Mesurau gofal llygaid ar gyfer cleifion allanol y GIG: Gorffennaf 2026
Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Gorffennaf 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Data ar gleifion allanol offthalmoleg newydd a dilynol. Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Dyddiad targed yw'r amser aros mwyaf a bennir yn glinigol yn dilyn atgyfeiriad am apwyntiad. Mae cleifion mewn perygl o gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol os na chânt eu gweld o fewn eu dyddiad targed. Gelwir hyn yn Ffactor Risg Iechyd R1 (R1).
Prif bwyntiau
Ar ddiwedd Gorffennaf 2026
- 158,300 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol; roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 158,229 o’r rheini.
- Roedd 49.7% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.
Yn ystod Gorffennaf 2026
- Cafodd 24,384 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n R1
- Roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 22,209 o'r rheini.
- Roedd 60.7% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.
Manylion cyswllt
Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
