Gwricwla lleol 16 i 18 : canllawiau
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r dyletswyddau cyfreithiol ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r dyletswyddau cyfreithiol ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 yng Nghymru a fydd yn trosglwyddo o Weinidogion Cymru i Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil). Trosglwyddwyd dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â llunio cwricwla lleol 16 i 18 i Medr o fis Ebrill 2026. Datblygwyd y canllawiau hyn i Medr a byddant yn gweithredu fel canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru i Medr ar lunio cwricwla lleol 16 i 18 yng Nghymru. Fe'u gwneir o dan adran 20 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022.
Fel canllawiau statudol, rhaid i Medr eu hystyried wrth arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (Deddf 2000).
Ym mhob rhan o'r canllawiau, rydym yn defnyddio'r gair ‘dylai’ wrth gyfeirio at ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru. Mae'r defnydd o ’dylai’ yn cyfeirio at gamau rydym yn argymell yn gryf y dylai Medr eu cymryd, ond nid yw'n awgrymu bod y camau hyn yn ofynion gorfodol (a gaiff eu nodi ar wahân drwy'r canllawiau gan ddefnyddio'r gair ‘rhaid’). Gan fod yr argymhellion hyn yn rhan o'r canllawiau statudol, rhaid i Medr eu hystyried, ond gall benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol os bydd rheswm da dros wneud hynny.
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i lunio cwricwla lleol 16 i 18 ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir ag adrannau chweched dosbarth (‘ysgolion’) a Sefydliadau Addysg Bellach (‘SABau’). Bydd hyn yn cefnogi ein gweledigaeth polisi ar gyfer llwybrau dysgu 14 i 19. Nid yw'n berthnasol i brentisiaethau, gan mai fframweithiau prentisiaeth sy'n pennu'r cwricwla ar eu cyfer nhw, nac i ddysgu seiliedig ar waith.
Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnwys cyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt at y diben hwnnw. Rhaid i Medr gael ei gyngor cyfreithiol ei hun.
Diffiniadau
'Cwricwlwm lleol' yw'r cwricwlwm a lunnir gan Medr ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed mewn ardal awdurdod lleol ac mae'n cynnwys y cyrsiau astudio sydd ar gael i ddysgwyr yn yr ardal honno. Mae 'cynnig cwricwlwm lleol' yn cyfeirio at yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr drwy gwricwlwm lleol. Mewn rhai achosion, gall Medr lunio mwy nag un cwricwlwm lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol. Lle mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at fwy nag un cwricwlwm lleol, defnyddir y term lluosog 'cwricwla lleol'.
O dan Ddeddf 2000, mae ‘llunio’ cwricwlwm lleol yn ymwneud â'r broses gyffredinol o bennu cynnig cwricwlwm lleol ac mae ‘cynllunio’ cwricwlwm lleol yn golygu'r broses a ddefnyddir i gytuno ar gyrsiau astudio i'w cynnwys yn y cynnig cwricwlwm lleol. Bydd unrhyw gyfeiriadau at ‘lunio’ neu ‘gynllunio’ yn y canllawiau hyn yn defnyddio'r diffiniadau hyn.
Lle ceir cyfeiriadau at ‘gynllunwyr cwricwla’ yn y canllawiau hyn, ystyr cynllunwyr cwricwla yw'r cyrff hynny sy'n gyfrifol am helpu Medr i gynllunio'r cwricwlwm neu'r cwricwla lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol, fel y nodir yn adran 33J o Ddeddf 2000. Awdurdodau lleol, ysgolion a SABau yw'r rhain.
Lle ceir cyfeiriadau at ‘gwrs’ neu ‘gyrsiau’ astudio yn y canllawiau hyn, mae hyn yn cyfeirio at gwrs astudio sy'n arwain at gymhwyster wedi'i gymeradwyo neu wedi'i ddynodi gan Cymwysterau Cymru i'w gyflwyno fel rhan o raglenni a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed.
1. Y weledigaeth ar gyfer dysgu 16 i 18
1.1 Mae'r broses o bontio i ddysgu ôl-16 i ddysgwyr yn gam sylweddol, gan nodi diwedd addysg orfodol yng Nghymru a'r adeg lle cânt y cyfle i arbenigo mewn cyrsiau o'u dewis mewn ysgol neu SAB, dechrau prentisiaeth, camu i mewn i ddysgu seiliedig ar waith neu gymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+.
1.2 Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr astudio pynciau o'u dewis yn fanylach – boed hynny'n gymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol – sy'n cyfateb i'w dyheadau a'u llwybrau ar gyfer y dyfodol. Byddant hefyd yn symud o gwricwlwm ‘eang a chytbwys’, i gwricwlwm wedi'i deilwra mwy ac sy'n fwy hyblyg ac amrywiol.
1.3 Mae'r cyfle i ddysgwyr arbenigo yn 16 oed, gan ddewis llwybr sydd wedi'i ddylunio ar eu cyfer a'u dyheadau o ran addysg uwch a (neu) gyflogaeth, yn un o gryfderau addysg 16 i 18 yng Nghymru. Mae hyn yn dibynnu ar sicrhau bod amrywiaeth eang o opsiynau ar gael iddynt a'u bod yn deall yr opsiynau hynny. Wrth i ddysgwyr bontio o'r Cwricwlwm i Gymru i mewn i addysg ôl-16, mae'n bwysig cydnabod eu dysgu blaenorol ac adeiladu arno. Er bod y Cwricwlwm i Gymru yn gorffen pan fydd dysgwyr yn 16 oed, dylai'r cwricwla ôl-16 ymateb i brofiadau blaenorol dysgwyr o hyd, a galluogi cynnydd sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.
1.4 O fis Medi 2027, bydd dysgwyr sy'n dechrau rhaglenni addysg a hyfforddiant ôl-orfodol wedi dilyn y Cwricwlwm i Gymru hyd at Flwyddyn 11. Mae'r pedwar pwrpas, y dylid dylunio cwricwlwm pob ysgol o'u cwmpas, wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
1.5 Ni ddylai'r pedwar diben hyn ar gyfer addysg ddod i ben yn 16 oed, ond yn lle hynny, dylent lywio gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu 16 i 18 a thu hwnt yng Nghymru, gyda phob dysgwr yn parhau i ddatblygu tuag atynt drwy gydol eu haddysg.
1.6 Yn seiliedig ar y pedwar diben, dylai dysgu 16 i 18 – a'r cwricwla lleol ledled Cymru sy'n ei gyflwyno – hefyd wneud y canlynol:
- sicrhau bod cyfnodau pontio dysgwyr yn fwy esmwyth, a hynny:
- yn dilyn diwedd cyfnod addysg orfodol yn 16 oed
- wrth symud ymlaen i addysg drydyddol, hyfforddiant neu gyflogaeth yn 18 neu'n 19 oed – gan roi hyder i ddysgwyr symud ymlaen i'r camau nesaf a ddewiswyd ganddynt
- canolbwyntio ar y dysgwr a'i anghenion
- cefnogi cyfraddau cyfranogi uwch, mewn addysg 16 i 18 ac mewn addysg uwch a phrentisiaethau
- ymgorffori parch cydradd rhwng cymwysterau a llwybrau cyffredinol a galwedigaethol
- cynllunio ar gyfer dysgu Cymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, cynnig mwy o gyfleoedd i wneud hynny ac annog y galw
- rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i allu addasu drwy gydol eu bywydau mewn economi a chymdeithas sy'n newid yn barhaus
1.7 Drwy gydol eu dysgu 16 i 18, rydym am i gynifer o ddysgwyr â phosibl ennill cymwysterau Lefel 3 – gan nodi'r manteision a ddaw iddynt yn sgil hynny fel unigolion, i gymdeithas, ac i economi Cymru – gan hefyd gydnabod pwysigrwydd darparu opsiynau i ddysgwyr y mae angen iddynt ddechrau eu dysgu 16 i 18 ar lefel is.
1.8 Yn y pen draw, rydym am i bob dysgwr wneud cynnydd ar hyd llwybr sy'n diwallu ei anghenion ac yn bodloni ei uchelgeisiau penodol, gan ei alluogi i lwyddo a chamu'n hyderus i fywyd fel oedolyn, gan gydnabod bod pob llwybr yn gyfwerth. Yn yr un modd, rydym am i ddysgwyr allu manteisio ar amrywiaeth deg o gyfleoedd i gefnogi'r cynnydd hwn, ni waeth ble y maent yn byw yng Nghymru.
1.9 Dylai'r dewisiadau a wnaiff dysgwyr am eu cyrchfannau a'u dysgu 16 i 18 pan fyddant yn yr ysgol gael eu llywio gan wybodaeth ddiduedd a chynhwysfawr o ansawdd uchel am y cyrsiau a'r llwybrau sydd ar gael iddynt ym mhob lleoliad. Gall ysgolion, SABau, Gyrfa Cymru, a sefydliadau perthnasol eraill oll chwarae rhan wrth sicrhau y caiff y wybodaeth hon ei chyflwyno mewn ffordd gyson a'i bod ar gael yn hawdd, gan alluogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus sy'n cefnogi eu dyheadau a'u llwyddiant yn y dyfodol ar eu taith ddysgu 16 i 18 a thu hwnt.
Sefydlu Medr
1.10 Sefydlodd y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr). Mae Medr yn gyfrifol am drefniadau goruchwylio strategol, ansawdd a chyllid mewn perthynas â'r canlynol:
- addysg bellach, gan gynnwys SABau ac adrannau chweched dosbarth
- addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi
- addysg i oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned
- prentisiaethau
1.11 Mae amrywiaeth o fuddiannau strategol ac ymarferol ac sy'n canolbwyntio ar y dysgwr yn deillio o sefydlu Medr, gan fod corff unigol bellach yn gyfrifol am addysg ôl-orfodol. Mae'r canllawiau hyn yn ceisio sicrhau y caiff y buddiannau hynny eu gwireddu mewn perthynas â dysgu 16 i 18, drwy'r rôl y bydd Medr yn ei chwarae wrth lunio cwricwla lleol 16 i 18, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, ysgolion a SABau.
1.12 Mae'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn nodi 11 o ddyletswyddau strategol i Medr, gan hefyd drosglwyddo'r ddyletswydd ar gyfer llunio cwricwla lleol 16 i 18 o Weinidogion Cymru i Medr (bwriedir iddi gael ei throsglwyddo o fis Ebrill 2026). Fe'u nodir yn adran 2 i 12 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae'r tair dyletswydd strategol a restrir isod yn arbennig o berthnasol o ran rôl Medr yn llunio cwricwla lleol 16 i 18, a chyfeirir atynt drwy gydol y canllawiau hyn:
- Annog cyfranogiad (adran 4).
- Hybu cydlafurio a chydlynu (adran 7).
- Hybu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (adran 9).
1.13 O dan adran 9 (2) o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ffurfiol i roi cyngor i Medr ar ei ddyletswyddau strategol statudol mewn perthynas â'r Gymraeg.
Diben a nodau'r canllawiau hyn
1.14 Cafodd Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 ei diwygio gan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil er mwyn rhoi'r cyfrifoldeb i Medr lunio cwricwlwm lleol ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan Medr mewn perthynas â'i ddyletswydd i lunio cwricwla lleol. Bydd y canllawiau hyn hefyd yn amlinellu'r dyletswyddau presennol a osodwyd ar awdurdodau lleol, ysgolion a SABau yn Neddf 2000.
1.15 Bydd y canllawiau hyn yn llywio gwaith Medr gydag awdurdodau lleol, ysgolion a SABau wrth gynllunio a llunio cwricwla lleol o flwyddyn academaidd 2026 i 2027 ymlaen. Caiff y cwricwla lleol cyntaf a gaiff eu llunio gan gyfeirio at y canllawiau hyn eu haddysgu i ddysgwyr o fis Medi 2027.
1.16 Byddem hefyd yn rhagweld y bydd Medr yn defnyddio'r canllawiau hyn i lywio gwaith cynllunio strategol ar y cyd ac i lywio ei waith i annog mwy o gydlafurio a gweithio mewn partneriaeth rhwng darparwyr mewn perthynas â llunio cwricwla lleol.
2. Priod ddyletswyddau
2.1 Ystyr cwricwlwm lleol yw'r cwricwlwm sy'n rhoi'r hawl i ddysgwyr 16 i 18 oed yng Nghymru ddewis eu cyrsiau, ac wedyn eu hastudio mewn ysgolion neu SABau. Dylai cynigion cwricwlwm lleol gynnwys amrywiaeth o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol y mae gan ddysgwyr yr hawl i'w hastudio. Bydd cynigion cwricwlwm lleol yn cael eu cynllunio gan awdurdodau lleol, ysgolion a SABau o hyd.
2.2 O fis Ebrill 2026, y bwriad yw y bydd Medr yn gyfrifol am y ddyletswydd a ddaliwyd yn flaenorol gan Weinidogion Cymru i lunio cwricwla lleol. Fel rhan o'r broses o lunio cwricwla lleol, bydd gan Medr y pŵer i bennu'r paramedrau y mae'n rhaid i gwricwla lleol eu bodloni. Mae hyn yn debygol o gynnwys nifer y cyrsiau, natur y cyrsiau (academaidd a galwedigaethol), cwmpas meysydd dysgu, a lefelau'r cyrsiau a fydd ar gael o fewn y cwricwlwm.
2.3 Mae'r adran hon yn amlinellu dyletswyddau cyfreithiol Llywodraeth Cymru, Medr, awdurdodau lleol, ysgolion a SABau, pan ddaw'r newidiadau deddfwriaethol a nodir yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil i rym, mewn perthynas â chynllunio, llunio a monitro'r cwricwla lleol 16 i 18.
Llywodraeth Cymru
2.4 Mae dyletswydd barhaus ar Weinidogion Cymru i hybu addysg pobl yng Nghymru (adran 10 o Ddeddf Addysg 1996). Maent yn gyfrifol am bennu'r fframwaith polisi strategol eang a'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â dysgu a chwricwla 16 i 18 yng Nghymru. O dan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, bu newidiadau i swyddogaethau statudol penodol yn y maes polisi hwn a cheir crynodeb ohonynt isod.
2.5 Bwriedir i'r cyfrifoldeb dros lunio'r cwricwla lleol drosglwyddo i Medr o fis Ebrill 2026. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ddatblygu a darparu canllawiau i Medr mewn perthynas â'i ddyletswydd i lunio cwricwla lleol (mae adran 20 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol i Medr ystyried canllawiau a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru wrth arfer ei swyddogaethau, gan gynnwys mewn perthynas â'i ddyletswydd i lunio cwricwla lleol).
2.6 Nid yw'r holl swyddogaethau sy'n ymwneud â chwricwla lleol 16 i 18 wedi trosglwyddo i Medr. Mae Gweinidogion Cymru wedi cadw'r pŵer i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol, ysgolion a chyrff llywodraethu SABau mewn perthynas â'r ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cynifer o gyrsiau â phosibl ar gael yn y cwricwlwm lleol (adran 33K a 33L o Ddeddf 2000). Er mwyn cynnig eglurder a symlrwydd i awdurdodau lleol, ysgolion a SABau, rydym yn bwriadu datblygu unrhyw ganllawiau ar y pwnc hwn yn y dyfodol gan sicrhau eu bod yn gyson ag unrhyw ganllawiau y bydd Medr yn eu llunio ar gynllunio cwricwla lleol. Am nawr, mae canllawiau 2014 yn parhau ar waith.
2.7 Mae Gweinidogion Cymru yn cadw eu pwerau i ddiwygio, hepgor ac ychwanegu at y pum maes dysgu a nodwyd yn adran 33A o Ddeddf 2000, sef:
- mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg
- busnes, gweinyddiaeth a'r gyfraith
- gwasanaethau i bobl
- y celfyddydau, y cyfryngau, diwylliant ac ieithoedd
- y dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol a pharatoi ar gyfer bywyd a gwaith
Medr
2.8 O dan adran 33A o Ddeddf 2000 (Llunio cwricwla lleol i fyfyrwyr 16 i 18 oed), rhaid i Medr lunio un cwricwlwm lleol neu fwy i fyfyrwyr sydd uwchlaw oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed ar gyfer ardal pob awdurdod lleol. Rhaid i bob cwricwlwm lleol gynnwys cyrsiau astudio o bob un o'r pum maes dysgu ac a gaiff eu dewis gan Medr i lunio rhan o'r cwricwlwm lleol hwnnw.
2.9 O dan adran 33B o Ddeddf 2000 (Cwricwla lleol: Y Gymraeg), rhaid i Medr arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â chwricwla lleol er mwyn hybu mynediad i gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau bod cyrsiau astudio o'r fath ar gael.
2.10 O dan adran 33C o Ddeddf 2000 (Ardaloedd â mwy nag un cwricwlwm lleol), pan fydd Medr yn llunio mwy nag un cwricwlwm lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol o dan adran 33A, rhaid i Medr ddynodi'r ysgolion neu'r sefydliadau y bydd gan eu myfyrwyr perthnasol yr hawl o dan adran 33E (Dewisiadau disgyblion o ran cyrsiau cwricwla lleol) i ddewis dilyn cyrsiau astudio sydd wedi'u cynnwys yn y cwricwlwm.
2.11 Dylid dylunio cwricwla lleol i gynnig amrywiaeth o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol. Roedd Gweinidogion Cymru wedi nodi'n flaenorol mewn canllawiau statudol y dylid cynnig o leiaf 30 o gyrsiau, gan gynnwys o leiaf pum cwrs cyffredinol a phum cwrs galwedigaethol, drwy gwricwlwm lleol. Gan fod y ddyletswydd i lunio cwricwla lleol bellach wedi trosglwyddo i Medr, dylai Medr nawr bennu'r paramedrau hyn. Dylai Medr eu pennu gan gyfeirio at y gofynion blaenorol yn ogystal â'r ddyletswydd ar gynllunwyr cwricwla i sicrhau cynifer o gyrsiau â phosibl. Dylai'r disgwyliadau hyn gael eu nodi yn y canllawiau a gaiff eu datblygu gan Medr i awdurdodau lleol, ysgolion a SABau ar gynllunio cwricwla lleol.
2.12 Mae'n ofynnol i Medr oruchwylio'r broses o gynllunio cwricwla lleol gan awdurdodau lleol, ysgolion a SABau, a monitro'r gwaith o'u cyflwyno. O fis Ebrill 2026, y bwriad yw y rhoddir y pŵer i Medr lunio canllawiau statudol i awdurdodau lleol, ysgolion a SABau ar gynllunio cwricwla lleol. Bydd y canllawiau a gaiff eu llunio gan Medr yn disodli canllawiau presennol 2014. Bydd canllawiau 2014 yn parhau mewn grym hyd nes y caiff canllawiau newydd eu llunio.
2.13 Dylid llunio'r cwricwlwm lleol mewn digon o amser i alluogi disgyblion i ddewis dilyn cyrsiau astudio cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
Awdurdodau lleol
2.14 O dan adran 33J o Ddeddf 2000 (Cynllunio'r cwricwlwm lleol), bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol i helpu Medr i gynllunio'r cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed. Ystyr ‘Cynllunio'r cwricwla lleol’ yw'r broses y bydd Medr yn ei defnyddio, gan ymgynghori â phartneriaid, i benderfynu pa gyrsiau astudio i'w cynnwys yn y cwricwla lleol.
2.15 Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cynifer o gyrsiau astudio â phosibl ar gael o fewn y cwricwlwm lleol (adran 33K o Ddeddf 2000). Y nod yw helpu i sicrhau dewis mor eang â phosibl o gyrsiau i ddysgwyr o'r cwricwlwm lleol. Ar ôl-16 (16 i 18 oed), dylid cynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddysgwyr, gan gynnwys cyrsiau cyffredinol a galwedigaethol drwy gynnig cwricwlwm lleol.
2.16 Rhaid i gwricwlwm lleol gynnwys cyrsiau astudio, y mae pob un ohonynt yn perthyn i un o gategorïau'r “meysydd dysgu”.
2.17 Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pob cwrs astudio yn arwain at gymhwyster wedi'i gymeradwyo neu wedi'i ddynodi gan Cymwysterau Cymru i'w gyflwyno fel rhan o raglenni a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed.
2.18 Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried y canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu gan Medr a chydymffurfio â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddir o dan adran 33L o Ddeddf 2000.
2.19 Mae Adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac mae'n amlinellu bod yn rhaid i Gynllun nodi'r modd y bydd yn gwella'r broses o gynllunio'r addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei ardal, a gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a'r safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal. Mewn perthynas â dysgu 16 i 18, mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 (yr Atodlen, paragraff 15) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi sut y byddant yn helpu i barhau i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg i unigolion ym mlwyddyn 10 ac yn uwch drwy gydweithio ag ysgolion eraill a SABau os bydd angen, a sut y byddant yn gweithio gyda'u hysgolion a'u SABau (os bydd angen) i gydlynu'r broses o ddarparu Cymraeg fel pwnc i unigolion ym mlwyddyn 10 ac yn uwch yn eu hysgolion.
2.20 Nod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (Deddf 2025) yw sicrhau, erbyn 2050, fod pob disgybl yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf, erbyn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol. Yn arbennig, y bydd pob disgybl yn datblygu sgiliau llafar sy'n cyfateb i lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd o leiaf. Caiff y Ddeddf ei rhoi ar waith yn raddol, a gallai gymryd mwy na 10 mlynedd i roi'r Ddeddf ar waith yn llawn. Bydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn parhau'n rhan hanfodol o'r gwaith o gynllunio Cymraeg mewn addysg ar lefel leol a bydd y darpariaethau yn Neddf 2025 yn adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaed eisoes. Bydd gwaith i adolygu Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl gydnaws â'r Ddeddf yn dechrau o 2027.
Ysgolion uwchradd a gynhelir ag adrannau chweched dosbarth a sefydliadau addysg bellach
2.21 Unwaith y caiff swyddogaethau Deddf 2000 mewn perthynas â chynllunio'r cwricwla lleol eu trosglwyddo i Medr, rhaid i gorff llywodraethu a phennaeth unrhyw ysgol, a chorff llywodraethu a phennaeth neu brif swyddog gweithredol unrhyw SAB helpu Medr i gynllunio'r cwricwlwm neu'r cwricwla lleol i'w ardal i ddysgwyr 16 i 18 oed.
2.22 Mae dyletswydd ar gyrff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cynifer o gyrsiau astudio â phosibl ar gael o fewn y cwricwlwm lleol. Y nod yw helpu i sicrhau dewis mor eang â phosibl o gyrsiau i ddysgwyr o'r cwricwlwm lleol, gan gynnwys cyrsiau cyffredinol a galwedigaethol.
2.23 Rhaid i ysgolion a SABau weithio gydag awdurdodau lleol a Medr i sicrhau bod cynifer o gyrsiau â phosibl ar gael o fewn fframwaith y cwricwlwm a ddatblygir yn lleol i sicrhau bod amrywiaeth eang o opsiynau addysgol a llwybrau dysgu ar gael i ddysgwyr 16 i 18 oed.
2.24 Pan fydd dysgwr yn dewis dilyn cwrs penodol o fewn y cwricwlwm lleol, dim ond ar seiliau statudol penodol y gall penaethiaid ysgolion a phenaethiaid SAB wrthod rhoi hawl iddo, fel yr amlinellir isod:
- Mae'r seiliau a nodir yn adran 33G o Ddeddf 2000 fel a ganlyn:
- o ganlyniad i lefel cyrhaeddiad addysgol y myfyriwr, nid yw'r cwrs astudio yn addas iddi neu iddi
- o ganlyniad i ddewisiadau eraill a wnaed gan y myfyriwr o dan adran 33E(1), nid yw'n rhesymol ymarferol iddo neu iddi ddilyn y cwrs astudio
- byddai'r cyfnodau amser y byddai'r myfyriwr yn debygol o'u treulio yn teithio i'r man y mae'r cwrs yn debygol o gael ei gyflwyno yn cael effaith andwyol ar addysg y myfyriwr
- byddai gwariant anghymesur yn deillio o ganiatáu i'r myfyriwr ddilyn y cwrs astudio
- byddai risg annerbyniol i iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr neu berson arall pe byddai'r myfyriwr yn dilyn y cwrs astudio
- Os bydd pennaeth yn fodlon, mewn perthynas â phenderfyniadau i ddileu hawl, fod unrhyw un o'r seiliau a nodir yn 33I o Ddeddf 2000 yn berthnasol, yna gall y pennaeth benderfynu nad oes gan ddysgwr yr hawl mwyach i ddilyn cwrs astudio yr oedd ganddo'r hawl i'w ddilyn yn flaenorol.
- Mae'r seiliau a nodir yn adran 33I o Ddeddf 2000 fel a ganlyn:
- byddai risg annerbyniol i iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr neu berson arall pe byddai'r disgybl yn parhau i ddilyn y cwrs astudio
- byddai gwariant anghymesur yn deillio o ganiatáu i'r disgybl barhau i ddilyn y cwrs astudio
2.25 O dan adran 33H o Ddeddf 2000 (Darparu hawliau cwricwlwm lleol), os bydd gan fyfyriwr (16 i 18 oed) yr hawl i ddilyn cwrs astudio o dan adran 33F(1) (Hawliau cwricwlwm lleol myfyrwyr), rhaid i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad perthnasol y myfyriwr sicrhau, yn ystod cyfnod yr hawl, bod y cwrs ar gael i'r myfyriwr gan y corff llywodraethu neu ar ran y corff llywodraethu.
2.26 O dan adran 33K o Ddeddf 2000 (Darparu hawliau cwricwlwm lleol: cydweithio) ac adran 33L o Ddeddf 2000 (Cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau), mae'n ofynnol i ysgolion a SABau gymryd rhan mewn trefniadau cydweithio er mwyn cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm lleol. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu ag awdurdodau lleol, ysgolion eraill a SABau. Wrth wneud hynny, rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cynifer o gyrsiau astudio â phosibl wedi'u cynnwys mewn cwricwlwm lleol. Bydd y trefniadau hyn yn darparu'r cyfle i gynyddu cydlafurio ac i chwarae rôl wrth wella hygyrchedd addysg ôl-orfodol.
2.27 Mae dyletswydd hefyd ar benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a phenaethiaid a chyrff llywodraethu SABau i ystyried y canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru neu gan Medr ac i gydymffurfio â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru.
3. Llunio a monitro cwricwla lleol
3.1 Mae'r adran hon yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl o ran rôl Medr wrth lunio a monitro cwricwla lleol, ac wrth gynhyrchu canllawiau manylach i awdurdodau lleol, ysgolion a SABau.
3.2 Un o amcanion allweddol Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yw sicrhau bod cynifer o gyrsiau astudio â phosibl wedi'u cynnwys o fewn cwricwlwm lleol (adran 33K o Ddeddf 2000). Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen asesu'r nifer o gyrsiau posibl yng nghyd-destun yr adnoddau sydd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys seilwaith ffisegol, trafnidiaeth, gweithlu a chyllid. Mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau o ran adnoddau yn waeth pan fydd galw isel gan ddysgwyr neu pa fydd angen darpariaeth neu gyfarpar arbenigol.
3.3 Wrth lunio cwricwla lleol, dylai Medr felly geisio cyflawni'r uchelgeisiau a nodir isod a sicrhau bod cynifer o gyrsiau â phosibl ar gael, cyn belled ag y bo modd, o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Lle bydd bylchau yn dod i'r amlwg yn y ddarpariaeth a allai gael effaith negyddol ar fynediad neu gynnydd dysgwyr o ganlyniad i adnoddau annigonol (ffisegol, dynol neu ariannol), dylai Medr sicrhau y cânt eu nodi a'u monitro, lle na ellir mynd i'r afael â nhw drwy gydweithio (gweler paragraff 3.51). Dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am broblemau sylweddol drwy'r systemau adrodd sefydledig.
Y Gymraeg
3.4 Enw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yw Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cyhoeddwyd y strategaeth hon yn 2017 ac mae'n nodi ein dull tymor hir ar gyfer cyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
3.5 Mae addysg yn un o'r prif gyfryngau a ddefnyddir i hybu'r Gymraeg, a bydd addysg cyfrwng Cymraeg yn sicrhau y gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae'r strategaeth yn cynnwys nodau ar gyfer addysg statudol ac addysg ôl-orfodol:
- Addysg statudol: creu system addysg statudol sy'n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus.
- Addysg ôl-orfodol: datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy’n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle.
3.6 Mae Adran 1 o Ddeddf 2025 yn cynnwys targed Cymraeg 2050 fel targed statudol ac mae wedi cyflwyno mesurau i hybu twf addysg cyfrwng Cymraeg, gan geisio sicrhau bod y Gymraeg yn rhan naturiol o addysg pob dydd yng Nghymru. Mae Adran 4 o Ddeddf 2025 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a fydd yn cynnwys addysgu Cymraeg mewn addysg drydyddol yng Nghymru, ac addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
3.7 O fewn addysg drydyddol, mae Deddf 2025 yn adeiladu ar y dyletswyddau strategol a osodwyd ar Medr gan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil. O dan Adran 9 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae dyletswydd statudol ar Medr i wneud y canlynol:
- annog y galw am addysg drydyddol a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg ac annog unigolion i gyfranogi
- cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol yn cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg i fodloni'r galw
- annog sefydliadau i ddarparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
3.8 Yn ei gynllun strategol ar gyfer 2025 i 2030, mae Medr yn nodi ei nod strategol i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, gan gynyddu'r galw am ddysgu ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r lefelau cyfranogi cysylltiedig. Er mwyn cyflawni hyn, mae Medr wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol ac i roi'r cynllun hwnnw ar waith er mwyn cynyddu a gwella'r ddarpariaeth o ran addysg a threfniadau asesu cyfrwng Cymraeg a'u hyrwyddo, gan alluogi llwybrau di-dor ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ac annog cydweithio. Caiff y Cynllun Cenedlaethol ei lywio gan ddull rheoleiddiol a fydd yn uchelgeisiol ond a fydd hefyd yn cydnabod cyd-destun unigryw pob darparwr a'u mannau cychwyn amrywiol. Bydd Medr yn ymgynghori ar amod rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gymraeg ac yn ei gyhoeddi, gan bennu gofynion ar gyfer sefydliadau addysg uwch a phellach, darparwyr prentisiaethau, a mentrau dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru (Amod y Gymraeg). Bwriedir i'r amod hwn ddod yn gwbl weithredol o fis Awst 2027. Bydd Amod y Gymraeg yn gwasanaethu fel sbardun rheoleiddiol allweddol o ran newid, gan sicrhau bod y camau gweithredu a gymerir gan ddarparwyr yn gydnaws ag amcanion y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol. Yn ogystal â sefydlu disgwyliadau sylfaenol Medr ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg ac ymchwil Gymraeg ym maes addysg drydyddol, mae'r amod hefyd yn anelu at ysgogi gwelliant parhaus ym mhob rhan o'r sector.
3.9 Wrth lunio cwricwla lleol, rhaid i Medr hybu'r Gymraeg, gan anelu at gynyddu'r galw am addysg Gymraeg a lefelau cyfranogi. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn i astudio'r Gymraeg fel pwnc – ble bynnag y bydd dysgwyr ar y continwwm Cymraeg – ac astudio pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth wneud hynny, bydd Medr yn hybu parhad ieithyddol drwy wahanol lefelau addysg, gan gynyddu nifer y llwybrau addysgol cydlynol sydd ar gael yn Gymraeg. O dan adran 33B o Ddeddf 2000, mae dyletswydd ar Medr hefyd i arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â chwricwla lleol er mwyn hybu mynediad i gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau bod cyrsiau astudio o'r fath ar gael.
3.10 Dylai ymdrechion i hybu cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wella lefelau eu gallu Cymraeg fod yn rhan annatod o gynllunio cwricwla lleol i ddysgwyr 16 i 18. Bydd cynllunwyr cwricwla lleol yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod dysgwyr a ddilynodd rhai o'u pynciau neu bob un o'u pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn 14 i 16 oed yn parhau i wneud hynny ar ôl 16 oed. Dylai Medr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff dyletswyddau Medr o dan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil eu hadlewyrchu wrth ddylunio'r cwricwlwm.
3.11 Dylid ystyried ansawdd profiad ieithyddol dysgwr mewn ffordd gyfannol wrth gynllunio'r cwricwlwm lleol. Dylai cynllunwyr cwricwla helpu dysgwyr i barhau i ddilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a dylid cymryd pob cam rhesymol i hybu a chefnogi'r Gymraeg wrth gynllunio'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm lleol.
3.12 Er mwyn i gwrs gael ei ddosbarthu'n gwrs cyfrwng Cymraeg fel rhan o gwricwlwm lleol, dylai pob agwedd ar y cwrs fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â'r addysgu a'r weithdrefn asesu lawn a'r adnoddau dysgu lle y bo'n briodol.
3.13 O fewn y paramedrau ar gyfer llunio cwricwla lleol, dylai Medr osod disgwyliad pan fydd dysgwyr yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol dwy iaith, y dylid eu cefnogi i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
3.14 Ar gyfer ysgolion a ddiffinnir fel ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ysgolion dwy iaith yn y Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, dylid cynnig unrhyw gynnydd yn y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae disgwyl i gategorïau iaith ysgolion Cymraeg newid, fel yr amlinellir yn Neddf 2025, gan ailddiffinio ysgolion fel ‘Ysgolion prif iaith - Cymraeg’, ‘Ysgolion dwy iaith’ ac ‘Ysgolion prif iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg’. Unwaith y daw'r categorïau hyn i rym, caiff yr adran hon ei chymhwyso at Ysgolion prif iaith - Cymraeg ac Ysgolion dwy iaith.
3.15 Dylai Medr hefyd annog darparwyr i geisio helpu dysgwyr i allu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg lle na chaiff cyfleoedd o'r fath o reidrwydd eu darparu iddynt yn uniongyrchol. gall hyn gynnwys opsiynau cyflwyno ar-lein a hybrid fel E-Sgol, a phartneriaethau cydweithredol. Mae gan E-Sgol rôl bwysig i'w chwarae wrth hybu, hwyluso a chefnogi trefniadau cydweithredol rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan eu galluogi i ehangu mynediad i ddarpariaeth ôl-16 lle byddai niferoedd y dysgwyr neu gapasiti o ran staff o bosibl yn cyfyngu ar gyfleoedd fel arall. Gall darparu cyrsiau ar-lein neu hybrid drwy gyfrwng y Gymraeg a Chymraeg fel pwnc fod yn ffordd effeithiol o gynyddu nifer y cyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg o fewn cwricwla lleol. Gellir chwarae rôl debyg drwy gydlafurio a phartneriaethau rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg a SABau, er mwyn cynyddu'r cyrsiau Cymraeg a ddarperir wyneb yn wyneb. Dylai Medr hefyd ystyried yr angen am bartneriaethau ar draws ffiniau awdurdodau lleol a helpu i hwyluso hyn lle bo'n debygol o helpu i ddatblygu'r ddarpariaeth Gymraeg.
3.16 Er mwyn sicrhau bod cynnig cwricwlwm lleol eang ac ystyrlon ar gael i ddysgwyr, os bydd cwrs yn cael ei gynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg yn lleol, at ddibenion dewis dysgwyr, ni ddylid ei gyfrif ddwywaith tuag at unrhyw darged a bennir gan Medr. Er y dylai Medr anelu'n gyffredinol at leihau achosion diangen o ddyblygu wrth lunio cwricwla lleol, ni ddylai hyn fod ar draul nifer y cyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg.
3.17 Wrth gyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas â chwricwla lleol 16 i 18 a'r Gymraeg, rhaid i Medr ystyried unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fel y corff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru i roi cyngor i Medr mewn perthynas â'i ddyletswyddau o ran y Gymraeg.
3.18 Mae angen digon o aelodau gweithlu sy'n siarad Cymraeg i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd capasiti’r gweithlu yn ffactor pwysig yn nhwf cynaliadwy darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Dylid ystyried heriau sy'n gysylltiedig â'r gweithlu a'r ddarpariaeth drwy weithgarwch ehangach i gynllunio'r Gymraeg a'r gweithlu. Mae cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg yn rhoi cymorth i ysgolion feithrin eu gallu i ddarparu cwricwlwm ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cymorth i ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyllid ar gyfer prosiectau ar lefel ysgolion neu brosiectau cydweithredu drwy Grant Datblygu Capasiti'r Gweithlu Addysg Cyfrwng Cymraeg. Lle mae capasiti'r gweithlu yn gweithredu fel rhwystr sylweddol i dwf, dylai Medr roi gwybod i Lywodraeth Cymru.
Diwygio cymwysterau 14 i 16
3.19 Mae Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael eu diwygio i gefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru, gan ddarparu cyfres ddwyieithog o gymwysterau gwneud-i-Gymru teg a pherthnasol. Caiff y cymwysterau newydd eu cyflwyno'n raddol a byddant ar gael i'w haddysgu gyntaf rhwng mis Medi 2025 a mis Medi 2027. Cânt eu dyfarnu am y tro cyntaf i ddysgwyr Blwyddyn 11 fel a ganlyn:
- Haf 2027: TGAU Ton 1
- Haf 2028: TGAU Ton 2
- Haf 2029: cymwysterau Ton 3 – Tystysgrifau Addysg Uwchradd Galwedigaethol, y Gyfres Sgiliau a'r Prosiect Personol, cymwysterau Sylfaen (gellir dyfarnu rhai o unedau'r Gyfres Sgiliau yn gynharach)
3.20 Wrth i'r dysgwyr hyn symud ymlaen i flwyddyn 12, dylai cwricwla lleol gynnwys cyrsiau sy'n galluogi dysgwyr i wneud cynnydd pellach yn y pynciau y maent wedi'u mwynhau ac wedi llwyddo ynddynt yn yr ysgol. Felly bydd angen i gwricwla lleol ystyried y Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol sy'n cael eu cynnig mewn ysgolion lleol a bydd angen eu dylunio gan gyfeirio at y cymwysterau hynny. Wrth wneud hynny, bydd cwricwla lleol yn cefnogi taith gydlynol i ddysgwyr o 14 i 19 oed, gan sicrhau bod dysgu cyn-16 yn cyd-fynd â'r ddarpariaeth ôl-16 a llwybrau cynnydd.
3.21 Mae cymwysterau TAAU yn gymwysterau galwedigaethol newydd sy'n gysylltiedig â gwaith ar Lefel 1 a Lefel 2, wedi'u dylunio i alluogi myfyrwyr i ddysgu am feysydd galwedigaethol drwy dull dysgu ac asesu ymarferol. Er nad yw cymwysterau TAAU yn gymwysterau cymhwysedd, maent wedi'u dylunio i helpu myfyrwyr i symud ymlaen i astudiaethau galwedigaethol ôl-16. Cyn mis Medi 2029, dylai Medr sicrhau bod cynllunwyr cwricwla yn defnyddio gwybodaeth am y cymwysterau TAAU sy'n cael eu cynnig mewn ysgolion lleol i ddysgwyr 14 i 16 a'u bod yn cynnwys cyrsiau galwedigaethol sy'n cynnig dilyniant ystyrlon o'r cymwysterau TAAU hyn o fewn cwricwla lleol. Ar gyfer carfanau o ddysgwyr sy'n dechrau Blwyddyn 12 yn 2027 a 2028, dylai cynllunwyr cwricwla ystyried y cymwysterau galwedigaethol 14 i 16 presennol mae dysgwyr yn eu sefyll yn yr ysgol.
3.22 Mae'n bosibl y bydd angen i ddarparwyr asesu gwerth am arian a'r galw lleol am bynciau lle bydd y nifer a fydd yn eu hastudio o bosibl yn isel. Fodd bynnag, rhaid hefyd ystyried sicrhau y gall dysgwyr barhau â'r llwybrau o'u dewis. Gallai hyn gynnwys defnyddio opsiynau ar-lein neu hybrid, neu drefniadau lle bydd ysgolion a SABau yn cydweithio i ehangu nifer yr opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr drwy eu cwricwlwm lleol, gan leihau achosion o ddyblygu ar yr un pryd. Anogir trefniadau cynllunio ar y cyd sy'n ymestyn dros ffiniau awdurdodau lleol hefyd, er mwyn gallu ystyried yr amrywiaeth ehangaf o opsiynau i bob dysgwr wrth ddylunio a chynllunio'r cynnig, yn enwedig i bynciau lle ceir galw isel fel Cymraeg, ieithoedd rhyngwladol, amaethyddiaeth a cherddoriaeth. Ym mhob achos, dylai cynllunwyr cwricwla ystyried a gwerthuso ansawdd yr addysgu a'r dysgu a ddarperir i ddysgwyr.
Cynnig cynhwysol
3.23 Gall diffyg opsiynau ôl-16 addas i ddysgwyr gynyddu'r risg y byddant yn dod yn NEET. Felly mae angen bod amrywiaeth priodol o gyrsiau islaw lefel 3 ar gael i ddysgwyr i'w helpu i barhau i ymgymryd ag addysg bellach a gwneud cynnydd ar y cyflymder addas ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys y dysgwyr hynny sy'n astudio ar gyfer cymwysterau sylfaen 14 i 16 newydd o 2027. (Mae'r cymwysterau hyn yn cynnig cymwysterau Lefel Mynediad a Lefel 1 i ddysgwyr nad ydynt yn barod ar gyfer astudiaethau TGAU a (neu) TAAU yn 14 i 16 oed.)
3.24 Dylai cynnig cwricwlwm 16 i 18 cynhwysol sicrhau bod gan bob person ifanc, ni waeth beth fo'i gefndir, ei allu na'i uchelgais, lwybr ystyrlon i mewn i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd hyn yn elfen hanfodol wrth sicrhau bod cynifer o ddysgwyr yn ymgymryd ag addysg a hyfforddiant ôl-16, gan helpu i gadw dysgwyr ar bob lefel a darparu llwybrau cynnydd hyblyg i amrywiaeth eang o ddysgwyr. Er enghraifft, bydd sicrhau bod amrywiaeth gynhwysol o gyrsiau ôl-16 ar gael fel rhan o gwricwla lleol yn helpu i ddileu'r rhwystrau i ddysgwyr ADY sy'n awyddus i barhau i ddysgu mewn lleoliadau prif ffrwd. Dylai hefyd ddarparu llwybrau cynnydd i ddysgwyr sy'n ceisio symud o ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac Unedau Cyfeirio Disgyblion cyn-16 i leoliad addysg bellach, lle nad ydynt yn barod i ymgymryd â chymwysterau lefel 3 ym mlwyddyn 12. Bydd cyrsiau ôl-16 cynhwysol hefyd o fudd i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau sylweddol o ran ymgysylltu, sy'n cael eu cefnogi drwy'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, gan eu hannog i ymgysylltu o'r newydd a'u galluogi i symud ymlaen i lwybr cynnydd priodol.
3.25 Felly dylai Medr ymgysylltu â chynllunwyr cwricwla 16 i 18, gan sicrhau bod amrywiaeth eang o gymwysterau ar amrywiaeth o lefelau ar gael i ddysgwyr ledled Cymru, gan ddefnyddio gwybodaeth am gyrhaeddiad tebygol a dyheadau carfanau cyn-16.
3.26 Rydym yn cydnabod na fydd yn bosibl nac yn effeithlon i bob ysgol a SAB mewn ardal awdurdod lleol ddarparu amrywiaeth lawn o gyrsiau islaw Lefel 3. Felly, nid ydym o reidrwydd yn disgwyl i Medr gynnwys yr amrywiaeth lawn wrth lunio cwricwla lleol. Fel rhan o'i ddyletswydd statudol ehangach i gynllunio, cyllido a sicrhau darpariaeth ôl-16 ddigonol, dylai Medr sicrhau bod amrywiaeth briodol o gyrsiau islaw Lefel 3 ar gael yn lleol a'i bod yn hygyrch i ddysgwyr.
3.27 Mae pynciau galwedigaethol hefyd sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ymgymryd â chymwysterau Lefel 1 neu Lefel 2, cyn symud ymlaen i Lefel 3. Pan fydd cynllunwyr cwricwla yn cynnwys y pynciau hyn fel rhan o gwricwla lleol, dylai Medr sicrhau bod y cyrsiau sydd ar gael yn helpu dysgwyr i symud ymlaen i gymwysterau lefel 3. Dylai ysgolion a SABau helpu dysgwyr i ddeall y llwybrau cymwysterau sydd ar gael iddynt, pan fydd angen iddynt ymgymryd â chymhwyster islaw Lefel 3. Wrth wneud hynny, mae'n bosibl y byddant am ddefnyddio'r dogfennau ‘Taith y Dysgwr’ sy'n cael eu cynhyrchu gan Cymwysterau Cymru ar wahanol sectorau galwedigaethol.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
3.28 Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru a'r rheoliadau cysylltiedig yn darparu'r system statudol ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Mae wedi sefydlu system gymorth unedig a chynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ag ADY.
3.29 Mae Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system ADY. Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021) yn gosod gofynion ar gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru, cyrff llywodraethu SABau, awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol sy'n ymwneud â gweithredu'r system ADY ac arfer swyddogaethau oddi tani.
3.30 O dan adran 4 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol), mae dyletswydd statudol ar Medr i hybu cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol i bob dysgwr cymwys. Yn ei gynllun strategol, mae Medr wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn cael eu cynorthwyo i gael mynediad at y dysgu sy’n iawn iddynt hwy, drwy hybu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
3.31 Dylai Medr sicrhau y caiff anghenion dysgwyr ag ADY eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Wrth lunio cwricwla lleol 16 i 18, dylai Medr weithio gyda chynllunwyr cwricwla er mwyn i ddysgwyr ag ADY allu dod o hyd i gyrsiau sy'n cyd-fynd â'u haddysg hyd yn hyn mewn lleoliadau prif ffrwd.
3.32 Mae Medr yn awdurdod cyhoeddus rhestredig yn Atodlen 18 (Rhan 2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac felly mae'n ofynnol iddo gydymffurfio â'r dyletswyddau sy'n benodol i Gymru o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
3.33 Mae rhwymedigaethau Medr yn gymwys i ysgolion a lleoliadau SAB, on nid ydynt yn berthnasol i leoliadau anghenion arbennig gan na chânt eu cyllido na'u cofrestru gan Medr.
Rôl llais y dysgwr a chwricwla seiliedig ar alw
3.34 O ystyried graddau'r arbenigo o fewn cwricwla yn 16 oed, gyda dysgwyr yn dilyn nifer fach o gyrsiau yn fanwl fel rhan o raglenni cyffredinol a galwedigaethol, mae'n hanfodol bod cwricwla 16 i 18 yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn ystyried y cyrsiau y mae dysgwyr am eu dilyn.
3.35 Wrth geisio sicrhau bod cynifer o gyrsiau â phosibl ar gael fel rhan o gwricwla lleol, dylai Medr sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddigonol i'r galw gan ddysgwyr wrth bennu'r dewis cyrsiau, fel bod tebygolrwydd realistig y bydd dysgwyr yn eu dewis. Er mwyn helpu i ddarparu Cymraeg a Chymraeg Craidd fel pwnc, ni ddylai lefelau cyfranogi isel yn ystod blynyddoedd blaenorol, rhagolygon o lefelau cyfranogi isel ar gyfer carfanau presennol nac ystyriaethau gwerth am arian fod yn ffactorau penderfynol wrth benderfynu a ddylid darparu'r cyrsiau hyn. Dylai fod gan unrhyw ddysgwyr sy'n awyddus i barhau i astudio Cymraeg neu Gymraeg Craidd yr hawl i wneud hynny, ac felly dylid llunio cwricwla lleol i alluogi hyn.
3.36 Wrth asesu'r galw gan ddysgwyr a fydd yn llywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm lleol, bydd angen i gynllunwyr cwricwla ystyried ffynonellau data priodol, ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
- data ar gyrsiau sy'n cael eu dilyn ar hyn o bryd gan ddysgwyr 16 i 18
- data ar ddiddordebau a dewisiadau dysgwyr 14 i 16 ar hyn o bryd, y cyrsiau maent wedi dewis eu hastudio a sut y gallai hyn ddylanwadu ar y llwybrau y byddant yn eu dewis ar gyfer astudiaethau 16 i 18
- gwybodaeth a data gan Gyrfa Cymru, er enghraifft, Gweithgaredd Gwirio Gyrfa Blwyddyn 10
- llais y dysgwr: safbwyntiau dysgwyr 16 i 18 presennol ar eu dewisiadau cwricwlaidd
3.37 O ran llais y dysgwr, mae adran 129 o'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gosod dyletswydd ar Medr i baratoi a chyhoeddi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Bwriedir i'r Cod hwn sicrhau y caiff buddiannau dysgwyr eu cynrychioli, y gall dysgwyr roi eu barn i ddarparwyr ar ansawdd yr addysg a gânt, a chymryd rhan mewn penderfyniadau a wneir gan y darparwyr hynny.
3.38 Dylai Medr annog a chefnogi ysgolion a SABau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ddysgwyr wrth gynllunio eu cwricwla yn y dyfodol, gan gynnwys casglu adborth gan ddysgwyr ar y cwricwla presennol a gynigir a defnyddio'r adborth hwnnw.
3.39 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen i gynllunwyr cwricwla a Medr gydbwyso'r holl ffynonellau gwybodaeth uchod yn erbyn ffactorau allanol eraill fel anghenion yr economi leol a'r adnoddau sydd ar gael.
Yr economi a'r farchnad lafur
3.40 Er y dylai'r broses o ddylunio cwricwla lleol gael ei llywio'n fanwl gan y galw gan ddysgwyr, dylai hefyd fod yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur ac yn gydnaws â blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gall hyn gynnwys cyfleoedd swyddi lleol, y galw lleol a bylchau o ran sgiliau yn yr ardal leol, marchnadoedd llafur rhanbarthol a chenedlaethol a'r galw am sgiliau yn yr economïau hyn.
3.41 Dylai Medr annog a chefnogi cynllunwyr cwricwla lleol i ddefnyddio data o ffynonellau cydnabyddedig, gan gynnwys ymchwil genedlaethol ac archwiliadau sgiliau, ac ymgysylltu â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol, awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru, Cyd-bwyllgorau Corfforedig a rhwydweithiau cyflogwyr i nodi'r canlynol:
- sectorau a galwedigaethau lle ceir galw uchel
- prinder a bylchau o ran sgiliau
- diwydiannau twf a sectorau sy'n dirywio
- anghenion gweithlu sy'n dod i'r amlwg ac anghenion gweithlu'r dyfodol
3.42 Er mwyn sicrhau bod cwricwla lleol wedi'u dylunio i ddiwallu'r anghenion hyn, dylai Medr geisio gwella'r cyfathrebu rhwng y cyrff hyn ac awdurdodau lleol, ysgolion a SABau. Dylid adolygu cwricwla yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n gydnaws â datblygiadau ac uchelgeisiau'r farchnad llafur leol a'r farchnad llafur ranbarthol.
3.43 Dylai Medr helpu darparwyr i droi'r sgiliau y nodwyd eu bod yn gydnaws ag anghenion y farchnad leol a'r farchnad ranbarthol yn llwybrau diriaethol sy'n llywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm lleol, gan gynnig amrywiaeth o sgiliau penodol a throsglwyddadwy. Wrth wneud hynny, mae'n bosibl y bydd am ofyn am gyngor gan Cymwysterau Cymru ar lwybrau cymwysterau, gan ddefnyddio gwaith y sefydliad i ddatblygu 'teithiau dysgwyr' i ddysgwyr a rhieni.
3.44 Mewn perthynas â sgiliau Cymraeg yn y gweithlu, dylai Medr weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Comisiynydd y Gymraeg, y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Cyngor y Gweithlu Addysg, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a manteisio ar gyngor ganddynt er mwyn nodi sectorau yn yr economi lle ceir bylchau sgiliau Cymraeg. Gall Medr benderfynu targedu meysydd sector â blaenoriaeth lle nodwyd bylchau sgiliau Cymraeg, er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth alwedigaethol Gymraeg sydd ar gael yn y meysydd hyn.
3.45 Dylai cynllunwyr cwricwla lleol allu dangos i Medr sut mae cwricwla wedi cael eu llywio gan anghenion y farchnad lafur leol a rhanbarthol ac uchelgeisiau economaidd strategol a sut maent yn cyfrannu at eu cyflawni, a sut maent yn gwerthuso llwyddiant eu cwricwlwm lleol wrth helpu eu dysgwyr i ddod o hyd i swyddi medrus yn y farchnad lafur.
Trafnidiaeth
3.46 Rhaid i bob cwrs sydd wedi'i gynnwys o fewn cwricwlwm lleol fod yn hygyrch i'r dysgwyr y mae'r cwricwlwm lleol hwnnw yn berthnasol iddynt. Mae hyn yn cynnwys ystyried trefniadau teithio. Mae argaeledd a fforddiadwyedd trafnidiaeth yn parhau i fod y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol Medr, a bydd y ddarpariaeth ac argaeledd yn amrywio ar draws awdurdodau lleol. Fodd bynnag, dylai Medr ystyried i ba raddau y mae cynllunwyr cwricwlwm yn cymryd camau i sicrhau na chaiff dysgwyr eu hatal rhag cael mynediad at gwricwla lleol oherwydd gofynion teithio. Wrth ddatblygu ei ganllawiau gweithredol, dylai Medr annog cynllunwyr cwricwlwm i ystyried dulliau sy'n lleihau'r angen i deithio, gan gynnwys defnyddio modelau cyflwyno digidol, dysgu hybrid, a symud staff rhwng darparwyr. Lle bo angen teithio i alluogi ystod ehangach o opsiynau, dylai cynllunwyr geisio lleihau ei effaith, er enghraifft drwy ddefnyddio blociau cyflwyno diwrnod llawn neu hanner diwrnod a gwaith amserlennu gofalus.
3.47 Mae trefniadau trafnidiaeth yn ffactor hanfodol sy'n galluogi cwricwla lleol effeithiol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd sydd wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol. Wrth ddatblygu canllawiau gweithredol, dylai Medr osod disgwyliadau clir ar gyfer y ffordd mae cynllunwyr cwricwlwm yn asesu effaith teithio ar ddysgwyr, gan gynnwys ystyried amseroedd teithio, cost a hygyrchedd, yn ymdrin â'r effaith honno ac yn darparu tystiolaeth ohoni. Wrth wneud hynny, dylai Medr geisio sicrhau nad yw cynllunwyr cwricwlwm yn caniatáu i ystyriaethau trafnidiaeth gyfyngu mewn ffordd anghymesur ar yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr mewn ardaloedd penodol.
3.48 Fel yr amlinellir yn adran 2.24 o'r canllawiau hyn, mae adran 33G o Ddeddf 2000 yn nodi mai penaethiaid ysgolion a SABau sy'n gyfrifol am benderfynu p'un a yw trefniadau teithio yn rhesymol — o ran cost a'r effaith ar lesiant dysgwyr.
3.49 Gall yr angen i deithio rhwng sawl safle effeithio ar ddewis, presenoldeb, cyfraddau cadw a chyfraddau cwblhau dysgwyr, ac felly dylid ei ystyried yn ofalus wrth gynllunio cynigion cwricwla lleol. Dylai Medr ystyried y cyfyngiadau hyn wrth asesu hygyrchedd cwricwla lleol a gosod disgwyliadau ar gyfer cynllunwyr cwricwlwm.
Annog a hwyluso cydlafurio
3.50 Mae atgyfnerthu prosesau cydlafurio ym maes addysg drydyddol yn un o amcanion allweddol y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac yn un o ddyletswyddau strategol Medr.
3.51 Bydd cydlafurio a gweithio mewn partneriaeth yn elfen allweddol o'r broses o ddylunio a gweithredu'r cynigion cwricwla lleol 16 i 18 yn effeithiol, gan alluogi darparwyr i ymateb yn well i anghenion newydd a newidiol dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.
3.52 Un o amcanion allweddol Deddf 2000 yw sicrhau bod cynifer o gyrsiau astudio â phosibl wedi'u cynnwys o fewn y cwricwlwm lleol (adran 33K o Ddeddf 2000). Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi bod y ddyletswydd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, dyletswydd i geisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu lle bydd y bobl berthnasol (er enghraifft, awdurdodau lleol a llywodraethwyr ysgolion a SABau) wedi dod i'r casgliad y byddai'n fuddiol ymrwymo i drefniadau o'r fath er mwyn cyflawni'r amcan.
3.53 Dylai ymdrechion cydlafurio rhwng ysgolion a SABau geisio sicrhau cymaint o gydlyniaeth â phosibl rhwng cynigion gwahanol sefydliadau a chynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr, gan ar yr un pryd leihau achosion diangen o ddyblygu.
3.54 Wrth ymgymryd â'i ddyletswydd i hybu cydlafurio rhwng darparwyr, dylai Medr annog cynllunwyr cwricwla i wella ansawdd ac argaeledd cyngor diduedd i ddysgwyr 14 i 16 ar y cyrsiau sydd ar gael iddynt ar ôl gadael addysg orfodol. Mae'n bosibl y bydd Medr am gyfeirio ysgolion i'r canllawiau dysgu 14 i 16, sy'n nodi disgwyliad y dylai ysgolion sicrhau 'bod gan ddysgwyr amser penodol a'u bod yn cael eu cefnogi i ystyried yr ystod lawn o opsiynau sydd ar gael iddyn nhw ôl-16. Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, barhau â’u haddysg yn yr ysgol, mewn coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth'.
Monitro cwricwla lleol a sicrhau cyfle cyfartal i ddysgwyr
3.55 Mae Medr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod profiadau addysgol cynhwysol o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr 16 i 18 oed.
3.56 Dylai Medr fonitro'r broses o gyflwyno cwricwla lleol, gan sicrhau y caiff gofynion y cwricwlwm eu bodloni, a nodi problemau ac ymchwilio iddynt pan fyddant yn codi. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod modd gweithredu cynigion cwricwlwm lleol a'u bod yn hygyrch i ddysgwyr. Fel rhan o'r swyddogaeth hon, disgwylir i Medr ystyried y cynnig sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru, gan sicrhau bod cwricwlwm eang ar gael i ddysgwyr sy'n bodloni'r disgwyliadau a nodir yn y canllawiau hyn, gan gydnabod cyfyngiadau o ran adnoddau ar yr un pryd. Dylai hyn gynnwys ystyried ehangder, hygyrchedd a chynaliadwyedd y ddarpariaeth, a'r graddau y mae'n diwallu anghenion dysgwyr. Wrth wneud hynny, dylai Medr fonitro p'un a yw dysgwyr dan anfantais anghymesur o ran eu mynediad at gwricwla lleol o ganlyniad i ddaearyddiaeth, cyfyngiadau o ran adnoddau neu drefniadau cyflwyno, a cheisio mynd i'r afael â phroblemau lle maent yn codi.
3.57 Lle nodwyd materion wrth weithredu cwricwlwm lleol digonol a (neu) sicrhau cyfle cyfartal i ddysgwyr, dylai Medr weithio gyda chynllunwyr cwricwla i hwyluso datrysiadau cydweithredol. Bydd angen iddynt ystyried y gydberthynas rhwng cyllid, capasiti’r gweithlu, trafnidiaeth a'r galw gan ddysgwyr wrth ddatblygu atebion.
3.58 Dylai Medr nodi trefniadau uwchgyfeirio clir yn ei ganllawiau gweithredol, gan gynnwys yr amgylchiadau lle gall godi pryderon i gynllunwyr cwricwlwm ymdrin â nhw a phryd y gellir uwchgyfeirio materion at Lywodraeth Cymru. Gallai hyn gynnwys pwyntiau uwchgyfeirio clir lle nad oes modd cynnig ehangder cwricwlwm, hygyrchedd neu ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg hyd at lefel foddhaol.
3.59 Ar ôl cyhoeddi'r canllawiau hyn, bydd Llywodraeth Cymru a Medr yn cytuno ar dull adrodd, goruchwylio ac uwchgyfeirio. Mae'r materion y gellir eu huwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru yn cynnwys y canlynol:
- materion cyflwyno lleol lle mae Medr o'r farn y gellid bod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd
- materion strategol sy'n effeithio ar y broses o lunio cwricwla lleol yn ehangach
4. Cyllido a dylunio rhaglenni 16 i 18
4.1 Yn ôl OECD - ‘Learners' pathways through upper secondary education are shaped by the curriculum that sets out a vision for education, the programmes learners take, and the systems of assessment and certification that serve as the ultimate goalposts’ (What shapes upper secondary pathways and transitions? | OECD).
4.2 Ar ôl diwedd addysg ysgol orfodol yng Nghymru yn 16 oed, nid oes unrhyw gwricwlwm cenedlaethol i ddysgwyr 16 i 18 oed y mae'n rhaid i bob ysgol a SAB ei gynnig. Yn y cyd-destun hwn, mae'r rôl a chwaraeir gan raglenni a chymwysterau y gall ysgolion a SABau eu cynnig i'w dysgwyr yn fwy arwyddocaol o ran llwybrau dysgwyr.
4.3 Cymwysterau Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu pa gymwysterau i ddysgwyr 16 i 18 oed sy'n gymwys i gael cyllid cyhoeddus mewn ysgolion a SABau a chânt eu cyhoeddi ar wefan Cymwysterau yng Nghymru.
4.4 Mae rhaglen yn becyn o ddysgu â chanlyniad bwriadedig i ddysgwyr fel symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach neu uwch. Caiff rhaglenni eu dylunio gan Medr a'u defnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch y cyllid i ddarparwyr ar gyfer rhaglenni llawn amser a rhan amser, o Lefel mynediad hyd at Lefel 4. Maent yn darparu fframwaith cyffredin i ddarparwyr, heb fod yn rhy rhagnodol, gan alluogi darparwyr i ystyried anghenion eu dysgwyr a'u cyd-destun lleol wrth lunio eu cynnig cwricwlwm 16 i 18 cyffredinol.
4.5 O ystyried arwyddocâd gofynion dylunio a chyllido rhaglenni ar gyfer llwybrau dysgwyr a'u profiad drwy addysg 16 i 18, mae'r adran hon yn nodi blaenoriaethau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru y dylai Medr eu hystyried wrth ddylunio a chyllido rhaglenni.
4.6 Dylai ysgolion a SABau ddefnyddio'r adran hon hefyd wrth bennu eu cynigion cwricwlwm 16 i 18 unigol.
Adeiladu ar yr hawl i ddysgu 14 i 16
4.7 Mae'n rhaid i gynnig cwricwlwm ysgol ym Mlynyddoedd 10 ac 11 gynnig proffil dysgu a phrofiadau eang a chytbwys i ddysgwyr a dylid ei ddylunio gan gyfeirio at bedair elfen yr hawl i ddysgu 14 i 16:
- Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16.
- Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd.
- Cymwysterau i annog ehangder.
- Dysgu a phrofiadau ehangach ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
4.8 Wrth i ddysgwyr symud ymlaen i raglenni dysgu mwy arbenigol ôl-16, dylai eu dysgu barhau i gynnwys y canlynol:
- myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ar gyfer y camau nesaf
- datblygu sgiliau mewn llythrennedd a rhifedd
- prif gymwysterau
- dysgu a phrofiadau ehangach
Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ar gyfer y camau nesaf
4.9 Gan adeiladu ar eu profiad yn yr ysgol, dylai dysgwyr 16 i 18 barhau i gael amser penodedig yn y cwricwlwm i fyfyrio ar eu cynnydd ac i gynllunio eu camau nesaf i mewn i addysg bellach neu uwch, neu gyflogaeth. Wrth i ddysgwyr fyfyrio ar eu dysgu, eu cynnydd a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, dylid eu cefnogi i ystyried eu cryfderau, eu hanghenion, eu hymddygiad ac i archwilio a chynllunio ar gyfer eu cyfnod pontio yn 18 neu'n 19 oed.
4.10 Dylid rhoi amser a chyngor penodol i ddysgwyr ystyried yr ystod lawn o opsiynau sydd ar gael iddynt ar ddiwedd eu haddysg 16 i 18, a sicrhau eu bod yn cael cymorth wedi hynny i gyrraedd y gyrchfan y maent yn anelu ati. Darparwyr fydd yn y sefyllfa orau i ddylunio nodweddion y broses hon i wahanol grwpiau o ddysgwyr, gan sicrhau ei bod wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr. Mae'n debygol o gynnwys y canlynol:
- cymorth gyda cheisiadau a (neu) datganiadau personol
- cyngor ar gyfweliadau a chyfleoedd i ymarfer
- cymorth cyflogadwyedd
- profiad cysylltiedig â gwaith
- mynediad i wybodaeth, cyngor ac arweiniad ac adnoddau Gyrfa Cymru
4.11 Wrth roi cyngor ac arweiniad, dylai ysgolion a SABau ddefnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan Gyrfa Cymru, a all helpu dysgwyr i ddeall byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen arnynt a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn well. Mae cynghorwyr gyrfaoedd Gyrfa Cymru yn gysylltiedig â phob adran chweched dosbarth a phob SAB, gan roi arweiniad diduedd i bob dysgwr ôl-16 ar yrfaoedd.
4.12 Gall dysgwyr ôl-16 mewn ysgolion a SABau hunangyfeirio a threfnu eu hapwyntiadau eu hunain i gael arweiniad gyrfaoedd (wyneb yn wyneb ac ar-lein) ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus iddynt. Mae'r sgyrsiau strwythuredig hyn wedyn yn helpu dysgwyr i fyfyrio ar eu cyrhaeddiad, eu diddordebau a'u rhwystrau, ac i droi hynny i mewn i gynlluniau camau nesaf ymarferol (e.e. cyrsiau, prentisiaethau, cyflogaeth). Gall gwasanaeth Cymru'n Gweithio Gyrfa Cymru hefyd gyfeirio dysgwyr 16 i 19 oed i amrywiaeth o raglenni a chyfleoedd cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a ddyluniwyd i'w helpu i feithrin sgiliau, cael profiad a symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu waith.
4.13 Gall sefydliadau addysg bellach ac uwch, a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, hefyd helpu dysgwyr i gynllunio ar gyfer eu camau nesaf drwy arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd academaidd, prentisiaethau a hyfforddeiaethau sydd ar gael iddynt, er mwyn helpu i godi dyheadau dysgwyr ac ehangu eu gorwelion.
4.14 Dylai ysgolion a SABau fanteisio ar unrhyw raglenni sydd ar gael i helpu dysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a galluoedd i ystyried cyfleoedd addysg uwch a manteisio arnynt.
Prif gymwysterau
4.15 Yn wahanol i'r cwricwlwm eang a brofir gan ddysgwyr cyn-16 o dan y Cwricwlwm i Gymru, dylai addysg 16 i 18 gynnig y cyfle i ddysgwyr arbenigo, gan astudio nifer llai o bynciau yn fanwl, gan eu helpu i symud ymlaen i astudiaethau pellach ym maes addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
4.16 Caiff y prif gymwysterau a ddewisir gan ddysgwyr eu llywio gan eu cryfderau, eu diddordebau a'u llwybrau a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Gall dysgwyr ddewis dilyn rhaglenni sy'n arwain at gymwysterau cyffredinol (Safon Uwch ac UG), cymwysterau galwedigaethol, neu gyfuniad o gymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.
4.17 Fel y nododd Estyn yn ei hadolygiad o'r cwricwlwm 16-19 yng Nghymru, yn yr achosion gorau, caiff union gyfansoddiad rhaglenni dysgu ei gyfateb yn ofalus i anghenion a galluoedd dysgwyr unigol a'r camau nesaf y maent yn bwriadu eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys ystyried nifer y prif gymwysterau y bydd dysgwyr yn eu dilyn, a sut y cânt eu cyfuno.
Datblygu sgiliau mewn llythrennedd a rhifedd
4.18 Fel rhan o'i raglenni 16 i 18, dylai pob dysgwr barhau i ddatblygu ei sgiliau mewn llythrennedd a rhifedd, gan ddyfnhau ac atgyfnerthu'r sgiliau trawsgwricwlaidd y gwnaeth eu meithrin o dan y Cwricwlwm i Gymru.
4.19 I rai dysgwyr, gall hyn fod drwy'r prif gymwysterau y byddant yn eu dewis. Mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd, sgiliau rhifedd a sgiliau digidol hefyd wedi'u cynnwys ym Magloriaeth Sgiliau Cymru Uwch y dylid ei chynnig i bob dysgwr ar raglenni lefel 3 a'u hannog i'w dilyn.
4.20 O fis Medi 2027, dylid helpu dysgwyr na wnaethant gyflawni llwyddiant Lefel 2 (er enghraifft, gradd C neu'n uwch mewn TGAU) mewn Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a Saesneg Iaith a Llenyddiaeth (dyfarniad sengl neu ddwbl) a (neu) Fathemateg (dyfarniad dwbl) yn 16 oed, i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd a dylid rhoi'r cyfle iddynt ennill cymhwyster Lefel 2 sy'n dangos eu cyrhaeddiad yn y sgiliau hyn. I'r rhan fwyaf o ddysgwyr, gwneir hyn drwy TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a (neu) Gymraeg, neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif a (neu) Sgiliau Cyfathrebu.
TGAU Cymraeg, Saesneg a Mathemateg o fewn rhaglenni ôl-16
4.21 Mae cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg a Mathemateg yn parhau'n ffordd bwysig i ddysgwyr ddangos eu sgiliau llythrennedd a rhifedd, a gall sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr eu defnyddio fel rhan o'u prosesau derbyn neu recriwtio. Felly, dylid rhoi'r cyfle i ddysgwyr 16 i 18 oed nad ydynt wedi cyflawni llwyddiant Lefel 2 mewn Cymraeg a (neu) Saesneg Iaith a Llenyddiaeth a (neu) Fathemateg yn yr ysgol wneud hynny fel rhan o'u rhaglen ôl-16, lle bydd tebygolrwydd rhesymol y byddant yn cyflawni gradd C neu'n well.
4.22 Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio cyfleoedd i ailsefyll cymwysterau TGAU mewn ffordd heb ei thargedu gan y gallant gael cyfleoedd negyddol ar lesiant dysgwyr, lefelau cyfranogiad a chyrhaeddiad mewn cymwysterau eraill hefyd os bydd dysgwyr yn ailsefyll cymwysterau unwaith, ddwywaith neu fwy yn ystod eu rhaglen 16 i 18 heb lwyddo.
4.23 Bydd dysgwyr a fydd yn ailsefyll cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg neu Fathemateg ôl-16 eisoes wedi cael profiadau addysgu a dysgu helaeth yn y pynciau hyn o flwyddyn 7 hyd at flwyddyn 11. Dylai'r cyfleoedd addysgu sydd ar gael iddynt ar ôl 16 oed fod o hyd digonol ac o ansawdd digonol i'w galluogi i gyflawni TGAU gradd C neu'n uwch. (Dylid ystyried hyn hefyd pan fydd canolfannau yn penderfynu a ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer cyfres arholiadau mis Tachwedd neu gyfres arholiadau'r haf ym mlwyddyn 12. Mae'n debygol mai eithriad fydd dysgwyr a gaiff eu cofrestru ar gyfer mis Tachwedd, yn hytrach na chofrestru'r garfan gyfan).
4.24 Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai penderfyniadau i gofrestru dysgwyr ar gyfer cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg a (neu) Fathemateg ôl-16 ystyried y canlynol:
- cyrhaeddiad blaenorol dysgwyr yn y cymwysterau hyn. I ddysgwyr sy'n cael eu cofrestru i ailsefyll, mae'n debygol y byddant wedi cael gradd D, er y gall fod achosion unigol lle bydd canolfannau o'r farn bod tebygolrwydd rhesymol y gallai dysgwyr a gafodd radd islaw D gyflawni gradd C.
- dyheadau dysgwyr a'u llwybrau tebygol ar gyfer addysg bellach neu gyflogaeth yn 18 neu 19 oed, o ystyried pwysigrwydd gradd C mewn Cymraeg a (neu) Saesneg a Mathemateg ar gyfer llawer o lwybrau.
4.25 O fis Medi 2027, mewn Mathemateg, bydd angen i ddysgwyr ailsefyll y cymhwyster TGAU Mathemateg (Dyfarniad Dwbl). Bydd angen i ganolfannau gynllunio sut y byddant yn defnyddio strwythur unedol y cymhwyster hwn er mwyn rhoi'r cyfle gorau i ddysgwyr gyflawni gradd C neu'n uwch.
4.26 Ar gyfer Cymraeg a Saesneg, bydd dewis o gymwysterau TGAU y bydd canolfannau yn gallu cofrestru dysgwyr ar eu cyfer, sef:
- TGAU Cymraeg a (neu) Saesneg Iaith a Llenyddiaeth (dyfarniad sengl neu ddwbl): gan ailsefyll y cymwysterau TGAU integredig a safwyd ym Mlwyddyn 11.
- TGAU ôl-16 mewn Cymraeg Iaith a Saesneg Iaith: i ddysgwyr ôl-16 sydd am astudio ar gyfer TGAU newydd mewn iaith, yn hytrach nag ailsefyll cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth integredig.
- TGAU 9-1 Iaith Saesneg: i'w ddefnyddio o dan amgylchiadau eithriadol e.e. ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn SABau yng Nghymru a aeth i'r ysgol uwchradd yn Lloegr ac sydd am ailsefyll yr un TGAU â'r cymhwyster y cawsant eu cofrestru ar ei gyfer ym Mlwyddyn 11.
4.27 Dylai ysgolion a SABau benderfynu ar y cymhwyster (cymwysterau) TGAU mwyaf priodol ar gyfer eu dysgwyr, gan ystyried anghenion a dewisiadau dysgwyr (gan gynnwys eu dewisiadau iaith) a'u gallu i addysgu'r cymwysterau yn effeithiol.
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
4.28 Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar gael o lefel mynediad 1 hyd at lefel 3 ac maent wedi'u dylunio i asesu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo wrth ddysgu, gweithio a byw. Maent yn canolbwyntio ar gymhwyso'r sgiliau hyn mewn ffordd ymarferol, yn enwedig gallu dysgwyr i drosglwyddo eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth rhwng cyd-destunau a dibenion.
4.29 I lawer o ddysgwyr 16 i 18 oed sy'n ceisio ennill Lefel 2 mewn cymwysterau llythrennedd a rhifedd fel rhan o'u rhaglen 16 i 18, cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif a (neu) Sgiliau Cyfathrebu fydd y llwybr mwyaf priodol. Mae'r llwybr hwn yn darparu cyfle gwerthfawr i ddysgwyr ddangos tystiolaeth o sgiliau yn y pynciau hyn, nad ydynt o bosibl yn debygol o lwyddo yn y pynciau hyn neu nad oes o bosibl angen gradd C TGAU yn y pynciau hyn arnynt i ddilyn y llwybr o'u dewis a chyflawni eu dyheadau ar gyfer addysg bellach a chyflogaeth.
Dysgu a phrofiadau ehangach
4.30 Yn ogystal â'r dysgu a wneir fel rhan o'u prif gymwysterau, bydd dysgwyr yn parhau i ddatblygu ac i elwa ar y dysgu a'r profiadau ehangach sydd ar gael iddynt fel rhan o'u rhaglenni 16 i 18. Gall y rhain barhau i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, a gallant gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth, drama a chyfranogiad cymunedol, cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, cymdeithasau dan arweiniad dysgwyr, grwpiau undebau myfyrwyr.
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
4.31 Mae'r pedwar diben wedi'u hategu gan sgiliau hanfodol y bydd o fudd i bob dysgwr barhau i'w datblygu fel rhan o'u rhaglenni 16 i 18, sef:
- Creadigrwydd ac arloesedd.
- Meddwl yn feirniadol a datrys problemau.
- Effeithiolrwydd personol.
- Cynllunio a threfnu.
4.32 Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn gymhwyster Lefel 3 annibynnol sy'n seiliedig ar sgiliau sy'n cyfateb o ran maint i gymhwyster Safon Uwch. Mae'r Fagloriaeth Uwch yn helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy'n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle. Mae'n hybu cyfleoedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi ac anogir dysgwyr i ddewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol iddynt ac sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.
4.33 Drwy gwblhau cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru, bydd dysgwyr yn:
- datblygu, defnyddio a chael eu hasesu ar y sgiliau cyfannol
- cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ymhellach (y sgiliau 'mewnblanedig)
4.34 Mae cyflogwyr wedi helpu i ddatblygu Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru, gan gydnabod ei bod yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn eu gweithlu. Yn yr un modd, mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn derbyn Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel gofyniad mynediad sy'n cyfateb i gymhwyster Safon Uwch, ac mae'r rhai hynny nad ydynt yn ei derbyn yn ei gwerthfawrogi o ran y sgiliau a'r profiadau ehangach y mae'n eu cynnig i'r person ifanc. Felly gall y Fagloriaeth Uwch gyfoethogi ceisiadau, gan gynnwys datganiadau personol a chyfweliadau, i sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr.
4.35 Dylai'r Fagloriaeth Uwch fod ar gael a chael ei chynnig i bob dysgwr 16 i 18 oed ar gwrs Lefel 3 dwy flynedd. Fel arfer, caiff ei hastudio ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill, fel cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a (neu) gymwysterau galwedigaethol. Dylid annog pob dysgwr cymwys i gwblhau'r Fagloriaeth Uwch, er y dylai ysgolion a SABau ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol dysgwyr, fel y byddent yn ei wneud ar gyfer unrhyw gymhwyster.
Cyfres Sgiliau a Phrosiect Personol
4.36 O fis Medi 2027, i ddysgwyr sy'n ymgymryd â rhaglen y mae ei phrif gymwysterau ar Lefel 2 neu'n is, dylai canolfannau ystyried sut y gellir defnyddio cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith gwneud-i-Gymru newydd i ddatblygu a dyfnhau sgiliau cyfannol a sgiliau ehangach eu dysgwyr. Dylai canolfannau gynnwys y cymwysterau hyn fel rhan o'u cynnig cwricwlwm lle bo hynny er lles pennaf dysgwyr ac yn eu helpu i wneud cynnydd. Bydd angen i Medr benderfynu sut i gynnwys y cymwysterau hyn fel rhan o raglenni 16 i 18 a gaiff eu cyllido.
4.37 Er enghraifft, gall fod o fudd i ddysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol L1 neu L2 ymgymryd â detholiad o unedau Sgiliau Gwaith o'r Gyfres Sgiliau. Ar wahân i hyn, mae'r Prosiect Personol – sydd ar gael o Lefel Mynediad i Lefel 2 – yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos y pedwar sgil cyfannol drwy ymgysylltu'n fanwl â phwnc o'u dewis.
