Canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18: asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg ar canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18.
Ar y dudalen hon
Trosolwg a chysondeb strategol
Mae datblygu canllawiau ar gyfer Medr ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gefnogi ac annog ymdrechion i atgyfnerthu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg ôl-16, fel pwnc a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau cysondeb cryf â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Mae'r cynnig hwn hefyd yn cefnogi un o nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru "lle mae'r Gymraeg yn ffynnu".
Mae addysg yn hanfodol wrth gyflawni'r uchelgais o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'u defnydd o'r iaith. Mae rôl Medr wrth lunio cwricwla lleol 16 i 18 oed yn cynnig cyfle pwysig i atgyfnerthu addysg cyfrwng Cymraeg, cefnogi cynnydd, a hyrwyddo defnydd parhaus o'r iaith y tu hwnt i addysg orfodol.
Mae'r canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 oed yn adlewyrchu’r dyletswyddau statudol a osodwyd ar Medr gan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), gan gynnwys hyrwyddo’r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r lefelau cyfranogiad cysylltiedig, a sicrhau darpariaeth ddigonol i fodloni'r galw hwnnw. Fel y nodwyd yn yr asesiad effaith integredig a gwblhawyd ar gyfer y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae cysylltiad clir rhwng Medr a nodau Strategaeth Cymraeg 2050 o ran gwella'r broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg a hyfforddiant ôl-16; gan sicrhau y gall pob dysgwr ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i'w llawn botensial ac annog cynnydd ieithyddol cadarn o un cyfnod addysg a hyfforddiant i'r cyfnod nesaf; a gwella sut y rhoddir cymorth canolog ym maes addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.
Yr effaith ar y Gymraeg
Disgwylir i'r cynnig hwn gael effaith gadarnhaol gymedrol i sylweddol ar y Gymraeg, yn benodol drwy gynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ac atgyfnerthu'r llwybrau cynnydd i ddysgwyr.
Mae'r canllawiau yn hyrwyddo'r canlynol:
- sicrhau bod mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael o fewn cwricwla lleol
- gwell parhad i ddysgwyr sy'n symud ymlaen o addysg cyfrwng Cymraeg yn 14 i 16 oed i lwybrau ôl-16
- ehangu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar draws llwybrau academaidd a galwedigaethol
- mwy o gydweithio rhwng darparwyr i ehangu mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Drwy gynnwys disgwyliadau ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth gynllunio cwricwla lleol, disgwylir i'r cynnig gynyddu cyfranogiad mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a chefnogi dysgwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith.
Yr effaith ar gymunedau Cymraeg eu hiaith
Disgwylir i'r cynnig hwn gael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Drwy anelu at alluogi mwy o ddysgwyr i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i 16 oed, mae'r polisi yn helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg wrth i bobl ifanc ddod yn oedolion. Mae hyn yn cyfrannu at fywiogrwydd hirdymor cymunedau Cymraeg eu hiaith drwy gynyddu nifer yr unigolion sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol, addysgol a phroffesiynol.
Mae atgyfnerthu llwybrau cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys llwybrau galwedigaethol, yn arbennig o bwysig er mwyn sicrhau y gall dysgwyr aros o fewn cymunedau Cymraeg gan fanteisio ar gyfleoedd addysg a chyflogaeth perthnasol ar yr un pryd.
Yr effaith ar addysg a dysgwyr cyfrwng Cymraeg
Disgwylir i'r cynnig gefnogi cynnydd yn nifer y cyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ac amrywiaeth y cyrsiau hynny drwy wneud y canlynol:
- hyrwyddo parhad ieithyddol rhwng addysg cyn-16 ac ôl-16
- cynyddu nifer y cyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ac amrywiaeth y cyrsiau hynny
- cefnogi modelau cyflawni hyblyg a chydweithredol, gan gynnwys partneriaethau rhwng ysgolion a sefydliadau AB
- annog y defnydd o ddarpariaeth ddigidol a hybrid (fel E-Sgol) i ehangu mynediad lle mae'r capasiti lleol yn gyfyngedig
- cefnogi ymdrechion i ddarparu Cymraeg fel cymhwyster Safon Uwch, hyd yn oed pan fo nifer isel o ddysgwyr
Mae'r canllawiau yn glir na ddylid lleihau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau effeithlonrwydd, ac er y dylid osgoi achosion o ddyblygu darpariaeth yn gyffredinol, ni ddylai Medr a chynllunwyr cwricwla lleol ystyried achos o ddarparu cyrsiau ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg fel achos o ddyblygu. Yn dilyn adborth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'r canllawiau yn glir y dylid cefnogi unrhyw ddysgwr sydd am barhau i astudio Cymraeg neu Gymraeg Craidd i wneud hynny, ac na ddylai nifer isel o ddysgwyr ynddo'i hun ddylanwadu ar benderfyniadau o ran cynnig darpariaeth.
Disgwylir i'r dull hwn wella dewis dysgwyr a sicrhau y gall dysgwyr cyfrwng Cymraeg gael mynediad at gynnig cwricwlwm eang ac ystyrlon drwy eu dewis iaith.
Yr effaith ar wasanaethau yn Gymraeg
Disgwylir i'r cynnig gael effaith gadarnhaol hirdymor ar argaeledd gwasanaethau yn Gymraeg.
Drwy gynyddu nifer y dysgwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg cadarn, gan gynnwys mewn llwybrau galwedigaethol a thechnegol, bydd y polisi yn helpu i gefnogi gweithlu sy'n gallu darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i sectorau allweddol fel addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol.
Y risgiau a'r effeithiau negyddol posibl
Er y disgwylir yn gyffredinol i'r canllawiau hyn gael effaith gadarnhaol, a bod yr adborth ar ein hymgynghoriad yn gadarnhaol ar y cyfan gyda'r ymatebwyr yn tynnu sylw at fanteision cadarnhaol y polisi, nodwyd rhai risgiau posibl gan undebau athrawon, ysgolion a cholegau, gan gynnwys:
- cyfyngiadau o ran capasiti’r gweithlu, yn enwedig prinder staff addysgu sy’n siarad Cymraeg mewn rhai meysydd pwnc penodol
- amrywiad o ran argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol
- heriau posibl wrth gynnal y ddarpariaeth lle mae niferoedd y dysgwyr yn isel
- dibyniaeth ar drefniadau cydweithio effeithiol rhwng darparwyr er mwyn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg eang
Cyfyngiadau o ran cyllid a'r gweithlu oedd y prif risgiau a amlygwyd drwy ein proses ymgynghori, yn enwedig o ran darpariaeth Gymraeg. Mae'r materion hyn yn heriau sy'n bodoli eisoes a chafodd y canllawiau eu cynllunio er mwyn helpu i fynd i'r afael â nhw, yn hytrach na chreu rhwystrau ychwanegol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae risg y gallai cefnogi ymdrechion i addysgu unrhyw bwnc sydd â nifer isel o ddysgwyr mewn ysgol neu goleg ddangos gwerth gwael am arian, yn enwedig o gymharu â chyrsiau mwy poblogaidd. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn yn erbyn manteision cefnogi dysgwyr sy'n siarad Cymraeg a pharhau i ddefnyddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Mae heriau sy'n gysylltiedig â gwledigrwydd eisoes yn bodoli ym maes addysg ôl-16 yng Nghymru, gydag adroddiadau thematig Estyn yn nodi amrywiad daearyddol ac annhegwch fel materion cyflawni allweddol. Mae'r materion hyn yn arbennig o amlwg ymhlith pynciau lle ceir niferoedd isel o ddysgwyr, fel cyrsiau iaith Gymraeg, lle gall y ddarpariaeth leol fod yn gyfyngedig. Er bod ein canllawiau wedi'u cynllunio i ryw raddau i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn ac mai diben cynigion cwricwlwm lleol yw ehangu'r cynigion sydd ar gael i ddysgwyr, bydd llwyddiant yn dibynnu ar roi'r canllawiau hyn ar waith yn effeithiol. Bydd angen i Medr hefyd barhau i weithredu mewn perthynas â'i ddyletswyddau statudol o ran y Gymraeg er mwyn sicrhau bod cynigion ystyrlon ar gael i ddysgwyr.
Camau lliniaru a gweithredu
Nid yw'r canllawiau ar gwricwla lleol 16 i 18 yn creu risgiau ychwanegol o ran addysg Gymraeg yng Nghymru, ond yn hytrach, maent yn ceisio mynd i'r afael â sut y gall Medr a chynllunwyr cwricwla liniaru rhai o'r materion presennol hyn. Mae'r canllawiau yn gwneud hyn drwy'r canlynol:
- disgwyliadau mwy cadarn o ran y trefniadau cydweithio rhwng darparwyr i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- defnyddio modelau cyflawni digidol a hybrid i oresgyn cyfyngiadau daearyddol a chyfyngiadau o ran capasiti
- cysondeb â Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSACau) i gefnogi gwaith cynllunio lleol cydgysylltiedig
- tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael drwy Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu capasiti i ddarparu cwricwlwm ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg
- egluro bod disgwyl i Medr ymgysylltu â sefydliadau fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn helpu i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
Wrth gyflawni ei ddyletswyddau statudol, bydd Medr yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi a'i hadlewyrchu'n ddigonol wrth gynllunio a chyflwyno cynigion cwricwlwm lleol.
Monitro a gwerthuso
Un o gryfderau allweddol y cynnig hwn yw y bydd gwybodaeth llawer mwy cynhwysfawr ar gael i Medr am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag a fu ar gael yn flaenorol. Bydd Medr yn cyflwyno adroddiadau ar yr wybodaeth hon i Lywodraeth Cymru drwy’r sianeli adrodd presennol.
Caiff effaith y cynnig ei monitro drwy'r canlynol:
- cyfraddau cyfranogiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel ôl-16
- cyfraddau'r dysgwyr cyfrwng Cymraeg sy'n symud ymlaen i addysg bellach ac uwch, hyfforddiant, a (neu) gyflogaeth
- argaeledd cyrsiau cyfrwng Cymraeg fel rhan o gwricwla lleol ac amrywiaeth y cyrsiau hynny
- adborth gan ddysgwyr a darparwyr
Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan Medr yn helpu i ddarparu gwerthusiad parhaus i ddangos a yw'r polisi yn cyflawni ei ganlyniadau bwriadedig ac a oes angen camau gweithredu ychwanegol i fynd i'r afael â bylchau neu anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth.
Crynodeb
Gallai'r cynnig hwn wneud cyfraniad sylweddol at uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a chynyddu'r defnydd o'r iaith.
Y bwriad yw y bydd yn helpu i atgyfnerthu addysg cyfrwng Cymraeg, yn cefnogi cynnydd dysgwyr, ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Er bod risgiau mewn perthynas â chyflawni a chapasiti, cafodd y risgiau hyn eu nodi a chânt eu lliniaru drwy drefniadau cydweithio, cynllunio a monitro parhaus.
