Isafbris uned ar gyfer alcohol: canllawiau manwl
Canllawiau llawn i fanwerthwyr ac awdurdodau lleol ar sut i gyfrifo, gweithredu a gorfodi'r gyfraith ar brisio alcohol.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyflwynwyd isafbris o 50c am uned o alcohol yng Nghymru o 2 Mawrth 2020.
Pasiodd Llywodraeth Cymru reoliadau ym mis Chwefror 2025 a gynyddodd yr isafbris o 50c i 65c.
Daw'r newid hwn i rym o 1 Hydref 2026.
Bydd rhaid i fanwerthwyr alcohol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r isafbris uned.
Bydd yn drosedd i werthu neu gyflenwi alcohol, neu awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol am bris islaw'r isafbris cymwys.
Mae’r isafbris yn pennu pris gwaelodol, sy’n golygu na fydd modd gwerthu na chyflenwi alcohol am bris is na hynny.
Ni fydd yn cynyddu pris pob diod. Dim ond y rhai hynny sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwerthu neu eu cyflenwi am bris gwerthu islaw'r isafbris uned newydd o 65c y bydd yn effeithio arnynt.
Yng Nghymru, dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, bydd yr isafbris cymwys yn cael ei gyfrifo drwy gyfuno:
- yr isafbris uned
- cryfder yr alcohol
- ei gyfaint
Nod y canllawiau
Prif nod y canllawiau yw cefnogi manwerthwyr ac awdurdodau lleol i gyfrifo'r isafbris diwygiedig, gweithredu a gorfodi isafbris am alcohol.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r isafbris uned sy'n berthnasol i randdeiliaid eraill.
Yn ogystal â'r canllawiau diwygiedig hyn, bydd deunyddiau ychwanegol a dogfennau ategol ar y cynnydd mewn isafbris hefyd ar gael, gan gynnwys:
- cyfrifiad diwygiedig
- ffeithluniau
- posteri
- taflenni gwybodaeth
Bydd y rhain ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:
Isafbris uned ar gyfer alcohol: canllawiau cryno
Nid yw'r canllawiau hyn gyfwerth â chyngor cyfreithiol a dylai unrhyw unigolyn, os yw'n ansicr ynglŷn â'r gyfraith a sut i'w chymhwyso, geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun.
Er mai mater i'r llysoedd fydd dehongli'r ddeddfwriaeth yn gywir yn y pen draw, mae'r canllawiau hyn yn egluro effaith fwriedig y ddeddfwriaeth.
Mae Cwestiynau Cyffredin i'ch cynorthwyo wedi'u cynnwys yn Atodiad A.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn nad ydych yn credu ei fod wedi'i ateb yn y ddogfen hon, cysylltwch â:
Cefndir a chyd-destun polisi
Derbyniodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (y cyfeirir ati fel Deddf 2018 yng ngweddill y ddogfen hon) Gydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.
Mae'n rhan o ymgyrch eang a pharhaus Llywodraeth Cymru i leihau lefelau yfed peryglus a niweidiol yng Nghymru.
Cyflwynwyd Isafbris Uned am alcohol yng Nghymru ar gyfradd o 50c yr uned ar 2 Mawrth 2020.
Nod y polisi yw lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol trwy dargedu argaeledd alcohol cost isel, cryfder uchel, yn enwedig ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol.
Cynlluniwyd Isafbris am Uned fel un elfen o becyn ehangach o fesurau iechyd cyhoeddus i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth.
Roedd Deddf 2018 yn cynnwys cymal machlud, sy'n gofyn am adolygiad o weithrediad ac effaith y polisi.
Byddai'r cymal machlud yn dod i rym o 2 Mawrth 2026 pe na bai rheoliadau parhad yn cael eu gwneud cyn y dyddiad hwn.
Fe wnaeth yr Adroddiad Gweithredu ac Effaith statudol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, asesu tystiolaeth o bum mlynedd gyntaf yr isafbris am uned.
Tynnodd ar:
- werthusiadau annibynnol
- ymchwil arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru
- tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd
Er gwaethaf heriau allanol sylweddol, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod isafbris am alcohol wedi cyfrannu at ei amcanion polisi arfaethedig ac wedi cael effaith gadarnhaol gyffredinol.
Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod effeithiolrwydd isafbris am alcohol yn gysylltiedig â lefel y prisiau, gan nodi bod chwyddiant wedi lleihau effaith y trothwy 50c gwreiddiol.
Fel rhan o'r broses hon, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol alwad ysgrifenedig am dystiolaeth ar ddechrau 2025.
Roedd adroddiad dilynol y Pwyllgor yn cynnwys naw argymhelliad.
Roedd yn cefnogi'n gryf barhad isafbris am uned fel mesur ataliol iechyd y cyhoedd, yn enwedig ar gyfer lleihau niwed ymhlith yfwyr trwm.
Roedd hefyd yn galw am:
- weithredu parhaus
- gwerthuso hirdymor cryfach
- cysondeb â datblygiadau yn yr Alban
Ceisiodd ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos a gynhaliwyd rhwng Awst a Medi 2025 farn ynghylch a ddylai isafbris am uned barhau y tu hwnt i fis Mawrth 2026 ac a ddylai'r isafbris gynyddu.
Ategwyd yr ymgynghoriad gan:
- dystiolaeth o'r gwerthusiadau
- yr Adroddiad Gweithredu ac Effaith
- modelu wedi'u diweddaru gan Grŵp Ymchwil Caethiwed Sheffield sy'n archwilio effeithiau hirdymor parhau â'r isafbris am uned a'i gynyddu
Mae tystiolaeth gyffredinol o werthusiadau, ymatebion i'r ymgynghoriad, craffu'r Senedd a modelu yn dangos bod yr isafbris am uned wedi'i weithredu'n effeithiol ac wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.
Gyda disgwyl i gynnydd i 65c gynnal a chryfhau'r buddion hyn.
Ar 3 Chwefror 2025, cynhaliodd y Senedd ddadl am reoliadau i barhau â’r isafbris am alcohol a chodi'r isafbris.
Daeth y rheoliadau parhad i rym ar 9 Chwefror 2026.
Bydd y cynnydd i 65c yr uned yn dod i rym o 1 Hydref 2026.
Pwy sy'n gymwys i dalu'r isafbris uned
Mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn drosedd i fanwerthwyr alcohol gyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru neu i awdurdodi cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru am bris gwerthu islaw’r isafbris cymwys am yr alcohol.
Mae gan y termau “manwerthwr alcohol”, “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol” ystyr penodol at y diben hwn a amlinellir yn adrannau 3 a 4 o Ddeddf 2018.
Mae adran 3 o Ddeddf 2018 yn diffinio “cyflenwi alcohol” fel:
- gwerthu alcohol drwy fanwerthu i berson yng Nghymru
- cyflenwi gan neu ar ran clwb i un o’i aelodau yng Nghymru
- cyflenwi i berson yng Nghymru ar ran aelod o’r clwb
At y diben hwn, mae gan “gwerthu drwy fanwerthu” yr un ystyr ag yn Neddf Trwyddedu 2003.
Bydd pa un a yw trafodiad penodol sy'n cynnwys alcohol yn achos o “werthu drwy fanwerthu” yn dibynnu ar y ffeithiau ym mhob achos.
Mae Adran 3 o Ddeddf 2018 hefyd yn diffinio “Mangre Gymhwysol” ac yn darparu bod mangre yn “fangre gymhwysol” os:
- yw trwydded mangre o dan Ran 3 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn awdurdodi defnyddio'r fangre i gyflenwi alcohol (er enghraifft, mangre sy'n gwerthu alcohol i'r cyhoedd fel tafarn neu archfarchnad)
- os yw tystysgrif mangre clwb o dan Ran 4 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn ardystio y caniateir i'r fangre gael ei defnyddio i gyflenwi alcohol (er enghraifft, gall fod yn glwb rygbi)
- os yw cyflenwi alcohol yn y fangre neu o’r fangre yn weithgaredd dros dro a ganiateir o dan Ran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003. Er enghraifft, gall hyn fod pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi mewn gŵyl fechan neu ffair stryd
Cyfrifoldeb y manwerthwyr hyn yn y pen draw fydd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf 2018.
Mewn sefyllfa lle mae amheuaeth gan fanwerthwr a yw wedi cydymffurfio â'r isafbris uned, yr opsiwn mwyaf diogel fyddai bod yn wyliadwrus a cheisio cyngor cyfreithiol os oes angen.
Beth rydym yn ei olygu wrth alcohol
Ystyr alcohol yw gwirodydd, gwin, cwrw, seidr neu unrhyw ddiod wirodol, diod frag neu ddiod ddistyll arall, ond nid yw'n cynnwys unrhyw un o’r canlynol:
- alcohol sydd o gryfder nad yw’n uwch nag 1.2% pan y’i cyflenwir
- persawr
- rhinflasau a gydnabyddir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi fel rhai nas bwriedir i’w hyfed fel diod alcoholaidd dolladwy neu gyda diod o’r fath
- y rhinflas aromatig a elwir yn gyffredin yn chwerwon Angostura
- alcohol sy’n gynnyrch meddyginiaethol neu’n gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn cynnyrch o’r fath
- alcohol sydd wedi ei annatureiddio
- alcohol methyl
- naphtha
- alcohol sydd wedi ei gynnwys mewn melysion gwirod
Pwy sy'n atebol o ran cyflawni'r drosedd o werthu am bris islaw'r isafbris cymwys
Pan fydd alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi o fangre y mae trwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â hi o dan Ran 3 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (er enghraifft, tafarn neu archfarchnad), mae pob un o’r canlynol yn fanwerthwr alcohol at ddiben Deddf 2018:
- deiliad trwydded bersonol o dan Ran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003
- goruchwyliwr dynodedig y fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003
Mewn perthynas â chlybiau, y manwerthwr alcohol yw deiliad y dystysgrif mangre clwb (er enghraifft, y clwb).
Mewn perthynas â digwyddiadau dros dro, y manwerthwr alcohol yw defnyddiwr y fangre at ddiben Rhan 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003.
Er enghraifft, y person sydd wedi trefnu’r ffair stryd, os mai nhw roddodd yr hysbysiad o'r digwyddiad dros dro.
Isafbris uned am alcohol a chyfanwerthwyr
Mae gwerthiannau cyfanwerthu wedi'u heithrio.
Felly, ni fydd cyfanwerthwyr yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o ran isafbris uned oherwydd natur eu gwerthiannau i fasnachwyr eraill.
Os yw manwerthwr yn masnachu fel busnes manwerthu a chyfanwerthu, bydd angen gweithredu system brisio ddeuol gyda:
- un drefn brisio ar gyfer prynwyr (yn seiliedig ar isafbris uned diwygiedig o 65c)
- un ar gyfer masnach
Adran 1: gweithredu'r isafbris uned
Mae'r fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris cymwys wedi'i nodi yn Neddf 2018.
Mae'n seiliedig ar 3 elfen:
- yr isafbris am uned
- cryfder canrannol yr alcohol
- ei gyfaint
Mae'r isafbris am alcohol a ddefnyddir o fewn y fformiwla honno yn cael ei osod gan reoliadau.
Yn wreiddiol, gosododd Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 yr isafbris am uned yn wreiddiol ar 50c yr uned.
Ers hynny mae'r rheoliadau hyn wedi'u diwygio gan Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026 i gynyddu'r isafbris uned i 65c.
Rhaid defnyddio'r ffigur diwygiedig hwn nawr wrth gymhwyso'r fformiwla.
Mae'r fformiwla hon wedi'i chynllunio i sicrhau bod alcohol cryf, rhad yn parhau i gael ei dargedu, gan fod y cynhyrchion hyn yn fwy tebygol o gael eu hyfed gan bobl sy’n wynebu mwy o berygl o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Os bydd diod sy'n cynnwys alcohol yn cael ei gwerthu am bris sy'n uwch na'r isafbris cymwys, ni fydd angen newid y pris hwnnw.
Os yw'r ddiod yn cael ei gwerthu ar hyn o bryd am lai'r na'r pris cymwys, bydd yn rhaid codi'r pris hwnnw.
Esiamplau wedi'u cwblhau gan ddefnyddio isafbris uned o 65c
Enghraifft o sut y bydd y fformiwla yn gweithio cyfrifo’r isafbris cymwys am botel o seidr
I x Cr x Cy
Isafbris potel o seidr 3 litr (Cy) â chryfder o 7.5% (Cr) fyddai £14.63 (0.65 x 7.5 x 3), sef cyfanswm tair gydran y fformiwla.
0.65 X 7.5 X 3 = £14.625 a fydd yn cael ei dalgrynnu i £14.63.
ISAFBRIS CYMWYS = £14.63
Enghraifft o sut y bydd y fformiwla yn gweithio cyfrifo’r isafbris cymwys am botel o win
I x Cr x Cy
Isafbris potel o win 75CL (Cy) â chryfder o 12.5% (Cr) fyddai £6.09 (0.65 x 12.5 x 0.75), sef cyfanswm tair gydran y fformiwla.
0.65 x 12.5 x 0.75 = £6.09375 a fydd yn cael ei dalgrynnu i lawr i £6.09.
ISAFBRIS CYMWYS = £6.09
Enghraifft o sut y bydd y fformiwla yn gweithio cyfrifo'r isafbris cymwys am gan o lager
I x Cr x Cy
Isafbris can peint o lager 568ml (Cy) â chryfder (alcohol yn ôl cyfaint) o 4.3% (Cr) fyddai £1.59 (0.65 X 4.3 X 0.568), sef cyfanswm tair gydran y fformiwla.
0.65 X 4.3 X 0.568 = £1.58756 a fydd yn cael ei dalgrynnu i £1.59.
ISAFBRIS CYMWYS = £1.59
Enghraifft o sut y bydd y fformiwla yn gweithio cyfrifo’r isafbris cymwys am botel o fodca
I x Cr x Cy
Isafbris potel o fodca 70cl (Cy) â chryfder (alcohol yn ôl cyfaint) o 40% (Cr) fyddai £18.20 (0.65 X 40 X 0.7), sef cyfanswm tair gydran y fformiwla.
0.65 x 40 x 0.7
ISAFBRIS CYMWYS = £18.20
Cynigion arbennig yn ymwneud ag alcohol
Mae adrannau 5 i 7 o Ddeddf 2018 yn amlinellu rheolau sy'n ymwneud â phennu'r isafbris cymwys mewn perthynas ag alcohol a gyflenwir drwy amryw o gynigion arbennig.
Trafodiadau alcohol amleitem megis “prynu un, cael un yn rhad ac am ddim”
Mae adran 5 o Ddeddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem gael ei ystyried wrth benderfynu ar yr isafbris cymwys.
Mae hyn yn osgoi amheuaeth ynghylch sut y mae’r drosedd yn adran 2 o Ddeddf 2018 yn effeithio ar achosion pan na fo gan ddogn o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad unrhyw bris gwerthu y gellir ei nodi, neu pan fo ganddo bris gwerthu sydd wedi ei aflunio drwy ostyngiad.
Pan fo'r alcohol sy’n cael ei gyflenwi o gryfderau gwahanol, mae adran 7(2) o Ddeddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cael eu cyfrifo ar wahân er mwyn pennu'r isafbris cymwys mewn perthynas â chryfderau gwahanol o alcohol.
Mae cyfanswm y cyfrifiadau hynny yn darparu’r isafswm cymwys am y trafodiad.
Er ei bod yn debygol y bydd y rhan fwyaf o drafodiadau alcohol amleitem yn golygu bod cyflenwr a chwsmer yn cyfnewid arian parod unwaith, nid dyma fydd yr achos bob tro.
Er enghraifft, gallai pris diod a brynir yn ddilynol gael ei leihau drwy gyfeirio at ddiodydd a brynir yn gynharach.
O dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen i’r ddiod a brynir yn ddilynol a’r diodydd a brynir yn gynharach oll gael eu trin fel un trafodiad ac i’r isafbris uned cymwys gael ei gyfrifo fel y nodir.
Alcohol a gyflenwir ynghyd â nwyddau a gwasanaethau eraill
Mae categori arall, sef “cynnig arbennig” yn cynnwys bargeinion lle caiff alcohol ei gyflenwi ynghyd â nwyddau eraill ac eithrio alcohol, neu wasanaethau; naill ai lle cyflenwir y nwyddau eraill neu'r gwasanaethau a'r alcohol am un pris penodol, neu lle cyflenwir alcohol am bris gostyngol os cyflenwir nwyddau eraill neu wasanaethau.
Mae llawer o’r cynigion y bydd yr adran hon yn gymwys iddynt yn debygol o fod yn gynigion sy’n cynnwys cyflenwi alcohol ynghyd â bwyd, ond nid ydynt yn gyfyngedig i achosion o’r fath.
Byddai’n berthnasol er enghraifft pan fyddai coctel yn cael ei gyflenwi, gyda chymysgydd, am bris penodol (gyda’r dogn dialcoholaidd o’r coctel yn gyfystyr â nwydd ac eithrio alcohol).
Fel gyda thrafodiadau alcohol amleitem, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifiadau ar wahân gael eu cynnal at ddiben penderfynu ar yr isafbris cymwys am alcohol o gryfderau gwahanol a gyflenwir ar y cyd â nwyddau eraill neu wasanaethau.
Byddai'r ddeddfwriaeth hefyd yn berthnasol lle disgrifir yr alcohol a gyflenwir gyda nwyddau eraill neu wasanaethau fel cynnig yn rhad ac am ddim.
Er enghraifft, cynnig pan fo prynu cyfuniad penodol o fwyd yn cynnwys potel o win “yn rhad ac am ddim”.
Trafodiadau alcohol amleitem - sut i gyfrifo'r isafbris cymwys
Enghraifft 1
Yn achos cynnig “prynu un, cael un yn rhad am ddim”, pan fo dau focs o lager â chryfder o 4% yn cael eu disgrifio fel pe baent yn cael eu cyflenwi am bris un bocs, a chan dybio bod pob bocs yn cynnwys 10 can â chyfaint o 330ml yr un, byddai’r ddau focs yn cael eu trin fel pe baent wedi eu cyflenwi am y pris a delir am un bocs.
Gan gymryd bod un bocs wedi ei gyflenwi am bris gwerthu o £18, byddai’r isafbris cymwys mewn perthynas â’r lager yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
I yw £0.65.
Cr yw 4 (cryfder yn ôl cyfaint y lager).
Cy yw 6.6 litr (cyfanswm cyfaint yr 20 o ganiau).
0.65 X 4 X 6.6 = £17.16 - dyma isafbris gwerthu'r alcohol hwn amdano.
Yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu, sef £18 am y ddau focs, yn uwch na’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwyd, ac ni fyddai trosedd wedi’i chyflawni dan adran 2 o Ddeddf 2018.
Enghraifft 2
Pe bai tri bocs o gwrw, lager neu seidr ar gael i’w prynu am un pris gwerthu o £40, er enghraifft, byddai angen cyfrifo’r isafbris am bob bocs er mwyn gweithio allan a oedd y pris gwerthu o £40 islaw’r isafbris cymwys am y cyfuniadau gwahanol o alcohol a allai gael eu cyflenwi.
Gan dybio bod y bocs o gwrw yn cynnwys 10 can 440ml â chryfder yn ôl cyfaint o 6%; bod y bocs o lager yn cynnwys 12 o ganiau 440ml â chryfder o 4%; a bod y bocs o seidr yn cynnwys 12 o boteli 300ml â chryfder o 5%:
Yr isafbris am y bocs o gwrw fyddai £17.16 (£0.65 X 6 X 4.4 litr (cyfanswm cyfaint y bocs)).
Yr isafbris am y bocs o lager fyddai £13.73 (£0.65 X 4 X 5.28 litr).
Yr isafbris am y bocs o seidr fyddai £12.87 (£0.65 X 5 X 3.96 litr).
Pan fo cwsmer yn dewis prynu dau focs o gwrw a bocs o seidr, yr isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir fyddai £47.19 (sef cyfanswm yr isafbris o £34.32 am y ddau focs o gwrw a £12.87 am y seidr).
Felly, yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu wedi bod yn £7.19 islaw’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwyd, a, chan dybio absenoldeb amddiffyniad, byddai’r manwerthwr yn agored i gael ei erlyn am gyflawni'r drosedd o dan adran 2 o Ddeddf 2018.
Ond ni fyddai'n drosedd o dan adran 2 o Ddeddf 2018 i un cwsmer brynu tri bocs o seidr, gan y byddai’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir yn £38.61 (sef cyfanswm yr isafbris o £12.87 am bob bocs o seidr).
Cynigion sy’n cynnwys alcohol ynghyd â nwyddau eraill neu wasanaethau
Enghraifft 1
Pan fo tair eitem o fwyd a photel o win yn cael eu cyflenwi am un pris o £10, byddai’r pris gwerthu am y gwin yn cael ei ystyried fel £10.
Pe bai cyfaint y gwin yn 0.75 litr a’i gryfder yn ôl cyfaint yn 14%, yr isafbris cymwys am y gwin fyddai £6.83 (£0.65 X 14 X 0.75).
Yn yr enghraifft hon, byddai’r isafbris o £10 yn uwch na’r isafbris cymwys am y gwin, ac ni fyddai’r manwerthwr wedi cyflawni’r drosedd yn adran 2 o Ddeddf 2018.
Enghraifft 2
Mewn achos pan fo cwsmer yn gallu trefnu noson blasu gwin mewn siop winoedd am bris o £25, a bod 3 photel o win, a ddisgrifir fel pe baent yn cael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim, yn cael eu cyflenwi i’r cwsmer, byddai’r pris gwerthu am y gwin a gyflenwir gyda’r gwasanaeth yn cael ei ystyried fel £25.
Pe bai’r gwin yn cynnwys:
- potel 0.75 litr o Pinot Grigio â chryfder yn ôl cyfaint o 12.5%
- potel 0.75 litr o Merlot â chryfder o 14.5%
- potel 0.75 litr o Shiraz â chryfder o 13.5%
byddai’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir yn gyfanswm o’r isafbris am bob potel.
Yr isafbris am y Pinot Grigio fyddai £6.09 (£0.65 X 12.5 X 0.75).
Yr isafbris am y Merlot fyddai £7.07 (£0.65 X 14.5 X 0.75).
Yr isafbris am y Shiraz fyddai £6.58 (£0.65 X 13.5 X 0.75).
Yr isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir fyddai £19.74.
Yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu o £25 yn uwch na’r isafbris cymwys am y gwin a gyflenwir, ac ni fyddai’r manwerthwr wedi cyflawni’r drosedd yn adran 2 o Ddeddf 2018.
Adran 2: gweithredu
Gwerthu ar-lein a thros y ffôn
Bydd yr isafbris cymwys yn berthnasol i alcohol a gyflenwir o safleoedd cymwys yng Nghymru i unigolyn yng Nghymru.
Bydd angen i fusnesau sicrhau na chaiff alcohol ei werthu am bris islaw'r isafbris ar-lein a thros y ffôn os caiff ei ddosbarthu o leoliad yng Nghymru i unigolyn yng Nghymru.
Os caiff yr alcohol ei brynu ar-lein neu dros y ffôn yng Nghymru a'i ddosbarthu o'r tu allan i Gymru neu i unigolyn o'r tu allan i Gymru, ni fydd yr isafbris uned yn gymwys.
O ran cyfleusterau ‘clicio a chasglu’, mae'r cyfleusterau hyn yn gweithredu fel blwch post / man casglu yn hytrach na man dosbarthu. Y man dosbarthu fydd y man lle dosbarthwyd y nwyddau ohono i'w danfon i'r cyfleusterau ‘clicio a chasglu’.
- Alcohol a ddosbarthwyd yng Nghymru ond ei ddanfon neu ei gasglu y tu allan i Gymru – ni fydd yr isafbris uned yn gymwys.
- Alcohol a ddosbarthwyd y tu allan i Gymru ond ei ddanfon neu ei gasglu yng Nghymru – ni fydd yr isafbris uned yn gymwys.
Disgowntiau staff
Gall busnesau barhau i gynnig gostyngiad i staff, cyn belled nad yw'r pris ar ôl yr holl ostyngiadau islaw'r isafbris.
Mae hyn yn berthnasol i dalebau sy'n cael eu rhoi i staff fel rhan o'u pecyn buddion a cydnabyddiaeth.
Mae manwerthwyr yn cynnal amryw o raglenni hyrwyddo, teyrngarwch a gostyngiadau a byddai'n amhosibl cynnwys pob un ohonynt yn y canllawiau hyn.
Dylai manwerthwyr ddefnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu a ganiateir ymgyrch hyrwyddo sydd heb ei chynnwys yn y canllawiau a cheisio cyngor cyfreithiol, os yw hynny'n briodol.
Pwyntiau teyrngarwch
Os yw cynllun teyrngarwch yn golygu y gall cwsmeriaid gasglu talebau fel gwobr am gwsmeriaeth barhaus dros gyfnod o amser, a bod gwerth ariannol i'r talebau hynny, byddant yn cael eu hystyried fel taliad arian parod.
Er enghraifft, os yw archfarchnad yn cynnal ymgyrch lle gall cwsmeriaid gyfnewid cyfres o dderbynebau sy'n dangos isafswm gwariant am daleb £10, gellir defnyddio'r daleb £10 honno i brynu alcohol, yn yr un modd ag y gellir defnyddio pwyntiau teyrngarwch a chardiau rhodd.
Ni chaiff pris yr alcohol sy'n cael ei brynu fod islaw'r isafbris cymwys.
Cardiau gwobrwyo
Gellir parhau i ddefnyddio pwyntiau a thalebau gwobrwyo i brynu alcohol, naill ai yn y siop lle cawsant eu casglu, neu mewn siopau partner, ar yr amod bod gan y pwyntiau a ddefnyddir (a'r arian ychwanegol a delir os yw'n briodol) werth ariannol cyfwerth nad yw islaw'r isafbris am y cynnyrch alcohol.
Er enghraifft, os yw manwerthwr yn gwerthu potel o win am £5.85 (isafbris am botel o win 750ml, cryfder alcohol yn ôl cyfaint o 12%), caniateir i gwsmer dalu am y gwin naill ai:
- gan ddefnyddio pwyntiau gyda gwerth o £5.85
- neu bwyntiau gyda gwerth o hyd at £5.85 gan dalu'r gweddill gydag arian parod
Cwponau gostyngiad ac arian i ffwrdd
Gall busnesau barhau i gynnig cwponau gostyngiad ar gyfer diodydd alcoholig, ond mae'n rhaid iddynt sicrhau nad yw pris y cynnyrch, ar ôl y gostyngiadau, yn syrthio islaw'r isafbris cymwys ar gyfer y cynnyrch.
Os cynigir cwpon i'r cyhoedd am ostyngiad ar alcohol yn unig, neu ar gynnyrch alcoholig penodol, dylai'r manwerthwyr sicrhau nad yw pris y ddiod sy'n cynnwys alcohol yn syrthio islaw'r isafbris cymwys ar gyfer y cynnyrch ar ôl y gostyngiad.
Mae hyn yn berthnasol pa un ai yw'r gostyngiad yn cael ei gynnig gan y manwerthwr neu'r cynhyrchydd.
Pan fo cwponau ‘trothwy gwariant’ yn cael eu cynnig i gwsmeriaid (e.e. arbedwch £2 pan fyddwch chi'n gwario £15), gellir eu defnyddio i brynu alcohol cyn belled nad yw cyfanswm cost y gwerthiant yn is na'r isafbris am y cynhyrchion alcoholig.
Os yw'r fasged o nwyddau a brynir yn cynnwys cynnyrch alcoholig a dialcohol, bydd y cwpon gostyngiad yn cael ei gymhwyso i gyfanswm cost y fasged.
Ni ddylai'r cwpon gostyngiad fynd â phris y nwyddau alcoholig islaw'r isafbris cymwys.
Diodydd cynhwysol
Gall mangreoedd cymwys barhau i gynnal ymgyrchoedd hyrwyddo os ydynt yn cyd-fynd â gofynion Deddf 2018 ac unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol berthnasol arall (gan gynnwys y cyfyngiad ar ymgyrchoedd hyrwyddo anghyfrifol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003).
O dan Ddeddf 2018, er enghraifft, gydag unrhyw gynnig sy'n cynnwys potel o win gyda phryd o fwyd, byddai angen i'r manwerthwyr sicrhau nad yw pris cyffredinol yr ymgyrch hyrwyddo islaw'r isafbris cymwys am yr alcohol.
Adran 3: gorfodi
Beth ddylai manwerthwyr ei ddisgwyl
Sefydlodd Ddeddf 2018 drefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol.
Bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i orfodi'r gofynion prisio gofynnol gan ddefnyddio eu trefniadau presennol ar gyfer arolygu a rheoleiddio mangreoedd sy'n gwerthu alcohol.
Bydd rhaid i fanwerthwyr wirio prisiau pob cynnyrch alcohol sy'n cael ei werthu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio pan ddaw'r isafbris diwygiedig o 65c yr uned i rym ar 1 Hydref 2026.
Dylid gwneud y gwiriadau hyn cyn gweithredu'r Ddeddf.
Os yw manwerthwr yn darganfod bod unrhyw gynnyrch alcohol yn cael ei gynnig ar werth am bris gwerthu islaw'r isafbris, yna bydd rhaid newid y pris gwerthu neu peidio gwerthu'r cynnyrch.
Gall hyfforddiant staff ychwanegol fod yn ddefnyddiol i sicrhau bod pob aelod staff sy'n gwerthu alcohol yn gyfarwydd â'r gyfraith newydd.
Yn ystod ymweliad arolygu, mae swyddogion awdurdodau lleol yn debygol o ddisgwyl gwybodaeth brisio clir ar gyfer pob cynnyrch alcoholig a gynigir i'w werthu ar y safle.
Dylai'r wybodaeth hon gynnwys pris pecyn a phris uned sengl os yw'n bosibl tynnu un eitem o'r pecyn i'w werthu'n unigol yn y fangre.
Gall manwerthwyr ddarparu'r wybodaeth hon ym mha bynnag fformat sy'n addas i'w busnes – rhestrau prisiau, pris ar y silff, pris ar y til, ac ati.
Canlyniadau methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
Mae gan fanwerthwyr alcohol sy'n cyflenwi alcohol o fangreoedd cymhwysol yng Nghymru neu sy'n awdurdodi cyflenwi alcohol o fangreoedd cymhwysol yng Nghymru gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a pheidio gwerthu alcohol am bris islaw’r isafbris cymwys.
Os ceir bod manwerthwr alcohol yn gwerthu, neu'n awdurdodi gwerthu alcohol islaw'r isafbris uned o 65c, gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddynt.
Swm y gosb yn yr hysbysiad fydd £200 os caiff ei dalu o fewn 29 diwrnod, neu £150 os caiff ei dalu o fewn 15 diwrnod.
Gall person a geir yn euog o drosedd cyflenwi alcohol yng Nghymru islaw’r isafbris cymwys gael dirwy hyd at lefel 3 (£1,000 ar hyn o bryd).
Bydd swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol yn cael eu hannog i hybu cydymffurfiaeth drwy godi ymwybyddiaeth o safonau perthnasol a gofynion cyfreithiol mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy gyswllt wyneb yn wyneb.
Os caiff manwerthwr alcohol ei ddal yn gwerthu alcohol am bris gwerthu islaw’r isafbris cymwys, bydd gan swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol yr hawl i erlyn fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd drwy eu polisïau gorfodi.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y gallai awdurdodau lleol, mewn achosion priodol a lle y bo'n bosibl, ddymuno arfer eu disgresiwn a gweithio gyda manwerthwyr i ddatrys materion yn wirfoddol.
Gwybodaeth am Hysbysiadau Cosb Benodedig
O dan Ddeddf 2018, gall swyddogion awdurdodedig roi Hysbysiad Cosb Benodedig i berson, sy’n cynnig cyfle i’r person hwnnw gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd i gael ei erlyn am drosedd dan adran 2 o’r Ddeddf honno drwy dalu’r gosb benodedig.
Bydd yn rhaid i unrhyw hysbysiad cosb benodedig a roddir mewn cysylltiad â throsedd isafbris uned nodi manylion y drosedd honedig.
Rhaid iddo hefyd hysbysu’r person a gafodd yr hysbysiad o'i hawl i fynd i’r llys mewn cysylltiad â’r drosedd honedig ac egluro sut y gellid arfer yr hawl honno.
Fel yr amlygwyd, bydd y swm hysbysiad cosb benodedig yn £200 os gwneir y taliad o fewn 29 diwrnod neu £150 os gwneir y taliad o fewn 15 diwrnod.
Bydd awdurdodau lleol yn gallu cadw’r derbyniadau sy’n deillio o hysbysiadau cosb benodedig a defnyddio’r symiau a geir i arfer eu swyddogaethau dan Ddeddf 2018.
Mae Deddf 2018 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddileu'r hysbysiad cosb benodedig sydd wedi'i roi.
Os cyflwynir hysbysiad cosb benodedig i fanwerthwr alcohol ond nad yw’n cytuno â hynny, cynigir y gallai'r manwerthwr ofyn i’r awdurdod lleol ystyried dileu'r hysbysiad cosb benodedig.
Gall awdurdod lleol dynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl os yw’n amlwg na ddylai fod wedi'i roi, er enghraifft:
- os cafodd ei roi i'r unigolyn anghywir
- mewn camgymeriad
- bod amgylchiadau'r achos yn gwarantu iddo gael ei dynnu yn ôl
Dylai hwn fod yn farn gymharol syml yn seiliedig ar gyfrifo'r isafbris ar gyfer y cynnyrch dan sylw h.y. I x Cr x Cy (Isafbris am uned x cryfder alcohol x cyfaint).
Os na chaiff yr hysbysiad cosb benodedig ei dynnu yn ôl ac os na chaiff y gosb gymwys ei thalu, caiff yr awdurdod lleol, yn unol â darpariaeth Deddf 2018, ar ôl i'r cyfnod o 29 diwrnod ddod i ben, erlyn am y drosedd (oni bai bod yr unigolyn a gafodd yr hysbysiad cosb benodedig wedi gofyn i sefyll treial am y drosedd honedig).
Rhagwelir y bydd y diwydiant yn cydymffurfio'n gyffredinol.
Hysbysiadau Cosb Benodedig ac Apeliadau
Bydd y trefniadau talu yn cael eu hamlinellu yn yr hysbysiad cosb benodedig ynghyd â manylion lle gellir cyflwyno sylwadau sy'n ymwneud â'r hysbysiad.
Bydd unrhyw sylwadau a wneir yn cael eu hystyried gan yr Awdurdod Lleol.
Gwybodaeth am droseddau
Bydd person sy'n cael ei ddyfarnu'n euog o'r drosedd o gyflenwi alcohol yng Nghymru islaw’r isafbris uned cymwys yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na Lefel 3 (sef £1,000 ar hyn o bryd) ar y raddfa dirwyon safonol ar gyfer troseddau diannod o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (adran 8).
Bydd y sawl sydd wedi’i gyhuddo o drosedd dan Ddeddf 2018 yn gallu amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiad drwy ddangos ei fod wedi cymryd camau rhesymol ac wedi arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
Bydd hefyd yn drosedd rhwystro swyddog awdurdodedig yn fwriadol rhag arfer ei swyddogaethau gorfodi o dan Ddeddf 2018.
Bydd person sy'n euog o drosedd o'r fath hefyd yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na Lefel 3 ar y raddfa dirwyon safonol ar gyfer troseddau diannod o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.
Bydd trosedd o dan Ddeddf 2018 yn cael ei chynnwys fel trosedd berthnasol yn Atodlen 4 i Ddeddf Trwyddedu 2003 (trwyddedau personol: troseddau perthnasol).
Mae trosedd berthnasol yn drosedd y gall awdurdod trwyddedu ei hystyried wrth wneud penderfyniadau am roi, diddymu neu atal trwyddedau personol dros dro.
Os caiff deiliad trwydded bersonol ei erlyn am unrhyw drosedd berthnasol gan neu gerbron llys yng Nghymru a Lloegr, caiff y llys hefyd orchymyn i’r drwydded gael ei fforffedu neu ei hatal dros dro am gyfnod hyd at chwe mis.
Mae dyletswydd ar ddeiliad trwydded i hysbysu ei awdurdod trwyddedu ynghylch euogfarnau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (a bydd yn cyflawni trosedd os bydd yn methu â gwneud hynny heb esgus rhesymol).
Hefyd, mae'n rhaid i unrhyw ddeiliad trwydded a geir yn euog o drosedd roi gwybod i'r llys bod ganddo drwydded bersonol ac mae'n rhaid i'r llys roi gwybod i'r awdurdod trwyddedu perthnasol am unrhyw euogfarn a dedfryd a roddwyd i ddeilydd y drwydded.
Diweddaru systemau prisio ar gyfer manwerthwyr
Bydd angen i fusnesau ac eraill sy'n gwerthu alcohol sicrhau bod eu systemau prisio wedi'u diweddaru a'u bod yn gywir i sicrhau na fydd alcohol yn cael ei werthu am bris islaw'r isafbris uned.
Er enghraifft, sicrhau bod prisiau'n gywir ar silffoedd, codau bar, bwydlenni a rhestrau prisio.
Ynghlwm wrth y llythyr hwn mae dogfen ganllawiau bellach sy'n darparu'r wybodaeth lawn am y broses a'r wybodaeth am gyflawni'r cynllun hwn.
Y cyngor yw bod unrhyw bris gwerthu nad yw'n gymwys bellach, gan gynnwys pris ar becynnau arbennig, yn cael ei dynnu neu ei orchuddio.
Bydd angen i'r manwerthwr wneud yn siŵr hefyd bod yr holl brisiau yn cael eu newid, er enghraifft pris ar y silff a phris ar y til, fel nad yw'r cwsmer yn cael ei gamarwain o ran pris y cynnyrch.
Adran 4: Cyfathrebu a deunyddiau ategol
Cyfathrebu
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfathrebu â manwerthwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch y diwygiad mewn isafbris uned a'i gweithredu.
Cyfathrebu â manwerthwyr
Bydd y gweithgarwch cyfathrebu gyda'r manwerthwyr yn dechrau cyn y dyddiad gwerthu ar 1 Hydref 2026 i roi digon o amser i fanwerthwyr baratoi.
Bydd pecynnau a deunyddiau gwybodaeth sy'n cael eu datblygu yn cael ei dosbarthu i'r holl fanwerthwyr yng Nghymru.
Bydd y pecyn yn cynnwys:
- Posteri A3 x 2
- Taflen A5 8 tudalen
- 1 arwydd silff: 190x80mm
- 2 arwydd ymyl silff :108x80mm a 80x34mm
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen mwy nag un yr un o'r ymylon silff hyn ar fanwerthwyr, a mwy nag un o'r deunyddiau eraill hefyd o bosib.
Felly mae'n bosibl lawrlwytho deunyddiau i'w hargraffu ar ein gwefan yn:
https://llyw.cymru/isafbris-uned-ar-gyfer-alcohol-canllawiau-ar-gyfer-manwerthwyr
Atodiad A: Cwestiynau cyffredin
Pryd fydd isafbris uned yn dod i rym yng Nghymru?
Daw'r isafbris uned diwygiedig am alcohol i rym ar 1 Hydref 2026.
Pa gynhyrchion fydd yn destun yr isafbris uned?
Bydd yr isafbris yn gymwys i bob cynnyrch alcohol gyda chryfder alcoholaidd yn ôl cyfaint sy'n fwy na 1.2%.
Sut y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei gorfodi?
Mae Deddf 2018 yn sefydlu trefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol.
Bydd yn darparu'r pŵer i awdurdodau lleol:
- ddwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau yn ei ardal o dan Ddeddf 2018
- ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal
- chymryd unrhyw gamau eraill gyda'r bwriad o ostwng nifer y troseddau o’r fath sy’n digwydd yn ei ardal
Beth fydd yn digwydd os na fydd y manwerthwyr yn cydymffurfio â'r gofynion?
Os caiff manwerthwr alcohol ei ddal yn gwerthu alcohol am lai na’r isafbris cymwys o 65c yr uned, bydd gan swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol yr hawl i erlyn fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd drwy eu polisïau gorfodi eraill.
Mae Deddf 2018 yn darparu y caiff swyddogion awdurdodedig roi Hysbysiad Cosb Benodedig i berson, sy’n cynnig cyfle i’r person hwnnw gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd i gael ei erlyn am drosedd dan adran 2 o’r Ddeddf honno, drwy dalu’r gosb benodedig.
Gall person a geir yn euog o drosedd cyflenwi alcohol yng Nghymru islaw’r isafbris cymwys gael dirwy hyd at lefel 3 (£1,000 ar hyn o bryd).
Pa wybodaeth y bydd awdurdodau lleol ei hangen er mwyn gwirio y cydymffurfiwyd â'r isafbris uned?
Bydd gweithgareddau archwilio a gorfodi yn cael eu harwain gan swyddogion awdurdodedig yn yr awdurdodau lleol.
Bydd angen i swyddogion awdurdodedig gael gwybod prisiau gwerthu cynnyrch alcohol er mwyn cadarnhau bod y pris yn cydymffurfio â’r isafbris.
Gallai manwerthwyr helpu gyda hyn drwy sicrhau bod prisiau cynnyrch sydd ar werth ar hyn o bryd wrth law ar ba ffurf bynnag sydd fwyaf cyfleus i’r manwerthwr.
Mae er lles manwerthwyr i gynorthwyo awdurdodau lleol yn hyn o beth, gan mai’r rheiny sy’n gwerthu alcohol sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r isafbris.
A fydd camau gorfodi yn rhagweithiol neu'n adweithiol?
Awdurdodau lleol unigol fydd yn penderfynu ar hyn.
Sut bydd prisiau yn cael eu talgrynnu o dan Ddeddf 2018?
Fel yn achos y pris cychwynnol o 50c lle nad yw'r isafbris gwerthu am yr alcohol (sydd bellach wedi'i ddiwygio i 65c) a gyfrifir yn rhif cyfan mewn ceiniogau, dylid ei dalgrynnu i'r geiniog agosaf, gyda hanner ceiniog yn cael ei dalgrynnu i fyny (gweler yr enghraifft ar dudalen 5).
A fydd cost dosbarthu archeb yn effeithio ar gyfrifiad yr isafbris uned?
Na fydd.
Pris gwerthu'r cynnyrch alcoholig sy'n cael ei ddanfon sy'n gorfod cydymffurfio â'r isafbris gwerthu.
Nid yw unrhyw gost dosbarthu yn berthnasol i bris gwerthu'r cynnyrch alcohol.
Cyfrifoldeb y manwerthwr alcohol yw sicrhau eu bod yn fodlon bod pris manwerthu cynhyrchion alcoholig yn cydymffurfio â'r isafswm prisio.
Pa effaith fyddai unrhyw gynnydd mewn tollau a TAW yn ei chael ar yr isafbris cymwys?
Mae tollau a TAW ar alcohol yn wahanol ac yn gwbl ar wahân i isafbris uned.
Ar hyn o bryd mae'r isafbris am uned yn 65c yr uned.
Drwy gymhwyso'r fformiwla statudol a nodwyd yn Neddf 2018, bydd hyn yn pennu'r pris isaf posibl ar gyfer gwerthu'r alcohol (yr isafbris cymwys).
Cyfrifir treth a TAW ar wahân a byddant yn llywio'r pris manwerthu terfynol, ond ni ddylai'r pris manwerthu terfynol fod yn is na'r isafbris perthnasol.
A yw'r rheol sy'n gwahardd y Swyddfa Gartref rhag gwerthu alcohol am bris islaw cost y tollau a TAW yn berthnasol yng Nghymru yn ogystal â'r isafbris uned?
Ydy, mae'r gwaharddiad ar werthu alcohol am bris islaw cost y tollau a TAW yn berthnasol yng Nghymru yn ogystal â'r isafbris uned.
Sut y bydd isafbris uned yn effeithio ar alcohol sy'n cael ei werthu ar draws y ffin?
Mae Deddf a rheoliadau 2018 yn berthnasol i Gymru yn unig.
Nid yw'n anghyfreithlon i brynu alcohol o fangre drwyddedig yn Lloegr os yw'r alcohol yn cael ei brynu at ddiben yr unigolyn.
Nid yw'n anghyfreithlon i brynu alcohol o fangre drwyddedig yn Lloegr ac yna gwerthu'r alcohol hwn o fangre drwyddedig yng Nghymru.
Ond ni fydd manwerthwyr alcohol sy'n mynd ati i werthu alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru neu sy'n awdurdodi cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru yn cael gwerthu am bris gwerthu islaw’r isafbris cymwys am yr alcohol.
A yw manwerthwyr yn dal i allu gwerthu cynhyrchion am y pris sydd wedi’i nodi arno?
Pan fydd safleoedd trwyddedig yn gwerthu cynhyrchion wedi'u prisio ymlaen llaw neu becynnau fflach sydd ar hyn o bryd yn rhatach na'r isafbris, bydd angen iddynt benderfynu sut i reoli'r stoc hyn cyn i'r gofynion isafbris diwygiedig ddod i rym.
Os yw'r pris yn cael ei newid ar y pecyn (i fod o leiaf yr isafbris cymwys), mae'n hanfodol bod y pris yn glir ac yn ddiamwys i'r cwsmeriaid, ac nad ydynt yn cael eu camarwain.
Bydd angen i'r manwerthwr hefyd sicrhau bod yr holl brisiau, fel labeli silff a phrisiau til, yn cael eu diweddaru fel nad yw defnyddwyr yn cael eu camarwain am bris cynnyrch.
Argymhellir bod unrhyw bris nad yw bellach yn berthnasol, gan gynnwys y cynnyrch â phris parod neu becynnau arbennig, yn cael ei dynnu neu ei orchuddio.
Dewis arall yw rhoi'r gorau i werthu unrhyw gynnyrch â phris parod neu becynnau arbennig os yw'r pris presennol islaw'r isafbris.
A yw diodydd am ddim sy'n cael eu cynnig fel iawndal (ee am oedi wrth aros am bryd o fwyd) yn cyfrif fel gwerthiant?
Nid yw diodydd a ddarperir am ddim mewn sefyllfa arbennig, er enghraifft diodydd a gynigir fel iawndal am fwyd sy'n cyrraedd yn hwyr, neu'n cael eu cynnig fel sampl mewn siop, yn cyfrif fel gwerthiant gan nad yw'r cwsmer wedi talu dim amdanynt.
A oes modd defnyddio talebau anrheg i brynu alcohol?
Oes.
Caniateir hyn gan eu bod yn cael eu trin fel arian parod.
Ni chaiff pris yr alcohol a gyflenwyd fod islaw'r isafbris cymwys.
Sut y bydd isafbris uned yn effeithio ar gwsmeriaid sy'n prynu tocyn sy'n cynnwys pris pryd a diod?
Bydd angen i'r manwerthwyr sicrhau nad yw pris cyffredinol yr ymgyrch hyrwyddo yn is na'r isafbris cymwys am yr alcohol.
Sut y bydd isafbris uned yn effeithio ar werthiant stoc sydd wedi'i ddifrodi?
Gellir parhau i werthu stoc sydd wedi'i ddifrodi am bris rhatach, cyn belled nad yw'r pris hwnnw islaw'r isafbris.
Ar gyfer pecyn o bedwar can o lager gydag un can wedi'i ddifrodi, os yw'r can hwn yn cael ei dynnu o'r pecyn (a ddim yn cael ei werthu) a'r tri can sy'n weddill yn cael eu gwerthu ar ddisgownt, ni ddylai'r pris gostyngedig ar gyfer y tri can hynny fod yn is na'r isafbris am uned sy'n berthnasol iddynt.
Mae'r un egwyddor yn berthnasol i amlbecynnau mwy: os yw un neu ddau o ganiau wedi'u difrodi yn cael eu tynnu (a ddim yn cael eu gwerthu) o becyn o ddeg, er enghraifft, ni ddylid gwerthu'r caniau sy'n weddill am bris is na'r isafbris cymwys am uned.
Mae manwerthwr yn cynnal cynllun cynilon lle bydd y manwerthwr yn cyfrannu arian os bydd y cwsmer yn cynilo swm penodol o arian. Er enghraifft, drwy gydol y flwyddyn bydd y cwsmer yn cynilo £28 mewn cynllun cynilon gyda'r manwerthwr ac, ar adeg benodol yn ystod y flwyddyn, bydd y manwerthwr yn cyfrannu arian i godi'r swm hwn i £30. A yw'r cwsmer yn cael defnyddio hwn i dalu am alcohol sydd ag isafbris o £30?
Mae hon yn sefyllfa debyg i'r cynllun gwobrwyo.
Mae'r £2 ychwanegol yn cael ei ystyried fel swm cyfwerth ag arian parod felly gellir ei ddefnyddio fel taliad rhannol (neu gyfan gwbl) ar gyfer y cynnyrch alcohol.
A yw manwerthwyr yn dal i gael cynnig ad-daliadau rhannol ar gyfer unrhyw ddiffygion nad ydynt yn amlwg ar adeg gwerthu?
Os rhoddir ad-daliad rhannol yn dilyn pryniant oherwydd bod nwyddau yn ddiffygiol, gall y prynwr fod â hawl i gael ad-daliad yn unol â'i hawliau statudol a gall hyn fod yn dderbyniol fel amddiffyniad pe bai'r ad-daliad yn mynd â'r pris islaw'r isafswm.
Os yw'r gwerthwr yn dymuno mynd y tu hwnt i'r gofyniad cyfreithiol am ad-daliad, ac os yw'r ad-daliad yn mynd â'r pris islaw'r isafbris, dylai nodi ffeithiau'r achos yn glir.
Dylai nodi a yw'r ad-daliad am wasanaeth gwael neu stoc wedi'i ddifrodi, a dylai'r rheswm dros yr ad-daliad fod wedi dod i'r amlwg ar ôl y gwerthiant yn unig.
Trosi mesuriadau imperial yn litrau
Mae rhai diodydd alcohol yn cael eu gwerthu mewn mesuriadau imperial.
At ddiben cyfrifo'r isafbris cymwys, gall yr wybodaeth a ganlyn fod yn ddefnyddiol:
- Galwyn imperial 4.546L
- Peint imperial 0.568L
- Hanner peint imperial 0.284L
- Owns imperial 0.028L
