Cofrestru llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Trosolwg o gofrestru llety ymwelwyr
Canllawiau manwl ar sut i gofrestru llety ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru.
Gyda chyflwyniad Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 sefydlwyd y bydd cofrestr yn cael ei chadw o bersonau sy'n darparu llety ymwelwyr mewn lleoliadau yng Nghymru.
Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn sefydlu ac yn cynnal y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr, a bydd rhan o'r gofrestr yn cael ei gwneud yn gyhoeddus.
Rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr gofrestru os ydynt yn cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos mewn lleoliad llety ymwelwyr yng Nghymru.
