Neidio i'r prif gynnwys

Pwy all gael hysbysiad i ofyn am wybodaeth gan ACC

Gall ACC gyhoeddi hysbysiad i berson sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfen sydd, yn eu barn nhw, yn berthnasol i’w swyddogaethau wrth gynnal y gofrestr.

Gellir anfon hysbysiadau at:

  • ddarparwyr llety ymwelwyr, p'un ai eu bod wedi'u cofrestru neu beidio
  • person a allai, ym marn ACC, fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, gan gynnwys rhywun a allai fod wedi darparu llety ymwelwyr yn y gorffennol
  • person sy'n cynorthwyo neu'n helpu i hwyluso darpariaeth llety ymwelwyr mewn adeiladau yng Nghymru gan ddarparwr llety ymwelwyr, neu rywun sydd, neu wedi bod, yn ddarparwr llety ymwelwyr ym marn ACC

Pan fo hysbysiad yn cael ei gyhoeddi i berson, rhaid iddynt ddarparu’r holl wybodaeth neu ddogfennau a restrir ac sydd yn eu meddiant i ACC. Bydd y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny yn cael ei nodi yn yr hysbysiad ond gellir ei ddiwygio trwy gytundeb ag ACC. Er enghraifft, os oes angen estyniad y tu hwnt i'r dyddiad yn yr hysbysiad oherwydd bod y person dramor neu mae angen nôl y ddogfen.

Enghraifft o hysbysiad gan ACC yn gofyn am wybodaeth

Mae Cymorth Tai Gwyliau Cyf yn gwmni rheoli sy'n helpu nifer o wahanol ddarparwyr llety ymwelwyr gyda'u busnesau darparu llety ymwelwyr mewn adeiladau ledled Cymru. Mae ACC angen gwybodaeth am ddarparwr llety ymwelwyr sy'n gleient i Cymorth Tai Gwyliau Cyf; gall ACC roi hysbysiad gwybodaeth i'r cwmni rheoli yn gofyn am y wybodaeth angenrheidiol.

Apelio yn erbyn hysbysiadau

Bydd yr hysbysiad gan ACC yn darparu gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio. Pan ofynnir am adolygiad, neu pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad a gyhoeddwyd, neu yn erbyn gofyniad penodol o fewn yr hysbysiad hwnnw, ni fydd y dyddiad cau i gydymffurfio â'r hysbysiad bellach yn berthnasol.

Pan fo'r adolygiad neu'r apêl yn cadarnhau penderfyniad ACC i gyhoeddi'r hysbysiad neu ofyniad ynddo, bydd angen darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau erbyn dyddiad arall a fydd yn cael ei ddewis gan ACC, neu erbyn dyddiad y mae’r person ac ACC yn cytuno arno.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen