Mae’r ymchwil yn cyflwyno Theori Newid ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), gan ddefnyddio tystiolaeth a lleisiau goroeswyr i nodi’r diwygiadau sydd eu hangen ar gyfer atal, amddiffyn a chymorth cydgysylltiedig.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Comisiynwyd Skills for Justice, mewn partneriaeth â Prifysgol Abertawe, gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r adroddiad hwn. Nod yr ymchwil oedd cryfhau dealltwriaeth o sut mae polisi cenedlaethol, cynllun gweithredu’r Glasbrint a gweithgarwch amlasiantaethol yn cyfrannu at ganlyniadau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan VAWDASV yng Nghymru.
Roedd 6 cham i’r ymchwil
- Sefydlu a chynllunio’r prosiect.
- Adolygiad desg o dystiolaeth a dadansoddiad o ddata eilaidd.
- Ymchwil gynradd, gan gynnwys gweithdai rhanddeiliaid a phaneli ymgysylltu â goroeswyr.
- Dadansoddiad thematig o dystiolaeth ansoddol.
- Gweithdai dilysu ac adolygiad gan y Grŵp Cynghori.
- Llunio’r adroddiad a datblygu’r Theori Newid derfynol.
Mae’r canfyddiadau wedi’u trefnu yn ôl 3 colofn strategol y Strategaeth:
- atal
- amddiffyn
- cefnogi
Mae’r adroddiad yn cyflwyno Theori Newid sy’n nodi’r rhagdybiaethau, y mecanweithiau a’r llwybrau sydd eu hangen i gyflawni newid hirdymor. Cyflwynir y Theori Newid ochr yn ochr â chyfres o argymhellion ymarferol i gryfhau polisi, ymarfer a chydweithio amlasiantaethol ledled Cymru.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 525 KB
Cyswllt
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
