Manyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig
Gofynion arfaethedig ar gyfer prentisiaethau Cymreig cymeradwy.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar Fanyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig sy'n pennu gofynion mewn perthynas â 'phrentisiaethau Cymreig cymeradwy' fel y'u diffinnir yn adran 111 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Nodir y gofynion presennol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru yn y ddogfen Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW), a ddaeth i rym o dan adran 28 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. Er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu'r fframwaith deddfwriaethol hwnnw, mae Gweinidogion Cymru yn cynnig pennu gofynion ar gyfer prentisiaethau drwy Fanyleb Brentisiaethau Cymru o dan adran 115 o'r Ddeddf honno.
Mae Manyleb Brentisiaethau Cymru yn pennu gofynion mewn perthynas â chynnwys fframweithiau prentisiaethau, ac â'r broses ar gyfer eu paratoi, eu diwygio, eu tynnu'n ôl a'u cyhoeddi. Yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad a phenderfyniadau dilynol gan Weinidogion Cymru, bwriedir i Fanyleb Brentisiaethau Cymru ddod i rym ar 1 Awst 2027.
Crynodeb gweithredol
Mae prentisiaethau'n chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i ddatblygu sgiliau, ennill profiad a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan helpu cyflogwyr i ddatblygu'r gweithlu medrus sydd ei angen arnynt.
Nodir y gofynion presennol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru yn y ddogfen Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW), a ddaeth i rym o dan adran 28 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. Mae adran 115 o'r Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru yn cynnig y gofynion a amlinellir ym Manyleb Brentisiaethau Cymru. Mae Manyleb Brentisiaethau Cymru yn pennu gofynion mewn perthynas â chynnwys fframweithiau prentisiaethau, ac â'r broses ar gyfer eu paratoi, eu diwygio, eu tynnu'n ôl a'u cyhoeddi. Bwriedir i Fanyleb Brentisiaethau Cymru gael effaith o 1 Awst 2027, yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad a'r penderfyniadau Gweinidogol dilynol.
Bwriad y cynigion hyn yw cadw cryfderau'r system brentisiaethau bresennol, gan ddarparu fframwaith clir, cyson a gwydn ar gyfer y dyfodol. Maent yn adeiladu ar y trefniadau presennol yn hytrach na'u disodli, gan barhau i roi cymhwysedd galwedigaethol wrth wraidd prentisiaethau Cymru. Mae cymwysterau'n parhau i fod yn elfen bwysig o fframweithiau prentisiaethau, tra bo'r cynigion yn darparu mwy o hyblygrwydd mewn achosion lle nad oes cymwysterau ar gael neu lle mae angen datblygu rhai newydd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn ar y canlynol:
- Manyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig
- canllawiau drafft ar gymhwyso Manyleb Brentisiaethau Cymru
- y Rhestr ddrafft o Gymwysterau Procsi Cydnabyddedig ar gyfer Sgiliau Hanfodol (Cymru)
- yr Asesiad Effaith Integredig drafft
Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lywio penderfyniadau terfynol ar y gofynion ar gyfer prentisiaethau Cymreig cymeradwy yn y dyfodol.
Ynglŷn â Manyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig
Pam mae angen newidiadau
Mae'r gofynion presennol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru wedi'u nodi yn y ddogfen Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru ac yn cyflwyno'r cysyniad o brentisiaethau Cymreig cymeradwy. Mae adran 115 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy, gan gynnwys cynnwys fframweithiau prentisiaethau a'r prosesau ar gyfer eu paratoi, eu diwygio, eu tynnu'n ôl a'u cyhoeddi. Mae Manyleb Brentisiaethau Cymru wedi'i datblygu o dan adran 115 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i gyflawni'r rôl hon.
Gofynion Manyleb Brentisiaethau Cymru
Manyleb Brentisiaethau Cymru yw'r fanyleb arfaethedig sy'n pennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Mae'n nodi gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol:
- strwythur a chynnwys fframwaith prentisiaethau
- cymhwysedd galwedigaethol a gwybodaeth dechnegol
- cymwysterau a safonau galwedigaethol
- asesu a chwblhau'n llwyddiannus
- gofynion Sgiliau Hanfodol
- hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith
- ystyriaethau o ran y Gymraeg
- trefniadau adolygu a chynnal
Y newidiadau arfaethedig
Bwriad y cynigion yw moderneiddio'r fframwaith ar gyfer prentisiaethau, gan sicrhau parhad i ddysgwyr a chyflogwyr.
Mae'r prif gynigion yn cynnwys:
- sefydlu manyleb newydd o dan adran 115 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i gefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru
- darparu mwy o hyblygrwydd mewn achosion lle nad oes cymwysterau priodol ar gael neu lle mae angen datblygu rhai newydd
- cryfhau'r cysylltiad rhwng cymhwysedd galwedigaethol, safonau galwedigaethol a threfniadau asesu
- cyflwyno dull mwy cymesur o ymdrin â gofynion Sgiliau Hanfodol ar lefelau prentisiaeth uwch
- cefnogi'r gwaith o ystyried cyfleoedd i ehangu mynediad at brentisiaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg
Yr elfennau a fydd yn aros yr un fath
Bwriad y cynigion hyn yw adeiladu ar gryfderau'r system brentisiaethau bresennol yng Nghymru, yn hytrach na'i disodli.
Byddai prentisiaethau yn parhau i ymwneud â'r canlynol:
- canolbwyntio ar gyflawni cymhwysedd galwedigaethol
- cefnogi galwedigaethau cydnabyddedig
- cynnwys cymwysterau priodol lle maent ar gael
- sicrhau trefniadau asesu cadarn
- cefnogi anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru
Ni fyddai'r newidiadau arfaethedig yn rhoi prentisiaid presennol dan anfantais. Bwriedir i Fanyleb Brentisiaethau Cymru fod yn gymwys i fframweithiau prentisiaethau sy'n gweithredu o dan y trefniadau newydd a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 o 1 Awst 2027 ymlaen, tra byddai prentisiaid a oedd eisoes wedi dechrau eu rhaglen cyn y dyddiad hwnnw yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r gofynion fframwaith a oedd yn berthnasol ar adeg eu cofrestru.
Y berthynas â diwygiadau ehangach i brentisiaethau
Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud yn benodol â Manyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig.
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru ac yn sefydlu rolau ar wahân i Weinidogion Cymru a Medr. O dan adran 115 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy.
Mae Medr yn gyfrifol am baratoi fframweithiau prentisiaethau, neu sicrhau eu bod yn cael eu paratoi, a chaiff gyhoeddi'r fframweithiau hynny os ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i Medr hefyd wneud trefniadau i gadw fframweithiau cyhoeddedig dan adolygiad er mwyn penderfynu a oes angen eu diwygio ac, os yw'n briodol, eu tynnu'n ôl yn unol â'r gofynion hynny (gweler adran 117 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022).
Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar drefniadau cyllido prentisiaethau nac ar gynllun ehangach rhaglenni prentisiaethau. Mae'r materion hyn yn dod o fewn cyfrifoldebau gweithredol Medr ac maent wedi bod, neu gallant fod, yn destun gweithgarwch ymgysylltu ac ymgynghori ar wahân gan Medr. Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar y gofynion arfaethedig ar gyfer prentisiaethau Cymreig cymeradwy, ynghyd â'r canllawiau a'r ddogfennaeth ategol.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Hyblygrwydd a diogelu at y dyfodol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.2.1, 2.2.7 i 2.2.10
Amcan
Bwriad y Fanyleb ddrafft yw darparu fframwaith mwy hyblyg ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru sy'n addas at y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i fframweithiau prentisiaethau ddefnyddio safonau galwedigaethol a threfniadau asesu penodol pan nad oes cymwysterau ar gael neu pan fo angen eu datblygu, gan gynnal ansawdd a chysondeb ar draws y system brentisiaethau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y bydd y gofynion arfaethedig yn cefnogi'r amcan hwn?
Cwestiwn 2
Cymhwysedd galwedigaethol ac asesu
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.2.7 i 2.3.2
Amcan
Bwriad y Fanyleb ddrafft yw sicrhau bod cymhwysedd galwedigaethol yn parhau i fod yn ganolog i fframweithiau prentisiaethau drwy ofynion sy’n ymwneud â safonau galwedigaethol, safonau cyrhaeddiad a threfniadau asesu. Mae hyn yn cynnwys gofynion ar gyfer fframweithiau sy'n seiliedig ar gymwysterau a, phan nad oes cymwysterau ar gael neu pan fo angen eu datblygu, fframweithiau sy'n seiliedig ar safonau galwedigaethol a dysgu ac asesu cyfwerth.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y bydd y gofynion arfaethedig yn cefnogi cyflawni cymhwysedd galwedigaethol yn gyson ar draws fframweithiau prentisiaethau?
Cwestiwn 3
Isafswm y dysgu
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.1.6 i 2.1.9
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn ei gwneud yn ofynnol i fframweithiau prentisiaethau nodi isafswm y dysgu ar ffurf credydau FfCChC a byddai'n cadw'r gofyniad sylfaenol o 37 credyd ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a gwybodaeth dechnegol.
Y bwriad yw cynnal disgwyliad sylfaenol cyson ar draws fframweithiau prentisiaethau a darparu sefydlogrwydd wrth weithredu'r Fanyleb.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y gofyniad sylfaenol o 37 credyd yn darparu sail briodol ar gyfer fframweithiau prentisiaethau?
Cwestiwn 4
Gofyniad credyd ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.1.10
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn ei gwneud yn ofynnol i gymhwysedd galwedigaethol gynrychioli o leiaf 50% o gyfanswm gwerth credyd fframwaith, oni bai ei fod yn cael ei gyflwyno trwy gymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun.
Y bwriad yw sicrhau bod cymhwysedd galwedigaethol yn parhau'n brif ffocws fframweithiau prentisiaethau a chaniatáu hyblygrwydd ar draws galwedigaethau a sectorau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y bydd y gofyniad arfaethedig i gymhwysedd galwedigaethol gynrychioli o leiaf 50% o gyfanswm y gwerth credyd yn cefnogi fframweithiau prentisiaethau o ansawdd uchel?
Cwestiwn 5
Gofynion Sgiliau Hanfodol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.6.1 i 2.7.3
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn cadw gofynion Sgiliau Hanfodol gorfodol ar gyfer Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) a Phrentisiaethau (Lefel 3).
Ar gyfer Prentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau (Lefelau 4 i 7), ni fyddai Sgiliau Hanfodol bellach yn orfodol. Yn hytrach, byddai angen i fframweithiau ystyried anghenion dysgwyr a gallant barhau i gynnwys Sgiliau Hanfodol lle maent yn ychwanegu gwerth. Byddai cymwysterau procsi cydnabyddedig yn parhau i gael eu derbyn pan fo hynny wedi'i bennu mewn fframwaith.
Y bwriad yw darparu dull mwy cymesur a hyblyg gan barhau i gefnogi dysgwyr sydd angen datblygu Sgiliau Hanfodol.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y gofynion Sgiliau Hanfodol arfaethedig yn taro cydbwysedd priodol rhwng cynnal datblygiad sgiliau hanfodol a darparu hyblygrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr?
Cwestiwn 6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.6.1(ii), 2.6.2(iii), 2.6.3
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn caniatáu i fframweithiau prentisiaethau gynnwys Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol lle mae'r rhain yn berthnasol i berfformiad effeithiol yn yr alwedigaeth, yn hytrach na gofyn amdanynt ym mhob achos.
Y bwriad yw sicrhau bod gofynion sgiliau digidol yn gymesur, yn berthnasol yn alwedigaethol ac yn ymatebol i anghenion gwahanol sectorau a galwedigaethau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y dull arfaethedig ar gyfer Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol yn darparu cydbwysedd priodol rhwng cynnal gallu digidol a chaniatáu hyblygrwydd ar gyfer gwahanol alwedigaethau a sectorau?
Cwestiwn 7
Sgiliau Hanfodol ac oedran y dysgwr
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.6.1 i 2.6.4
Amcan
Mae'r Fanyleb ddrafft yn nodi gofynion Sgiliau Hanfodol yn ôl lefel prentisiaeth, yn hytrach nag yn ôl oedran y dysgwyr.
Y bwriad yw sicrhau fframwaith cyson yn seiliedig ar ofynion galwedigaethol ac addysgol gan gydnabod y gall dysgwyr ddechrau prentisiaethau gyda gwahanol gyflawniadau a phrofiadau blaenorol.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y dylid pennu gofynion Sgiliau Hanfodol yn ôl lefel prentisiaeth ac angen galwedigaethol, yn hytrach nag yn ôl oedran y dysgwr?
Cwestiwn 8
Trefniadau trosiannol a gweithredu newid
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
1.7.3 i 1.7.4, 1.8.1 i 1.8.4
Amcan
Mae'r Fanyleb ddrafft yn nodi y caiff prentisiaid sydd eisoes wedi dechrau prentisiaeth Gymreig gymeradwy cyn i Fanyleb ddiwygiedig ddod i rym barhau i gwblhau'r brentisiaeth o dan y gofynion a oedd mewn grym ar y dyddiad ymrestru, yn amodol ar unrhyw drefniadau trosiannol a bennir.
Y bwriad yw darparu sefydlogrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr gan ganiatáu i'r system brentisiaethau ymateb i ofynion a blaenoriaethau sy'n newid.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y dull arfaethedig ar gyfer trefniadau trosiannol a gweithredu newidiadau yn darparu cydbwysedd priodol rhwng gwella'r system a sefydlogrwydd i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr presennol?
Cwestiwn 9
Canllawiau drafft
Dogfen berthnasol
Canllawiau drafft ar Gymhwyso Manyleb Brentisiaethau Cymru
Amcan
Bwriad y Canllawiau drafft yw cefnogi dehongli a chymhwyso Manyleb Brentisiaethau Cymru yn gyson drwy ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar sut y dylid deall a chymhwyso'r gofynion yn ymarferol.
Cwestiwn
I ba raddau rydych chi'n meddwl bod y Canllawiau drafft yn darparu digon o eglurder i gefnogi datblygu, cymeradwyo, cyflwyno, adolygu a chynnal fframweithiau prentisiaethau?
Cwestiwn 10
Cymwysterau procsi
Dogfennau perthnasol
Y Rhestr ddrafft o Gymwysterau Procsi Cydnabyddedig ar gyfer Sgiliau Hanfodol (Cymru)
Amcan
Bwriad y Rhestr Brocsi ddrafft yw darparu dull clir a chyson o gydnabod cymwysterau y gellir eu derbyn fel dull amgen o ddangos gofynion Sgiliau Hanfodol o fewn fframweithiau prentisiaethau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y Rhestr Brocsi ddrafft yn darparu sail briodol ar gyfer cydnabod tystiolaeth amgen o gyflawniad ar gyfer gofynion Sgiliau Hanfodol?
Nodwch unrhyw gymwysterau, mathau o gymwysterau neu dystiolaeth arall y credwch y dylid eu hychwanegu, eu diwygio neu eu dileu, gan roi rhesymau lle bo hynny'n bosibl.
Cwestiwn 11
Sylwadau eraill
Y darpariaethau perthnasol
Pob darpariaeth.
Cwestiwn
A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y fersiwn ddrafft o Fanyleb Brentisiaethau Cymru, y Canllawiau drafft, y Rhestr ddrafft o Gymwysterau Procsi Cydnabyddedig ar gyfer Sgiliau Hanfodol (Cymru), neu unrhyw agwedd arall ar y cynigion?
Darparwch unrhyw sylwadau ar:
- effeithiolrwydd cyffredinol y cynigion
- ystyriaethau wrth ei roi ar waith
- meysydd lle gallai fod angen eglurhad pellach
- canlyniadau anfwriadol posibl
- unrhyw faterion nad ydym wedi ymdrin â nhw yn yr ymgynghoriad hwn
Lle bo'n bosibl, cyfeiriwch at adrannau neu rifau paragraffau penodol.
Cwestiwn 12
Asesiad Effaith Integredig drafft
Dogfen berthnasol
Asesiad Effaith Integredig drafft
Cwestiwn
Ydych chi'n meddwl bod yr Asesiad Effaith Integredig drafft yn nodi'n gywir effeithiau tebygol y cynigion?
Nodwch unrhyw effeithiau nad ydynt wedi'u hystyried yn ddigonol yn eich barn chi, gan gynnwys effeithiau ar:
- dysgwyr
- cyflogwyr
- darparwyr
- pobl sydd â nodweddion gwarchodedig
- plant a phobl ifanc
- cymunedau Cymraeg eu hiaith
- pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig
- pobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol
- sectorau neu alwedigaethau penodol
Cwestiwn 13
Cydraddoldeb ac effeithiau ehangach
Dogfen berthnasol
Y fersiynau drafft o Fanyleb Brentisiaethau Cymru, y Canllawiau, y Rhestr Brocsi a'r Asesiad Effaith Integredig
Cwestiwn
A oes unrhyw effeithiau ar grwpiau, cymunedau neu sectorau penodol y dylid eu hystyried ymhellach, neu unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i wella effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau andwyol?
Gallai hyn gynnwys effaith ar y canlynol:
- pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- plant a phobl ifanc
- cymunedau Cymraeg eu hiaith
- pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig
- pobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol
- cyflogwyr, darparwyr neu ddysgwyr mewn galwedigaethau neu sectorau penodol
- unrhyw grwpiau y gallai gael eu heffeithio yn eich barn chi
Rhowch resymau a thystiolaeth lle bo'n bosibl.
Cwestiwn 14
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y Fanyleb ddrafft a'r dogfennau ymgynghori ategol ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 15
Yn eich barn chi, a ellir llunio neu newid y Fanyleb ddrafft neu'r dogfennau ymgynghori ategol er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol, ar ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 16
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod amdanynt.
Sut i ymateb
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein, anfon eich ymateb drwy e-bost, neu ysgrifennu atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Anfonwch eich ymateb erbyn 4 Rhagfyr 2026.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am y ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Y Gangen Prentisiaethau
Yr Is-adran Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ApprenticeshipTeam@gov.wales
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod inni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico website
