Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr arolwg ynghylch ymwybyddiaeth a defnydd o ganllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hysbysiad preifatrwydd

Diben yr arolwg hwn yw casglu adborth gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau Cymreig ynglŷn â’u hymwybyddiaeth a’u defnydd o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Amrywiaeth a Chynhwysiant (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025), yn ogystal â’r graddau y gallai’r canllawiau fod wedi llywio arferion o ran amrywiaeth a chynhwysiant. 

Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o’r canllawiau o bryd i’w gilydd, gan ystyried cylch etholiadau lleol ac etholiadau cenedlaethol yng Nghymru. Bydd yr ymatebion i’r arolwg hwn yn helpu i lywio adolygiad cyntaf Llywodraeth Cymru o’r canllawiau.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol, ac ni fydd ymatebion i’r arolwg yn cael eu priodoli i unrhyw unigolyn neu blaid wleidyddol mewn unrhyw adroddiadau sy’n ymwneud â’r canlyniadau. Bydd ymatebion yn parhau’n ddienw oni bai eich bod yn dewis darparu eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg. 

Bydd telerau’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol os byddwch yn penderfynu darparu data personol ar ddiwedd yr arolwg. 

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol a gesglir drwy’r arolwg hwn, a’r sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Mae’n bosibl y bydd data personol a ddarperir yn cael ei ddefnyddio i gysylltu ag ymatebwyr sydd wedi nodi eu bod yn fodlon trafod eu hymatebion i’r arolwg a’u profiadau o’r canllawiau ar Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fanylach, neu at ddibenion egluro agweddau ar yr ymatebion a ddarparwyd. Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei storio ar weinydd diogel, a dim ond tîm staff Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am wella a datblygu’n barhaus y canllawiau ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ac aelodau staff sy’n gyfrifol am lunio a rheoli’r arolwg a fydd yn gallu cael mynediad ati.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi’u torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys pan fydd gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion am gyfnod o hyd at flwyddyn wrth i’r adolygiad o’r canllawiau gael ei gynnal.

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn ddi-oed am unrhyw newidiadau, er mwyn ichi allu adolygu’r fersiwn newydd, a fydd yn weithredol ar unwaith.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a gweld y data hynny
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wallau yn eich data
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn bod eich data'n cael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw, a sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Is-adran Diwygio’r Senedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

ICO - Cymru

2il Lawr
Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn:

029 2067 8400

Ffacs: 029 2067 8399