Hyder yn y system gyfiawnder
Mae’r dangosydd cenedlaethol yn mesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Mae'r system gyfiawnder yn eang ac yn gymhleth, gydag agweddau troseddol ac anhroseddol y mae angen eu cofnodi yn y dangosydd hwn. Dewiswyd 3 metrig i fesur y dangosydd hwn: effeithiolrwydd canfyddedig y system cyfiawnder troseddol, tegwch canfyddedig y system cyfiawnder troseddol, a hygyrchedd y system cyfiawnder anhroseddol.
Er mwyn asesu canfyddiadau o'r system cyfiawnder troseddol, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn gofyn y canlynol i bobl 16 oed a hŷn:
- a ydyn nhw’n hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn effeithiol
- a ydyn nhw’n cytuno bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg
Roedd ychydig o dan hanner (46%) o’r holl ymatebwyr yng Nghymru yn hyderus bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn effeithiol yn arolwg CSEW blwyddyn ariannol 2025 i 2026. Mae hyn wedi gostwng o'i gymharu ag arolwg 2019 i 2020 (54%) ac arolwg 2022 i 2023 (53%).
Roedd 63% o'r ymatebwyr yng Nghymru yn cytuno bod y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn deg yn arolwg 2025 i 2026 sydd yn debyg yn fras i'r holl flynyddoedd diweddar yn yr arolwg.
Er mwyn asesu canfyddiadau o'r system gyfiawnder y tu hwnt i gyfiawnder troseddol, defnyddiwyd sgôr hygyrchedd cyfiawnder yr Arolwg Anghenion Cyfreithiol (a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Gyfraith a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol). Mae'r sgôr yn mesur i ba raddau y mae rhywun yn meddwl bod y system gyfiawnder (ac eithrio cyfiawnder troseddol) yn hygyrch, gan ystyried materion fel mynediad hawdd, tegwch ac effeithlonrwydd.
Yn Arolwg Anghenion Cyfreithiol 2023, roedd gan tua 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru (24%) sgôr isel, oedd yn dangos eu bod yn meddwl nad oedd cyfiawnder yn hygyrch. Mae hyn yn gynnydd o'r 19% yn arolwg 2019. Gostyngodd cyfran y bobl â sgoriau uchel, oedd yn nodi eu bod yn credu bod cyfiawnder yn hygyrch iawn, i 17% (o 24% yn 2019), tra bod cyfran y bobl â sgoriau canolig yn debyg (59% yn 2023 o'i gymharu â 58% yn 2019). Pan ofynnwyd i ymatebwyr yng Nghymru asesu eu hyder y gallent sicrhau canlyniad teg neu dda ar ddechrau eu mater cyfreithiol, roedd tua thraean o’r ymatebwyr yn anghytuno’n bennaf neu’n gryf (21% ac 11% yn y drefn honno) eu bod yn hyderus. Mae hyn yn awgrymu bod cyfran sylweddol yn brin o hyder i sicrhau canlyniad teg, a allai adlewyrchu cymhlethdod canfyddedig, anghydbwysedd pŵer, neu brofiadau blaenorol o brosesau cyfreithiol.
Dioddefwyr troseddau a chanfyddiadau o droseddau
Ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026, roedd 4% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (i lawr o 6% y flwyddyn flaenorol) ac roedd 1% wedi dioddef trosedd bersonol (i lawr o 2% y flwyddyn flaenorol). Rydym wedi gweld tuedd ar i lawr yn y gyfres amser sydd ar gael o 2015 i 2016 pan oedd y canrannau’n 15% a 4%.
Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau o droseddu yn 2025 i 2026 yn dangos bod hanner y bobl yng Nghymru (50%) yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi cynyddu o 41% yn 2022 i 2023, ac mae’n debyg i’r lefelau cyn y pandemig o 53% yn 2018 i 2019 a 2019 i 2020 (nid oes data ar gael ar gyfer 2020 i 2021 na 2021 i 2022).
Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (15%). Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a welwyd yn 2018 i 2019 ac yn 2019 i 2020 ar ôl disgyn i 11% yn 2022 i 2023.
Troseddau a gofnodir gan yr heddlu
Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 3% ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd trais yn erbyn y person 2%, er bod y gyfradd fesul 1,000 o’r boblogaeth yn dal yn sylweddol uwch na degawd yn ôl.
Roedd cynnydd mewn 5 o’r 9 prif gategori o droseddau yn 2025 i 2026 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys lladrad (cynnydd o 64%) a throseddau meddiant arfau (cynnydd o 16%), er mai’r categorïau hyn yw’r 2 leiaf o ran nifer a chyfradd y troseddau.
Ymysg y prif gategorïau eraill o droseddau, roedd cynnydd mewn troseddau rhywiol (9% o gynnydd) a throseddau amrywiol yn erbyn cymdeithas (8% o gynnydd), tra bo gostyngiad mewn achosion o ladrad (9% o ostyngiad).
Nid oes data ynghylch troseddau sy’n ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron ar gael ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026 yn sgil y gwaith o greu system genedlaethol newydd ar gyfer rhoi gwybod am seiberdroseddau a thwyll. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, roedd y data diweddaraf ar gyfer ystadegau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron a gofnodwyd yn dangos mai'r gyfradd am bob 1,000 o’r boblogaeth oedd 5, sy’n gynnydd o 6% ers y flwyddyn flaenorol.
Ffigur 5.8: troseddau a gofnodir gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth, rhwng blwyddyn ariannol 2002 i 2003, a 2025 i 2026
Disgrifiad o ffigur 5.8: siart linell yn dangos bod cyfradd troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth wedi gostwng ar gyfer pob un o’r 4 categori yn ystod y cyfnod diweddaraf.
Troseddau dwyn sydd wedi newid fwyaf, gan ddisgyn o dros 50 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2002 i 2003 i tua 20 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn y blynyddoedd diweddaraf. Roedd cyfradd y troseddau trais yn erbyn y person yn dangos cynnydd mawr rhwng 2013 a 2023, ond mae wedi gostwng ychydig ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfraddau difrod troseddol a thanau bwriadol tan 2012-2013, ond mae’r rhain wedi aros yn sefydlog ers hynny. Cyfradd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd yr isaf am bob 1,000 o'r boblogaeth tan 2020 i 2021, pan ddechreuodd y gyfradd godi yn uwch na chyfradd difrod troseddol a thanau bwriadol.
Ffynhonnell: Troseddau a Gofnodir gan yr Heddlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Troseddau casineb
Roedd 5% o gynnydd mewn troseddau casineb a gofnodir gan yr heddlu ledled Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 o’i gymharu â 2023 i 2024. Mae’r cynnydd hwn yn dilyn dau ostyngiad blynyddol mewn troseddau casineb a gofnodwyd, a dyma’r ail nifer uchaf o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru ers i’r Swyddfa Gartref ddechrau casglu data cymaradwy am Gymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013.
Cofnodwyd 6,213 o droseddau casineb ar draws 4 ardal heddlu Cymru, ac o’r rhain roedd:
- 63% yn droseddau casineb ar sail hil
- 18% yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
- 12% yn droseddau casineb ar sail anabledd
- 7% yn droseddau casineb ar sail crefydd
- 5% yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd
O’i gymharu â 2023 i 2024, bu cynnydd o 30% yn nifer y troseddau casineb gyda chrefydd yn cael ei gofnodi fel ffactor cymhellol yng Nghymru. Er nad oes dadansoddiadau manwl fesul grŵp crefyddol ar gael ar gyfer Cymru, ar lefel Cymru a Lloegr (ac eithrio Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (MPS)) roedd 19% o gynnydd mewn troseddau casineb crefyddol wedi’i dargedu at Fwslimiaid. Gwelwyd cynnydd ym mis Awst 2024 ar yr un adeg â’r llofruddiaethau yn Southport. Gostyngodd nifer y troseddau casineb crefyddol wedi’u targedu at Iddewon 18%. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus gyda’r ffigurau hyn gan nad ydynt yn cynnwys Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a gofnododd 40% o’r holl droseddau casineb crefyddol a dargedwyd at Iddewon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r gostyngiad hwn yn dilyn 113% o gynnydd yn y troseddau hyn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 (a oedd yn cynnwys data Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd), gyda chynnydd yn y troseddau hyn ar ôl dechrau gwrthdaro Israel-Hamas.
Roedd cynnydd hefyd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru gyda hil yn ffactor cymhellol (i fyny 8%), tra bod troseddau casineb gydag anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a statws trawsryweddol yn ffactorau cymhellol wedi gostwng (dyma’r trydydd gostyngiad blynyddol yn olynol ar gyfer anabledd a chyfeiriadedd rhywiol):
- gostyngiad o 8% (306 i 282) mewn troseddau casineb trawsryweddol
- gostyngiad o 3% (1,139 i 1,103) mewn troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol
- gostyngiad o 2% (752 i 739) mewn troseddau casineb anabledd
- cynnydd o 8% (3,632 i 3,911) mewn troseddau casineb hil
- cynnydd o 30% (346 i 451) mewn troseddau casineb crefydd.
Er bod hyn yn ffordd dda o fesur y galw sy’n gysylltiedig â throseddau casineb ar yr heddlu, oherwydd bod heddluoedd yn gwneud gwelliannau sylweddol o ran sut maent yn cofnodi troseddau ers 2014, yn ogystal â gwelliannau o ran nodi beth yw trosedd casineb, nid yw ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu yn darparu gwybodaeth ddibynadwy am dueddiadau mewn troseddau casineb ar hyn o bryd. Hefyd, ni ddylid gweld ffigurau gan yr heddlu fel mesur o ba mor gyffredin yw troseddau casineb.