Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a gweledigaeth

Diben Cafcass Cymru yw diogelu a hyrwyddo budd pennaf plant a phobl ifanc. Er mwyn cyflawni hyn mae angen sefydliad lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi, lle mae cynhwysiant wedi'i wreiddio mewn ymarfer pob dydd, a lle mae tegwch yn egwyddor arweiniol.

Rhwng 2020 a 2025, gwnaethom gynnydd sylweddol o ran cryfhau gwybodaeth staff, systemau ac adnoddau er mwyn ystyried amrywiaeth fel mater o drefn a chefnogi ymarfer cynhwysol. Bydd ein cam nesaf yn atgyfnerthu'r cynnydd hwnnw, ac yn parhau i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym, er mwyn ymgorffori model ymarfer sy'n ystyriol o degwch sy'n cyd-fynd â Fframwaith Ymarfer Cafcass Cymru, Safonau'r Gymraeg, ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a'r safonau proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol fel y'u nodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ein huchelgais ar gyfer 2026 i 2031

  • Bod plant a theuluoedd yn profi ymarfer teg, hygyrch a diwylliannol sensitif. 
  • Bod ymarferwyr yn teimlo'n hyderus, wedi'u cefnogi ac yn meddu ar y sgiliau i gydnabod anghenion o ran hunaniaeth, diwylliant, iaith a hygyrchedd. 
  • Bod arweinwyr yn modelu ymarfer a phenderfyniadau cynhwysol, a safbwynt gwrthwahaniaethol cadarn. 
  • Bod ein systemau, ein data a'n partneriaethau yn ein galluogi i nodi anghydraddoldebau a chymryd camau effeithiol. 
  • Bod amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hadlewyrchu yn ein gweithlu, yn y ffordd rydym yn cynllunio ein gwasanaethau, a'n diwylliant.

Monitro ac adolygu

Bydd cynnydd yn erbyn y fframwaith hwn yn cael ei fonitro drwy ddadansoddi data amrywiaeth yn flynyddol, adroddiadau ar y gweithlu, gweithgareddau dysgu a datblygu, prosesau sicrhau ansawdd ymarfer, ac adborth gan blant, teuluoedd a rhanddeiliaid. Bydd y fframwaith yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ymatebol i dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, deddfwriaeth ac anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Drwy ymgorffori amrywiaeth, cynhwysiant a thegwch ym mhob agwedd ar ein gwaith, bydd Cafcass Cymru yn parhau i gryfhau ei allu i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Sut mae'r fframwaith hwn yn cysylltu â Fframwaith Ymarfer Cafcass Cymru

Mae'r Fframwaith Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ategu ein gwerthoedd fel y'u hamlinellir yn ein fframwaith ymarfer, ac mae'n galluogi ymarfer o ansawdd uchel.

Yn canolbwyntio ar y plentyn

  • Rydym yn defnyddio adnoddau sy'n cefnogi ymarferwyr i alluogi plant i ddisgrifio ei hunaniaeth yn ei eiriau ei hun.
  • Rydym yn ceisio deall anghenion unigol plant ac ymateb i'w dewisiadau cyfathrebu.
  • Rydym yn ystyried diwylliant, hunaniaeth ac anghenion cyfannol plant wrth wneud argymhellion ar eu cyfer.

Parch

  • Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hymarfer ein hunain yn wrthwahaniaethol ac nad ydym byth yn gwneud rhagdybiaethau am unrhyw unigolyn, ond yn hytrach yn ymgorffori chwilfrydedd parchus, gostyngeiddrwydd diwylliannol, ac ymwybyddiaeth o ragfarn yn ein hymarfer.
  • Rydym wedi ymrwymo i drin pawb yn deg, ni waeth beth fo'u cefndir, eu hunaniaeth, eu credoau, neu eu hamgylchiadau personol, ac rydym yn defnyddio dull sy'n ystyriol o drawma wrth gefnogi'r rhai sydd wedi profi rhagfarn.
  • Rydym yn gwerthfawrogi urddas a hawliau pawb rydym yn gweithio gyda nhw, ac yn gwneud addasiadau pan fo angen er mwyn sicrhau bod pawb sy'n defnyddio ein gwasanaeth yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan lawn.
  • Rydym yn sylweddoli bod anghydraddoldebau strwythurol a gwahaniaethu yn effeithio ar fywydau pobl, ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i sicrhau nad yw amrywiaeth yn effeithio'n annheg ar brofiadau neb mewn achosion llys teulu.

Proffesiynol

  • Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a gwella'n barhaus ac yn sicrhau bod amrywiaeth yn rhan annatod o'n rhaglen dysgu a datblygu.
  • Rydym yn sicrhau bod goruchwyliaeth yn mynd i'r afael ag ystyriaethau o ran amrywiaeth, rhagfarn, croestoriadedd, a pha mor dda y mae ein hadroddiadau'n adlewyrchu hunaniaethau unigryw'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw.
  • Rydym yn dadansoddi'r data ar amrywiaeth a gasglwn ac yn eu defnyddio i lywio ein dealltwriaeth o hunaniaethau ac anghenion amrywiol y rhai rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn defnyddio dulliau o adolygu ymarfer i sicrhau bod y wybodaeth a gasglwn am amrywiaeth yn llywio ein gwaith gydag unigolion a'r sefydliad cyfan.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym rhwng 2020 a 2025

Gwnaethom gyflawni cryn dipyn o dan ein Fframwaith Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020 i 2025, ac roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:

  1. Llwyddwyd i ddatblygu a sefydlu system i gasglu gwybodaeth ystyrlon am amrywiaeth gan bob oedolyn a phlentyn rydym yn gweithio gyda nhw.
  2. Sefydlwyd trefniadau i ddadansoddi gwybodaeth am amrywiaeth yn rheolaidd ac erbyn hyn mae gennym ddarlun cliriach o’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw, sy’n llywio ein gwaith o ddatblygu ymarfer a hyfforddiant.
  3. Rydym wedi sefydlu grwpiau hyrwyddwyr amrywiaeth, sy'n cynnig man diogel i drafod materion rydym yn dod ar eu traws, nodi anghenion dysgu a allai fod gennym, a datblygu adnoddau sy’n cefnogi ymarfer gwell drwy'r sefydliad cyfan.
  4. Mae gan bob ardal Reolwr Ymarfer sy’n arwain gwaith ar amrywiaeth, er mwyn sicrhau bod amrywiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth ym mhob tîm.
  5. Mae amrywiaeth yn ystyriaeth allweddol mewn awgrymiadau ar gyfer adroddiadau ac mewn Adolygiadau o Ymarfer.
  6. Rydym wedi darparu hyfforddiant i'r holl staff gan y Gwasanaeth Niwrowahaniaeth Cenedlaethol, er mwyn sicrhau dealltwriaeth o awtistiaeth drwy'r sefydliad cyfan.
  7. Rydym wedi darparu hyfforddiant ar ystod eang o bynciau gan gynnwys niwroamrywiaeth, effaith iechyd meddwl ar rianta, ethnigrwydd a diwylliant, gweithio gyda theuluoedd Pwylaidd a theuluoedd o darddiad Affricanaidd, ac effaith mewnfudo.
  8. Rydym wedi sefydlu cylchlythyrau amrywiaeth a chynhwysiant chwarterol i hyrwyddo ymwybyddiaeth, rhannu gwersi a ddysgwyd, a dathlu amrywiaeth, sydd bob amser yn cynnwys erthygl 'Sbotolau ar Ymarfer' ynghylch sut y gwnaethom ymdrin ag amrywiaeth mewn achos penodol (wedi'i wneud yn ddienw).
  9. Rydym wedi datblygu dogfennau canllaw ychwanegol:
    • i helpu staff cymorth busnes i ymateb i amrywiaeth o heriau cyfathrebu
    • i ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ag anableddau
    • ynghylch ystyriaethau allweddol wrth ddefnyddio dehonglwyr
    • adnodd 'awgrymiadau gwych' i ymarferwyr a rhieni ar helpu plant i ymdopi â chyfnodau o newid, yn enwedig os ydynt yn niwroamrywiol neu'n orbryderus.
  10. Rydym wedi mabwysiadu dull ymatebol o ddefnyddio iechyd galwedigaethol a'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr i gefnogi iechyd meddwl ein staff, ac wedi cynnig hyfforddiant i reolwyr ar gymorth yn ystod y menopos ac ar gefnogi staff niwroamrywiol.

Amcanion a chamau gweithredu: 2026 i 2031

Yn y dyfodol, ein bwriad yw cadw'r ffocws hwn ar amrywiaeth ac adeiladu ar ein cynnydd, gan roi sylw penodol i'r canlynol:

  • Dilyn model ymarfer sy'n ystyriol o degwch
  • Diwylliant a chyfathrebu cynhwysol 
  • Pobl ac arweinyddiaeth gynhwysol, a hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithlu 
  • Cynnal ffocws ar amrywiaeth yn ein Rhaglen Dysgu a Datblygu 
  • Defnyddio data i’n dwyn ein hunain i gyfrif ac i ysgogi gwelliant mewn ymarfer

Ymarfer cynhwysol, sy'n ystyriol o degwch 

  • Mae plant ac oedolion yn profi gwasanaeth diwylliannol sensitif a pharchus gennym, o ran sut rydym yn gwneud ein hymholiadau, a sut rydym yn ymateb i'r wybodaeth a rennir gyda ni.
  • Mae ystyriaethau o ran hunaniaeth, diwylliant, iaith a hygyrchedd yn glir yn yr holl adnoddau ymarfer, templedi ac archwiliadau.
  • Mae gan staff ddealltwriaeth well o groestoriadedd a'r ffordd y mae elfennau gwahanol profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu bywydau bob dydd, eu gallu i gael gafael ar adnoddau, a'r ffordd y maent yn rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn y system cyfiawnder teuluol.
  • Mae gwybodaeth am amrywiaeth a myfyrdodau ar sut mae hunaniaeth a phrofiadau bywyd rhywun yn effeithio ar ei amgylchiadau, yn llywio sut rydym yn ymgymryd â gwaith uniongyrchol gyda phlant ac yn cyfathrebu ag oedolion sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
  • Rydym yn datblygu dull systematig o adolygu'r ffordd briodol o gynnwys a dadansoddi gwybodaeth am amrywiaeth mewn adroddiadau ac argymhellion, gan ystyried anghenion cyfannol plant.
  • Rydym yn parhau i rannu cyfraith achosion, canllawiau ar ymarfer ac ymchwil gydag ymarferwyr yn barhaus er mwyn llywio ein dealltwriaeth o berthnasedd ffactorau amrywiaeth i unigolion yn y system cyfiawnder teuluol.
  • Mae Rheolwyr Ymarfer sy'n arwain gwaith ar amrywiaeth yn chwarae rhan bwysig i annog pob ymarferydd nid yn unig i gasglu gwybodaeth gynhwysfawr am amrywiaeth, ond hefyd i ystyried elfen 'felly beth?' yr amrywiaeth honno yn eu gwaith a sicrhau bod adroddiadau'n adlewyrchu hunaniaethau unigryw ac ystyriaethau perthnasol.
  • Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu fforymau trafod diogel lle gall staff fynd i'r afael â materion sy'n codi mewn perthynas ag amrywiaeth ac ystyried rhagfarn ymwybodol a rhagfarn ddiarwybod, a sut rydym yn sicrhau nad yw hyn yn effeithio ar ein gwaith.

Diwylliant a chyfathrebu cynhwysol

  • Sicrhau diwylliant sefydliadol sy'n teimlo'n ddiogel, yn barchus, yn chwilfrydig ac yn fyfyriol, i'n cydweithwyr a'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
  • Sicrhau bod ein holl gyfathrebu ysgrifenedig yn hygyrch ac yn ddwyieithog fel mater o drefn. Sicrhau bod ein dogfennau allweddol ar gael yn hawdd yn yr ieithoedd a ddefnyddir amlaf gan ddefnyddwyr gwasanaethau (y tu hwnt i Gymraeg a Saesneg); adolygu hyn bob blwyddyn pan fydd ein dadansoddiad o ddata amrywiaeth wedi'i gwblhau.
  • Sicrhau bod ein holl gyfathrebu digidol ac ysgrifenedig yn dilyn safonau iaith glir.
  • Datblygu gwybodaeth ychwanegol i unigolion niwroamrywiol sy'n defnyddio ein gwasanaeth, er mwyn helpu i leihau gorbryder ac ansicrwydd ynghylch y broses.
  • Datblygu canllawiau i ymarferwyr i ysgogi ymholiadau priodol ynghylch pa addasiadau fyddai orau i gefnogi unigolion wrth iddynt ymgysylltu â ni, a pha addasiadau rhesymol y gallwn eu hystyried.
  • Sicrhau bod pob aelod o staff Cafcass Cymru yn cael hyfforddiant a chanllawiau perthnasol i sicrhau cyfathrebu cynhwysol.

Pobl ac arweinyddiaeth gynhwysol

  • Arweinyddiaeth sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, gan ystyried sut y gellir cynyddu amrywiaeth yn y Grŵp Arweinyddiaeth Weithredol, a/neu drafodaethau arweinyddiaeth wedi'u llywio gan ystod amrywiol o staff.
  • Parhau i gryfhau'r cysylltiad â Llywodraeth Cymru, prifysgolion a chymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn annog ceisiadau am swyddi Cafcass Cymru gan unigolion sydd â phrofiadau bywyd amrywiol.
  • Bod y staff yn teimlo'n hyderus, eu bod yn cael eu cefnogi a'u cynnwys, ni waeth beth fo'u hunaniaethau a'u hanghenion unigryw.
  • Diwylliant sefydliadol sy'n normaleiddio'r ffaith y gall pob un ohonom wynebu anawsterau ar ryw adeg, ac y dylem geisio cymorth heb deimlo unrhyw stigma.
  • Ystod o addasiadau rhesymol sy'n cefnogi staff ag anghenion sy'n gysylltiedig â niwroamrywiaeth neu gyfathrebu i wneud eu gwaith gorau.
  • Cynnal a chryfhau ein cysylltiadau â'r Cyngor Cyfiawnder Teuluol, y Rhwydwaith Cyfiawnder Hil i Deuluoedd a'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc, er mwyn sicrhau ein bod yn cyfrannu at welliannau o ran ymarfer cynhwysol yn y System Cyfiawnder Teuluol ac yn parhau i ganolbwyntio ar hynny.

Cynnal ffocws ar amrywiaeth yn ein rhaglen dysgu a datblygu 

  • Cadw ffocws ar ymarferwyr yn dysgu oddi wrth ei gilydd, yn rhannu gwybodaeth ac yn defnyddio ein data amrywiaeth i lywio blaenoriaethau o ran Dysgu a Datblygu.
  • Mae'r hyfforddiant sydd ar ddod mewn perthynas ag amrywiaeth yn cynnwys;
    • Canolbwyntio ar effaith hiliaeth ar Blant a Phobl Ifanc
    • Sesiynau penodol ar gam-drin domestig a fydd yn canolbwyntio ar groestoriadedd camdriniaeth ddomestig: lle mae un partner neu’r ddau yn anabl a/neu’n niwroamrywiol; mewn cydberthnasau LHDTC+; mewn diwylliannau gwahanol. 
    • Hyfforddiant ar bwysigrwydd ffydd, gan ddefnyddio ein data am y crefyddau mwyaf cyffredin ymhlith yr unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. 
    • Darparu hyfforddiant wedi'i ddiweddaru mewn perthynas â sut i weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau
  • Mwy o hyder drwy'r sefydliad cyfan i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â rhyw a rhywedd, a chanolbwyntio arnynt, gan gynnwys sut mae'r rhain yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Parhau i fod yn ymwybodol o gyfraith achosion a chanllawiau Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu, a datblygu hyfforddiant ar y materion hyn.

Mewnwelediad, data ac atebolrwydd

  • Casglu gwybodaeth gyflawn am amrywiaeth, gyda phob aelod o staff yn deall pwysigrwydd gwneud hynny.
  • Parhau i ddadansoddi data am amrywiaeth yn flynyddol a rhannu'r wybodaeth â rhanddeiliaid fel y bo’n berthnasol.
  • Defnyddio ein data ar amrywiaeth ochr yn ochr â data eraill i adolygu a deall anghenion y bobl hynny rydym yn gweithio gyda nhw.