Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r ymchwil yn cyflwyno Theori Newid ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), gan ddefnyddio tystiolaeth a lleisiau goroeswyr i nodi’r diwygiadau sydd eu hangen ar gyfer atal, amddiffyn a chymorth cydgysylltiedig.

Comisiynwyd Skills for Justice, mewn partneriaeth â Prifysgol Abertawe, gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r adroddiad hwn. Nod yr ymchwil oedd cryfhau dealltwriaeth o sut mae polisi cenedlaethol, cynllun gweithredu’r Glasbrint a gweithgarwch amlasiantaethol yn cyfrannu at ganlyniadau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan VAWDASV yng Nghymru.

Roedd 6 cham i’r ymchwil

  1. Sefydlu a chynllunio’r prosiect.
  2. Adolygiad desg o dystiolaeth a dadansoddiad o ddata eilaidd.
  3. Ymchwil gynradd, gan gynnwys gweithdai rhanddeiliaid a phaneli ymgysylltu â goroeswyr.
  4. Dadansoddiad thematig o dystiolaeth ansoddol.
  5. Gweithdai dilysu ac adolygiad gan y Grŵp Cynghori.
  6. Llunio’r adroddiad a datblygu’r Theori Newid derfynol.
     

Mae’r canfyddiadau wedi’u trefnu yn ôl 3 colofn strategol y Strategaeth:

  • atal
  • amddiffyn
  • cefnogi

Mae’r adroddiad yn cyflwyno Theori Newid sy’n nodi’r rhagdybiaethau, y mecanweithiau a’r llwybrau sydd eu hangen i gyflawni newid hirdymor. Cyflwynir y Theori Newid ochr yn ochr â chyfres o argymhellion ymarferol i gryfhau polisi, ymarfer a chydweithio amlasiantaethol ledled Cymru.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 525 KB

PDF
525 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.