arwain at oedi cyn dechrau triniaeth.

Byddai hyn yn cynnig cyfle i roi presgripsiynau mwy amserol i gleifion cymwys, yn enwedig:

  • yn ystod y camau cynnar pan fydd y ffliw yn cylchredeg
  • pan na fydd hysbysiad ffurfiol wedi’i gyhoeddi eto

O ganlyniad, gall y diwygiadau arfaethedig arwain at gynnydd mewn presgripsiynu o fewn poblogaethau cymwys.

Disgwylir i unrhyw gynnydd adlewyrchu prosesau gwneud penderfyniadau clinigol mwy ymatebol ac amserol, yn hytrach na newid mewn trothwyon clinigol ar gyfer triniaeth.

Er y gall cynnydd mewn presgripsiynu gynyddu gwariant ar feddyginiaethau, gall triniaeth gynharach mewn poblogaethau sy’n wynebu risg leihau cymhlethdodau, gan gynnwys yr angen i fynd i’r ysbyty.

Ni ddisgwylir i gostau cyffredinol y system gynyddu’n sylweddol.

Rhesymeg dros y cynnig

Ni ddylai mynediad at oseltamivir a zanamivir yng Nghymru fod yn wahanol i rannau eraill o’r DU.

Bydd dileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol yn lleihau gwahaniaethau canfyddedig o ran mynediad gan gynnal y meini prawf clinigol y dylid presgripsiynu’r meddyginiaethau hyn yn unol â nhw.

Casgliad

Disgwylir y bydd dileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol yn:

  • gwella eglurder
  • gwella cysondeb
  • gwella amseroldeb mynediad at driniaeth wrthfeirol

Bydd hyn yn cynnal y mesurau diogelu clinigol a’r meini prawf cymhwysedd presennol, gydag effaith niwtral o ran cost yn gyffredinol.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 8: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i ddileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol ar gyfer oseltamivir a zanamivir? Esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 9: I ba raddau ydych chi’n cytuno y bydd y cynnig i ddileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol yn golygu y bydd modd presgripsiynu meddyginiaethau gwrthfeirol ar gyfer y ffliw yn fwy amserol i gleifion cymwys?

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cynnig 1: Tynnu clobazam o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu clobazam o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 2: Tynnu aerosol Locabiotal® o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu aerosol Locabiotal® o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 3: Tynnu potel diferu pediatrig Niferex® Elixir 30 ml o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu potel diferu pediatrig Niferex® Elixir 30 ml o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 4: Tynnu eli Nizoral® 2% o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig

Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu eli Nizoral® 2% o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cynnig 5: Tynnu cyffuriau a ddefnyddir i drin anhawster codiad o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i dynnu cyffuriau a ddefnyddir i drin anhawster codiad o’r Cynllun Rhestr Ddetholedig?

Cwestiwn 6: Pa effaith, os o gwbl, fyddai’r newid hwn yn ei chael ar fynediad teg at driniaeth ar gyfer anhawster codiad gyda’r meddyginiaethau sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr?

Cwestiwn 7: Esboniwch eich ateb, gan gynnwys y pwyntiau a nodir isod, yn y blwch a ddarperir isod.

Cynnig 6: Dileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol ar gyfer oseltamivir a zanamivir

Cwestiwn 8: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i ddileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol ar gyfer oseltamivir a zanamivir? Esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 9: I ba raddau ydych chi’n cytuno y bydd y cynnig i ddileu’r gofynion o ran Llythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chadarnhad Feirolegol Lleol yn golygu y bydd modd presgripsiynu meddyginiaethau gwrthfeirol ar gyfer y ffliw yn fwy amserol i gleifion cymwys?

Effeithiau ehangach y newidiadau arfaethedig

Cwestiwn 10: A oes unrhyw effeithiau eraill, gan gynnwys canlyniadau anfwriadol, y dylid eu hystyried mewn perthynas ag unrhyw un o’r diwygiadau arfaethedig?

Cwestiwn 11: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y newidiadau arfaethedig i’r SLS ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

Cwestiwn 12: Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y newidiadau arfaethedig i’r SLS er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

    neu

  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cyfeiriadau

  1. Ivers N, Yogasingam S, Lacroix M, Brown KA, Antony J, Soobiah C, et al. Audit and feedback: effects on professional practice. Cochrane Database Syst Rev. 2025;CD000259.
  2. Ivers N, Jamtvedt G, Flottorp S, Young JM, Odgaard-Jensen J, French SD, et al. Audit and feedback: effects on professional practice and healthcare outcomes. Cochrane Database Syst Rev. 2012;(6):CD000259.
  3. Carter M, Abutheraa N, Ivers N, Grimshaw J, Chapman S, Rogers P, et al. Audit and feedback interventions involving pharmacists to influence prescribing behaviour in general practice: a systematic review and meta-analysis. Fam Pract. 2023;40(5–6):615–628.
  4. Moe-Byrne T, Chambers D, Harden M, McDaid C. Behaviour change interventions to promote prescribing of generic drugs: a rapid evidence synthesis and systematic review. BMJ Open. 2014;4(5):e004623.
  5. Fujita K, Moles RJ, Chen TF. Quality indicators for responsible use of medicines: a systematic review. BMJ Open. 2018;8(7):e020437.

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich sylwadau erbyn hanner nos, 17 Rhagfyr 2026, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ

Wrth ymateb, byddai’n ddefnyddiol pe gallech gadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad a chynnwys y canlynol:

  • eich enw
  • eich swydd (os yw’n gymwys)
  • enw’r sefydliad (os yw’n gymwys)

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG54915

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.