Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd mai’r Athro Patrick Prendergast fydd cadeirydd yr adolygiad annibynnol o addysg uwch yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Cyhoeddwyd mai’r Athro Patrick Prendergast fydd cadeirydd yr adolygiad annibynnol o addysg uwch yng Nghymru.
  • Bydd yr adolygiad yn archwilio sut mae addysg uwch yng Nghymru yn cael ei hariannu a’i threfnu.
  • Bydd yr Athro Prendergast yn cael ei gefnogi gan banel bach o arbenigwyr ym meysydd polisi, cyllid a llywodraethu addysg uwch.

Yr Athro Patrick Prendergast fydd yn cadeirio’r adolygiad annibynnol o addysg uwch yng Nghymru.

Mae’r Athro Prendergast yn gyn-Brofost a Llywydd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac ef yw Cadeirydd presennol Prifysgol Dechnegol y De Ddwyrain (SETU) yn Iwerddon. Bydd yn dod â phrofiad helaeth o arweinyddiaeth ym maes addysg uwch i’r rôl. Gan iddo dreulio ei yrfa yn y sector addysg uwch yn Iwerddon, mae'n dod â safbwynt annibynnol ac allanol i'r adolygiad.

Bydd yn cael ei gefnogi gan banel bach o arbenigwyr ym meysydd polisi, cyllid a llywodraethu addysg uwch. Bydd aelodau’r panel yn cael eu cadarnhau yn fuan.

Bydd yr adolygiad yn archwilio sut mae addysg uwch yng Nghymru yn cael ei hariannu a’i threfnu, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, cyllid sefydliadol, ymchwil a chynaliadwyedd y sector.

Dywedodd yr Athro Patrick Prendergast:

“Rwy’n falch iawn o gael arwain yr Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’r adolygiad hwn yn gyfle gwych i ganfod pa fath o system addysg uwch y mae Cymru ei hangen ar gyfer y degawdau nesaf.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r panel arbenigol a rhanddeiliaid yn y sector ac sy’n gysylltiedig â’r sector, ac i ddysgu mwy am yr heriau y maent yn eu hwynebu ac am y cyfleoedd y gallai’r adolygiad hwn eu datgelu.

“Gan weithio gyda’n gilydd, rwy’n hyderus y gallwn argymell ffordd ymlaen a fydd yn sicrhau system addysg uwch gynaliadwy a llwyddiannus yng Nghymru.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell:

“Mae ein prifysgolion ymhlith sefydliadau mwyaf gwerthfawr Cymru. Maent yn ffurfio cenedlaethau o ddysgwyr, yn ysgogi arloesedd ac yn cyfoethogi ein cymunedau a’n diwylliant. Ond maen nhw’n wynebu heriau difrifol sy’n galw am weithredu difrifol.

“Rwy’n falch iawn bod yr Athro Prendergast wedi cytuno i gadeirio’r adolygiad hwn. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad a bydd ei gefndir ym maes addysg uwch yn amhrisiadwy.

“Yr adolygiad hwn yw ein cyfle i fod yn onest am yr heriau sydd o’n blaenau ac i sicrhau bod buddsoddiad mewn addysg uwch yn darparu gwerth gwirioneddol i ddysgwyr, cymunedau a’r genedl.”

Disgwylir i'r panel gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Hydref 2026. Cyflwynir adroddiad interim yn ystod haf 2027, ac yna adroddiad terfynol llawn yn ystod y gaeaf canlynol.