Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar Fanyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig.
Mae prentisiaethau'n chwarae rôl bwysig o ran helpu pobl i ddatblygu sgiliau, ennill profiad a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan helpu cyflogwyr i ddatblygu'r gweithlu medrus sydd ei angen arnynt. Wrth i anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru newid, mae'n bwysig bod y system brentisiaethau yn parhau i ddiwallu'r anghenion hynny.
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn creu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. O dan adran 115 o'r Ddeddf, caiff Gweinidogion Cymru bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy. Caiff y gofynion ymwneud â chynnwys fframweithiau prentisiaethau, neu sut y maent yn cael eu paratoi, eu diwygio, eu tynnu'n ôl neu eu cyhoeddi. Bwriedir i Fanyleb Brentisiaethau Cymru nodi'r gofynion hynny a disodli'r Fanyleb Safonau Prentisiaethau Cymru bresennol o 1 Awst 2027 ymlaen.
Mae'r trefniadau arfaethedig wedi'u datblygu i ddarparu fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. Eu bwriad yw cynnal ansawdd a chysondeb ar draws y system brentisiaethau a chaniatáu i fframweithiau prentisiaethau addasu i newidiadau mewn galwedigaethau, gofynion sgiliau a'r farchnad lafur.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar ystod o gynigion yn ymwneud â fframweithiau prentisiaethau, cymhwysedd galwedigaethol, cymwysterau, Sgiliau Hanfodol a gweithrediad y system brentisiaethau yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y trefniadau presennol ar gyfer prentisiaethau yn parhau yn ystod y cyfnod ymgynghori a thrwy gydol y cyfnod pontio i'r fframwaith newydd. Ni fydd prentisiaid sy'n ymgymryd â rhaglenni ar hyn o bryd dan anfantais oherwydd y cynigion hyn.
Rwy'n annog cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, colegau, cyrff dyfarnu, sefydliadau cynrychioladol, prentisiaid ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaethau yng Nghymru i ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd eu barn yn helpu i lywio'r trefniadau terfynol a dyfodol prentisiaethau yng Nghymru.
