Mae'r Adran Drafnidiaeth a Chysylltedd Digidol yn holi barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r cod ymarfer ar ddiogelwch gwaith stryd a gwaith ffordd yng Nghymru
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae gwaith stryd a gwaith ffordd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a gwella seilwaith a gwasanaethau cyfleustodau hanfodol.
Rhaid gwneud gwaith o'r fath yn ddiogel er mwyn amddiffyn gweithwyr a lleihau risgiau i'r cyhoedd sy'n teithio.
Rydym yn holi barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r cod ymarfer ar ddiogelwch gwaith stryd a gwaith ffordd.
Mae'r cod ymarfer drafft yn darparu canllawiau statudol ar arwyddo, goleuo a diogelu gwaith stryd a gwaith ffordd ar ffyrdd a phriffyrdd cyhoeddus er mwyn helpu i amddiffyn gweithwyr, defnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.
Mae'r diweddariadau arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau ac arferion gwaith ers i'r cod gael ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2013.
Pam mae eich barn yn bwysig
Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y cod diwygiedig yn glir, yn ymarferol ac yn effeithiol i'r rhai sy'n ei ddefnyddio.
Rydym yn croesawu barn gan:
- gwmnïau cyfleustodau
- contractwyr ffyrdd a pheirianneg sifil
- sefydliadau proffesiynol a chyrff diwydiant
- awdurdodau lleol
- gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus
- grwpiau hygyrchedd
- y gwasanaethau brys
- busnesau
- aelodau'r cyhoedd.
Bydd eich adborth yn helpu i lunio'r cod yn y dyfodol ac i wella safonau diogelwch ledled Cymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK
