Llesiant Cymru 2026 - Rhagair
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Prif Ystadegydd
Dyma’r ddegfed adroddiad Llesiant Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Y Ddeddf).
Mae’r Ddeddf yn darparu’r fframwaith ar gyfer asesu cynnydd Cymru tuag at y 7 nod llesiant. Mae’r adroddiadau yma yn darparu darlun hirdymor o lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Maent yn dangos lle mae cynnydd yn cael ei wneud a lle gallai fod angen cymryd camau pellach.
Mae gwerth yr adroddiad hwn nid yn unig o ran mesur newid o un flwyddyn i’r llall, ond o ran olrhain tueddiadau tymor hirach. Mae llawer o agweddau ar lesiant yn newid yn raddol, a dim ond drwy edrych ar dystiolaeth dros flynyddoedd lawer y gellir deall rhai o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu Cymru.
Canfyddiadau adroddiad eleni
Mae’r darlun cyffredinol yn parhau i fod yn un o gynnydd cymysg a graddol. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae llawer o agweddau ar lesiant yn newid yn araf, ac mae’r adroddiad yn tynnu sylw at welliannau hirdymor a heriau parhaus.
Mae arwyddion calonogol mewn sawl maes. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau i ostwng, mae Cymru’n parhau i arwain y byd o ran ailgylchu. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon ymysg oedolion yn dal yn uwch na degawd yn ôl. Mae’r bwlch cyflog rhywedd wedi lleihau yn sylweddol dros y tymor hir.
Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau. Mae disgwyliad oes iach yn parhau i ostwng. Mae anghydraddoldebau iechyd yn ehangu. Mae bioamrywiaeth yn parhau i ddirywio. Mae llawer o bobl yn parhau i brofi tlodi.
Yn ychwanegol, mae llesiant meddyliol ymysg pobl ifanc yn gwaethygu.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd a dyfalbarhad ynghylch anghydraddoldebau. Mae rhai bylchau hirsefydlog, gan gynnwys bylchau cyflogaeth rhwng rhai grwpiau, wedi lleihau dros amser. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau sylweddol yn parhau ar draws iechyd, tlodi, diogelwch a llesiant.
Adroddiad eleni
Am y tro cyntaf, mae adroddiad eleni yn defnyddio data o’r Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru cyntaf i fesur y dangosydd cenedlaethol ar gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r data yn cwmpasu ar hyn o bryd y 6 mis cyntaf o’r arolwg.
Mae llai o ddiweddariadau mewn rhai meysydd yn adroddiad eleni. Mae nifer o ddangosyddion yn dibynnu ar ffynonellau data nad ydynt yn cael eu diweddaru’n flynyddol, ac nid oes data newydd ar gael ar gyfer rhai mesurau eleni. O ganlyniad, mae rhai adrannau’n canolbwyntio ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael yn hytrach na newidiadau a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae hyn yn adlewyrchu nodwedd bwysig o fesur llesiant. Mae cynnydd yn aml yn raddol, ac mae deall cyfeiriad y cynnydd hwnnw’n gofyn am bersbectif hirdymor yn hytrach na sylw ar amrywiadau tymor byr.
Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn parhau i ddangos tystiolaeth ddefnyddiol i lunwyr polisïau, gwasanaethau cyhoeddus, ymchwilwyr a dinasyddion wrth i ni weithio tuag at y 7 nod llesiant.
Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd
