Neidio i'r prif gynnwy

Mae canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu'r her barhaus o godi safonau yn ysgolion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu'r her barhaus o godi safonau yn ysgolion Cymru.
  • Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos bod ysgolion Cymru'n gymharol effeithiol wrth gefnogi'r dysgwyr mwyaf difreintiedig.
  • Mae'r perfformiad mewn darllen a gwyddoniaeth wedi aros yn weddol sefydlog ers 2022, gan ddarparu sail ar gyfer gwelliant pellach.
  • Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi rhoi sicrwydd i athrawon ac arweinwyr na fydd ymateb byrbwyll i'r canlyniadau ac y bydd cynlluniau ar waith i gefnogi ysgolion i godi safonau.

Nid yw canlyniadau PISA heddiw lle'r hoffem iddynt fod, ac maent yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu ymhellach i gefnogi ysgolion i godi safonau, meddai'r Gweinidog Addysg.

Er bod y canlyniadau'n adlewyrchu gwelliant cymedrol mewn gwyddoniaeth ac yn dangos cryfder ysgolion Cymru wrth gefnogi dysgwyr difreintiedig, maent hefyd yn tanlinellu'r angen i gyflymu'r gwaith o wella llythrennedd a rhifedd

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan:

Gadewch imi fod yn glir, nid yw'r canlyniadau hyn lle'r hoffem iddynt fod. Er eu bod yn adlewyrchu rhai o'r heriau yr ydym eisoes wedi'u hadnabod, maent yn tanlinellu'r angen i gyflymu ein gwaith i wella llythrennedd a rhifedd. Mae angen inni hefyd wneud mwy i sicrhau bod ein dysgwyr sy'n cyflawni orau yn ffynnu.

Rwy'n cael fy nghalonogi bod ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn perfformio'n dda o gymharu â'u cyfoedion yn rhyngwladol. Mae hynny'n dyst i ymroddiad ein proffesiwn addysgu, sy'n cefnogi dysgwyr i gyflawni waeth beth fo'u cefndir. Ond mae'n amlwg bod llawer mwy o waith i'w wneud.

Nid canlyniadau PISA yw'r unig fesur o berfformiad, ac mae angen ystyried safonau yn ein hysgolion yn eu cyfanrwydd. Serch hynny, ni ddylid anwybyddu'r canlyniadau hyn. Rydym yn cymryd ein perfformiad mewn astudiaethau rhyngwladol o ddifrif mawr.

Mae PISA yn tynnu sylw at heriau hirsefydlog sy'n gofyn am ymateb pwyllog a chydgysylltiedig. Nid bai ysgolion nac athrawon yw'r heriau hyn. Rydym wedi etifeddu system addysg sydd heb eglurder, cydlyniad na chyfeiriad pendant, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Yr hyn sy'n bwysig nawr yw'r camau nesaf a sut y byddwn yn cyflawni ein haddewid i gefnogi'r system addysg yn well i godi safonau. Yn fuan, byddaf yn lansio'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a fydd yn gam pwysig tuag at ddatblygu system addysg deg sy'n gweithio i bawb.

Bydd yn nodi'n glir ein disgwyliadau ar gyfer gweithredu, yn egluro rolau a chyfrifoldebau, ac yn dod â phobl a sefydliadau ynghyd i gydweithio, rhannu arbenigedd a chefnogi ei gilydd yn fwy effeithiol. Mae ein hymdrechion i godi safonau yn gofyn am ddull cydgysylltiedig ac mae gan bob un ohonom ran bwysig i'w chwarae

Rydym yn Lywodraeth newydd gydag uchelgais newydd, ac rydym yn glir ynghylch lefel yr uchelgais sydd ei hangen i godi safonau. Ond mae codi safonau yn gyfrifoldeb ar y cyd a fydd yn gofyn am arbenigedd, egni a phenderfyniad pawb sydd â budd yn addysg Cymru.

Mae'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn astudiaeth ryngwladol a gynhelir gan yr OECD bob pedair blynedd. Mae PISA yn asesu pa mor effeithiol y gall pobl ifanc 15 oed gymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth i broblemau byd go iawn. Cymerodd tua 3,400 o ddysgwyr Cymru ran yn yr astudiaeth ym misoedd Medi a Hydref 2025.