Neidio i'r prif gynnwys

Sut byddwn ni'n defnyddio eich data o arolwg ar weithrediad y Cronfa Capasiti Ychwanegol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw diben yr arolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg i gasglu eich barn ynglŷn â gweithrediad y Gronfa Capasiti Ychwanegol, gyda'r nod o ddysgu a gwella sut mae cronfeydd o'r fath yn cael eu gweithredu yn y dyfodol.

Mae'r Gronfa Capasiti Ychwanegol yn ffrwd ariannu nad yw'n rheolaidd a ddefnyddir o fewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a gyflwynwyd i ddarparu cymorth i bractisau sy'n profi pwysau llwyth gwaith tymor byr, bylchau capasiti, straen gweinyddol, a heriau gweithredol.

Bydd yr arolwg yn llywio datblygiad polisi, gwneud penderfyniadau ac yn ysgogi gwelliant ac arferion da ynghylch defnyddio cyllid hyblyg o fewn lleoliadau meddygon teulu i sefydlogi capasiti.

Ein nod yw deall sut mae'r Gronfa wedi cael ei defnyddio yn y gorffennol a'r heriau a'r cyfleoedd yr hoffech eu rhannu.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn siapio crynodeb o wersi a ddysgwyd. Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi’u dadansoddi, byddwn yn rhannu allbynnau'r arolwg gyda chi.

Data personol a gadwn a ble rydym yn cael y wybodaeth hon

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i’w adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.

Yn yr arolwg, gofynnir i chi ddarparu data personol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost yn y gwaith
  • eich bwrdd iechyd

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer.

Y sail gyfreithiol dros gadw eich data

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus. Hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Mae arolygon fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Caiff yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwil hon ei defnyddio i wneud y canlynol, er enghraifft:

  • deall effaith yr ACF o fewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
  • deall sut mae'r cyllid wedi'i ddyrannu a'i ddefnyddio
  • nodi heriau a llwyddiannau o ran cysoni ac ad-dalu
  • archwilio'r gwahanol ffyrdd o'i gweithredu ar draws gwahanol Fyrddau Iechyd
  • casglu gwersi a ddysgwyd ac awgrymiadau ar gyfer gweithredu ar gyfer unrhyw gynlluniau tebyg yn y dyfodol
  • llywio eitemau mandad negodi contract yn y dyfodol

Sut rydym yn cadw eich data'n ddiogel

Mae’r wybodaeth bersonol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei storio ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn gallu gweld y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hyn ac i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru a nifer cyfyngedig o randdeiliaid o fewn GIG Cymru a GPCW.

Bydd y data o’r arolwg yn cael eu coladu gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio Smart Survey. Ar ôl i’r arolwg ddod i ben, bydd y data'n cael eu trosglwyddo o Smart Survey i’n gweinydd diogel. Bydd swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r data.

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy’r gwaith ymchwil hwn mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth bersonol mewn atebion penagored, neu wybodaeth a allai arwain at eich adnabod yn cael ei dileu. Bydd y Tîm Strategaeth Contractau yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir fel rhan o adroddiad a fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud argymhellion i Weithgor Bywyd Byr ACF a Gweinidogion Cymru.

Gan y bydd Byrddau Iechyd a GPCW yn enwebu cynrychiolwyr penodol i gwblhau'r arolwg hwn, efallai y bydd yn bosibl i aelodau'r Gweithgor Bywyd Byr nodi pa sefydliad neu gynrychiolydd a gyflwynodd ymateb, hyd yn oed pan nad yw enwau a chyfeiriadau e-bost wedi'u cynnwys yn yr adroddiad terfynol. Dim ond gyda nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid dethol o fewn GIG Cymru a GPCW y bydd data adnabyddadwy yn cael eu rhannu at ddibenion dadansoddi a dehongli'r canfyddiadau. Bydd yr holl adroddiadau ehangach yn parhau i fod yn ddienw.

Faint o amser ydym yn cadw eich data personol

Bydd yr arolwg ar agor am 3 wythnos. Bydd y data a ddarperir pan fyddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg yn cael eu cadw ar weinyddion Smart Survey am y pythefnos y mae'r arolwg ar agor, yn ogystal ag am wythnos ychwanegol i'r data gael eu trosglwyddo i weinyddion diogel Llywodraeth Cymru. Ar ôl eu trosglwyddo, bydd eich data ar Smart Survey yn cael eu dileu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r data am 12 mis ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo i gefnogi dadansoddiad. Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd y data'n cael eu dileu, ond bydd yr adroddiad yn cael ei gadw.

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r prosiect hwn:

  • yr hawl i gael gweld eich data personol
  • yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • yr hawl i ofyn bod eich data'n cael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
  • Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru  
Parc Cathays  
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych gwestiynau eraill ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r data a roddwyd fel rhan o’r arolwg hwn neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch ag:

Enw: Sara Taylor
E-bost: sara.taylor010@llyw.cymru 

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ 

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru