Neidio i'r prif gynnwys

Pryd i wneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr

Rhaid i berson wneud cais i ACC os ydynt eisiau tynnu eu cofnod oddi ar y gofrestr cyn pen 31 diwrnod olynol pan nad yw'r person hwnnw wedi darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.

Pan roddir cais i ACC dynnu cofnod oddi ar y rhestr, bydd y person dan sylw yn cael ei dynnu o'r gofrestr ac yn cael hysbysiad i gadarnhau'r dyddiad y tynnwyd ei gofnod o'r gofrestr. Er mwyn i gais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr fod yn ddilys, bydd angen iddo gynnwys gwybodaeth a bod ar ffurf ddewisol ACC, a bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael unwaith y bydd cofrestru ar agor.

Os bydd person yn gwneud cais i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr, ond bod ACC yn penderfynu peidio â thynnu'r person hwnnw, byddant yn anfon hysbysiad iddynt i egluro:

  • pam nad yw eu cofnod wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr, a
  • yr hawliau adolygu neu apelio sy'n ymwneud â'r hysbysiad

Enghreifftiau o'r dyddiadau cau i ddadgofrestru fel darparwr llety ymwelwyr

Roedd Drake wedi cofrestru fel darparwr llety ymwelwyr ac roedd yn darparu llety ymwelwyr mewn bwthyn yng Nghymru yr oedd yn berchen arno. Penderfynodd Drake werthu'r bwthyn a rhoddodd y gorau i gymryd archebion ar ôl iddo dderbyn cynnig ar y bwthyn. Gadawodd ei ymwelwyr olaf ar 30 Medi 2028, a bryd hynny rhoddodd y gorau i ddarparu llety ymwelwyr. Mae angen i Drake ddadgofrestru cyn 31 Hydref 2028.

Roedd Carl yn gosod ei ystafell sbâr i ymwelwyr ar y rhan fwyaf o benwythnosau. Mae bellach wedi symud yn ôl adref a ni fydd yn darparu llety ymwelwyr ar benwythnosau. Mae'n rhoi'r gorau i hysbysebu ei ystafell sbâr ar 01 Medi 2028, ond mae'n anrhydeddu’r archebion a wnaed hyd at 22 Hydref 2028. Mae angen i Carl ddadgofrestru cyn 21 Tachwedd 2028, gan fod hyn cyn pen 31 diwrnod olynol ohono’n rhoi'r gorau i ddarparu llety ymwelwyr.

ACC yn tynnu person o'r gofrestr

Os yw ACC o'r farn y dylai person fod wedi gwneud cais i dynnu ei gofnod oddi ar y gofrestr, ond nad ydynt wedi gwneud hynny, gall ACC dynnu'r person hwnnw o'r gofrestr.

Cyn y gall ACC gael gwared ar y person hwnnw, rhaid iddynt anfon hysbysiad i'r person sydd yn nodi:

  • pam mae ACC o'r farn y dylai'r person fod wedi gwneud cais i dynnu ei gofnod oddi ar y gofrestr
  • y dyddiad y bydd ACC yn eu tynnu o'r gofrestr, a fydd o leiaf 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad
  • yr hawliau adolygu ac apelio mewn perthynas â'r hysbysiad

Ni fydd ACC yn tynnu'r person oddi ar y gofrestr ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad os, cyn y dyddiad hwnnw:

  • bydd y person yn ymateb gyda'i gais ei hun i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr, neu
  • bydd ACC yn fodlon y dylai'r person aros ar y gofrestr

Os bydd ACC yn tynnu person oddi ar y gofrestr, gallent barhau i wynebu cosbau hyd at y dyddiad y bydd y person:

  • yn rhoi hysbysiad i ACC sy'n cynnwys y dyddiad y gwnaethant roi'r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, neu
  • yn gwneud cais newydd i gael ei gofrestru
Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen