Canllawiau, Dogfennu
Mewngofnodi i'r gwasanaeth cofrestru llety
Canllawiau ar sut i fewngofnodi i’r gwasanaeth cofrestru llety ac ychwanegu eich manylion personol.
Ar y dudalen hon
1. Mewngofnodi gan ddefnyddio eich GOV.UK One Login
Bydd angen i chi fewngofnodi neu greu cyfrif gyda GOV.UK One Login.
Os ydych yn creu cyfrif o’r newydd, gwnewch yn siŵr eich bod:
- yn defnyddio cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei ddefnyddio’n aml
- â rhif ffôn symudol neu ap dilysu
Cael trafferth gyda GOV.UK One Login
Os byddwch yn cael trafferthion gyda GOV.UK One Login:
2. Ychwanegu eich manylion personol
Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf, byddwn yn gofyn am eich:
- enw llawn
- rhif ffôn
- dewis iaith (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)
Os ydych yn cynrychioli cwmni neu sefydliad
Rhaid i chi roi eich enw llawn a'ch manylion eich hun.
Peidiwch ag ychwanegu gwybodaeth pobl eraill, fel:
- eich Prif Weithredwr
- aelod reolwyr
- uwch staff
